BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 Rhif 2310 (Cy.181)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072310w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2310 (Cy.181)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 4 Awst 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Awst 2007 
  Yn dod i rym 31 Awst 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd[1] bellach ynddynt hwy gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2007 ac y maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Er gwaethaf adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978[6] ni fydd adran 3(2) o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (lle mae'r cyfeiriadau at y Deyrnas Unedig yn cynnwys cyfeiriadau at yr Ynysoedd) yn gymwys at ddibenion dehongli'r Rheoliadau hyn.

    (3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae "rhiant" ("parent") yn cynnwys gwarcheidwad neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, ac unrhyw berson sydd yn gofalu am blentyn, a dylid dehongli "plentyn" ("child") yn unol â hynny.

    (4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni-

mewn cyflogaeth dros dro neu wedi bod mewn cyflogaeth felly y tu allan i'r ardal dan sylw.

    (5) At ddibenion paragraff (4), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—

    (6) At ddibenion rheoliadau 6, 7 ac 8, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai'r wedi bod yn preswylio felly oni bai-

yn cael addysg lawnamser dros dro y tu allan i'r ardal dan sylw.

    (7) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir mae ardal—

i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Gweithredoedd cyfreithlon
     3. —(1) Os oes gwahaniaethu yn codi o ganlyniad i hepgor y cyfan neu ran o unrhyw ffi (ar sail caledi ariannol neu fel arall), ni fydd dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn cael ei ddehongli fel pe bai'n gwneud y gwahaniaethu hwnnw yn anghyfreithlon, pe bai wedi bod yn gyfreithlon oni fyddai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

    (2) Os oes gwahaniaethu yn codi o ganlyniad i unrhyw reol cymhwyster ar gyfer dyfarniad, ni fydd dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn cael ei ddehongli fel pe bai'n gwneud y gwahaniaethu hwnnw yn anghyfreithlon, pe bai wedi bod yn gyfreithlon oni fyddai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

Codi ffioedd
    
4. —(1) Bydd yn gyfreithlon i'r sefydliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) i godi ffioedd uwch yn achos person nad yw'n dod o fewn yr Atodlen, nag a godir yn achos person sydd yn dod o fewn yr Atodlen.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn dod o fewn yr Atodlen os yw'n dod o'i mewn ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs.

    (3) Y sefydliadau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yw'r sefydliadau—

    (4) Nid yw'r rheoliad hwn yn gwneud yn gyfreithlon codi ffi sydd yn anghyfreithlon oherwydd amod a osodir o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004[7]

Dyfarniadau gan awdurdodau addysg lleol
     5. —(1) Bydd yn gyfreithlon i awdurdod addysg lleol fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau o dan adrannau 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962[8] neu ar gyfer dyfarniadau addysg ôl-orfodol—

Taliadau gan yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion a chan CCAUC
     6. —(1) Bydd yn gyfreithlon i'r Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion[9] o dan adran 78 o Ddeddf 2005, a CCAUC o dan adran 86 o Ddeddf 2005, fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan unrhyw ddarparwr hyfforddiant y rhoddant grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

    (2) Bydd yn gyfreithlon i ddarparwr hyfforddiant sy'n cael cymorth ariannol o dan adran 78 a neu adran 86 o Ddeddf 2005 fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

Taliadau gan CCAUC
     7. —(1) Bydd yn gyfreithlon i CCAUC fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sydd i'w gwneud i fyfyrwyr a hyfforddir (ac eithrio ar gwrs sy'n arwain at radd gyntaf) i addysgu personau dros oedran ysgol gan sefydliad y mae CCAUC yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

    (2) Bydd yn gyfreithlon i sefydliad y mae CCAUC yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo i'r pwrpas a ddisgrifir ym mharagraff (1) fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

Taliadau gan Weinidogion Cymru
    
8. —(1) Bydd yn gyfreithlon i Weinidogion Cymru fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan sefydliad y maent yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

    (2) Bydd yn gyfreithlon i sefydliad y mae Gweinidogion Cymru yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau (pa fodd bynnag y'u disgrifir) sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

Dirymu
    
9. —(1) Dirymir y Rheoliadau canlynol o ran Cymru—


Jane E Hart
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

4 Awst 2007



ATODLEN
     1. At ddibenion yr Atodlen hon—

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig
     2. —(1) Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs —

    (2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â rheoliad 2(4).

     3. Person —

Ffoaduriaid ac aelodau o'u teuluoedd
     4. —(1) Person —

    (2) Person —

    (3) Person —

Personau â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ac aelodau o'u teulu
     5. —(1) Person—

    (2) Person—

    (3) Person—

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan- gyflogedig ac aelodau o'u teulu
     6. —(1) Person —

    (2) Person—

    (3) Nid yw paragraff (b) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys os yw'r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

     7. Person sydd—

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall
     8. —(1) Person—

    (2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd a chanddo hawl i breswylio'n barhaol ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn ohoni, neu y mae'r person y mae ef yn aelod o'i deulu mewn perthynas yn wladolyn ohoni.

Gwladolion o'r GE
     9. —(1) Person —

    (2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel person sydd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y diriogaeth berthnasol yn unol â rheoliad 2(4).

     10. —(1) Person—

    (2) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn o'r GE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

Plant gwladolion o'r Swistir
     11. Person —

Plant gweithwyr o Dwrci
     12. Person —



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 31 Awst 2007, yn disodli'r Rheoliadau a restrir yn rheoliad 9.

Mae'r Rheoliadau yn darparu y bydd yn gyfreithlon, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn y Rheoliadau, gwahaniaethu rhwng rhai neu bob un o'r personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen, ac unrhyw berson arall. Fel arall, gallai gwahaniaethu o'r fath fod yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976. Ni ddylid dehongli dim yn y Rheoliadau fel petai'n gwneud yn anghyfreithlon unrhyw beth a fyddai wedi bod yn gyfreithlon pe na bai'r Rheoliadau wedi'u gwneud (rheoliad 3).

Mae rheoliad 4 yn darparu y bydd yn gyfreithlon i'r sefydliadau ym mharagraff (3) godi ffioedd uwch ar y bobl hynny na chyfeirir atynt yn yr Atodlen, na'r ffioedd a godir ar bobl y cyfeirir atynt yn yr Atodlen honno. Mae rheoliad 4(4) yn cyfeirio at adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Yr adran honno sy'n nodi'r amodau cyllido y caniateir eu gosod ar sefydliadau addysg uwch ynghylch ffioedd. Nid yw adran 28 eto wedi ei chychwyn. Mae rheoliad 4(4) yn darparu, pe bai sefydliad yn torri amod cyllido o dan adran 28, na fydd y Rheoliadau hyn yn darparu amddiffyniad.

Mae Rheoliad 5 yn ymwneud â rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau disgresiynol a wneir gan awdurdodau addysg lleol o dan adrannau 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962. Yn achos dyfarniadau ar gyfer ffioedd, caniateir cyfyngu'r cymhwyster i bawb yn yr Atodlen ac eithrio personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros. Yn achos dyfarniadau cynhaliaeth, caiff y rheolau cymhwyster eithrio personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros a gwladolion o'r GE. Caiff awdurdodau addysg lleol gyfyngu'r cymhwyster ymhellach drwy eithrio unrhyw un na fu'n preswylio fel arfer mewn ardal ddaearyddol berthnasol dros dro oherwydd gwaith.

Mae rheoliadau 6, 7 ac 8 yn ymwneud â hyfforddi athrawon ac â chyrff penodol sy'n cyllido'r ddarpariaeth o addysg a hyfforddiant. Maent yn darparu y bydd yn gyfreithlon i bob un o'r Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Gweinidogion Cymru, a'r sefydliadau a gyllidir ganddynt, fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu'r cymhwyster i'r rhai y cyfeirir atynt yn yr Atodlen.

Mae rheoliad 9 yn dirymu, mewn perthynas â Chymru, y Rheoliadau presennol sy'n llywodraethu ffioedd a dyfarniadau a'r Rheoliadau diwygio, yn ddarostyngedig i rai darpariaethau arbed.

Mae'r personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen yn cynnwys rhai sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig, ffoaduriaid, personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, gweithwyr mudol o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, gwladolion Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd a phlant gwladolion y Swistir a gweithwyr Twrcaidd. Er mwyn bod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig, rhaid ichi fod yn preswylio yno fel arfer, heb unrhyw gyfyngiad o dan gyfraith mewnfudo ar y cyfnod y caniateir ichi aros.


Notes:

[1] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 2006/1458 o 8 Mehefin 2006 ymlaen. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O. S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(d) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[2] Diwygiwyd 1983 p.40. Adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), Atodlen 3, paragraff 5; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (c.21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 5 a Deddf Addysg 2005 (p.18), Atodlen14, paragraff 9. Diwygiwyd Adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988, adran 44 ac Atodlen 4.back

[3] Sefydlwyd o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).back

[4] 2005 p.18.back

[5] O.S. 2002 Rhif 1856 (Cy. 180).back

[6] 1978 p.30back

[7] 2004 p.8.back

[8] 1962 p.12. Diddymwyd Deddf Addysg 1962 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn amodol ar ddarpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed i alluogi gwneud taliadau mewn cysylltiad â dyfarniadau a wnaed o dan y Ddeddf cyn ei diddymu a galluogi gwneud dyfarniadau mewn perthynas â chyrsiau a oedd yn dechrau cyn 1 Medi 1999 a rhai cyrsiau penodol a oedd yn dechrau ar ôl y dyddiad hwnnw.back

[9] Sefydlwyd yr Asiantaeth Hyfforddiant Athrawon o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994, ac o dan adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 newidiwyd ei henw i Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion. O dan adran 78 o Ddeddf Addysg 2005, caiff yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion ddarparu cymorth ariannol i unrhyw berson y gwêl yn dda wrth hyrwyddo'i hamcanion.back

[10] O.S. 1997/1972, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1965, O.S. 1999/229, O.S. 2000/2192, O.S. 2003/2945, O.S.2005/2114, O.S. 2006/483 ac O.S. 2006/1795.back

[11] O.S. 2003/3280.back

[12] O.S. 2006/483.back

[13] O.S. 2006/1795 (Cy.190)back

[14] OJ L158, 30.4.2004, t77-123.back

[15] Cm. 4904.back

[16] Cmnd. 9171back

[17] Cmnd. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).back

[18] 2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr etc.) 2004 (p.19), adran 26 ac Atodlenni 2 a 4, a Deddf Mewnfudo Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), adran 9.back

[19] 1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61)back

[20] OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE 1968 (II) t.475).back

[21] Ystyr "Cytundeb yr EEA" yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 — Cm 2073, fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, Cm 2183.back



English version



ISBN 978 0 11 091613 2


 © Crown copyright 2007

Prepared 12 September 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072310w.html