BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2007 Rhif 571 (Cy.49)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070571w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 571 (Cy.49)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 27 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 28 Chwefror 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7), 44(4) a 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru[2].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007.

    (4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Deddf 1992" ("the 1992 Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)
    
2. Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai—

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (awdurdodau bilio)
     3. Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai'r geiriau "or relevant special grant" yn eitem P wedi'u hepgor[6].

Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)
     4. Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai—

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (prif awdurdodau praeseptio)
     5. Mae adran 44(1) o Ddeddf 1992[9] yn effeithiol fel pe bai yn eitem P—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn nodi, yn y drefn honno, sut y mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo'u hanghenion cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn nodi, yn y drefn honno, sut y mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.

Mae rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at "relevant special grant" o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992 ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007 gan nad oes unrhyw grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol am y flwyddyn ariannol honno.

Mae rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod, ar gyfer awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio yng Nghymru, ddiffiniadau o symiau sy'n daladwy o ran ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992 am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007. Diben hyn yw sicrhau nad yw symiau'r ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad ar gyfer gofynion cyllideb yn yr adrannau hynny ond yn ymwneud â'r cyfryw symiau sy'n daladwy o dan yr Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007. Mae'r un diffiniadau yn gymwys hefyd i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 4(b) hefyd yn diffinio "floor funding" yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6F) ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007.

Mae rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007 wrth wneud y cyfrifiadau gofynnol ar gyfer y flwyddyn honno.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol, Yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111:
e-bost [email protected]).


Notes:

[1] 1992 p.14; diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19).back

[2] Trosglwyddwyd y pŵ er i wneud rheoliadau o dan adrannau 32(9), 33(4), 43(7) a 44(4) o ran Cymru oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] Diwygiwyd adran 32(3)(a) gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234) ac mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 2(a) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/344 (Cy.41).back

[4] Mewnosodwyd adran 32(12A) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 2(b) o O.S. 2006/344 (Cy.41).back

[5] 1988 p.41; mewnosodwyd adran 84G gan Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26)back

[6] Diwygiwyd adran 33(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234 ac mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 3 o O.S. 2006/344 (Cy.41).back

[7] Diwygiwyd adran 43(3)(a) gan O.S. 1994/246, O.S. 1995/234 ac mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2004—2005 gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/451 (Cy.42)) ac mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 4(a) o O.S. 2006/344 (Cy.41).back

[8] Mewnosodwyd is-adrannau 43(6E) a (6F) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 4(b) o O.S. 2006/344 (Cy.41).back

[9] Diwygiwyd adran 44(1) gan O.S. 1994/246, O.S. 1995/234 ac mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2004—2005 gan O.S. 2004/451 (Cy.42) ac mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 5 o O.S. 2006/344 (Cy.41).back

[10] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091517 8


 © Crown copyright 2007

Prepared 6 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070571w.html