BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 856 (Cy.79) (C.34)
GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Cychwyn) (Cymru) 2007
|
Wedi'i wneud |
13 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
|
At ddibenion erthygl 3 |
1 Gorffennaf 2007 | |
|
At ddibenion erthygl 4 |
1 Hydref 2008 | |
|
At bob diben arall |
1 Hydref 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 68(2) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a dehongli
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Cychwyn) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
Cychwyn
2.
Yn ddarostyngedig i erthyglau 3 a 4, daw adrannau 30 i 34 (ymchwil) o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2007.
3.
Daw adrannau 30 i 34 o'r Ddeddf i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o ran ymchwil i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo.
4.
Daw adrannau 30 i 34 o'r Ddedd i rym ar 1 Hydref 2008 o ran unrhyw ymchwil a gaiff ei wneud fel rhan o brosiect ymchwil—
(a) sydd yn dechrau cyn 1 Hydref 2007; a
(b) sydd yn cael ei gymeradwyo cyn 1 Hydref 2007 gan bwyllgor a sefydlir i gynghori ar foeseg ymchwil, neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo.
5.
Daw adrannau 35 i 41 (gwasanaeth eiriolwr annibynnol galluedd meddyliol) o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2007.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
1.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 30 i 41 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2005 (p.9) ("y Ddeddf") o ran Cymru.
2.
Mae erthygl 2 yn dwyn adrannau 30 i 34 i rym ar 1 Hydref 2007 o ran ymchwil a gaiff ei wneud fel rhan o brosiect a ddechreir ar neu ar ôl 1 Hydref 2007.
3.
Mae erthygl 3 yn dwyn adrannau 30 i 34 i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o ran ymchwil i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu pernderfynu ganddo.
4.
Mae erthygl 4 yn darparu pan fo prosiect ymchwil wedi dechrau cyn 1 Ebrill 2007 ac wedi'i gymeradwyo cyn y dyddiad hwnnw ni fydd adrannau 30 i 34 yn dod i rym tan 1 Hydref 2008.
5.
Mae erthygl 5 yn dwyn adrannau 35 i 41 i rym ar 1 Hydref 2007.
Notes:
[1]
2005 p.9.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091544 9
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
23 March 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070856w.html