BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 2190 (Cy.174)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072190w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2190 (Cy.174)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 25 Gorffennaf 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Gorffennaf 2007 
  Yn dod i rym 28 Awst 2007 

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

     Maent yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Cymru) (Diwygio) 2007.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Awst 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995[3] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn lle'r diffiniad o "Directive 92/33/EEC" rhodder—

    (3) Yn rheoliad 3 (deunyddiau planhigion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt)—

    (4) Yn rheoliad 8 (gwybodaeth i fynd gyda'r deunyddiau planhigion)—

    (5) Hepgorer Atodlen 1 (genera a rhywogaethau y mae Rheoliadau yn gymwys iddynt).


I. W. Jones
Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

25 Gorffennaf 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dod i rym ar 28 Awst 2007. Maent yn diwygio Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 (O.S. 1995/2652) ("y prif Reoliadau"), i ddiweddaru'r rhestr o genera a rhywogaethau deunyddiau planhigion y mae'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt. Mae hyn yn rhoi ei heffaith i Erthygl 1 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/124/EC (OJ Rhif L 339, 6.12.2006, t.12) sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/33/EEC (OJ Rhif L 157, 10.6.1992, t.1) ar farchnata deunyddiau lluosogi a phlannu llysieuol ac eithrio hadau, drwy estyn cwmpas yr Atodiad hwnnw i Zea Mays L. (popgorn ac india-corn).

Yn ychwanegol at fân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio, mae rheoliad 2 yn darparu bod y prif Reoliadau yn gymwys i'r rhestr o genera a rhywogaethau yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/33/EEC.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau o'r asesiad hwnnw oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1995/2652.back

[4] OJ Rhif L 157, 10.6.1992, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/124/EC, OJ Rhif L 339, 6.12.2006, t. 12.back

[5] OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/35/EC, OJ Rhif L 88, 25.3.2006, t.9.back



English version



ISBN 978 0 11 091599 9


 © Crown copyright 2007

Prepared 14 August 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072190w.html