BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007 Rhif 583 (Cy.55)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070583w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 583 (Cy.55)

TIROEDD COMIN, CYMRU

Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 27 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2) a (7), 59(1) a 61(1)[1] o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 a pharagraff 2(1)(a) o Atodlen 1 iddi[2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2007, ond mae'n effeithiol o 28 Mehefin 2005 ymlaen.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Hollti dros dro hawl comin
    
2. —(1) Caniateir i hawl comin i bori anifeiliaid y mae adran 9(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gymwys iddi gael ei hollti dros dro oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef drwy brydlesu neu drwyddedu—

    (2) Pan fo hawl comin wedi'i hollti dros dro oddi wrth unrhyw dir yn unol â pharagraff (1)(b), ni fydd unrhyw effaith i unrhyw warediad o'r hawl comin a gedwir lle bo'r gwarediad yn cymryd lle adeg rhoi neu ar ôl rhoi'r brydles neu'r drwydded ar y tir, a chyn i'r brydles neu'r drwydded gael ei therfynu oni fydd yn cael ei gwaredu—

    (3) Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at hawl comin, mewn perthynas â hawl comin i bori mwy nag un anifail, yn cynnwys hawl i bori cyfran o nifer yr anifeiliaid y caniateir eu pori yn rhinwedd yr hawl comin honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Adran 9 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, y bernir, yn ôl adran 9(7) o'r Ddeddf honno, ei bod wedi dod i rym ar 28 Mehefin 2005, yn atal, yn ddarostyngedig i eithriadau, hollti hawl comin oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef.

Mae'r Gorchymyn hwn yn caniatáu hollti dros dro hawl comin i bori anifeiliaid oddi wrth y tir y mae'r hawl yn gysylltiedig ag ef drwy alluogi'r hawl i gael ei phrydlesu neu ei thrwyddedu i drydydd parti am ddim mwy na thair blynedd (erthygl 2(1)(a)) neu drwy brydlesu neu drwyddedu'r tir heb yr hawl honno (erthygl 2(1)(b)).

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2007, ond mae'n effeithiol o 28 Mehefin 2005 ymlaen gyda'r canlyniad na fydd unrhyw brydles neu drwydded hawl comin i bori anifeiliaid a roddir ar ôl y dyddiad hwnnw am gyfnod o dair blynedd neu lai yn ddi-rym at y dibenion hynny yn rhinwedd adran 9(3) o'r Ddeddf.


Notes:

[1] Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod cenedlaethol priodol ("appropriate national authority") o ran Cymru.back

[2] 2006 p.26.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091516 X


 © Crown copyright 2007

Prepared 6 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070583w.html