BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Ynys Môn) 2007 Rhif 1043 (Cy.103)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071043w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 1043 (Cy.103)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Ynys Môn) 2007

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2007 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi gwneud cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") wneud Gorchymyn o dan baragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991[1] o ran y Sir honno a chan fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ymgynghori â Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn unol â gofynion paragraffau 1(3) a 2(3) o'r Atodlen honno a Chyngor y Tribiwnlysoedd yn unol â gofynion adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[2];

     Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraffau 1(1), 2(1) a 3(3) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991[3], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Ynys Môn) 2007, a daw i rym ar 1 Ebrill 2007.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn:

Cymhwyso
     3. Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i sir Ynys Môn yn gyfan ac eithrio'r A55 ar ei hyd, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno a'i ffyrdd ymadael, o fewn y sir.

Dynodi ardal barcio a ganiateir ac ardal barcio arbennig
    
4. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol drwy hyn yn dynodi'r ardal y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddi—

Addasu a chymhwyso Rhan II o Ddeddf 1991
    
5. Mae adrannau 66, 69 i 74, 78, 79 ac 82 o Ddeddf 1991 ac Atodlen 6 iddi yn gymwys mewn perthynas â'r ardal barcio ac yn unol â'r cymhwysiad hwnnw maent yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

Addasu Deddf 1984
    
6. Caiff Deddf 1984 ei haddasu mewn perthynas â'r ardal barcio fel a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007



ATODLEN 1
Erthygl 5


ADDASIADAU I DDARPARIAETHAU RHAN II O DDEDDF TRAFFIG FFYRDD 1991 A GYMHWYSIR MEWN PERTHYNAS Â'R ARDAL BARCIO


     1. —(1) Caiff adran 66 ei haddasu fel a ganlyn.

    (2) Yn is-adran (1) hepgorir y geiriau "in a designated parking place".

    (3) Hepgorir is-adran (2).

    (4) Yn is-adran (3)—

    (5) Hepgorir is-adran (4).

    (6) Yn is-adran (5) yn lle paragraff (b) rhoddir—

     2. —(1) Caiff adran 69 ei haddasu fel a ganlyn.

    (2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—

    (3) Yn lle is-adran (8) rhoddir—

     3. —(1) Caiff adran 71 ei haddasu fel a ganlyn.

    (2) Yn is-adran (1) yn lle'r geiriau "a London authority" rhoddir "the parking authority".

    (3) Yn lle is-adran (4) rhoddir—

     4. —(1) Caiff adran 73 ei haddasu fel a ganlyn.

    (2) Yn lle is-adrannau (1) i (3) rhoddir—

    (3) Yn is-adran (5) yn lle'r geiriau "the appointing authorities" rhoddir "the parking authority".

    (4) Hepgorir is-adrannau (8) i (10).

    (5) Yn is-adran (11) yn lle'r geiriau "The Secretary of State" rhoddir "The National Assembly for Wales".

    (6) Ar ôl is-adran (12) mewnosodir yr is-adran ganlynol—

    (7) Yn is-adran (18) yn lle'r geiriau "the Secretary of State" rhoddir "the National Assembly for Wales".

     5. Yn lle adran 74 rhoddir y canlynol—

     6. —(1) Caiff adran 78 ei haddasu fel a ganlyn.

    (2) Ar ôl is-adran (7) mewnosodir yr is-adran ganlynol:

     7. —(1) Caiff adran 82 ei haddasu fel a ganlyn.

    (2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—

    (3) Hepgorir is-adrannau (1A), (1B) a (1C).

    (4) Yn is-adran (5) yn lle'r geiriau "the London authority concerned" rhoddir "the parking authority".

    (5) Yn is-adran (6) hepgorir y geiriau "on a Minister of the Crown".

    (6) Yn is-adran (7) mewnosodir y geiriau "by the Lord Chancellor" ar ôl y geiriau "Any statutory instrument made".

     8. —(1) Caiff Atodlen 6 ei haddasu fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 1(1) yn lle'r geiriau "the London authority concerned" rhoddir "the parking authority".

    (3) Ym mharagraff 1(3) yn lle'r geiriau "The Secretary of State" rhoddir "The National Assembly for Wales".

    (4) Ym mharagraff 2—

    (5) Ym mharagraff 3 yn lle'r geiriau "the London authority concerned" yn y ddau le y maent yn digwydd rhoddir "the parking authority".

    (6) Ym mharagraff 4 yn lle'r geiriau "the London authority concerned" ac yn lle'r geiriau "the authority" rhoddir "the parking authority".

    (7) Ym mharagraff 5—

    (8) Ym mharagraff 6—

    (9) Ym mharagraff 7 yn lle'r geiriau "the authority concerned" rhoddir "the parking authority".

    (10) Ym mharagraff 8—



ATODLEN 2
Erthygl 6


ADDASIADAU I DDEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984


     1. —(1) Caiff adran 46 ei haddasu fel a ganlyn.

    (2) Hepgorir is-adran (1).

    (3) Yn is-adran (1A) yn lle "Greater London" rhoddir "the parking area".

     2. —(1) Diwygir adran 55 fel a ganlyn.

    (2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—

    (3) Hepgorir is-adrannau (3A) a (3B).

     3. Yn adran 63A(4)—

     4. —(1) Caiff adran 101 ei haddasu fel a ganlyn.

    (2) Hepgorir is-adran (4).

    (3) Yn is-adran (4A) yn lle'r geiriau "Greater London" rhoddir "the parking area".

    (4) Hepgorir is-adran (5).

    (5) Yn is-adran (5A) yn lle'r geiriau "Greater London" rhoddir "the parking area".

     5. —(1) Caiff adran 102 ei haddasu fel a ganlyn.

    (2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—

    (3) Hepgorir is-adran (2).

    (4) Yn lle is-adran (4) rhoddir—

    (5) Hepgorir is-adran (7).

    (6) Yn is-adran (8) hepgorir y diffiniad o "appropriate authority".

    (7) Hepgorir is-adran (9).

     6. Yn adran 142(1) cyn y diffiniad o "parking device" mewnosodir—



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 yn darparu ar gyfer dynodi ardaloedd parcio a ganiateir ac ardaloedd parcio arbennig. Mae paragraff 1 (1) yn rhoi'r pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("Y Cynulliad Cenedlaethol") ddynodi'r cyfan neu unrhyw ran o ardal cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru yn ardal barcio a ganiateir yn dilyn cais gan yr awdurdod lleol. Mae paragraff 2(1) yn rhoi pwer cyffelyb mewn perthynas ag ardaloedd parcio arbennig.

Gwneir y Gorchymyn hwn yn dilyn cais gan Gyngor Sir Ynys Môn ("yr awdurdod lleol") ac ymgynghoriad statudol gyda Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru a'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd.

Effaith y Gorchymyn hwn yw dynodi'r cyfan o sir Ynys Môn ac eithrio hyd cyfan yr A55, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno a'i ffyrdd ymadael, yn ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig ("yr ardal barcio"). Unwaith y bydd y Gorchymyn mewn grym, mae amrywiol droseddau parcio o fewn yr ardal barcio wedi'u dad-droseddoli. Mae eu gorfodi yn peidio â bod yn gyfrifoldeb yr heddlu ac yn dod yn gyfrifoldeb yr awdurdod lleol. Rhoddir pwer i oruchwylwyr parcio a gyflogir gan yr awdurdod lleol (neu a gyflogir fel goruchwylwyr parcio gan berson y gwnaeth yr awdurdod lleol drefniant ag ef) osod rhybuddion tâl cosb ar gerbydau sy'n torri rheoliadau parcio a gallant, mewn achosion priodol, awdurdodi tynnu cerbydau ymaith neu osod llyffethair arnynt.

Yn rhinwedd y Gorchymyn, mae taliadau cosb yn yr ardal barcio i gael eu gosod gan yr awdurdod lleol gan roi ystyriaeth i ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Y maent i'w hadennill gan yr awdurdod lleol fel dyledion sifil. Gwneir darpariaeth ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol pan osodir tâl cosb neu pan gaiff cerbyd ei dynnu ymaith neu pan osodir llyffethair ar gerbyd. Mae dyfarnu pan ddigwydd anghytundebau i gael ei drin gan ddyfarnwyr parcio a benodir gan gyd-bwyllgor a sefydlir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.


Notes:

[1] 1991 p.40. Diwygiwyd Atodlen 3 gan Orchymyn Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (Diwygio Atodlen 3) (Cymru a Lloegr) 1996 (O.S. 1996/500), gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), Atodlen 7, paragraff 43 a Deddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994 (p.39), Atodlen 13, paragraff 171.back

[2] 1992 p.53.back

[3] Trosglwyddwyd y pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] 1984 p.27. Diwygiwyd adran 32(4)(a), ac amnewidiwyd adran 45(1), gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraffau 39 a 44. Mewnosodwyd adrannau 46(1A), 63A a 101(4A) a (5A) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991, adrannau 64(2), 44(1) a 67(4) a (6). Diwygiwyd adran 102(8) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991, adran 68(3).back

[5] 1998 p.38.back

[6] 1972 p.70.back

[7] O.S. 2007/ .back

[8] 1988 c.53.back



English version



ISBN 978 0 11 091555 5


 © Crown copyright 2007

Prepared 4 April 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071043w.html