BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd (Cymru) 2007 Rhif 1708 (Cy.147) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071708w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 13 Mehefin 2007 | ||
Yn dod i rym | 30 Mehefin 2007 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Yr awdurdod cymwys |
4. | Hysbysu am ddeorfeydd |
5. | Hysbysu am heidiau bridio |
6. | Cymhwyso Pennod 1 |
7. | Hysbysu bod heidiau bridio wedi cyrraedd |
8. | Hysbysu o symud i'r cam dodwy etc. |
9. | Samplu heidiau bridio |
10. | Anfon samplau i labordy a gymeradwywyd |
11. | Cofnodion samplau |
12. | Cofnodion symudiadau |
13. | Dyletswyddau labordy a gymeradwywyd |
14. | Gwahardd defnyddio asiantau gwrthficrobaidd |
15. | Gwahardd defnyddio brechlynnau |
16. | Cofnodion deorfeydd |
17. | Dangos cofnodion |
18. | Ymyrryd â samplau |
19. | Pwerau Gweinidogion Cymru mewn achosion o fethu â chydymffurfio |
20. | Gorfodi |
21. | Dirymu |
ATODLEN 1 — | Gwybodaeth am ddeorfeydd a heidiau bridio |
ATODLEN 2 — | Samplu heidiau bridio |
ATODLEN 3 — | Gofynion cadw cofnodion |
ATODLEN 4 — | Paratoi leinin blychau cywion |
(2) Mae unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.
Yr awdurdod cymwys
3.
Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion—
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.
Hysbysu am heidiau bridio
5.
—(1) Rhaid i feddiannydd daliad lle y cedwir un neu fwy o heidiau bridio o 250 o leiaf o ddofednod o unrhyw un rhywogaeth unigol roi'r wybodaeth a geir yn Atodlen 1, paragraff 2 i Weinidogion Cymru —
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi rhoi'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru o dan unrhyw ddeddfiad arall.
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf ddwy wythnos cyn bod disgwyl i'r haid fridio symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy.
Samplu heidiau bridio
9.
—(1) Rhaid i'r meddiannydd gymryd samplau o bob haid fridio ar y daliad ar yr adegau a ganlyn—
(2) Rhaid i'r gwaith samplu o dan baragraff 1(a) i (c) gael ei wneud yn unol ag Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn a rhaid i waith samplu o dan baragraff 1(ch) gael ei wneud yn unol â phwynt 2.2.2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (samplu rheolaidd a digymell gan y gweithredydd).
Anfon samplau i labordy a gymeradwywyd
10.
—(1) Rhaid i'r meddiannydd anfon y samplau a gymerir o dan erthygl 9 i labordy a gymeradwywyd at ddibenion profi am bresenoldeb salmonela.
(2) Rhaid iddo anfon y samplau o fewn—
(3) Rhaid iddo sicrhau bod y samplau'n cael eu nodi cyn iddynt gael eu hanfon er mwyn galluogi'r labordy a gymeradwywyd i gadarnhau—
Cofnodion samplau
11.
—(1) Rhaid i'r meddiannydd—
(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod ym (1)(a) am ddwy flynedd ar ôl y dyddiad y cymerwyd y sampl.
Cofnodion symudiadau
12.
—(1) Rhaid i'r meddiannydd gadw cofnod o'r wybodaeth yn Atodlen 3, paragraff 2, mewn cysylltiad â symud i'r daliad neu o'r daliad unrhyw ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus neu eu cywion neu eu hwyau.
(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod am ddwy flynedd ar ôl dyddiad symud y ffowls.
(b) bod y samplau'n cael eu profi am salmonela yn unol â'r dull a geir ym mhwynt 3.2 o'r Atodiad hwnnw; ac
(c) bod adroddiad ysgrifenedig ar ganlyniad unrhyw brawf ar unrhyw sampl yn cael ei roi i'r meddiannydd a anfonodd y sampl cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod am ddwy flynedd ar ôl dyddiad symud y cywion.
Dangos cofnodion
17.
Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan y Gorchymyn hwn ei ddangos i un o arolygwyr neu o swyddogion Gweinidogion Cymru pan ofynnir iddo wneud hynny ar unrhyw adeg resymol a rhaid iddo ganiatáu gwneud copi o'r cofnod neu o ddarn ohono.
Ymyrryd â samplau
18.
Rhaid i berson beidio ag ymyrryd â sampl neu beidio â gwneud unrhyw beth iddo sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad unrhyw brawf y mae'n ofynnol ei wneud o dan y Gorchymyn hwn, ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn y Gorchymyn hwn.
Pwerau Gweinidogion Cymru mewn achosion o fethu â chydymffurfio
19.
Os bydd unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gamau o dan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd gymryd y cyfryw gamau neu beri iddynt gael eu cymryd, a bydd yn bosibl i Weinidogion Cymru adennill ei dreuliau y mae'n rhesymol iddo eu tynnu oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio.
Gorfodi
20.
—(1) Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, y bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.
Dirymu
21.
Caiff Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd 1993[4] ei ddirymu o ran Cymru.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig, un o Wenidogion Cymru.
13 Mehefin 2007
Gwybodaeth mewn perthynas â heidiau bridio
2.
Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw'r canlynol—
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr "leinin blychau cywion" ("chick box liner") yw unrhyw ddeunydd a ddefnyddir i leinio blwch neu gynhwysydd arall y caiff cywion eu cludo ynddo o'r ddeorfa i'r daliad.
Samplu adar pedair wythnos oed etc.
2.
—(1) Mae'r samplau canlynol i'w cymryd o bob haid o adar pedair wythnos oed a phob haid ddwy wythnos cyn i'r haid ddechrau dodwy neu symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy—
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr "sampl gyfansawdd o ysgarthion" ("a composite faeces sample") yw sampl o ysgarthion sy'n nifer o samplau unigol sydd wedi'u cyfrifo'n unol â'r Tabl canlynol, ac y mae pob un ohonynt yn pwyso nid llai nag 1 gram, ac sydd wedi'u cymryd o safle a ddewiswyd ar hap i gynrychioli'r adeilad neu'r grwp o adeiladau ar y daliad lle y cymerwyd y sampl.
Tabl
Mae nifer y safleoedd lle y mae samplau ar wahân o ysgarthion i'w cymryd er mwyn gwneud sampl gyfansawdd fel a ganlyn—
Nifer yr adar a gedwir yn yr adeilad | Nifer y samplau o ysgarthion sydd i'w cymryd yn yr adeilad |
1—24 | Nifer sy'n hafal i nifer yr adar, hyd at uchafswm o 20 |
25—29 | 20 |
30—39 | 25 |
40—49 | 30 |
50—59 | 35 |
60—89 | 40 |
90—199 | 50 |
200—499 | 55 |
500 neu fwy | 60 |
Symudiadau ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus i ddaliadau ac oddi yno
2.
Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw'r canlynol—
Symud wyau i ddeorfa ac ohoni
3.
Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw'r canlynol—
Symud cywion o ddeorfa
4.
Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw'r canlynol—
Mae'r rhaglen reoli genedlaethol ar gael gan yr Is-dran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae'r Gorchymyn yn gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 (OJ Rhif L 170, 1.7. 2005, t.12).
Mae erthyglau 6 i 12 yn gymwys i feddiannydd daliad lle y cedwir heidiau bridio o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus. Mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru bod heidiau bridio wedi cyrraedd y daliad ac mae erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi gwybod pan fydd yr heidiau hynny'n symud i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy a phan fyddant yn cyrraedd diwedd y gylchred gynhyrchu. Mae erthygl 9 yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd samplau o'r heidiau hynny ac mae erthygl 10 yn ei gwneud yn ofynnol iddo anfon y samplau hynny i labordy a gymeradwywyd er mwyn eu profi am salmonela. Mae erthyglau 11 a 12 yn gosod gofynion cadw cofnodion ar y meddiannydd.
Mae erthygl 3 yn nodi dyletswyddau labordy a gymeradwywyd i baratoi a phrofi'r samplau ac i roi adroddiad ar y canlyniadau i'r meddiannydd.
Mae erthygl 14 yn gwahardd rhoi unrhyw asiant gwrthficrobaidd i ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus, ac eithrio yn unol ag Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gofynion ar gyfer defnyddio mesurau rheoli penodol yn fframwaith y rhaglenni cenedlaethol ar gyfer rheoli salmonela mewn dofednod (OJ Rhif L212, 2.8.2006, t.3). Mae Erthygl 15 yn gwahardd rhoi unrhyw frechlyn salmonela byw i rywogaethau o'r fath, ac eithrio'n unol ag Erthygl 3(1) o'r Rheoliad hwnnw.
Mae Erthygl 16 yn gosod gofynion cadw cofnodion ar feddiannydd deorfa ddofednod.
Yr awdurdod lleol sydd i orfodi'r Gorchymyn. Mae peidio ag ufuddhau i'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p.22), ac mae'r gosb am hynny yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Mae asesiad effaith reoliadol a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol ar gael o'r cyfeiriad uchod ac fe'i hatodir i'r Memorandwm Esboniadol sydd ar gael ochr yn ochr â'r offeryn ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus.
[2] OJ Rhif L 170, 1.7.2005, t.12. Mae'r Rheoliad hwn yn rhychwantu'r AEE trwy gyfrwng Penderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 101/2006 sy'n diwygio Atodiad I (Materion milfeddygol a ffytoiechydol ) i Gytundeb AEE (OJ Rhif L333, 30.11.2006, t.6).back
[3] OJ Rhif L 212, 2.8.2006, t.3.back