BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007 Rhif 204 (Cy.18) (C.9)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070204w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 204 (Cy.18) (C.9)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 30 Ionawr 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 79(3), 83(4), 83(5)(c), (d), (e), (f), (g) ac (8) o Ddeddf Iechyd 2006[1].

Enwi, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn —

Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â mangreoedd, mannau a cherbydau di-fwg
     2. 2 Ebrill 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym —

Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â swyddogaethau gwrth-dwyll Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac â thramgwyddau mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny
     3. 1 Chwefror 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym i'r graddau y maent yn ymwneud â swyddogaethau gwrth-dwyll Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu â thramgwyddau mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny—

Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n berthnasol i archwilio
     4. 1 Chwefror 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â chyrff y GIG yng Nghymru —

Darpariaethau trosiannol sy'n berthnasol i archwilio
     5. —(1) Mewn perthynas â chyrff y GIG yng Nghymru, er gwaethaf rhoi yn lle adran 98 o Ddeddf 1977 adran 56 o'r Ddeddf bydd —

fel y byddant mewn grym ar 31 Ionawr 2007 yn gymwys o ran cyfrifon a gedwir gan y cyrff a restrir yn adran 98(1) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 (yn unol â hynny, bydd y trefniadau a geir yn Atodlen 12B newydd i Ddeddf 1977 yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ddilynol) ac o ran materion sy'n berthnasol i flynyddoedd ariannol cynharach ac nad ydynt wedi'u dirwyn i ben.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Ionawr 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym holl ddarpariaethau Ddeddf Iechyd 2006 sy'n berthnasol i:

Mae'r Gorchymyn Cychwyn a ganlyn wedi'i wneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â Chymru a Lloegr:

Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) 2006 (O.S. 2006/2603).


Notes:

[1] 2006 p.28.back

[2] 1977 p.49.back

[3] Yn rhinwedd adran 83(1)(e) o Ddeddf Iechyd 2006 daeth y darpariaethau hyn i rym ar y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf i'r graddau y mae'r darpariaethau'n rhoi pŵer i wneud Gorchymyn neu Reoliadau, neu i ddiffinio unrhyw ymadrodd sy'n berthnasol i arfer unrhyw bŵer o'r fath.back

[4] Yn rhinwedd adran 83(1)(e) o Ddeddf Iechyd 2006 daeth y darpariaethau hyn i rym ar y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf i'r graddau y mae'r darpariaethau'n rhoi pŵer i wneud Gorchymyn neu Reoliadau, neu i ddiffinio unrhyw ymadrodd sy'n berthnasol i arfer unrhyw bŵer o'r fath.back

[5] 2002 p.17.back

[6] 2004 p.23.back

[7] O.S.2005/1074.back

[8] 1998 p.38.back

[9] 2000 p.20.back

[10] 2004 p.23.back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091495 3


 © Crown copyright 2007

Prepared 7 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070204w.html