BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007 Rhif 2398 (Cy.199)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072398w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2398 (Cy.199)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 14 Awst 2007 
  Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Awst 2007 
  Yn dod i rym 7 Medi 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986[1] ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy[2] yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:—

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007 a daw i rym ar [dyddiad]

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn:

Asesiadau o gapasiti cynhyrchiol tir
     2. —(1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cymhwysedd capasiti uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

    (2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan gaiff ei ffermio dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwrol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yna—

    (3) Os yw tir, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net yn derbyn taliad Tir Mynydd neu wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2005 neu wedi bod yn hectar cymwys yn 2005 fel a grybwyllir yng nghofnodion 4, 5 a 6 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna—

Dirymu
    
3. Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006[6].


Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gweledig, un o Weinidogion Cymru[a]

14 Awst 2007



YR ATODLEN
Erthygl 2


UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL


Colofn 1            Colofn 2 Colofn 3
Defnydd Ffermio            Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel)            buwch 302
Buchod bridio cig eidion:                                 
           Ar dir sy'n "dir cymwys" at ddibenion taliad Tir Mynydd buwch −138
           Ar dir arall buwch −59
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)            pen −57 (1)
Buchod llaeth i lenwi bylchau            pen 80 (2)
Mamogiaid:                                 
           Ar dir sy'n "dir cymwys" at ddibenion taliad Tir Mynydd mamog 8
           Ar dir arall mamog 19
Wyn stôr (gan gynnwys wyn benyw a werthir fel hesbinod)            pen 2
Moch:                                 
           Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes dorrog 160
           Moch porc pen 3
           Moch torri pen 5.50
           Moch bacwn pen 8.20
Dofednod:                                 
           Ieir dodwy aderyn 2
           Brwyliaid/ieir bwyta aderyn 0.24
           Cywennod ar ddodwy aderyn 0.45
Tyrcwn Nadolig            aderyn 4.50
2. Cnydau âr fferm
Haidd            hectar 24
Ffa            hectar 54.18 (3)
Had porfa            hectar 230
Rêp had olew            hectar 22
Pys:                                 
           Sych hectar 14.18 (3)
           Dringo hectar 350
Tatws:                                 
           Cynnar cyntaf hectar 1800
           Prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 1500
Betys siwgr            hectar 250
Gwenith            hectar 35
3. Cnydau garddwriaethol awyr aagored a ffrwythau
Gwreiddlysiau a nionod/winwns            hectar 2500
Cnwd bresych            hectar 1750
Pys a ffa ffres            hectar 1100
Ffrwythau'r Berllan            hectar 1300
Ffrwythau meddal            hectar 3600
4. Tir Porthiant
Ar dir sy'n "dir cymwys" at ddibenion taliad Tir Mynydd            hectar Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig Rhaglenni (Cymru) 2006
5. Neilltir
Tir a oedd yn 2005 wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o reoliad y Cyngor 1782/2003                                 
           Tir tan anfantais ddifrifol hectar −19.91
           Tir tan anfantais hectar −16.77
           Pob tir arall hectar −120.77
6. Hectarau cymwys
Tir a oedd yn 2005 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 1782/2003 ac eithrio tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o'r Rheoliad hwnnw:                                 
           Tir tan anfantais ddifrifol hectar 104.20
           Tir tan anfantais hectar 121.22
           Pob tir arall hectar 69.96



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu capasiti cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn gosod y swm sydd i gael ei ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2006 i 11 Medi 2007 gan gynnwys y dyddiadau hynny.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006.

Mae asesiad o gapasiti cynhyrchiol tir amaethyddol yn ofynnol wrth benderfynu a yw'r tir o dan sylw yn "uned fasnachol o dir amaethyddol" ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2).

Mae "uned fasnachol o dir amaethyddol" yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai nag agregiad enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn 20 oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o gapasiti cynhyrchiol y tir dan sylw, yr unedau cynhyrchu a'r incwm net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn rhagnodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gapasiti cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd yn 2005 yn hectar cymwys at ddibenion o Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1), sy'n sefydlu'r Cynllun Taliad Sengl. Mae yna ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol, tir tan anfantais a thir arall. Mae yna hefyd ffigurau ar wahân ar gyfer tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2005.


Notes:

[1] 1986 p.5.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044 ac maent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd a. 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32.back

[3] O.J. Rhif 270, 21.10.2003, t.1.back

[4] O.J. Rhif L 208, 29.7.2006, t.3.back

[5] O.S. 2006/3343 (Cy.304).back

[6] 2006/2796 (Cy.133).back



English version


[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 5, Fersiwn Saesneg, yn union o dan lofnod y Gweinidog, dylai teitl y Gweinidog ddarllen: “Minister for Rural Affairs, one of the Welsh Ministers”; a

Tudalen 5, Fersiwn Cymraeg, yn union o dan lofnod y Gweinidog, dylai teitl y Gweinidog ddarllen: “Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru”.
back



ISBN 978 0 11 091623 1


 © Crown copyright 2007

Prepared 2 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072398w.html