BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2007 Rhif 306 (Cy.25)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070306w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 306 (Cy.25)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 6 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 19 Chwefror 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 129C, 129E ac 129F o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2007.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Chwefror 2007.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Cyhoeddusrwydd yn ymwneud â chais i wneud gorchymyn gatio
     3. Cyn gwneud gorchymyn gatio o dan adran 129A o'r Ddeddf, rhaid i gyngor—

     4. Rhaid i'r cyngor roi copïau o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(a) i—

Sylwadau yn ymwneud â chais i wneud gorchymyn gatio
    
5. Rhaid i gyngor ystyried unrhyw sylwadau y mae'n ei gael o fewn y cyfnod a bennir yn unol â rheoliad 3(a)(v) cyn gwneud gorchymyn gatio.

Ymchwiliadau cyhoeddus yn ymwneud â chais i wneud gorchymyn gatio
    
6. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff y cyngor beri cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn perthynas â gorchymyn gatio arfaethedig.

    (2) Rhaid i'r cyngor beri cynnal ymchwiliad cyhoeddus os yw—

yn gwrthwynebu'r gorchymyn gatio arfaethedig.

Gwneud gorchymyn gatio
    
7. Rhaid i gyngor beidio gwneud gorchymyn gatio cyn—

Cynnwys gorchmynion gatio
    
8. Rhaid i orchymyn gatio—

Cyhoeddusrwydd yn ymwneud ag amrywio a dirymu gorchmynion gatio
    
9. Cyn amrywio neu ddirymu gorchymyn gatio rhaid i'r cyngor—

     10. Mae'n rhaid i'r cyngor roi copïau o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 9(a) i'r personau a bennir yn rheoliad 4 ac i unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) sydd yn nhyb y cyngor yn debyg o gael eu heffeithio gan yr amrywiad neu'r dirymiad (yn ôl y digwydd).

Sylwadau yn ymwneud ag amrywio neu ddirymu gorchymyn gatio
    
11. Rhaid i gyngor ystyried unrhyw sylwadau y mae'n ei gael o fewn y cyfnod a bennir yn unol â rheoliad 9(a)(iv) cyn amrywio neu ddirymu (yn ôl y digwydd) gorchymyn gatio.

Ymchwiliadau Cyhoeddus yn ymwneud ag amrywio neu ddirymu gorchymyn gatio
    
12. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) gall cyngor beri cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn perthynas â chynnig i amrywio neu i ddirymu gorchymyn gatio.

    (2) Rhaid i gyngor gynnal ymchwiliad cyhoeddus os yw—

yn gwrthwynebu'r amrywiad neu'r dirymiad arfaethedig (yn ôl y digwydd) i orchymyn gatio.

Amrywio neu ddirymu gorchymyn gatio
    
13. Rhaid i gyngor beidio ag amrywio na dirymu gorchymyn gatio—

Gweithdrefnau yn ymwneud ag ymchwiliadau o dan reoliad 6 neu 12
    
14. —(1) Rhaid i ymchwiliad gychwyn dim llai na 42 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad cyhoeddi gyntaf yr hysbysiad a roddir o dan reoliad 3 neu 9.

    (2) Rhaid i gyngor—

     15. Dyma'r manylion sydd i'w cynnwys yn yr hysbysiad a bennir yn rheoliad 14(2)—

     16. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), y person sydd wedi'i hapwyntio i arwain yr ymchwiliad fydd yn penderfynu ar y weithdrefn mewn ymchwiliad cyhoeddus.

    (2) Caiff unrhyw berson sydd â buddiant ym mhwnc yr ymchwiliad cyhoeddus ymddangos yn yr ymchwiliad drosto'i hun neu drwy fargyfreithiwr, cyfreithiwr neu gynrychiolydd arall.

    (3) Caiff unrhyw berson sydd â buddiant o'r fath p'un ai a yw'r person hwnnw yn bwriadu ymddangos yn yr ymchwiliad ai peidio, anfon sylwadau ysgrifenedig i gael eu hystyried gan y person sydd wedi'i hapwyntio i arwain yr ymchwiliad i'r cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad o dan reoliad 15(ff).

    (4) Gall y person sydd wedi'i hapwyntio i arwain yr ymchwiliwad wrthod rhoi gwrandawiad i unrhyw berson, neu wrthod ystyried unrhyw wrthwynebiad neu sylw, os yw ef neu hi o'r farn fod safbwyntiau'r person hwnnw neu honno neu'r gwrthwynebiad neu'r sylw yn amherthnasol neu fod eisoes ddigon o ddatgan wedi bod arnynt yn yr ymchwiliad.

Cofrestri o orchmynion gatio
    
17. —(1) Rhaid i gyngor gadw cofrestr o orchmynion gatio dros ei ardal.

    (2) Rhaid i gofrestr gynnwys mynegai a chopïau wedi'u diweddaru o orchmynion gatio sydd mewn grym.

    (3) Rhaid i gopi caled o gofrestr fod ar gael a bod yn agored i'w archwilio ym mhrif swyddfa'r cyngor yn ystod oriau gwaith arferol.

    (4) Rhaid i fersiwn electronig o gofrestr fod ar gael ar wefan cyngor.

    (5) Rhaid i gyngor roi copi o orchymyn gatio i unrhyw berson sy'n gofyn am gopi ac sy'n talu ffi resymol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan gynghorau yng Nghymru pan yn gwneud, yn amrywio neu yn dirymu gorchmynion gatio o dan adrannau 129A i 129G o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66) ("Deddf 1980").

Mae adran 2 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) yn mewnosod adrannau 129A i 129G yn Neddf 1980. Mae'r adrannau newydd hyn yn galluogi cynghorau i wneud, i amrywio neu i ddirymu gorchmynion sy'n cyfyngu ar hawl tramwy'r cyhoedd dros y priffyrdd y maent yn ymwneud â hwy (gorchmynion gatio). Ni cheir gwneud gorchmynion gatio mewn perthynas â ffyrdd arbennig, cefnffyrdd, ffyrdd dosbarthiadol neu brif ffyrdd, neu briffyrdd eraill o ddisgrifiad (os oes unrhyw un) a ragnodir gan reoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol).

Caiff cynghorau wneud gorchmynion gatio pan fônt wedi eu bodloni bod mangreoedd cyffiniol â neu gyfagos i'r briffordd yn cael eu heffeithio gan droseddu neu gan ymddygiad gwrthgymdeithasol; bod bodolaeth y briffordd yn hwyluso tramgwyddo troseddol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol; a'i bod yn fuddiol o dan yr holl amgylchiadau i wneud y gorchymyn at y dibenion o leihau troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Caiff cynghorau amrywio gorchmynion gatio pan fônt wedi eu bodloni ei bod o dan yr holl amgylchiadau yn fuddiol gwneud hynny at y diben o leihau troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Caiff cynghorau ddirymu gorchmynion gatio pan fônt wedi eu bodloni nad yw'r cyfyngiad a osodir gan y gorchymyn bellach yn fuddiol o dan yr holl amgylchiadau at y diben o leihau troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gosodir rhai o'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i'r cynghorau gydymffurfio â hwy mewn perthynas â gorchmynion gatio yn narpariaethau newydd Deddf 1980. Mae adrannau 129C ac 129F o Ddeddf 1980 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud darpariaeth drwy reoliadau parthed y weithdrefn bellach y bydd rhaid i'r cynghorau gydymffurfio â hi mewn perthynas â gorchmynion gatio, ac mae adrannau 129A, 129C, 129E ac 129F o Ddeddf 1980 yn galluogi'r Cynulliad i wneud darpariaeth bellach berthnasol drwy reoliadau.

Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth parthed—


Notes:

[1] 1980 p. 66. Mewnosodwyd adrannau 129A i 129G gan adran 2 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16).back

[2] 2004 p. 21.back

[3] 2003 p. 21.back

[4] 2000 p. 37.back

[5] 1990 p. 43.back

[6] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11 091500 3


 © Crown copyright 2007

Prepared 15 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070306w.html