[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 1765 (Cy.154)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
19 Mehefin 2007 | |
|
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
20 Mehefin 2007 | |
|
Yn dod i rym |
13 Gorffennaf 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973[1], ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 13 Gorffennaf 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "awdurdodiad" ("authority") yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006[2] neu, yn ôl y digwydd, o dan erthygl 29 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006[3]; a
mae i'r ymadrodd "pasbort planhigion" ("plant passport") yr ystyr a roddir iddo gan—
(a) erthygl 2 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 o ran awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwnnw; neu
(b) erthygl 2(1) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 o ran awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwnnw.
Ffioedd am arolygiadau at ddibenion pasbortau planhigion
3.
—(1) Rhaid talu'r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru o ran unrhyw arolygiad (gan gynnwys gwiriad o gofnodion busnes) sy'n cael ei gynnal mewn cysylltiad ag—
(a) cais am awdurdodiad; neu
(b) sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdodiad yn rhinwedd erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 neu erthygl 29 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006.
(2) Y ffi yw £20.25 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr y mae arolygydd yn ei dreulio ar y safle gyda lleiafswm o £40.50 o ran unrhyw ymweliad.
Dirymu
4.
Dirymir y Rheoliadau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru—
(a) Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) 1993[4]; a
(b) Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1997[5].
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwleidig un o Weinidogion Cymru
19 Mehefin 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhagnodi ffioedd o ran arolygiadau a wneir at ddibenion rhoi awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion (gan gynnwys gwirio cofnodion busnes) o dan naill ai Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy. 158)) neu Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 (O.S. 2004/1344 (Cy. 134)) ("y Gorchmynion").
O dan y Gorchmynion, mae'n ofynnol i blanhigion rhestredig penodol, cynhyrchion planhigion penodol a gwrthrychau eraill gael pasbort planhigion ar gyfer symud o fewn y Gymuned Ewropeaidd gan gynnwys unrhyw fasnachu o fewn y Deyrnas Unedig. Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi cynhyrchwyr, masnachwyr a mewnforwyr deunyddiau o'r fath i ddyroddi pasbortau planhigion. Mae'r broses awdurdodi ddechreuol yn golygu arolygu'r fangre a'r deunydd planhigion rhestredig ac mae'n cynnwys gwirio cofnodion busnes a chaniateir cynnal arolygiadau pellach ar ôl rhoi'r awdurdodiad er mwyn sicrhau cydymffurfedd â gofynion perthnasol.
Pennir y ffioedd sy'n daladwy o ran y cyfryw arolygiadau yn rheoliad 3(2).
Mae rheoliad 4 yn dirymu Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) 1993 (O.S. 1993/1642) a Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1961). Nid oes newid yn lefel y ffioedd a geir yn O.S. 1997/1961 ond maent yn awr yn gymwys hefyd i awdurdodiadau o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006.
Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1973 p. 51. Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32).back
[2]
O.S. 2006/1344 (Cy.134).back
[3]
O.S. 2006/1643 (Cy.158).back
[4]
O.S. 1993/1642.back
[5]
O.S. 1997/1961.back
English version
ISBN
978 0 11 091585 2
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
2 July 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071765w.html