BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007 Rhif 397 (Cy.43) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070397w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 14 Chwefror 2007 | ||
Yn dod i rym | 16 Chwefror 2007 |
Yr awdurdodau lleol a gaiff weithredu trefniadau amgen
3.
—(1) Caiff pob awdurdod lleol weithredu trefniadau amgen.
(2) Mae trefniadau amgen yn drefniadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001[4].
(3) Pennir bod trefniadau sy'n unol â pharagraff (2) yn drefniadau amgen at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000.
(4) I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn anghyson ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysi (Cymru) 2001, y ddarpariaeth yn y Rheoliadau olaf hynny fydd yn drech.
Sefydlu Bwrdd
4.
—(1) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu Bwrdd.
(2) Rhaid i'r Bwrdd beidio â chynnwys cadeirydd neu ddirprwy gadeirydd yr awdurdod lleol na chadeirydd unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor arall i'r awdurdod.
(3) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ddirprwyo ei swyddogaethau i Fwrdd, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn rheoliadau 10 i 13.
(4) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag arfer y swyddogaethau hynny sydd wedi'u dirprwyo i Fwrdd yn unol â pharagraff (3).
(5) Yn ddarostyngedig i unrhyw drefniadau a wneir o dan reoliad 16, caiff y Bwrdd drefnu bod unrhyw un o'i swyddogaethau yn cael eu cyflawni —
Sefydlu pwyllgorau eraill
5.
—(1) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu'n unol â rheoliad 6 —
(2) Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu —
(3) Mae'r pwyllgorau a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) yn ychwanegol at unrhyw bwyllgorau y mae'n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad i'r awdurdod eu sefydlu.
Prif Bwyllgorau Craffu a Phwyllgorau Craffu
6.
—(1) O ran prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath:
(2) Rhaid i brif bwyllgor craffu beidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grŵp gwleidyddol â chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio pan nad oes ond un grwp gwleidyddol).
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gan ei brif bwyllgor craffu a'i bwyllgorau craffu bwer rhyngddynt i wneud y canlynol —
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff prif bwyllgor craffu na phwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaeth onid yw'n unol â'r Rheoliadau hyn.
(5) Os nad yw, neu i'r graddau nad yw, swyddogaeth awdurdod lleol, o ran cynnal adolygiadau gwerth gorau o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[5] yn gyfrifoldeb Bwrdd yr awdurdod, caiff yr awdurdod drefnu bod y prif bwyllgor craffu neu unrhyw bwyllgor craffu yn cynnal adolygiad o'r fath.
(6) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu —
(7) Ni chaiff is-bwyllgor i brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (6).
(8) Rhaid i drefniadau amgen gan awdurdod lleol gynnwys darpariaeth sy'n galluogi —
(9) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio yn unrhyw un o gyfarfodydd pwyllgor o'r fath nac unrhyw is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sydd i gael ei benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.
(10) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath —
(11) Bydd unrhyw aelod o'r Bwrdd neu unrhyw un o swyddogion yr awdurdod sydd wedi'i awdurdodi i fod yn bresennol i ateb cwestiynau yn unol â pharagraff (10) o dan ddyletswydd i wneud hynny ond ni fydd ar unrhyw aelod neu swyddog o'r fath rwymedigaeth i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hwnnw hawl i wrthod ei ateb mewn achos, neu at ddibenion achos, mewn llys yng Nghymru neu Loegr.
Pwyllgor Archwilio
7.
—(1) I'r graddau y caniateir i bwerau awdurdod lleol ynghylch ei swyddogaethau archwilio o dan unrhyw ddeddfiad gael eu dirprwyo i bwyllgor neu is-bwyllgor, caiff awdurdod lleol ddirprwyo i bwyllgor archwilio.
(2) O ran pwyllgor archwilio a sefydlir o dan reoliad 5(2)(c):
(3) Ni chaiff is-bwyllgor i bwyllgor archwilio gyflawni unrhyw swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (2).
(4) Caiff pwyllgor archwilio neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio mewn unrhyw un o gyfarfodydd pwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sydd i gael ei benderfynu yn y cyfarfod hwnnw ac ni fydd ganddynt hawl i fod yn gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath.
Pwyllgorau Ardal
8.
—(1) Mae pwyllgor ardal neu is-bwyllgor yn bwyllgor neu is-bwyllgor sy'n bodloni'r amodau canlynol:
(2) Pan fo awdurdod lleol yn sefydlu pwyllgorau ardal—
(3) Caiff corff perthnasol drefnu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod lleol gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal i'r awdurdod hwnnw.
(4) Os caniateir i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal yn rhinwedd y rheoliad hwn, yna, oni fydd y corff perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor ardal drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor i'r pwyllgor hwnnw neu gan un o swyddogion yr awdurdod.
(5) Os caniateir i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor i bwyllgor ardal yn rhinwedd paragraff (4), yna, oni fydd y pwyllgor ardal neu'r corff perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.
(6) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn gan gorff perthnasol i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal i atal y corff perthnasol rhag arfer y swyddogaethau hynny.
(7) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo wneud trefniadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harolygu gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.
(8) Wrth baratoi'r ddogfen y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (7) uchod, rhaid i'r Bwrdd roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.
Gofynion ar gyfer pwyllgorau ac is-bwyllgorau
9.
—(1) Mae pob pwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn a phob is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i gael ei drin fel pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cyfle i fynd i gyfarfodydd ac i weld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).
(2) Mae pob pwyllgor awdurdod lleol a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn (ac eithrio pwyllgor ardal) a phob is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i'w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[6] (dyletswydd i ddyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.
(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddeddfiad, rhaid i bob pwyllgor awdurdod lleol (ac eithrio'r Bwrdd) a phob is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath (ac eithrio is-bwyllgor i'r Bwrdd) —
(4) Rhaid i bwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn, ac eithrio pwyllgor ardal, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, fod wedi'i ffurfio o uchafswm o ddeg aelod neu ugain y cant o aelodau'r awdurdod, (wedi'i gyfrifo drwy dalgrynnu nifer yr aelodau i fyny i'r Rhif cyfan agosaf pan nad yw nifer yr aelodau yn Rhif cyfan wrth gyfrifo'r ganran) p'un bynnag yw'r mwyaf.
(5) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ddyrannu cadeiryddiaethau pwyllgorau a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn er mwyn sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol yn yr awdurdod lleol yn cael ei adlewyrchu gan y cadeiryddiaethau hynny.
(6) Rhaid i bwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu neu bwyllgor ardal neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath sy'n gyfrifol am unrhyw un o'r swyddogaethau a restrir yn Rhan A o Atodlen 1 (swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu) gael wyth aelod o leiaf.
(7) Mae is-adrannau (2) a (5) o adran 102 o Ddeddf 1972 i fod yn gymwys i bwyllgor a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn, neu i is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, fel y maent yn gymwys i bwyllgor a benodir o dan yr adran honno.
Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod
10.
—(1) Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod.
(2) Nid yw swyddogaethau —
(b) dyfarnu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt,
i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
(3) Nid yw swyddogaeth dyfarnu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi —
i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
(4) Nid yw swyddogaeth —
i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
(5) Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun sydd wedi'i awdurdodi neu sy'n ofynnol gan reoliadau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol), neu swyddogaeth diwygio, dirymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
(6) Nid yw swyddogaethau dyfarnu ar y canlynol, sef —
(b) yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 o'r Ddeddf honno (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth);
(c) swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, neu reoliadau a wnaed o dan adran 100 o Ddeddf 2000, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau ar gyfer unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;
(ch) a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw eu dyroddi yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod; a
(d) pan fo tâl yn cael ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl;
i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
(7) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).
(8) Yn ddarostyngedig i reoliad 16, nid yw swyddogaeth gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan bwyllgor neu swyddog o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
(9) Nid yw swyddogaeth gwneud penodiadau o dan adran 102 (penodi pwyllgorau) o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
(10) Oni ddarperir fel arall gan y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol y caniateir iddi gael ei chyflawni, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
Swyddogaethau y caniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod
11.
Caniateir i'r swyddogaethau a bennir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod, ond nid oes angen iddynt fod felly.
Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig
12.
—(1) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth —
nid yw'r camau a ddynodir gan baragraff (3) ("y camau dynodedig") i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
(2) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (1), cyfrifoldeb y Bwrdd yw'r swyddogaethau a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.
(3) Y camau dynodedig yw —
(4) O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw gynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (p'un a yw'n gynllun neu strategaeth a gymeradwywyd neu'n un a fabwysiadwyd, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) —
(b) nid yw'n gyfrifoldeb i'r Bwrdd i unrhyw raddau eraill.
(5) Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), mae swyddogaeth gwneud cais —
yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
(6) Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.
(7) Nid yw swyddogaeth gwneud cais o'r math y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllwyd ym mharagraff (6), yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
(8) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys ynglŷn â chyflawni —
(9) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—
mae'r camau a ddynodir gan baragraff (11) ("y camau dynodedig") yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
(10) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (9), nid cyfrifoldeb y Bwrdd yw'r swyddogaeth a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.
(11) Y camau dynodedig yw —
(b) ailystyried yr amcangyfrifon a'r symiau hynny yn unol â gofynion yr awdurdod;
(c) cyflwyno amcangyfrifon a symiau diwygiedig i'r awdurdod eu hystyried.
Cyflawni swyddogaethau penodedig gan awdurdodau
13.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 (a allai, oni bai am y paragraff hwn, fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod) beidio â bod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o golofn (1) o Atodlen 4 —
(3) Ym mharagraff (2) ystyr "pwyllgor craffu perthnasol" yw pwyllgor craffu i'r awdurdod y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y pŵer i adolygu neu i graffu ar benderfyniadau neu gamau eraill a gymerwyd wrth gyflawni'r swyddogaeth y mae'r dyfarniad yn ymwneud â hi.
(4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r dyfarniad gael ei wneud, rhaid i'r unigolyn neu'r corff y gwneir y dyfarniad ganddo yn unol â pharagraff (2), gyflwyno i'r awdurdod adroddiad y mae'n rhaid iddo gynnwys manylion —
(5) Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) nad yw, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.
Cyfarwyddiadau gan y Bwrdd i bwyllgorau cynllunio a phwyllgorau trwyddedu
14.
Caiff y Bwrdd gyfarwyddo mai'r awdurdod lleol sydd i ddyfarnu ar unrhyw benderfyniad sydd i'w wneud gan bwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu neu bwyllgor ardal mewn perthynas â swyddogaeth unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o ran A o Atodlen 1 (swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu).
Cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall
15.
—(1) Caiff Bwrdd wneud trefniadau i swyddogaeth y mae'n gyfrifol amdani gael ei chyflawni naill ai gan awdurdod lleol arall neu gan Fwrdd neu ŵeithrediaeth yr awdurdod arall hwnnw.
(2) Caiff awdurdod lleol drefnu i swyddogaeth, nad yw'r Bwrdd yn gyfrifol amdani, gael ei chyflawni gan awdurdod lleol arall neu gan Fwrdd neu ŵeithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw.
(3) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal y corff a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.
(4) Pan fo trefniadau wedi'u gwneud o dan baragraff (1) neu (2) uchod, yna, yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, caiff yr awdurdod arall hwnnw drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog iddynt.
(5) Os caniateir i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff (4) uchod, yna, oni fydd yr awdurdod hwnnw yn cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o is-bwyllgorau neu un o swyddogion yr awdurdod.
(6) Os caniateir i unrhyw swyddogaethau, yn rhinwedd paragraff (4) neu (5) uchod, gael eu cyflawni gan is-bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw neu, yn ôl y digwydd, y pwyllgor hwnnw, yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan swyddog i'r awdurdod.
Arfer swyddogaethau ar y cyd
16.
—(1) Caiff corff perthnasol wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud —
(3) Os yw'r trefniadau yn darparu i swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor, rhaid i benodiadau personau sydd i gynrychioli pob awdurdod lleol ar y pwyllgor hwnnw gael eu gwneud, a rhaid i'r corff perthnasol, y mae'r trefniadau yn cael eu gwneud ganddo ar ran yr awdurdod hwnnw, ddyfarnu ar nifer y personau hynny sydd i'w penodi.
(4) Yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, ac oni bai bod y corff perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau yn destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff cyd-bwyllgor a benodir yn unol â'r rheoliad hwn drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu gan swyddog i un o'r awdurdodau o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, ac oni bai bod y cyd-bwyllgor neu'r corff perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff unrhyw is-bwyllgor o'r fath drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan swyddog o'r fath.
(5) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn gan gorff perthnasol i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor i atal y corff hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.
(6) Pan fo trefniadau a wneir ar ran awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn gan gorff perthnasol yn darparu ar gyfer penodi i gyd-bwyllgor bersonau nad ydynt yn aelodau o Fwrdd yr awdurdod hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y trefniadau, rhaid i'r corff perthnasol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harolygu gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.
(7) Rhaid i gorff perthnasol sy'n paratoi'r ddogfen y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (6) uchod roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.
(8) Bydd rhan VA o Ddeddf 1972 (cyfle i fynd i gyfarfodydd ac i weld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) yn gymwys i is-bwyllgor a sefydlir yn unol â'r rheoliad hwn.
Aelodau cyd-bwyllgorau
17.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, rhaid i bob person a benodir i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 16 uchod gan gorff perthnasol fod yn aelod o'r awdurdod lleol, ac ni fydd y gofynion ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.
(2) Pan fo'r canlynol yn wir, sef —
caiff cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y cyd-bwyllgor gynnwys unrhyw aelodau o'r awdurdod hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod, ac ni fydd y gofynion ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r aelodau hynny.
Dirymu
18.
Mae'r canlynol wedi'u dirymu—
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[15].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2007
(1) | (2) |
Y Swyddogaeth | Y ddarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol |
A.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu |
|
1.
Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio. |
Adrannau 70(1)(a) a (b) a 72 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8). |
2.
Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd o'r blaen. |
Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
3.
Y pŵer i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi'i gyflawni. |
Adran 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[16]. |
4.
Y pŵer i wrthod dyfarnu ar gais am ganiatâd cynllunio. |
Adran 70A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[17]. |
5.
Dyletswyddau sy'n ymwneud â gwneud dyfarniadau ar geisiadau cynllunio. |
Adrannau 69, 76 a 92 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac Erthyglau 8, 10 i 13, 15 i 22 a 25 a 26 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) a chyfarwyddiadau a wneir odanynt. |
6.
Y pŵer i ddyfarnu ar gais am ganiatâd cynllunio a wneir gan awdurdod lleol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall. |
Adran 316 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (O.S. 1992/1492)[18]. |
7.
Y pŵer i wneud dyfarniadau, i roi cymeradwyaethau ac i gytuno ar faterion penodol eraill sy'n ymwneud ag arfer hawliau datblygu a ganiateir. |
Rhannau 6, 7, 11, 17, 19, 20, 21 i 24, 30 a 31 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418). |
8.
Y pŵer i gytuno ar rwymedigaeth gynllunio sy'n rheoleiddio datblygu tir neu ddefnyddio tir. |
Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[19]. |
9.
Y pŵer i ddyroddi tystysgrif o ddefnydd neu ddatblygiad cyfreithlon presennol neu arfaethedig. |
Adrannau 191(4) a 192(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[20]. |
10.
Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cwblhau. |
Adran 94(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
11.
Y pŵer i roi cydsyniad i arddangos hysbysebion. |
Adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992[21]. |
12.
Y pŵer i awdurdodi mynd ar dir. |
Adran 196A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[22]. |
13.
Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i ddefnyddio tir. |
Adran 102 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
14.
Y pŵer i gyflwyno hysbysiad torri rheolau cynllunio, hysbysiad torri amod neu hysbysiad stop. |
Adrannau 171C, 187A a 183(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[23]. |
15.
Y pŵer i ddyroddi hysbysiad gorfodi. |
Adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[24]. |
16.
Y pŵer i wneud cais am waharddeb i atal torri rheol gynllunio. |
Adran 187B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[25]. |
17.
Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus, a phwerau cysylltiedig. |
Adrannau 9(1) a 10 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10). |
18.
Y ddyletswydd i ddyfarnu ar amodau y mae hen ganiatadau mwyngloddio, caniatadau cynllunio perthnasol sy'n ymwneud â safleoedd cwsg neu safleoedd Rhan I neu Ran II gweithredol, neu ganiatadau mwynol sy'n ymwneud â safleoedd mwyngloddio, yn ôl y digwydd, i fod yn ddarostyngedig iddynt. |
Paragraff 2(6)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, paragraff 9(6) o Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) a pharagraff 6(5) o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno. |
19.
Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod tir yn cael ei gynnal yn iawn. |
Adran 215(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
20.
Y pŵer i ddyfarnu ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, a phwerau cysylltiedig. |
Adrannau 16(1) a (2), 17 a 33(1) o Ddeddf Cynllunio Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9). |
21.
Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth. |
Adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno[26]. |
22.
Dyletswyddau sy'n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth. |
Adran 13(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a rheoliadau 3 i 13 o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraff 127 o gylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96: Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth. |
23.
Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cadw adeilad, a phwerau cysylltiedig. |
Adrannau 3(1) a 4(1) Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
24.
Y pŵer i ddyroddi hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig. |
Adran 38 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
25.
Pwerau i gaffael adeilad rhestredig y mae angen ei drwsio a chyflwyno hysbysiad trwsio. |
Adrannau 47 a 48 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
26.
Y pŵer i wneud cais am waharddeb mewn perthynas ag adeilad rhestredig. |
Adran 44A o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[27]. |
27.
Y pŵer i wneud gwaith brys. |
Adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
28.
Pŵer yn gysylltiedig â gweithio mwynau. |
Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
29.
Pŵer yn gysylltiedig â llwybrau troed a llwybrau ceffylau. |
Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
30.
Pŵer ynghylch tystysgrifo datblygiadau amgen priodol. |
Adran 17 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (p.33). |
31.
Dyletswyddau mewn perthynas â gorchmynion prynu. |
Adrannau 137-144 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
32.
Pwerau sy'n ymwneud â hysbysiadau malltod. |
Adrannau 149-171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
B.
Swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i'r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy) |
|
1.
Y pŵer i ddyroddi trwyddedau sy'n awdurdodi defnyddio tir fel safle carafannau ("trwyddedau safle"). |
Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p.62). |
2.
Y pŵer i drwyddedu defnyddio anheddau symudadwy a safleoedd gwersylla. |
Adran 269(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49) |
3.
Y pŵer i drwyddedu cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat. |
(a) o ran cerbydau hacnai, Deddf Cymalau Heddluoedd Tref 1847 (10 a 11 Vict. p. 89), fel y'i hestynnwyd gan adran 171 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875 (38 a 39 Vict. p. 55), ac adran 15 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67); ac adrannau 47, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p. 57); (b) o ran cerbydau hurio preifat, adrannau 48, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. |
4.
Y pŵer i drwyddedu gyrrwyr cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat. |
Adrannau 51, 53, 54, 59, 61 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. |
5.
Y pŵer i drwyddedu gweithredwyr cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat. |
Adrannau 55 i 58, 62 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. |
6.
Y pŵer i gofrestru hyrwyddwyr pyllau. |
Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 (p. 2)[28]. |
7.
Y pŵer i roi trwyddedau betio ar gyfer traciau. |
Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963[29]. |
8.
Y pŵer i drwyddedu cynlluniau betio ar gyfer traciau ar y cyd â'i. |
Atodlenni 5ZA i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963[30]. |
9.
Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â mangreoedd sydd â pheiriannau chwarae. |
Atodlen 9 i Ddeddf Hapchwarae 1968 (p. 65) [31]. |
10.
Y pŵer i gofrestru cymdeithasau sy'n dymuno hyrwyddo loterïau. |
Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (p. 32)[32]. |
11.
Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â mangreoedd lle darperir difyrion â gwobrau. |
Atodlen 3 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 [33]. |
12.
Y pŵer i ddyroddi trwyddedau adloniant. |
Adran 12 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12). |
13.
Y pŵer i drwyddedu siopau rhyw a sinemâu rhyw. |
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, adran 2 ac Atodlen 3. |
14.
Y pŵer i drwyddedu perfformiadau hypnotiaeth. |
Deddf Hypnotiaeth 1952 (p.46). |
15.
Y pŵer i drwyddedu mangreoedd ar gyfer aciwbigiadau, tatws, tyllu clustiau ac electrolysis. |
Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982. |
16.
Y pŵer i drwyddedu cychod pleser a llongau pleser. |
Adran 94 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 (p. 53)[34]. |
17.
Y pŵer i drwyddedu masnachu mewn marchnadoedd ac ar y stryd. |
Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac Atodlen 4 iddi. |
18.
Y ddyletswydd i gadw rhestr o bersonau sydd â'r hawl i werthu gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth. |
Adrannau 3(1)(b)(ii), 5, 6 ac 11 o Ddeddf Gwenwynau 1972(p. 66) [35]. |
19.
Y pŵer i drwyddedu delwyr helgig a lladd a gwerthu helgig. |
Adrannau 5, 6, 17, 18 a 21 i 23 o Ddeddf Anifeiliaid Hela 1831 (p. 32); adrannau 2 i 16 o Ddeddf Trwyddedau Helwriaeth 1860 (p. 90), adran 4 o Ddeddf Tollau Cartref a Chyllid y Wlad 1883 (p. 10), adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Lleol 1894 (p. 73), ac adran 213 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70). |
20.
Y pŵer i gofrestru a thrwyddedu mangreoedd ar gyfer paratoi bwyd. |
Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16). |
21.
Y pŵer i drwyddedu iardiau sgrap. |
Adran 1 o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 (p. 69). |
22.
Y pŵer i ddyroddi, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch (cyffredinol neu arbennig) ar gyfer meysydd chwaraeon. |
Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 (p. 52)[36]. |
23.
Y pŵer i ddyroddi, dileu, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch ar gyfer standiau rheoledig mewn meysydd chwaraeon. |
Rhan III o Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). |
24.
Dyletswydd i hyrwyddo diogelwch rhag tân. |
Adran 6 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21). |
25.
Y pŵer i drwyddedu mangreoedd ar gyfer bridio cwn. |
Adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60) ac adran 1 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999 (p. 11). |
26.
Y pŵer i drwyddedu siopau anifeiliaid anwes a sefydliadau eraill lle caiff anifeiliaid eu bridio neu eu cadw er mwyn cynnal busnes. |
Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (p. 35)[37]; adran 1 o Ddeddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliaid 1963(p. 43)[38]; Deddfau Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970 (1964 p. 70 a 1970 p. 70)[39]; adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60)[40], ac adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999. |
27.
Y pŵer i gofrestru hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid. |
Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 (p. 38)[41]. |
28.
Y pŵer i drwyddedu swau. |
Adran 1 o Ddeddf Trwyddedu Swau 1981 (p. 37). |
29.
Y pŵer i drwyddedu anifeiliaid gwyllt peryglus. |
Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (p. 38). |
30.
Y pŵer i orfodi rheoliadau mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid. |
Rheoliad 49 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1292 (Cy.127)). |
31.
Y pŵer i drwyddedu cyflogi plant. |
Rhan II o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12), is-ddeddfau a wneir o dan y Rhan honno, a Rhan II o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (p. 37). |
32.
Y pŵer i gymeradwyo mangreoedd ar gyfer gweinyddu priodasau a chofrestru partneriaethau sifil. |
Adran 46A o Ddeddf Priodasau 1949 (p. 76), adran 6A o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 (p.33) a Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005 (O. S. 2005/3168 [42]. |
33.
Y pŵer i gofrestru tir comin neu feysydd gleision trefi neu bentrefi, ac eithrio os yw'r pwer yn arferadwy ar gyfer rhoi effaith i'r canlynol yn unig—
(b) gorchymyn o dan adran 147 o Ddeddf Amgáu Tiroedd 1845 (p. 8 a 9 Vict. p. 118). |
Rheoliad 6 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843). |
34.
Y pŵer i gofrestru amrywiadau ar hawliau comin. |
Rheoliad 29 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471)[43]. |
35.
Y pŵer i ddyroddi trwydded i gasglu ar gyfer achosion elusennol. |
Adran 68 o Ddeddf Elusennau 1992. |
36.
Y pŵer i roi cydsyniad ar gyfer gweithredu uchelseinydd. |
Atodlen 2 i Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1993 (p. 40). |
37.
Y pŵer i roi trwydded ar gyfer gweithfeydd stryd. |
Adran 50 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22). |
38.
Dyletswydd i gofrestru symudiadau moch. |
Rheoliadau 21(3) and (4) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/996 (Cy.104)). |
39.
Y pŵer i orfodi rheoliadau mewn perthynas â symud moch. |
Rheoliad 27(1) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004 (O.S. 2004 /996 (Cy.104)). |
40.
Y pŵer i ddyroddi trwydded i symud gwartheg o farchnad. |
Erthygl 5(2) o Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871). |
41.
Y pŵer i roi hawl i rannau o adeiladau gael eu defnyddio i storio seliwloid. |
Adran 1 o Ddeddf Ffilmiau Seliwloid a Sinematograff 1922 (p. 35). |
42.
Y ddyletswydd i orfodi a gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 852/2004 a 853/2004 mewn perthynas â gweithredwyr busnesau bwyd fel y'u pennir ymhellach yn rheoliad 5 o Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) 2006. |
Rheoliad 5 o Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) 2006[44]. |
43.
Swyddogaethau mewn perthynas â sefydlu Pwyllgor Trwyddedu. |
Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17). |
C.
Swyddogaethau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith |
|
Swyddogaethau o dan "darpariaethau statudol perthnasol" o fewn ystyr Rhan I (iechyd, diogelwch a lles mewn cysylltiad â gwaith, a rheoli sylweddau peryglus) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu cyflawni mewn fordd wahanol i'w cyflawni yn rhinwedd swyddogaeth yr awdurdod fel cyflogwr. | Rhan I o Ddeddf Iechyd a unrhyw un o'r etc. 1974 (p. 37). Diogelwch yn y Gwaith |
Ch.
Swyddogaethau sy'n ymwneud ag etholiadau |
|
1.
Y ddyletswydd i benodi swyddog cofrestru etholiadol. |
Adran 8(2A) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2)[45]. |
2.
Y pŵer i ddyrannu swyddogion mewn perthynas ag angenrheidiau'r swyddog cofrestru. |
Adran 52(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983[46]. |
3.
Y pŵer i ddileu cynghorau cymuned. |
Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
4.
Y pŵer i wneud gorchmynion ar gyfer grwpio cymunedau. |
Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
5.
Y pŵer i wneud gorchmynion i ddileu grwpiau a gwahanu cynghorau cymuned oddi wrth grwpiau. |
Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
6.
Y ddyletswydd i benodi swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. |
Adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
7.
Y ddyletswydd i roi cymorth yn etholiadau'r Senedd Ewropeaidd. |
Adran 6(7) ac (8) o Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 2002. |
8.
Y ddyletswydd i rannu'r etholaeth yn rhanbarthau pleidleisio. |
Adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
9.
Y pŵer i rannu adrannau etholiadol yn rhanbarthau pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. |
Adran 31 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
10.
Pwerau mewn perthynas â chynnal etholiadau. |
Adran 39(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
11.
Y pŵer i dalu treuliau a dynnir yn briodol gan swyddogion cofrestru etholiadol. |
Adran 54 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
12.
Y pŵer i lenwi lleoedd gwag os na cheir digon o enwebiadau. |
Adran 21 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985. |
13.
Y ddyletswydd i ddatgan bod lle gwag mewn swydd mewn achosion penodol. |
Adran 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 . |
14.
Y ddyletswydd i roi hysbysiad cyhoeddus o le gwag achlysurol. |
Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
15.
Y pŵer i wneud penodiadau dros dro i gynghorau cymuned. |
Adran 91 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
16.
Y pŵer i ddyfarnu ar ffioedd ac amodau ar gyfer rhoi copïau o ddogfennau etholiadol neu ddarnau allan ohonynt. |
Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) a rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (O.S. 1986/2215). |
17.
Y pŵer i gyflwyno cynigion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gorchymyn o dan adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000. |
Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2). |
18.
Swyddogaethau etholiadol amrywiol o dan Ran II, O.S. 2003/284. |
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003, OS 2003/284[47]. |
D.
Swyddogaethau sy'n ymwneud ag enw a statws ardaloedd ac unigolion |
|
1.
Y pŵer i newid enw sir, neu enw bwrdeistref sirol. |
Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
2.
Y pŵer i newid enw cymuned. |
Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
3.
Y pŵer i roi teitl henadur mygedol neu i dderbyn rhywun yn rhyddfreiniwr mygedol. |
Adran 249 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
4.
Y pŵer i ddeisebu o blaid siarter i roi statws bwrdeistref sirol. |
Adran 245A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
Dd.
Y pŵer i wneud, diwygio, dirymu neu ailddeddfu is-ddeddfau |
Unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys Deddf leol), pryd bynnag y cafodd ei phasio, ac adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 300)[48]. |
E.
Y pŵer i hyrwyddo neu i wrthwynebu Mesurau lleol neu bersonol. |
Adran 239 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
F.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc. |
|
1.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau llywodraeth leol, etc. |
Rheoliadau o dan adran 7, 12 neu 24 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 (p.11)[49]. |
2.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau, lwfansau ac arian rhodd. |
Rheoliadau o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). |
3.
Swyddogaethau o dan gynlluniau pensiwn sy'n bodoli eisoes o ran personau sy'n cael eu cyflogi gan awdurdodau tân ac achub yn unol ag adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. |
Adrannau 34 a 36 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. |
Ff.
Swyddogaethau amrywiol |
|
1.
Y ddyletswydd i gymeradwyo datganiad awdurdod o'i gyfrifon, ei incwm, a'i wariant a'i fantolen neu ei gofnod o dderbyniadau a thaliadau (yn ôl y digwydd). |
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 [50]. |
2.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd môr. |
Adrannau 1, 2, 10 a 19 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966(p. 38). |
3.
Pwerau sy'n ymwneud â chadw coed. |
Adrannau 197 i 214D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (O.S. 1999/1892). |
4.
Pwerau sy'n ymwneud â diogelu gwrychoedd (perthi) pwysig. |
Rheoliadau Gwrychoedd (Perthi) 1997 (O.S. 1997/1160). |
5.
Y pŵer i wneud rheolau sefydlog. |
Adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff 42 o Atodlen 12 iddi. |
6.
Penodi a diswyddo staff. |
Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac adrannau 7 ac 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. |
7.
Y pŵer i wneud rheolau sefydlog ynghylch contractau. |
Adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
8.
Y pŵer i ystyried adroddiadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
Adran 19 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10). |
9.
Y pŵer i wneud gorchymyn yn nodi lle fel lle cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol. |
Adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16). |
10.
Y pwerau mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr achub cerbydau modur. |
Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3). |
11.
Y pŵer i benodi swyddogion at ddibenion penodol (penodi "priod swyddogion"). |
Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
12.
Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ac i ddarparu staff, etc. |
Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). |
13.
Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn swyddog monitro, ac i ddarparu staff, etc. |
Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. |
14.
Y ddyletswydd i ddyfarnu ar derfyn benthyca fforddiadwy. |
Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22). |
15.
Cymeradwyo strategaeth fuddsoddi flynyddol yn unol â chanllawiau. |
Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. |
16.
Y ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol. |
Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11). |
(c) i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,
a dirymu unrhyw benodiad o'r fath.
20.
Y pŵer i wneud taliadau neu i ddarparu budd-daliadau eraill mewn achosion camweinyddu etc.[61].
21.
Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.
22.
Swyddogaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen treth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
23.
Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.
24.
Swyddogaethau ynglŷn â gamblo yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
(1) | (2) |
Cynlluniau a strategaethau | Y Cyfeiriad |
Y Cynllun Addysg Sengl | Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 O.S. 2006/877 (Cy.82)). |
Cynllun Perfformiad Gwerth Gorau | Adran 6(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27). |
Strategaeth Gymunedol | Adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). |
Strategaeth i Ostwng Troseddau ac Anhrefn | Adrannau 5 a 6 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37). |
Y Strategaeth Iechyd a Lles | Adran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynolion Gofal Iechyd 2002 (p.17). |
Y Cynllun Trafnidiaeth Lleol | Adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p.38). |
Cynlluniau ac addasiadau sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Cynllun Datblygu | Adran 10A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8). |
Y Cynllun Iaith Gymraeg | Adran 5 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38). |
Y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid | Adran 40 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37). |
Pwerau i gymeradwyo Cynllun Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc | Adrannau 123,124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). |
Y Strategaeth Tai | Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26). |
(1) | (2) |
Y swyddogaeth | Yr amgylchiadau |
1.
Mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol), ac eithrio cynllun neu strategaeth i reoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod neu gynllun y cyfeirir ato neu strategaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 3. |
Mae'r awdurdod yn dyfarnu mai ef ddylai benderfynu a ddylid mabwysiadu neu gymeradwyo'r cynllun neu'r strategaeth. |
2.
Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth —
(b) sy'n ymwneud â chyllideb yr awdurdod, neu ei fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf. |
Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno —
(ii) y cynllun neu'r strategaeth a gymeradwy-wyd neu a fabwysiadwyd am y tro gan yr awdurdod mewn perthynas â'i fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf; a
(a) heb ei awdurdodi o dan drefniadau gweithrediaeth yr awdurdod, ei reoliadau ariannol, ei reolau sefydlog neu ei reolau neu ei weithdrefnau eraill i wneud dyfarniad yn y termau hynny. |
3.
Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth —
(b) y mae'r awdurdod wedi mabwysiadu neu wedi cymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol ) mewn perthynas â hi. |
Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno, o blaid dyfarnu ar y mater mewn termau sy'n groes i'r cynllun neu, yn ôl y digwydd, i'r strategaeth a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod. |
[4] O.S. 2001/3711 (Cy.307) a ddiwygir yn rheoliad 2 gan Reoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001 (O.S. 2001 / 2913 (Cy. 210)), rheoliad 10.back
[6] 1989 p.42. Mae adran 18 wedi'i diwygio gan adran 99(3) i (9) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back
[7] Diwygiwyd adran 173(4) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), Atodlen 11, paragraff 26. Gwnaed arbediad perthnasol gan erthygl 3(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cychwyn Rhif 11 ac Arbedion) 1991 (O.S. 1991/344).back
[8] 1993 p.28, sef Deddf y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[9] 1985 p.68. Yr oedd diwygiadau perthnasol yn is-adran (3) o adran 32 ac is-adran (1)(a) o adran 43 wedi'u gwneud gan baragraff 3(a), (d) ac (e) o'r Atodlen i O.S. 1997/74.back
[10] 1992 p.14; mewnosodwyd adrannau 52I, 52J, 52T a 52U gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27), Atodlen 1, paragraff 1.back
[11] O.S. 2001 / 2284 (Cy.173).back
[12] O.S. 2002 / 810 (Cy.90).back
[13] O.S. 2003 / 155 (Cy.25).back
[14] O.S. 2004 / 3092 (Cy.266).back
[16] Mewnosodwyd adran 73A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), Atodlen 7, paragraff 8.back
[17] Mewnosodwyd adran 70A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, adran 17.back
[18] Amnewidiwyd adran 316 gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1982 a 1998/2800.back
[19] Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back
[20] Amnewidiwyd adrannau 191 a 192 gan adran 10 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back
[21] O.S. 1992/666, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[22] Mewnosodwyd adran 196A gan adran 11 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. I gael gwybod o dan ba amgylchiadau y caniateir i'r hawl gael ei harfer, gweler adrannau 196A i 196C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.back
[23] Mewnosodwyd adrannau 171C a 187A gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Amnewidiwyd is-adrannau (1) i (5A) o adran 183 gan adran 9 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back
[24] Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back
[25] Mewnosodwyd adran 187B gan adran 3 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991back
[26] Gweler hefyd Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (O.S. 1990/1519), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[27] Mewnosodwyd adran 44A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 25, Atodlen 3, paragraff 7.back
[28] Diddymwyd Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[29] Diddymwyd Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. I gael darpariaethau trosiannol ynglŷn â thrwydded betio ar gyfer trac sydd i fod i ddod i ben yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 ac sy'n diweddu ar 30 Awst 2007, gweler O.S. 2006/1758, erthygl 2. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[30] Mewnosodwyd Atodlen 5ZA gan O.S. 1995/3231, erthygl 5(6). Diddymwyd Atodlen 5ZA i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae'r diddymiad i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[31] Diddymwyd Atodlen 9 i Ddeddf Hapchwarae 1968 gan adran 356(g) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. I gael darpariaethau trosiannol ynglŷn ag adnewyddu neu roi trwyddedau, gweler O.S. 2006/1758, erthyglau 5 a 6. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[32] Diddymwyd Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 gan adran 356(3)(i) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae diddymu Atodlen 1 i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[33] Wedi'i diddymu gan Ddeddf Gamblo 2005, adran 356(3)(i),(4), Atodlen 17. I gael gweld y darpariaethau trosiannol mewn perthynas ag unrhyw drwydded o dan adran 16 sydd i fod i ddod i ben yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 ac sy'n diweddu ar 30 Awst 2007. Gweler O.S. 2006/1758, erthygl 7. Mae diddymiad Atodlen 3 i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w bennu o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[34] Wedi'i diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (p.7), Atodlen 6, paragraff 1, adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57) ac adran 186 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65). Amnewidiwyd adran 94(8) gan Orchymyn Dadreoleiddio (Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd) 1997 (O.S. 1997/1187).back
[35] Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 13(1). Gweler O.S. 1973/1851 ac O.S. 1977/2128.back
[36] Wedi'i diwygio gan Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). Gweler, yn benodol, Ran II o'r Ddeddf honno, ac Atodlen 2 iddi.back
[37] Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, Atodlen 6, paragraff 17 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988 (p.29), adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.back
[38] Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 35(1) a (2) ac Atodlen 6, paragraff 18 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) o'r Atodlen.back
[39] Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6, Atodlen 34, paragraff 15 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.back
[40] Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adrannau 35(1) a (2) a 42, Atodlen 6, paragraff 2(1) ac Atodlen 8.back
[41] Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 6, a chan adran 3 o Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988.back
[42] Mewnosodwyd adran 46A gan adran 1 o Ddeddf Priodasau 1994 (p.34).back
[43] Diwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).back
[44] O.S. 2006/31 (Cy.5) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006 / 1534 (Cy.151)).back
[45] Wedi'i deddfu'n wreiddiol fel Deddf Etholiadau Cynulliad Ewrop 1978 a'i hailenwi yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 (p.58). Amnewidiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Etholiadau Seneddol Ewrop 1999 (p.1), Atodlen 2.back
[46] Amnewidiwyd is-adran (4) o adran 52 gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).back
[47] Dirymodd O.S. 2003/284 Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999 (O.S. 1999/450) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2002 (O.S. 2002/834). Mae O.S. 2003/284 yn atgynhyrchu O.S. 1999/450 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/834 gan wneud darpariaethau ychwanegol.back
[48] Cymhwysir adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 i is-ddeddfau sy'n cael eu gwneud o dan adran 235 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan adran 22(1) o Ddeddf Dehongli 1978 a pharagraff 3 o Ran I o Atodlen 2 iddi.back
[49] O ran adran 7 gweler hefyd adran 99 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Diwygiwyd adran 12 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 gan adran 10 o Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p.7).back
[50] O.S. 2005/368 (Cy.34).back
[53] Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y rhan honno.back
[54] Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11).back
[55] Adran 8 o Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).back
[56] Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.back
[57] Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.back
[60] Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), adran 23.back
[61] Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back