BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2044 (Cy.169)
DATGANOLI, CYMRU
LLWON
YR IAITH GYMRAEG
Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007
|
Wedi'i wneud |
17 Gorfennaf 2007 | |
|
Wedi'i gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
17 Gorfennaf 2007 | |
|
Yn dod i rym |
18 Gorffennaf 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer sydd yn adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.[1]
Enwi, dehongli a chychwyn
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
mae i "Aelod Cynulliad" yr ystyr sydd i "Assembly member" yn adran 1(3) o Ddeddf 2006; ac
ystyr "Deddf 2006" ("the 2006 Act") yw Deddf Llywodraeth Cymru) 2006.[2]
(3) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 18 Gorffennaf 2007.
Ffurf Gymraeg y llw swyddogol a gymerir, neu'r cadarnhad cyfatebol a wneir, gan berson a benodwyd yn Brif Weinidog Cymru, yn un o Weinidogion Cymru neu yn Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru
2.
—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo person yn cymryd y llw sy'n ofynnol gan adran 55(1) o Ddeddf 2006.
(2) Caiff y person hwnnw gymryd y llw swyddogol yn ffurf hon —
"
Yr wyf i,. . . . . . . . . . . . . . . . . . . ., yn tyngu y gwasanaethaf Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail gydag iawnder a didwylledd yn swydd . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Cynorthwyed Duw fi."
3.
—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo person yn gwneud y cadarnhad cyfatebol sy'n ofynnol gan adran 55 (1) o Ddeddf 2006.
(2) Caiff y person hwnnw wneud y cadarnhad cyfatebol yn y ffurf hon —
"
Yr wyf i, . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . yn datgan ac yn cadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll, y gwasanaethaf Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail gydag iawnder a didwylledd yn swydd . . . . . . . . . . . . . . . . . . . ."
Ffurf Gymraeg y llw teyrngarwch a gymerir neu 'r cadarnhad cyfatebol a wneir gan berson a benodwyd yn Brif Weinidog Cymru, yn un o Weinidogion Cymru, yn Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru neu'n un o Ddirprwy Weinidogion Cymru
4.
—(1) Pan fo person yn cymryd y llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 55(2) o Ddeddf 2006[3] caiff y person hwnnw gymryd y llw yn y ffurf a osodir yn erthygl 5(2).
(2) Pan fo person yn gwneud y cadarnhad cyfatebol sy'n ofynnol gan adran 55(2) o Ddeddf 2006 caiff wneud y cadarnhad hwnnw yn y ffurf a osodir yn erthygl 6(2).
Ffurf Gymraeg y llw teyrngarwch a gymerir neu'r cadarnhad cyfatebol a wneir gan Aelod Cynulliad
5.
—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo Aelod Cynulliad yn cymryd y llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 23(1) o Ddeddf 2006.
(2) Caiff yr Aelod Cynulliad hwnnw gymryd y llw teyrngarwch yn y ffurf hon —
"
Yr wyf i, . . . . . . . . . . . . . . . . . . . ., yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn unol â'r gyfraith. Cynorthwyed Duw fi."
6.
—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo Aelod Cynulliad yn gwneud y cadarnhad cyfatebol sy'n ofynnol gan adran 23(1) o Ddeddf 2006.
(2) Caiff yr Aelod Cynulliad hwnnw wneud y cadarnhad cyfatebol yn y ffurf hon —
"
Yr wyf i, . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . yn datgan ac yn cadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll, y gwasanaethaf Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn unol â'r gyfraith."
Enw'r Brenin neu'r Frenhines ar y pryd i'w ddefnyddio mewn llwon a chadarnhadau
7.
Pan fo enw Ei Mawrhydi y Frenhines bresennol yn ymddangos yn ffurfiau y llwon ffurfiol a'r cadarnhadau a ragnodir gan y Gorchymyn hwn, fe'i hamnewidir ag enw Brenin neu Frenhines y Deyrnas hon o bryd i'w gilydd.
Dirymu
8.
Dirymir Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Y Llw Teyrngarwch yn Gymraeg).[4]
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros y Gyllideb a Rheoli Busnes, un o Weinidogion Cymru
17 Gorfennaf 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi ffurfiau Cymraeg llwon a chadarnhadau y mae'n ofynnol i aelodau penodol o Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, eu cymryd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.32) ("DLlC 2006"). Mae DLlC yn darparu mai'r rheini a geir yn Neddf Llwon Addewidiol 1868 (p.72) ac yn Neddf Llwon 1978 (p.19) yw ffurfiau Saesneg y llwon a'r cadarnhadau hynny i fod.
Yn rhinwedd adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38), pan fo Deddf Seneddol yn pennu ffurf ar eiriau sydd i'w defnyddio at ddibenion swyddogol neu at ddibenion cyhoeddus penodol, caiff yr un priodol o Weinidogion y Goron wneud Gorchymyn sy'n rhagnodi ffurf Gymraeg ar eiriau sydd i'w defnyddio mewn amgylchiadau a bennir yn y Gorchymyn.
Rhoddwyd y pŵer i wneud y cyfryw Orchymyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, Erthygl 2, Atodlen 1). Trosglwyddwyd y pŵer i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd paragraff 30(1) o Atodlen 11 i DLlC 2006.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn gosod ffurf Gymraeg ar eiriau y caiff person a benodwyd yn Brif Weinidog Cymru, yn un o Weinidogion Cymru neu'n Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ei defnyddio i gymryd y llw swyddogol sy'n ofynnol gan adran 55(1) o DLlC 2006.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gosod ffurf Gymraeg ar eiriau y caiff y cyfryw berson ei defnyddio i wneud cadarnhad sy'n cyfateb i'r llw swyddogol sy'n ofynnol gan adran 55(1) o DLlC 2006.
Mae erthygl 4(1) o'r Gorchymyn yn darparu y caiff person a benodwyd yn Brif Weinidog, yn un o Weinidogion Cymru, yn Gwnsler Cyffredinol neu'n un o Ddirprwy Weinidogion Cymru, pan fo'n cymryd y llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 55(2) o DLlC, ddefnyddio'r ffurf Gymraeg ar eiriau a osodir yn erthygl 5(2) o'r Gorchymyn hwn. Mae erthygl 4(2) yn darparu y caiff, pan fo'n gwneud cadarnhad sy'n cyfateb i'r llw teyrngarwch, ddefnyddio'r ffurf Gymraeg ar eiriau a osodir yn erthygl 6(2) o'r Gorchymyn hwn. Y ffurfiau hynny ar eiriau yw'r rhai y caiff Aelodau Cynulliad eu defnyddio ar ôl iddynt gael eu hethol. Dim ond os na wnaeth hynny eisoes yn swyddogaeth Aelod Cynulliad y mae adran 55(2) yn ei gwneud yn ofynnol i berson a benodwyd yn Brif Weinidog, yn un o Weinidogion Cymru, yn Gwnsler Cyffredinol neu'n un o Ddirprwy Weinidogion Cymru, gymryd y llw teyrngarwch neu wneud cadarnhad cyfatebol.
Mae erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn yn gosod ffurf Gymraeg ar eiriau y caiff Aelod Cynulliad ei defnyddio i gymryd y llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 23(1) o DLlC 2006.
Mae erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn gosod ffurf Gymraeg ar eiriau y caiff Aelod Cynulliad ei defnyddio i wneud cadarnhad sy'n cyfateb i'r llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 23(1) o DLlC 2006.
Effaith erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn yw mai enw'r Brenin neu'r Frenhines ar yr adeg y cymerir y llw neu y gwneir y cadarnhad sydd i'w ddefnyddio fel enw'r Brenin neu'r Frenhines yn y ffurfiau Cymraeg a osodir yn y Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 8 yn dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Llw Teyrngarwch yn Gymraeg) 1999 (O.S. 1999/1101), sy'n gosod ffurfiau Cymraeg y llw teyrngarwch a'r cadarnhad cyfatebol yr oedd adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau Cynulliad eu cymryd.
Notes:
[1]
1993 p.38. Cyfarwyddodd erthygl 2 o Atodlen I i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau ) 1999 (O.S. 1999/672), fod y y pŵer sydd yn adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i fod yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol ag unrhyw Weinidog y Goron sydd â'r pwöer i'w arfer. Trosglwyddwyd y pwer o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ("y Ddeddf").back
[2]
2006 p.32.back
[3]
Mae adran 55(2) o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i berson a benodwyd yn Brif Weinidog Cymru, yn un o Weinidogion Cymru, yn Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru neu'n un o Ddirprwy Weinidogion Cymru gymryd llw teyrngarwch yn y ffurf a osodir yn adran 2 o Ddeddf Llwon Addewidiol 1868 (p.72), neu wneud cadarnhad cyfatebol. Mae adran 55(3) o Ddeddf 2006 yn eithrio'r cyfryw bersonau rhag y gofyniad hwn os ydynt wedi cymryd llw teyrngarwch neu wedi gwneud cadarnhad cyfatebol wrth gydymffurfio â dyletswydd ar gael eu hethol yn Aelod Cynulliad. Gan adran 23(1) o Ddeddf 2006 y gosodir y ddyletswydd ar Aelodau'r Cynulliad i gymryd y llw teyrngarwch neu i wneud cadarnhad cyfatebol.back
[4]
O.S. 1999/1101.back
English version
ISBN
978 0 11 091592 0
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
7 August 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072044w.html