BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007 Rhif 1357 (Cy.128)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071357w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 1357 (Cy.128)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 2 Ebrill 2007 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Datganiad o ddiben
4. Arweiniad plant
5. Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
6. Gofyniad i agor cofnod achos plentyn
7. Rhieni naturiol
8. Darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr a gymeradwyir
9. Paneli mabwysiadu

RHAN 2

RHEOLWYR
10. Penodi rheolwr
11. Ffitrwydd rheolwr
12. Gofynion cyffredinol
13. Hysbysu o dramgwyddau

RHAN 3

Y MODD Y CYNHELIR GWASANAETH MABWYSIADU AWDURDOD LLEOL
14. Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
15. Staffio
16. Ffitrwydd gweithwyr
17. Cyflogi staff
18. Gweithdrefn disgyblu staff
19. Trefniadau ar gyfer absenoldeb y rheolwr
20. Cofnodion mewn perthynas â'r holl staff
21. Ffitrwydd y fangre
22. Adolygu Ansawdd y Gwasanaeth
23. Asesu'r Gwasanaeth
24. Hysbysu o gydymffurfedd
25. Cwynion
26. Digwyddiadau hysbysadwy

RHAN 4

AMRYWIOL
27. Dirymu Rheoliadau

  ATODLEN 1 GWYBODAETH I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

  ATODLEN 2 GWYBODAETH I'W CHYNNWYS YN YR ARWEINIAD PLANT

  ATODLEN 3 GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN AM BERSONAU SY'N GWNEUD CAIS AM REOLI NEU WEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU

  ATODLEN 4 Y COFNODION SYDD I'W CADW YNGHYLCH POB PERSON SY'N GWEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU

  ATODLEN 5 DIGWYDDIADAU HYSBYSADWY

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yntau'n arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(1) a (3), 10 a 140(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[
1] ac adrannau 50 a 118(1) a (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:—



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 2 Ebrill 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—

ac mae cyfeiriadau at gyflogai neu at berson a gyflogir i'w dehongli yn unol â hynny.

Datganiad o ddiben
     3. —(1) Mewn perthynas â'r gwasanaeth mabwysiadu, rhaid i bob awdurdod lleol lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y datganiad o ddiben") a rhaid i'r datganiad fod yn ddatganiad o'r materion a restrir yn Atodlen 1.

    (2) Rhaid i'r awdurdod roi copi o'r datganiad o ddiben i'r Cynulliad Cenedlaethol a, phan wneir cais am gopi, rhaid iddo sicrhau bod copi ohono ar gael i'w archwilio gan—

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r awdurdod sicrhau bod y modd y cynhelir ei wasanaeth mabwysiadu bob amser yn unol â'i ddatganiad o ddiben.

    (4) Nid oes dim ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn neu i beidio â chydymffurfio â hi neu'n ei awdurdodi i wneud hynny.

Arweiniad plant
    
4. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth mabwysiadu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "yr arweiniad plant") ac mae'n orfodol mai datganiad ydyw o'r materion a restrir yn Atodlen 2.

    (2) Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r arweiniad plant ar gyfer—

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
    
5. Rhaid i bob awdurdod lleol—

Gofyniad i agor cofnod achos plentyn
    
6. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu cofnod achos ("cofnod achos y plentyn") mewn perthynas â phob plentyn a gosod arno—

Rhieni Naturiol
    
7. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol, pan fydd o'r farn mai mabwysiadu yw'r dewis gorau ar gyfer plentyn, neu pan fydd plentyn yn cael ei ildio, ddarparu'r canlynol ar gyfer rhieni naturiol:—

    (2) Rhaid i bob awdurdod lleol, pan fydd o'r farn mai mabwysiadu yw'r dewis gorau ar gyfer plentyn, neu pan fydd plentyn yn cael ei ildio, ganfod dymuniadau a theimladau rhieni naturiol a gwarcheidwad y plentyn ac unrhyw berson arwyddocaol arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei fod yn berthnasol mewn cysylltiad —

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan na fo gan dad plentyn gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a phan fo'r awdurdod lleol yn gwybod pwy yw tad y plentyn.

    (4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys a'r awdurdod lleol wedi'i fodloni ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid i'r awdurdod lleol ganfod, i'r graddau y bo hynny'n bosibl, p'un a yw'r tad—

Darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr a gymeradwyir
    
8. Mae'n orfodol—

Paneli mabwysiadu
    
9. —(1) O ran pob awdurdod lleol—

    (2) Pan fo'r awdurdod lleol, ac yntau wedi dilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 23 a 25 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005, o'r farn y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol, rhaid iddo wneud asesiad yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;



RHAN 2

RHEOLWYR

Penodi rheolwr
    
10. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu a rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o—

    (2) O ran y swyddog a benodir gan yr awdurdod lleol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu—

    (3) Rhaid i'r awdurdod hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os bydd y person a benodwyd o dan baragraff (1) yn peidio â bod yn rheolwr y gwasanaeth mabwysiadu.

Ffitrwydd rheolwr
    
11. —(1) Dim ond person sy'n ffit i ymgymryd â'r swydd a gaiff fod yn rheolwr gwasanaeth mabwysiadu.

    (2) Nid yw person yn ffit i reoli gwasanaeth mabwysiadu—

Gofynion cyffredinol
    
12. —(1) Rhaid i'r rheolwr, o ystyried—

reoli'r gwasanaeth mabwysiadu gyda gofal, hyfedredd a sgil digonol.

    (2) Rhaid i'r rheolwr ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu.

Hysbysu o dramgwyddau
    
13. Rhaid i reolwr a gollfernir o unrhyw dramgwydd, p'un ai yng Nghymru neu yn rhywle arall, ysgrifennu i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—



RHAN 3

Y MODD Y CYNHELIR GWASANAETH MABWYSIADU AWDURDOD LLEOL

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
    
14. Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig—

Staffio
    
15. Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau, o ystyried—

bod nifer digonol o bersonau sy'n briodol o ran cymhwyster, hyfedredd a phrofiad yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu, a bod gan yr awdurdod lleol bolisi recriwtio ysgrifenedig clir ar gyfer recriwtio'i staff.

Ffitrwydd gweithwyr
    
16. —(1) Rhaid i awdurdod lleol beidio ag—

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir, ac eithrio gan yr awdurdod mewn safle sy'n caniatáu i'r person hwnnw, wrth i'r person hwnnw gyflawni'i ddyletswyddau, fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant a all gael eu lleoli, neu sydd wedi cael eu lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu neu a all dderbyn neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod.

    (3) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu awdurdod—

    (4) Rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw bersonau sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu, nad ydynt yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod, ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt yn cael eu goruchwylio'n briodol tra byddant yn cyflawni eu dyletswyddau.

Cyflogi staff
    
17. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol—

    (2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau bod pob person a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu—

Gweithdrefn disgyblu staff
    
18. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol roi gweithdrefn ddisgyblu ar waith sydd, yn benodol—

    (2) At ddibenion paragraff (1)(b), dyma yw person priodol—

Trefniadau ar gyfer absenoldeb y rheolwr
    
19. Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu system i sicrhau bod person a nodir yn gyfrifol am reoli'r gwasanaeth mabwysiadu, os yw'r rheolwr yn arfaethu bod yn absennol neu os yw'n absennol o'r awdurdod lleol am gyfnod di-dor o 20 o ddiwrnodau neu fwy, a hynny hyd onid yw'r rheolwr yn dychwelyd i'r gwasanaeth mabwysiadu neu (yn ôl y digwydd) hyd oni phenodir rheolwr newydd gan yr awdurdod.

Cofnodion mewn perthynas â'r holl staff
    
20. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol gadw a diweddaru'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4

    (2) Rhaid cadw'r cofnodion a bennir ym mharagraff (1) am 15 mlynedd o leiaf ar ôl dyddiad y cofnod diwethaf.

Ffitrwydd y fangre
    
21. —(1) Rhaid i'r awdurdod lleol ddefnyddio at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu fangreoedd sy'n addas at ddiben cyflawni'r nodau a'r amcanion a geir yn y datganiad o ddiben.

    (2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau—

Adolygu Ansawdd y Gwasanaeth
     22. —(1) Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaethau mabwysiadu a ddarperir gan yr awdurdod lleol.

    (2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu bod yr awdurdod lleol —

    (3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r awdurdod lleol lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau gwaith a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan—

Asesu'r Gwasanaeth
    
23. —(1) Gall y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ofyn i'r awdurdod lleol gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth sy'n defnyddio ei wasanaethau mabwysiadu.

    (2) O fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl i gais o dan baragraff (1) ddod i law, rhaid i'r awdurdod lleol gyflenwi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.

Hysbysu o gydymffurfedd
    
24. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg hysbysu'r awdurdod lleol o'r camau y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu cymryd ym marn y Cynulliad i sicrhau cydymffurfedd â Ddeddf 2000 ac ag unrhyw reoliadau a wneir oddi tani.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r targedau amser erbyn pryd y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff (1).

    (3) Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan baragraff (1) wedi'u cwblhau.

Cwynion
    
25. Rhaid i bob awdurdod lleol—

Digwyddiadau hysbysadwy
    
26. —(1) Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yn y tabl yn Atodlen 5 yn digwydd mewn cysylltiad ag awdurdod lleol, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r personau a restrir yng ngholofnau'r tabl yn ddi-oed ynglyn â'r digwyddiad.

    (2) Rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig yn ogystal unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi ar lafar mewn cysylltiad â'r gorchymyn hwn.



RHAN 4

AMRYWIOL

Dirymu Rheoliadau
    
27. Dirymir Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005[10].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2007



ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)


GWYBODAETH I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN


     1. Nodau ac amcanion yr awdurdod lleol mewn perthynas â'r gwasanaeth mabwysiadu, gan gynnwys achosion sy'n ymwneud â mabwysiadu rhwng gwledydd.

     2. Y trefniadau y mae'r awdurdod lleol wedi'u rhoi yn eu lle i asesu a gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

     3. Enw a chyfeiriad y rheolwr.

     4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr.

     5. Nifer a chymwysterau a phrofiad perthnasol y staff a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu'r awdurdod.

     6. Strwythur trefniadol y gwasanaeth mabwysiadu.

     7. Y system sydd yn ei lle i fonitro a gwerthuso darpariaeth y gwasanaethau i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth mabwysiadu o safon briodol.

     8. Y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol.

     9. Manylion y cynghorydd gwasanaeth cefnogi mabwysiadu a'r gweithdrefnau ar gyfer asesu ar gyfer gwasanaethau cefnogi mabwysiadu a'u darparu.

     10. Crynodeb o'r gweithdrefnau cwynion a sefydlwyd yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005[
12], Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 [13] ac adran 114 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau 2003[14].

     11. Cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.



ATODLEN 2
Rheoliad 4(1)


GWYBODAETH I'W CHYNNWYS YN YR ARWEINIAD PLANT


     1. Crynodeb o'r datganiad o ddiben.

     2. Crynodeb o'r gweithdrefnau pan nodir mai mabwysiadu yw'r cynllun priodol ar gyfer y plentyn.

     3. Gwybodaeth ynghylch rôl y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a chrynodeb o'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am asesiad ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

     4. Crynodeb o'r gweithdrefnau cwynion a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989, Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Y Weithdrefn Gwynion) 1990 ac adran 114 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

     5. Manylion ynghylch sut y gall plentyn gael mynediad i wasanaethau eiriolwr sy'n annibynnol ar yr awdurdod i'w helpu i ddwyn cwyn neu i wneud cynrychioliad o dan y gweithdrefnau cwynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.

     6. Cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.

     7. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru.



ATODLEN 3
Rheoliadau 1(2)(c)


GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN AM BERSONAU SY'N GWNEUD CAIS AM REOLI NEU WEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU


     1. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

     2. Naill ai—

     3. Lleiafswm o ddau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr gan gyflogwr diweddaraf y person, os oes un.

     4. Os bydd person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bydd yn rhesymol ymarferol cadarnhad o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

     5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

     6. Hanes cyflogaeth yn llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.



ATODLEN 4
Rheoliad 20(1)


Y COFNODION SYDD I'W CADW YNGHYLCH POB PERSON SY'N GWEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU


Cofnod gan gynnwys mewn perthynas â phob person sy'n gweithio i'r awdurdod lleol—

     1. Enw llawn.

     2. Rhyw.

     3. Dyddiad geni.

     4. Cyfeiriad cartref.

     5. Yr ymgymerwyd â Gwiriadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (pan fo'n briodol), eu bod yn cael eu diweddaru bob tair blynedd a'u bod yn foddhaol.

     6. Tystlythyrau a chadarnhad ysgrifenedig bod gwiriadau wedi'u gwneud dros y ffôn.

     7. Hanes cyflogaeth lawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth,

     8. Cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant a phrofiad o'r gwaith hwnnw.

     9. Dyddiadau y mae'n cychwyn ar gyflogaeth o'r fath ac yn rhoi'r gorau i gyflogaeth o'r fath.

     10. P'un a yw'n gyflogedig gan yr awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, neu'n gyflogedig gan rywun ac eithrio'r awdurdod.

     11. Ei swydd-ddisgrifiad a ph'un a yw'n gweithio'n rhan-amser neu'n llawn-amser a'r nifer o oriau bob wythnos y mae'n cael ei gyflogi gan wasanaeth mabwysiadu'r awdurdod neu o dan gontract i weithio iddo.

     12. Hyfforddiant yr ymgymerir ag ef ganddo neu ganddi, goruchwylio, arfarnu, camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn a chanlyniad y camau hynny, cofnodion o gwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn neu ynglŷn ag ef a chanlyniad y gŵyn honno ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.



ATODLEN 5
rheoliad 26(1)


DIGWYDDIADAU HYSBYSADWY


Colofn 1 Colofn 2  
Y digwyddiad: I'w hysbysu i:  
  Swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol Yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r plentyn wedi'i leoli i'w fabwysiadu ynddi
Marwolaeth plentyn sydd wedi'i leoli gyda darpar fabwysiadwyr pan fo gorchymyn mabwysiadu eto i gael ei wneud Ie Ie
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio i wasanaeth mabwysiadu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 2(1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 Ie  



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Gwneir y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002") a Deddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000") ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru. Maent yn disodli Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005. Maent yn darparu fframwaith rheoliadol ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol. Mae Pennod 6 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 yn darparu ar gyfer arolygu gwasanaethau awdurdodau lleol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol").

Mae rheoliadau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol ei bod yn orfodol bod gan bob awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaeth mabwysiadu ddatganiad o ddiben, sy'n datgan nodau ac amcanion y gwasanaeth, a bod ganddo hefyd arweiniad plant. Rhaid i'r gwasanaeth gael ei gynnal mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau sy'n rheoli'r gwasanaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth foddhaol ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 3.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y modd y cynhelir y gwasanaeth, ynghylch staffio'r gwasanaeth a ffitrwydd y gweithwyr, ynghylch pa mor addas yw'r mangreoedd, ynghylch cwynion a chadw cofnodion, ac ar gyfer adolygu ansawdd y gwasanaeth.


Notes:

[1] 2002 p.38back

[2] 2000 p.14back

[3] 2005/1512 (Cy.116)back

[4] 2000 p.14back

[5] 2002 p.38back

[6] 1971 p.80back

[7] O.S. 2005/1313 (Cy.95)back

[8] O.S. 2005/1512 (Cy.116)back

[9] 2005 /3115 (Cy.235)back

[10] 2005/3115 (Cy.235).back

[11] 1998 p.38.back

[12] O.S. 2005/ 3365 (Cy. 262).back

[13] O.S.2005/ 3366 (Cy.263).back

[14] 2003 (p.43).back



English version



ISBN 978 0 11 091582 1


 © Crown copyright 2007

Prepared 22 May 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071357w.html