BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 1905 (Cy.163)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071905w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 1905 (Cy.163)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 3 Gorffennaf 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Gorffennaf 2007 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1].

     Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

     Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[2] cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2007.

Diwygio Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001[3] yn unol â pharagraff (2).

    (2) Yn rheoliad 2(1) (Dehongli), yn lle'r diffiniad o "Rheoliad y Comisiwn" rhodder


Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

3 Gorffennaf 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o "Rheoliad y Comisiwn" a geir yn Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru 2001 (O.S. 2001/1361), "Rheoliadau 2001;"

    
2. Wrth ddiwygio'r diffiniad hwnnw yn Rheoliadau 2001, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 sy'n gosod rheolau manwl penodedig ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy ac ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir yn y rheoliad ar farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L106, 24.4.2007, t.24). Dirymodd Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97 fel y'i diwygiwyd, gan gymryd ei lle heb ddiwygiad pellach.

    
3. Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithio o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.


Notes:

[1] 1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S 1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae'r swyddogaethau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.back

[2] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf adeg gwneud y Rheoliadau hyn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back

[3] O.S. 2001/1361 (Cy.89).back

[4] OJ Rhif L106, 24.4.2007, p.24.back



English version



ISBN 978 0 11 091591 3


 © Crown copyright 2007

Prepared 24 July 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071905w.html