BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 1048 (Cy.106)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2007
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006[1].
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Rheoliadau Optegol" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[2].
Diwygiadau i'r Rheoliadau Optegol
2.
Yn rheoliad 19 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle "£49.20" rhodder "£50.50"; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle "£12.70" rhodder "£13.00".
Diwygiadau i'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol
3.
—(1) Yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Optegol (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth tabl ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir ar ei gyfer yng ngholofn (2) o'r tabl isod yn ei le.
(1)
|
(2)
|
Swm blaenorol
|
Swm newydd
|
£33.70 |
£34.60 |
£51.20 |
£52.60 |
£74.90 |
£76.90 |
£169.10 |
£173.70 |
£58.20 |
£59.80 |
£74.00 |
£76.00 |
£95.90 |
£98.50 |
£185.90 |
£190.90 |
£173.20 |
£177.90 |
£49.20 |
£50.50 |
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Optegol (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bychain ac arbennig a theclynnau cymhleth)—
(a) ym mharagraff (1)(1)(a), yn lle "£11.00" rhodder "£11.30".
(b) ym mharagraff (1)(1)(b), yn lle "£13.10" rhodder "£13.50";
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle "£3.70" rhodder "£3.80".
(ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle "£4.20" rhodder "£4.30";
(d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle "£55.50", "£49.20" a "£26.60" rhodder "£57.00", "£50.50" a "£27.30" yn eu trefn;
(dd) ym mharagraff (1)(1)(g), yn lle "£55.50" rhodder "£57.00";
(e) ym mharagraff (2)(a), yn lle "£12.70" rhodder "£13.00"; ac
(f) ym mharagraff (2)(b), yn lle "£32.10" rhodder "£33.00".
(3) Yn lle Atodlen 3 i'r Rheoliadau Optegol (gwerth talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 newydd a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth Drosiannol
4.
Dim ond o ran taleb a gafodd ei derbyn neu ei defnyddio ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol y bydd y symiau newydd a fewnosodir gan reoliadau 2 a 3 yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
ATODLENRheoliad(3)(3)
ATODLEN 3 I'R RHEOLIADAU OPTEGOL FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN
"
SCHEDULE 3Regulation 19(2) and (3)
VOUCHER VALUES REPAIR
(1)
|
(2)
|
Nature of Repair
|
Letter of Codes — Values
|
|
A
|
B
|
C
|
D
|
E
|
F
|
G
|
H
|
I
|
|
£
|
£
|
£
|
£
|
£
|
£
|
£
|
£
|
£
|
Repair or replacement of one lens |
10.80 |
19.80 |
31.95 |
80.35 |
23.40 |
31.50 |
42.75 |
88.95 |
82.45 |
Repair or replacement of two lenses |
21.60 |
39.60 |
63.90 |
160.70 |
46.80 |
63.00 |
85.50 |
177.90 |
164.90 |
Repair or replacement of: |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
The front of a frame |
11.05 |
11.05 |
11.05 |
11.05 |
11.05 |
11.05 |
11.05 |
11.05 |
11.05 |
A side of a frame |
6.55 |
6.55 |
6.55 |
6.55 |
6.55 |
6.55 |
6.55 |
6.55 |
6.55 |
The whole frame |
13.00 |
13.00 |
13.00 |
13.00 |
13.00 |
13.00 |
13.00 |
13.00 |
13.00." |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y Rheoliadau Optegol") sy'n darparu ar gyfer gwneud taliadau drwy gyfrwng system dalebau o ran costau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 19 i gynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at gost ailosod un lens gyffwrdd ac i gynyddu uchafswm y cyfraniad drwy daleb tuag at gost trwsio ffrâm.
Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.7% yw graddfa'r cynnydd yn y talebau yn y Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gosod cost ar fusnes.
Notes:
[1]
2006 p.42. Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at "Welsh Ministers" i fod yn effeithiol tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol, o fewn ystyr Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a grewyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yn rhinwedd adran 5 a pharagraff 10 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43).back
[2]
O.S. 1997/818, fel y'i ddiwygiwyd.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091553 1
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
4 April 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071048w.html