BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2007 Rhif 952 (Cy.83)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070952w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 952 (Cy.83)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 21 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 22 Mawrth 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 59, 60 a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 22 Mawrth 2007.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r Gorchymyn
    
2. —(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995[3] wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraff (2) o'r erthygl hon.

    (2) Ar ôl Rhan 38 o Atodlen 2 ychwaneger—





Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu Rhan 39 newydd at Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Mae Rhan 39 yn rhoi caniatâd cynllunio mewn perthynas â datblygu penodol sy'n angenrheidiol at ddibenion lletya dofednod ac adar caeth eraill i'w hamddiffyn rhag ffliw adar. Mae graddau a natur y datblygu a ganiateir yn ddarostyngedig i gyfyngiadau. Pan fo Rhan 39 yn gymwys i'r datblygu, nid oes angen unrhyw gais penodol am ganiatâd cynllunio. Mae caniatâd cynllunio yn cael ei roi yn hytrach gan Ran 39, yn ddarostyngedig i amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol a chael gwared ar y datblygiad pan fo'r angen amdano wedi dod i ben neu erbyn 21 Mawrth 2008 p'un bynnag yw'r cynharaf.


Notes:

[1] 1990 p.8, y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60 a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672): gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) fel y'i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 ac Atodlen 3 iddo (O.S. 2000/253). Yn rhinwedd adran 333(4) o Ddeddf 1990, mae'r pwerau a roddwyd gan adrannau 59, 60 a 333 (7) o Ddeddf 1990 yn arferadwy drwy offeryn statudol.back

[3] O.S. 1995/418; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1999/293, 2004/3156 (Cy.273), 2006/1282 a 2006/1386 (Cy.136).back

[4] OJ Rhif L 268, 14.9.1992, t.54-72.back

[5] OJ Rhif L 224, 18.8.1990, t.29-41.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 978 0 11 091550 0


 © Crown copyright 2007

Prepared 2 April 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070952w.html