BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 1984 (Cy.165)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
10 Gorffennaf 2007 | |
|
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
12 Gorffennaf 2007 | |
|
Yn dod i rym |
7 Awst 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1].
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[2], cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bo'r Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 7 Awst 2007.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr â "food authority" yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o'r Ddeddf;
ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority") o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984[3], yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr "y Rheoliad CE" ("the EC Regulation") yw Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd[4].
(2) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn cael eu defnyddio yn y Rheoliad CE yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Rheoliad hwnnw.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl neu'r Atodiad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliad CE.
Gorfodi
3.
Bydd pob awdurdod iechyd porthladd yn ei ddosbarth a phob awdurdod bwyd yn ei ardal yn gweithredu a gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a rhai'r Rheoliad CE.
Tramgwyddau a chosbau
4.
—(1) Yn ddarostyngedig i'r mesurau trosiannol a gynhwysir yn Erthygl 18 (sy'n ymwneud â bwydydd a roddwyd ar y farchnad cyn 1 Gorffennaf 2007), mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau'r Rheoliad CE a bennir ym mharagraff (2) neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored —
(a) o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau;
(b) o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;
(2) Y darpariaethau penodedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —
(a) Erthygl 3(1) (gofyniad mai dim ond fitaminau neu fwynau a restrir yn Atodiad I ac ar ffurf a restrir yn Atodiad II y caniateir eu hychwanegu at fwyd) o'i darllen gydag Erthygl 17(1) (cymhwyso'n drosiannol reolau cenedlaethol);
(b) Erthygl 4 (gwahardd ychwanegu fitaminau a mwynau at fwydydd penodol);
(c) Erthygl 5(2) (gofyniad i ddilyn meini prawf ynghylch purdeb)
(ch) Erthygl 6(6) (gofyniad i fitaminau a mwynau a ychwanegir fod yn y bwyd yn ôl meintiau sydd o bwys o leiaf fel y diffinnir "significant amount"); a
(d) Erthygl 7(1), (2) a (3) (cyfyngiadau ac amodau sy'n gymwys i labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd y mae fitaminau neu fwynau wedi'u hychwanegu atynt).
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
5.
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 2 (ystyr estynedig "sale" etc.);
(b) adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(d) adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes);
(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 34 (terfyn amser ar gyfer erlyn);
(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll);
Rhwystro swyddogion a darparu gwybodaeth, etc.
6.
Bydd unrhyw berson sydd—
(a) yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b) heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn gofyn yn rhesymol amdano neu amdani;
yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na 3 mis neu ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu'r ddau.
(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b), yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys, yn euog o dramgwydd ac yn agored —
(a) o'i gollfarnu ar dditiad, i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy neu i'r ddau;
(b) o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod mewn carchar neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i'r ddau.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1)(b) i'w ddehongli fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno petai'n gwneud hynny.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd (OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.26), "y Rheoliad CE".
2.
Mae'r Rheoliadau —
(a) yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 3);
(b) yn darparu, yn ddarostyngedig, pan fo'n berthnasol, i'r trefniadau trosiannol a bennir yn y Rheoliad CE, ei bod yn dramgwydd i wneud y canlynol—
(i) atgyfnerthu bwydydd â fitaminau neu fwynau ac eithrio'r rhai a ganiateir gan y Rheoliad CE ac ar y ffurfiau a bennir ynddo;
(ii) ychwanegu fitaminau neu fwynau at rai bwydydd penodedig;
(iii) methu â glynu wrth y meini prawf perthnasol ynghylch purdeb wrth weithgynhyrchu fformiwleiddiadau fitaminau neu sylweddau mwynol;
(iv) ychwanegu fitamin neu fwyn at fwydydd yn ôl maint sy'n llai na maint sydd o bwys, fel y diffinnir "significant amount" mewn deddfwriaeth Gymunedol; a
(v) methu â chydymffurfio â gofynion penodol ar gyfer labelu a chyflwyno bwydydd y mae fitaminau neu fwynau wedi'u hychwanegu atynt (rheoliad 4);
(c) yn cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 5); ac
(ch) yn darparu, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol, ei bod yn dramgwydd i rwystro, methu â rhoi gwybodaeth neu gamarwain yn fwriadol unrhyw un sy'n gweithredu ac yn gorfodi'r Rheoliadau hyn (rheoliad 6).
3.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes ar gael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S 1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) mae'r swyddogaethau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.back
[2]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back
[3]
1984 p.22.back
[4]
OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.26.back
English version
ISBN
978 0 11 091601 9
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
15 August 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071984w.html