BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 714 (Cy.62)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gwynedd) 2007
|
Wedi'i wneud |
6 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2007 | |
Mae Cyngor Sir Gwynedd wedi gwneud cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i Orchymyn gael ei wneud o dan baragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991[1] o ran Sir Gwynedd ac mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymgynghori â Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn unol â gofynion paragraffau 1(3) a 2(3) o'r Atodlen honno ac â Chyngor y Tribiwnlysoedd yn unol â gofynion adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[2];
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraffau 1(1), 2(1) a 3(3) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991[3], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gwynedd) 2007 a daw i rym ar 1 Ebrill 2007.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr "yr ardal barcio" ("the parking area") yw'r ardal a ddynodir yn ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig gan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr "Deddf 1984" ("the 1984 Act") yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984[4];ac
ystyr "Deddf 1991" ("the 1991 Act") yw Deddf Traffig Ffyrdd 1991.
Cymhwyso
3.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Sir Gwynedd yn gyfan ac eithrio'r A55 ar ei hyd, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno a'i ffyrdd ymadael, o fewn y sir.
Dynodi ardal barcio a ganiateir ac ardal barcio arbennig
4.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn dynodi'r ardal y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddi—
(a) yn ardal barcio a ganiateir; a
(b) yn ardal barcio arbennig.
Addasu a chymhwyso Rhan II o Ddeddf 1991
5.
Mae adrannau 66, 69 i 74, 78, 79 ac 82 o Ddeddf 1991 ac Atodlen 6 iddi yn gymwys mewn perthynas â'r ardal barcio ac yn ôl y cymhwysiad hwnnw maent yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
Addasu Deddf 1984
6.
Caiff Deddf 1984 ei haddasu mewn perthynas â'r ardal barcio fel a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007
ATODLEN 1Erthygl 5
ADDASIADAU I DDARPARIAETHAU RHAN II O DDEDDF TRAFFIG FFYRDD 1991 A GYMHWYSIR MEWN PERTHYNAS Â'R ARDAL BARCIO
1.
—(1) Caiff adran 66 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1) hepgorir y geiriau "in a designated parking place".
(3) Hepgorir is-adran (2).
(4) Yn is-adran (3)—
(a) ym mharagraff (d) yn lle'r geiriau "the specified proportion" rhoddir "one half"; a
(b) (b) ym mharagraff (e) yn lle'r geiriau "the London authority" rhoddir "the parking authority".
(5) Hepgorir is-adran (4).
(6) Yn is-adran (5) yn lle paragraff (b) rhoddir—
"
(b) the parking authority.".
2.
—(1) Caiff adran 69 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—
"
(1) Where, in the case of a stationary vehicle, a parking attendant has reason to believe that it has been allowed to remain at rest in any of the circumstances in which a penalty charge is payable, the parking attendant or another person acting under the direction of the parking attendant may fix an immobilisation device to the vehicle.".
(3) Yn lle is-adran (8) rhoddir—
"
(8) In this section "relevant authority" means the parking authority."
3.
—(1) Caiff adran 71 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1) yn lle'r geiriau "a London authority" rhoddir "the parking authority".
(3) Yn lle is-adran (4) rhoddir—
"
(4) The grounds are—
(a) that there were no reasonable grounds for the parking attendant concerned to believe that the vehicle had been permitted to remain at rest in the parking area in circumstances in which a penalty charge was payable;
(b) that the vehicle had been permitted to remain at rest in the place where it was by a person who was in control of the vehicle without the consent of the owner;
(c) that the place where the vehicle was at rest was not in the parking area;
(d) in a case within subsection (1)(d) above, that, by virtue of an exemption given by section 70 of this Act, section 69 did not apply to the vehicle at the time in question; or
(e) that the penalty or other charge in question exceeded the amount applicable in the circumstances of the case.".
4.
—(1) Caiff adran 73 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-adrannau (1) i (3) rhoddir—
"
(1) The functions conferred on the parking authority by this section must be discharged by it through a joint committee ("the Joint Committee") which has been set up in pursuance of arrangements entered into under section 101(5) of the Local Government Act 1972[6] and of which the parking authority and at least two other local authorities are constituent authorities.
(2) In subsection (1) "local authorities" means authorities which are county or county borough councils in Wales or county or district councils in England in whose areas permitted parking areas or special parking areas have been designated under Schedule 3 to this Act.
(3) The parking authority must—
(a) with the consent of the Lord Chancellor appoint persons to act as parking adjudicators for the purposes of this Part of this Act in relation to the parking area;
(b) provide or secure the provision of accommodation and administrative staff for parking adjudicators so appointed; and
(c) determine the places at which such parking adjudicators are to sit.".
(3) Yn is-adran (5) yn lle'r geiriau "the appointing authorities" rhoddir "the parking authority".
(4) Hepgorir is-adrannau (8) i (10).
(5) Yn is-adran (11) yn lle'r geiriau "the Secretary of State" rhoddir "The National Assembly for Wales".
(6) Ar ôl is-adran (12) mewnosodir yr is-adran ganlynol—
"
(12A) The Road Traffic (Parking Adjudicators) (England and Wales) Regulations 1999 have effect as if made by the National Assembly for Wales and apply to the parking area as they apply to the areas designated by the Orders listed in the Schedule to those Regulations.".
(7) Yn is-adran (18) yn lle'r geiriau "the Secretary of State" rhoddir "The National Assembly for Wales".
5.
Yn lle adran 74 rhoddir y canlynol—
"
74.
—(1) It is the duty of the parking authority to set the levels of additional parking charges to apply in the parking area.
(2) Different levels may be set for different parts of the parking area.
(3) In assessing the levels of additional parking charges to be set by the parking authority under this section the parking authority must have regard to the guidance given by the National Assembly for Wales whether such guidance is given specifically to the parking authority or to local authorities in Wales generally.
(4) Guidance given by the National Assembly for Wales under subsection (3) above may be varied at any time by the National Assembly for Wales.
(5) The parking authority must publish, in such manner as the National Assembly for Wales determines, the levels of additional parking charges which have been set under this section.
(6) In this section "additional parking charges" means penalty charges, charges made by the parking authority for the removal, storage and disposal of vehicles and charges for the release of vehicles from immobilisation devices fixed under section 69 of this Act.".
6.
—(1) Caiff adran 78 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-adran (7) mewnosodir yr is-adran ganlynol:
"
(8) Any order made under subsection (2), and any regulations made under subsection (4), of this section apply with necessary modifications, including in particular the substitution for references to a London authority of references to the parking authority, in relation to the recovery of Part II debts payable in relation to the parking area.".
7.
—(1) Caiff adran 82 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—
"
(1) In this section and sections 66, 69 to 74, 78 and 79 of, and Schedule 6 to, this Act—
"immobilisation device" has the same meaning as in section 104(9) of the Road Traffic Regulation Act 1984;
"the Joint Committee" has the meaning given by section 73(1) of this Act;
"the parking area" means the area designated as a permitted parking area and as a special parking area by the Road Traffic (Permitted Parking Area and Special Parking Area) (County of Gwynedd) Order 2007[7];
"parking attendant" has the same meaning as in section 63A of the Road Traffic Regulation Act 1984;
"parking authority" means Gwynedd Council;
"penalty charge" means a penalty charge which is payable by virtue of paragraph 3(1) and (2) of Schedule 3 to this Act;
"prescribe" and "prescribed" mean prescribe or, as the case may be, prescribed, by regulations made by the National Assembly for Wales; and
"vehicle hiring agreement" and "vehicle hire firm" have the same meanings as in section 66 of the Road Traffic Offenders Act 1988[8] (hired vehicles).".
(3) Hepgorir is-adrannau (1A), (1B) ac (1C).
(4) Yn is-adran (5) yn lle'r geiriau "the London authority concerned" rhoddir "the parking authority".
(5) Yn is-adran (6) hepgorir y geiriau "on a Minister of the Crown".
(6) Yn is-adran (7) mewnosodir y geiriau "by the Lord Chancellor" ar ôl y geiriau "Any statutory instrument made".
8.
—(1) Caiff Atodlen 6 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)(1) yn lle'r geiriau "the London authority concerned" rhoddir "the parking authority".
(3) Ym mharagraff (1)(3) yn lle'r geiriau "The Secretary of State" rhoddir "The National Assembly for Wales".
(4) Ym mharagraff 2—
(a) yn is-baragraff (1) yn lle'r geiriau "the London authority who served the notice on him" rhoddir "the parking authority";
(b) yn is-baragraff (2) yn lle'r geiriau o "in such form as" hyd at ddiwedd yr is-baragraff rhoddir "in writing";
(c) yn is-baragraff (3) yn lle'r geiriau "The authority" rhoddir "The parking authority";
(ch) yn is-baragraff (4)(c) yn lle'r geiriau "the parking place" rhoddir "the place where it was".
(d) yn is-baragraff (4)(d) yn lle'r geiriau "the relevant designation order" rhoddir "any relevant designation order";
(dd) yn is-baragraff (7) yn lle'r geiriau "an authority to whom representations are duly made" rhoddir "the parking authority when representations are duly made to it".
(5) Ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau "the London authority concerned" yn y ddau le y maent yn digwydd rhoddir "the parking authority".
(6) Ym mharagraff 4 yn lle'r geiriau "the London authority concerned" ac yn lle'r geiriau "the authority" rhoddir "the parking authority".
(7) Ym mharagraff 5—
(a) yn is-baragraff (1) yn lle'r geiriau "an authority" rhoddir "the parking authority" ac yn lle'r geiriau "the authority's decision" rhoddir "the parking authority's decision";
(b) yn is-baragraff (2) yn lle'r geiriau "the London authority concerned" rhoddir "the parking authority"; ac
(c) yn lle is-baragraff (3) rhoddir—
"
(3) It is the duty of the parking authority to comply with any direction given to it under sub-paragraph (2) above forthwith.".
(8) Ym mharagraff 6—
(a) yn is-baragraff (1) yn lle'r geiriau "the authority serving the notice" rhoddir "the parking authority"; a
(b) yn is-baragraff (2)(b)(ii) yn lle'r geiriau "the authority concerned" rhoddir "the parking authority".
(9) Ym mharagraff 7, yn lle'r geiriau "the authority concerned" rhodder "the parking authority".
(10) Ym mharagraff 8—
(a) yn is-baragraffau (2)(b) a (5)(d) yn lle'r geiriau "the London authority concerned" rhoddir "the parking authority"; a
(b) yn is-baragraffau (6) a (7) yn lle'r geiriau "the London authority" rhoddir "the parking authority".
ATODLEN 2Erthygl 6
ADDASIADAU I DDEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984
1.
—(1) Caiff adran 46 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Hepgorir is-adran (1).
(3) Yn is-adran(1A) yn lle "Greater London" rhoddir "the parking area".
2.
—(1) Diwygir adran 55 fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—
"
(1) A local authority must keep an account of—
(a) their income and expenditure in respect of designated parking places for which they are the local authority and which are in the permitted parking area; and
(b) their income from additional parking charges (within the meaning of section 74(6) of the Road Traffic Act 1991) received by them in respect of vehicles found within the special parking area and the expenditure incurred by them in relation to that area by virtue of any provision of Part II of the Road Traffic Act 1991 as it applies in relation to that area.
(1A) As soon as reasonably possible after the end of each financial year the local authority must forward to the National Assembly for Wales a copy of the account for that year.".
(3) Hepgorir is-adrannau (3A) a (3B).
3.
Yn is-adran 63A(4)—
(a) yn lle'r geiriau "in Greater London" rhoddir "in the parking area"; a
(b) yn lle'r geiriau "Greater London Authority" rhoddir "National Assembly for Wales".
4.
—(1) Caiff adran 101 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Hepgorir is-adran (4).
(3) Yn is-adran (4A) yn lle'r geiriau "Greater London" rhoddir "the parking area".
(4) Hepgorir is-adran (5).
(5) Yn is-adran (5A) yn lle'r geiriau "Greater London" rhoddir "the parking area".
5.
—(1) Caiff adran 102 ei haddasu fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—
"
(1) If a vehicle is removed from the parking area in circumstances in which an offence would have been committed but for the provisions of paragraph 1(4) or 2(4) of Schedule 3 to the Road Traffic Act 1991, the local authority shall be entitled to recover from any person responsible, such charges in respect of the removal, storage and disposal of the vehicle, as they may require.".
(3) Hepgorir is-adran (2).
(4) Yn lle is-adran (4) rhoddir—
"
(4) Without prejudice to subsection (3) above, where by virtue of subsection (1) above any sum is recoverable in respect of a vehicle by a local authority in whose custody the vehicle is, the local authority shall be entitled to retain custody of it until that sum has been paid.".
(5) Hepgorir is-adran (7).
(6) Yn is-adran (8) hepgorir y diffiniad o "appropriate authority".
(7) Hepgorir is-adran (9).
6.
Yn adran 142(1) cyn y diffiniad o "parking device" mewnosodir—
"
"parking area" means the area designated as a permitted parking area and as a special parking area by the Road Traffic (Permitted Parking Area and Special Parking Area) (County of Gwynedd) Order 2007 and "permitted parking area" and "special parking area" are to be read accordingly;".
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dynodi ardaloedd parcio a ganiateir ac ardaloedd parcio arbennig. Mae paragraff 1(1) yn rhoi'r pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i ddynodi'r cyfan neu unrhyw ran o ardal cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru fel ardal barcio a ganiateir yn dilyn cais gan yr awdurdod lleol. Mae paragraff 2(1) yn rhoi pwer cyffelyb mewn perthynas ag ardaloedd parcio arbennig.
Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud yn dilyn cais gan Gyngor Sir Gwynedd ("yr awdurdod lleol") ac ymgynghoriad statudol â Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor y Tribiwnlysoedd.
Effaith y Gorchymyn hwn yw dynodi'r cyfan o Sir Gwynedd fel ardal barcio a ganiateir ac ardal barcio arbennig ac eithrio yr A55 ar ei hyd, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno a'i ffyrdd ymadael ("yr ardal barcio"). Unwaith y mae'r Gorchymyn mewn grym, mae amrywiol droseddau parcio o fewn yr ardal barcio yn cael eu dad-droseddoli. Mae gorfodi yn peidio â bod yn gyfrifoldeb yr heddlu ac yn dod yn gyfrifoldeb yr awdurdod lleol. Rhoddir pwer i swyddogion parcio a gyflogir gan yr awdurdod lleol (neu a gyflogir fel swyddogion parcio gan berson y mae'r awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ag ef) i osod hysbysiadau cosb ar gerbydau sy'n torri rheoliadau parcio a chânt, mewn achosion priodol, awdurdodi llusgo ymaith neu barlysu cerbydau.
Yn rhinwedd y Gorchymyn, mae'r ffioedd cosb yn yr ardal barcio i'w gosod gan yr awdurdod lleol gan roi ystyriaeth i ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Gall yr awdurdod lleol eu hadennill fel dyledion sifil. Gwneir darpariaeth ar gyfer gwneud sylwadau i'r awdurdod lleol os digwydd i ffi gosb gael ei rhoi neu os digwydd i gerbyd gael ei lusgo ymaith neu ei barlysu. Gwaith dyfarnwyr parcio a benodwyd gan gyd-bwyllgor a ffurfiwyd yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fydd dyfarnu os cyfyd anghytundebau.
Notes:
[1]
1991 p.40. Cafodd Atodlen 3 ei diwygio gan Orchymyn Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (Diwygio Atodlen 3) (Cymru a Lloegr) 1996 (O.S. 1996/500), gan Atodlen 7, paragraff 43 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (c.19), a chan Atodlen 13, paragraff 171 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994 (p.39).back
[2]
1992 p.53.back
[3]
Trosglwyddwyd y pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[4]
1984 p.27. Diwygiwyd adran 32(4)(a), ac amnewidiwyd adran 45(1), gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraffau 39 a 44. Mewnosodwyd adrannau 46(1A), 63A a 101(4A) a (5A) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991, adrannau 64(2), 44(1) a 67(4) a (6). Diwygiwyd adran 102(8) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991, adran 68(3).back
[5]
1998 p.38.back
[6]
1972 p.70.back
[7]
O.S. 2007/714 (C.62).back
[8]
1988 p.53.back
English version
ISBN
978 0 11 091525 8
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
14 March 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070714w.html