BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2312 (Cy.183)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Wedi'u gwneud |
4 Awst 2007 | |
|
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
7 Awst 2007 | |
|
Yn dod i rym 31 Awst 2007 |
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN 1
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Awst 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr "Rheoliadau 2006" ("the 2006 Regulations") yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006[3].
ystyr "Rheoliadau 2007" ("the 2007 Regulations") yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007[4].
Diwygio Rheoliadau 2006 a Rheoliadau 2007
3.
Diwygir Rheoliadau 2006 yn unol â Rhan 2.
4.
Diwygir Rheoliadau 2007 yn unol â Rhan 3.
RHAN 2
DIWYGIADAU I REOLIADAU 2006
5.
Yn rheoliad 2(1) —
(a) yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—
"
ystyr "cwrs gradd cywasgedig" ("compressed degree course") yw cwrs a ddyfernir yn unol â pharagraff (1A);
ystyr "myfyriwr cwrs gradd cywasgedig" ("compressed degree student") yw myfyriwr cymwys—
(a) sy'n ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig (y "cwrs");
(b) sy'n dechrau'r cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006; ac
(c) naill ai—
(i) mae'n ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am ran o'r flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer; neu
(ii) mae'n fyfyriwr anabl nad yw'n ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am nad yw'n gallu bod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd;";
(b) yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—
"
ystyr "cwrs dwys" (intensive course”) yw cwrs carlam neu gwrs gradd cywasgedig;";
(c) yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—
"
ystyr "Gweithiwr o Dwrci" ("Turkish Worker") yw gwladolyn o Dwrci—
(a) sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; a
(b) sydd neu sydd wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;".
6.
Ar ôl rheoliad 2(1), mewnosoder—
"
“(1A) Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu bod cwrs yn gwrs gradd cywasgedig os yw'r cwrs hwnnw, yn ei farn—
(a) yn gwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd sylfaen);
(b) yn gwrs amser-llawn a ddynodir o dan reoliad 5(1); ac
(c) yn para am ddwy flynedd academaidd.".
7.
Yn rheoliad 7(5), ar ôl "yn bresennol arno", mewnosoder "neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig, yr ymgymerodd ag ef yn y Deyrnas Unedig".
8.
Yn lle rheoliad 8(2) rhodder —
"
(2) Dyma'r rhesymau dros drosglwyddo —
(a) bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau—
(i) bod yn bresennol ar gwrs dynodedig arall yn y sefydliad;
(ii) ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig arall yn y Deyrnas Unedig yn y sefydliad; neu
(iii) ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig yn y sefydliad.
(b) bod y myfyriwr cymwys yn dechrau—
(i) bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall; neu
(ii) ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig mewn sefydliad arall;
(c) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;
(ch) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu
(d) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.".
9.
Ar ôl rheoliad 10(2)(d) mewnosoder—
"
(da) os yw'r ceisydd yn berson a grybwyllir ym mharagraff 12 o Ran 2 o Atodlen 1, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru erbyn 3 Mawrth 2008 neu o fewn cyfnod o naw mis gan ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y cyflwynir y cais ar ei chyfer, p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf;".
10.
Ar ôl rheoliad 11A(2) mewnosoder—
"
(3) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresenol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer cymorth ffioedd.
(4) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol —
(a) myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
(b) myfyriwr anabl—
(i) nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii) sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd."
11.
Ar ôl rheoliad 11C(d), mewnosoder—
"
(da) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;".
12.
Ar ôl rheoliad 18(8)(ch), mewnosoder—
"
(cha) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;".
13.
Ar ôl rheoliad 18(8), mewnosoder—
14.
Ar ôl rheoliad 31(3), mewnosoder—
"
(4) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer benthyciad at gostau byw.
(5) Mae paragraff (4) yn gymwys ar gyfer—
(a) myfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(b) myfyriwr anabl—
(i) nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii) sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd."
15.
Yn rheoliad 32, yn lle "cwrs carlam" ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder "cwrs dwys".
16.
Yn rheoliad 33 yn lle "cwrs carlam" ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder "cwrs dwys".
17.
Yn rheoliad 35 yn lle "cwrs carlam" ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder "cwrs dwys".
18.
Yn lle rheoliad 37, rhodder—
"
(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 39, mae'r benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter y flwyddyn academaidd.
(2) Nid yw'r benthyciad at gostau byw yn daladwy —
(a) yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, o ran y chwarter a enwebwyd gan Weinidogion Cymru;
(b) ym mhob achos arall, o ran y chwarter pan fydd, ym marn Gweinidogion Cymru, y gwyliau hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd."
19.
Ar ôl rheoliad 39(2)(ch) mewnosoder—
"
(cha) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;".
20.
Ar ôl rheoliad 46(4)(d), mewnosoder—
"
(dd) GFF yw swm y grant at ffioedd, os oes un, y mae'r myfyriwr cymwys yn dod yn gymwys i'w gael o dan Ran 4;".
21.
Yn rheoliad 46(6) yn lle "cwrs carlam", rhodder "cwrs dwys".
22.
Yn rheoliad 50, ar ôl paragraff 14(dd) rhodder—
"
(dda) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;".
23.
Ar ôl rheoliad 55(3)(b), mewnosoder—
"
(ba) os nad yw'r ceisydd yn berson a grybwyllir ym mharagraff 12 o Ran 2 o Atodlen 1, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Gweinidogion Cymru erbyn 1 Rhagfyr 2007 neu o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y cyflwynir y cais ar ei chyfer, p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf;".
24.
Ar ôl rheoliad 62(12), mewnosoder—
““(13) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (14) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(a) gall myfyriwr fod yn gymwys i gael grant o dan y Rhan hon o ran y flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a
(b) nid yw grant o'r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(14) Dyma'r digwyddiadau—
(a) mae cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;
(b) pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1;
(c) pan fydd y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ynddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ch) pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1;
(d) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;
(dd) pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(e) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn gwladolyn o'r Swistir.
25.
Yn Atodlen 1 —
(a) yn lle paragraff 1(4), rhodder—
(b) yn lle paragraff 1(5), rhodder—
"
(5) At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, y diriogaeth sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir neu'r diriogaeth sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—
(a) yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr o dan y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd;
(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd; ac
(c) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o'r cyfryw luoedd;";
(c) ar ôl paragraff 11, mewnosoder—
"
12.
Person—
(a) sydd yn blentyn i weithiwr o Dwrci;
(b) sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.".
26.
Ar ôl paragraff 8(ch) o Atodlen 3A, mewnosoder—
"
(cha) os bydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;".
RHAN 3
DIWYGIADAU I REOLIADAU 2007
27.
Yn rheoliad 2(1) —
(a) yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—
"
ystyr "cwrs gradd cywasgedig" ("compressed degree course") yw cwrs a ddyfernir yn unol â pharagraff (1A);
ystyr "myfyriwr cwrs gradd cywasgedig" ("compressed degree student") yw myfyriwr cymwys —
(a) sy'n ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig (y "cwrs");
(b) naill ai—
(i) a ddechreuodd ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2007; neu
(ii) sy'n dechrau ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2007; ac
(c) naill ai—
(i) mae'n ofynnol iddo fod yn bresennnol ar y cwrs am ran o'r flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer; neu
(ii) mae'n fyfyriwr anabl nad yw'n ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am nad yw'n gallu bod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd;";
(b) yn y man priodol ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—
"
ystyr "cwrs dwys" ("intensive course") yw cwrs carlam neu gwrs gradd cywasgedig;";
(c) yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—
"
ystyr "Gweithiwr o Dwrci" ("Turkish Worker") yw gwladolyn o Dwrci—
(a) sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; a
(b) sydd neu sydd wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;".
28.
Ar ôl rheoliad 2(1), mewnosoder—
"
“(1A) Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu bod cwrs yn gwrs gradd cywasgedig os yw'r cwrs hwnnw, yn ei farn—
(a) yn gwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd sylfaen);
(b) yn gwrs amser-llawn a ddynodir o dan reoliad 5(1); ac
(c) yn para am ddwy flynedd academaidd.".
29.
Mewnosoder ar ôl paragraff (18) o reoliad 6, y paragraffau canlynol—
"
(19) At ddibenion y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau ym mharagraffau (21), (22) a (23) "cwrs blaenorol" yw unrhyw gwrs addysg uwch amser-llawn neu unrhyw gwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon y dechreuodd y myfyriwr ei fynychu neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig, y dechreuodd ymgymryd ag ef yn y Deyrnas Unedig ac sy'n bodloni un neu fwy o'r amodau ym mharagraff (20).
(20) Dyma'r amodau—
(a) darperir y cwrs gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a gafodd gyllid cyhoeddus am rywfaint o'r blynyddoedd academaidd neu'r cyfan ohonynt pan oedd y myfyriwr yn dilyn y cwrs; neu
(b) unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad a dalwyd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs i dalu ffioedd wedi'i dalu o gronfeydd cyllid cyhoeddus neu a oedd o gronfeydd cyllid a oedd i'w priodoli i gyllid cyhoeddus.
(21) Nid ymdrinnir â chwrs a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—
(b) os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon;
(b) os nad yw hyd y cwrs presennol yn hwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan-amser fel hyd y cwrs amser-llawn cyfatebol); ac
(c) os nad yw'r myfyriwr yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig.
(22) Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—
(a) os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg;
(b) os trosglwyddodd y myfyriwr i'r cwrs presennol o gwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau'r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau'r cwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg.
(23) Nid ymdrinnir a chwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg fel cwrs blaenorol—
(a) os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg;
(b) os trosglwyddodd y myfyriwr i'r cwrs presennol o gwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau'r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau'r cwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg."
30.
Ym mharagraffau (1) a (2) o reoliad 7, hepgorer y geiriau "yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol neu gwrs rhan-amser dynodedig".
31.
Yn rheoliad 7, hepgorer paragraffau (6) a (7).
32.
Yn lle rheoliad 8(2) rhodder —
"
(2) Dyma'r rhesymau dros drosglwyddo —
(a) bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau—
(i) bod yn bresennol ar gwrs dynodedig arall yn y sefydliad;
(ii) ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig arall yn y Deyrnas Unedig yn y sefydliad; neu
(iii) ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig yn y sefydliad;
(b) bod y myfyriwr cymwys yn dechrau—
(i) bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall; neu
(ii) ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig mewn sefydliad arall;
(c) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;
(ch) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu
(d) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.".
33.
Ar ôl rheoliad 10(2)(c) mewnosoder—
"
(ca) os yw'r ceisydd yn berson a grybwyllir ym mharagraff 12 o Ran 2 o Atodlen 1, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru erbyn 3 Mawrth 2008 neu o fewn cyfnod o naw mis gan ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y cyflwynodd y cais ar ei chyfer, p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf;".
34.
Ar ôl rheoliad 12(3) mewnosoder—
"
(4) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer cymorth ffioedd.
(5) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol —
(a) myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
(b) myfyriwr anabl—
(i) nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii) sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd."
35.
Ar ôl rheoliad 14(d), mewnosoder—
"
(da) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;".
36.
Yn rheoliad 15(1), ar ôl y geiriau "yn ddarostyngedig i", mewnosoder y geiriau "baragraff (4) a".
37.
Ar ôl rheoliad 15(3), mewnosoder—
"
(4) Nid yw myfyriwr sy'n parhau yn cymhwyso i gael grant at ffioedd o ran unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 pan ddyfarnodd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y cyfnod o asesu cais am gymorth o ran blwyddyn academaidd o'r cwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 yn unol â rheoliadau a wnaed ganddo o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd y myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth ffi o ran y cwrs dynodedig.
(5) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr o dan yr hen drefn a ddechreuodd ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ac sy'n parhau i ddilyn y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2007 ("myfyriwr sy'n parhau")."
38.
Ar ôl rheoliad 16(5), yn lle "£4,445", rhodder "£4,455."
39.
Yn rheoliad 18(1), ar ôl y geiriau "Yn ddarostyngedig i baragraff (2)" mewnosoder y geiriau, "a rheoliadau 6 a 7".
40.
Yn rheoliad 20(1), hepgorer y geiriau, "Yn ddarostyngedig i baragraff (7)".
41.
Ar ôl rheoliad 23(11)(ch), mewnosoder—
"
(cha) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;".
42.
Ar ôl rheoliad 23(11), mewnosoder—
43.
Yn rheoliad 37(4)(c), yn lle "£615" rhodder "£610".
44.
Ar ôl rheoliad 38(4), mewnosoder—
"
(5) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer benthyciad at gostau byw.
(6) Mae paragraff (5) yn gymwys ar gyfer—
(a) myfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(b) myfyriwr anabl—
(i) nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii) sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd."
45.
Yn rheoliad 39, yn lle "cwrs carlam" ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder "cwrs dwys".
46.
Yn rheoliad 40 yn lle "cwrs carlam" ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder "cwrs dwys".
47.
Yn rheoliad 42 yn lle "cwrs carlam" ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder "cwrs dwys".
48.
Yn lle rheoliad 44, rhodder—
"
(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 46, mae'r benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o'r flwyddyn academaidd.
(2) Nid yw'r benthyciad at gostau byw yn daladwy —
(a) yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, o ran y chwarter a enwebwyd gan Weinidogion Cymru;
(b) ym mhob achos arall, o ran y chwarter pan fydd, ym marn Gweinidogion Cymru, y gwyliau hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo."
49.
Ar ôl rheoliad 46(2)(ch)—
"
(cha) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;".
50.
Ar ôl rheoliad 54(4)(d), mewnosoder—
"
(dd) GFF yw swm y grant at ffioedd, os oes un, y mae'r myfyriwr cymwys yn dod yn gymwys i'w gael o dan Ran 4.".
51.
Yn rheoliad 54(6) yn lle "cwrs carlam", rhodder "cwrs dwys".
52.
Yn rheoliad 62, ar ôl paragraff 15(dd) rhodder—
"
(dda) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;".
53.
Yn rheoliad 65(1)(b), yn lle "£1,000" rhodder "£1,025".
54.
Yn rheoliad 65(5)(e), 65(5)(f) a 65(5)(ff), pa le bynnag y daw'r ffigur "£26,260" yn ei le rhodder "£26,265".
55.
Yn rheoliad 65(6)(a), yn lle'r ffigurau "£15.92", "£12.79" a "£9.94", rhodder y ffigurau "£15.81", "£12.78" a "£9.92", yn eu trefn.
56.
Ar ôl rheoliad 67(4)(a), mewnosoder—
"
(aa) os nad yw'r ceisydd yn berson a grybwyllir ym mharagraff 12 o Ran 2 o Atodlen 1, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru erbyn 1 Rhagfyr 2007 neu o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y cyflwynir y cais ar ei chyfer, p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf;".
57.
Ar ôl rheoliad 74(17)(ch), mewnosoder—
"
daw'r myfyriwr yn blentyn i weithiwr o Dwrci;".
58.
Yn lle is-baragraffau (a) a (b) o reoliad 75(3), rhodder—
"
(a) ystyr "cwrs amser-llawn cyfatebol" ("full-time equivalent") yw cwrs ôl-radd amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs ôl-radd rhan-amser o dan sylw;
“(b) ystyr "cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol" ("period ordinarily required to complete the full-time equivalent") yw'r cyfnod fyddai'n ofynnol i fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;".
59.
Yn rheoliad 76(1), hepgorer y geiriau, "rheoliadau 4 a 6" a mewnosoder y geiriau, "rheoliad 74".
60.
Yn lle rheoliad 76(7), rhodder—
"
(7) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben—
(a) cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig ynddi; a
(b) mewn modd heblaw o dan baragraff (8),
caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am ba gyfnod bynnag a ddyfernir ganddynt."
61.
Ar ôl rheoliad 76(7), mewnosoder—
"
(8) Pan fo'r myfyriwr cymwys ôl-raddedig yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig sy'n gwrs rhan-amser, daw cyfnod y cymhwystra i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd berthnasol nad yw'n gallu cwblhau'r cwrs ynddi o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 75(1)(b)(ii).
(9) At ddibenion paragraff (8), ystyr "blwyddyn academaidd berthnasol" yw'r flwyddyn academaidd pan ddaw'n amhosibl i'r myfyriwr gwblhau'r cwrs ynddi neu ar ei diwedd o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 75(1)(b)(ii)."
62.
Yn Atodlen 1 —
(a) yn lle paragraff 1(3), rhodder—
(b) yn lle paragraff 1(4), rhodder—
"
(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir neu'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—
(a) yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd;
(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd; ac
(c) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o'r cyfryw luoedd.";
(c) ar ôl paragraff 11, mewnosoder—
"
Children of Turkish workers
12.
Person—
(a) sydd yn blentyn i weithiwr o Dwrci;
(b) sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.".
63.
Ar ôl paragraff 5(ch) o Atodlen 4, mewnosoder—
"
(cha) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;".
Jane E Hart
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
4 Awst 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006") a Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007 ("Rheoliadau 2007").
Newidir darpariaethau cyfatebol Rheoliadau 2006 a Rheoliadau 2007 fel a ganlyn —
Cyrsiau Gradd Cywasgedig;
Mae rheoliadau 5—8, 10—13, 18 a 21 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 o ran cyrsiau gradd "cywasgedig" newydd. Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu cyrsiau sy'n gyrsiau gradd cywasgedig a ddarperir gan sefydliadau addysg yn Lloegr drwy gyllid cyhoeddus. Gall myfyrwyr cymwys fod yn gymwys i gael cymorth am hyd y cyrsiau hynny. Mae newidiadau i Reoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â myfyrwyr sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru sy'n ymgymryd â'r cyfryw gyrsiau. Mae rheoliadau 27, 28, 32, 34, 42, 44-48 a 51 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau 2007.
Cymhwystra Gwladolion o Dwrci;
Mae rheoliadau 5, 9, 11, 12, 19, 22—25 a 26 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 o ran cymhwystra gwladolion o Dwrci. Diwygir Rheoliadau 2006 er mwyn cydymffurfio ag erthygl 9 o Benderfyniad Rhif 1/80 Cyngor y Gymdeithas ar 19 Medi 1980 ar ddatblygiad y Gymdeithas rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Thwrci.
Crëwyd Cyngor y Gymdeithas gan y cytundeb a sefydlodd gymdeithas rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Thwrci a lofnodwyd yn Ankara ar 12 Medi 1963 gan Weriniaeth Twrci ar y naill law ac Aelod-wladwriaethau'r EEC a'r Gymuned ar y llaw arall. Cwblhawyd y cytundeb, a'i gymeradwyo a'i gadarnhau ar ran y Gymuned gan Benderfyniad y Cyngor 64/732/EEC ar 23 Rhagfyr 1963 (OJ 1973 C 113 t.1).
Mae Erthygl 9 o Benderfyniad Rhif 1/80 o Gyngor y Gymdeithas ar 19 Medi 1980 ar ddatblygiad y gymdeithas yn darparu: "Turkish children residing legally in a Member State of the Community with their parents who are or have been legally employed in that member State, shall be admitted to courses of general education, apprenticeship and vocational training under the same educational entry qualifications as the children of nationals of that member State. They may in that Member State be eligible to benefit from the advantages provided for under the national legislation in this area.". Mae rheoliadau 27, 33, 35, 41, 49, 52, 56, 57, 62 a 63 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau 2007.
Newidiadau eraill;
Mae rheoliadau 20 a 50 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 46 o Reoliadau 2006 a rheoliad 54 o Reoliadau 2007 yn eu trefn o ran y diffiniad o grant at ffioedd at ddibenion Rhan 9 o Reoliadau 2006 a 2007.
Mae rheoliad 24 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 62 o Reoliadau 2006 i bennu'r rheolau o ran myfyriwr sy'n dod yn gymwys i gael cymorth ôl-radd yn ystod blwyddyn academaidd.
Mae rheoliadau 29—31 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6 (hyd y cyfnod cymhwystra) a rheoliad 7 (astudio blaenorol) o Reoliadau 2007 o ran y diffiniad o gwrs blaenorol.
Mae rheoliadau 36 a 37 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 15 o Reoliadau 2007 fel y bydd myfyriwr sy'n parhau, yn gymwys i gael grant at ffioedd dim ond os dyfarnwyd eisoes ei fod yn gymwys i gael cymorth o ran cwrs dynodedig.
Mae rheoliad 58 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 75 o Reoliadau 2007 o ran y diffiniad o "cwrs amser-llawn cyfatebol" a "cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol" o ran cyrsiau ôl-radd dynodedig.
Mae'r newidiadau a wneir gan reoliadau 59 a 60 o'r Rheoliadau hyn i reoliad 76 o Reoliadau 2007 yn egluro'r rheolau ynghylch cyfnod cymhwystra o ran myfyrwyr ôl-raddedig.
Mae rheoliadau 53—55 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffigurau yn Rheoliadau 2007 fel a ganlyn;
Rheoliadau 16(5), 37(4)(c), 65(1)(b), 65(5)(e), 65(5)(f), 65(5)(ff) a 65(6)(a).
Notes:
[1]
1998 p. 30; mewnosodwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (p.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy. 159) (C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back
[3]
O.S. 2006/126 (Cy. 19) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/1863 (Cy. 196).back
[4]
O.S. 2007/1045 (Cy. 104).back
English version
ISBN
978 0 11 091607 1
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
12 September 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072312w.html