BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Uwch) (Cymru) 2007 Rhif 2112 (Cy.170)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072112w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2112 (Cy.170)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Uwch) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 23 Gorffennaf 2007 
  Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaeshol 24 Gorffennaf 2007 
  Yn dod i rym 1 Medi 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 129(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1] ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy[2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Uwch) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Medi 2007.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dynodiad
    
2. Dynodir Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ac yntau'n sefydliad addysg o'r math a ddisgrifir yn is-adran (2) o adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, yn sefydliad at ddiben yr adran honno.


Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, un o Weinidogion Cymru

23 Gorffennaf 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Dynodir Coleg y Drindod, Caerfyrddin gan y Gorchymyn hwn at ddibenion adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae hyn yn golygu ei fod yn gymwys i dderbyn cymorth o gyllid a weinyddir gan gyngor cyllido addysg uwch a'i fod i'w drin fel sefydliad o fewn y sector addysg uwch at ddibenion y Deddfau Addysg.


Notes:

[1] 1988 p.40.back

[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, (OS 1999/672) a pharagraff 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back



English version



ISBN 978 0 11 091597 5


 © Crown copyright 2007

Prepared 14 August 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072112w.html