BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2007 Rhif 2372 (Cy.195)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072372w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2372 (Cy.195)

CAFFAEL TIR, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 10 Awst 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Awst 2007 
  Yn dod i rym 1 Medi 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Iawndal Tir 1973[1] ("y Ddeddf") ac sy'n arferadwy bellach ganddynt o ran Cymru[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Medi 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Symiau diwygiedig y taliad colli cartref
    
2. Pan fo'r dyddiad dadleoli ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ei ôl—

Dirymu ac arbed
    
3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2006[3].

    (2) Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.


Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, un o Weinidogion Cymru

10 Awst 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 ("y Ddeddf") i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.

Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o'r Ddeddf i gael taliad colli cartref. Cafodd y sail bresennol ar gyfer asesu swm y taliad colli cartref ei sefydlu drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf yn Neddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

Mewn achosion pan fo gan berson sy'n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny'n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.

Mae adran 30(2) yn rhagnodi swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.

Mae Rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £40,000 i £44,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu'r isafswm o £4,000 i £4,400. Mae Rheoliad 2(c) yn cynyddu'r taliad colli cartref sy'n daladwy, o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £4,000 i £4,400.

Dim ond uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref a newidir ac nid oes unrhyw newid yn y ganran sy'n daladwy o werth ar y farchnad fuddiant y person a ddadleolir.

Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo'r dadleoli'n digwydd ar 1 Medi 2007 neu ar ôl hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ond ar wahân i hynny fe'u dirymir.


Notes:

[1] 1973 p.26; amnewidiwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 p.34 gydag effaith o 25 Medi 1991 ymlaen (gweler O.S. 1991/ 2067, erthygl 3).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2; ac Atodlen 1. Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y cyfryw adran eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back

[3] O.S. 2006/1789 (Cy.185)back



English version



ISBN 978 0 11 091625 5


 © Crown copyright 2007

Prepared 2 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072372w.html