BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2007 Rhif 2425 Cy.201) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072425w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 14 Awst 2007 | ||
Yn dod i rym | 14 Awst 2007 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Hysbysiadau a thrwyddedau |
4. | Eithriadau |
5. | Defnyddio mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid |
6. | Cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar gynnal crynhoad anifeiliaid |
7. | Esemptiad ar gyfer mangre sydd â man palmantog i anifeiliaid |
8. | Esemptiad ar gyfer arwerthiannau defaid magu yn yr hydref |
9. | Terfynau amser |
10. | Newid ar amser dechrau crynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthu |
11. | Gwerthiant cigydda dynodedig a chasgliadau cigydda dynodedig |
12. | Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid |
13. | Cyfyngiadau yn dilyn crynhoad anifeiliaid |
14. | Gorfodi |
15. | Dirymu |
YR ATODLEN — | Gofynion mewn crynhoad anifeiliaid |
Hysbysiadau a thrwyddedau
3.
—(1) O ran hysbysiad neu drwydded o dan Gorchymyn hwn —
(2) Ond nid yw'r erthygl hon yn gymwys i hysbysiad neu drwydded a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 8.
Eithriadau
4.
Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys—
Defnyddio mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid
5.
—(1) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw fangre ar gyfer crynhoad anifeiliaid oni bai bod y fangre honno wedi ei thrwyddedu i'r perwyl hwnnw gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i gais am drwydded fod yn ysgrifenedig.
(3) Rhaid i drwydded bennu—
Cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar gynnal crynhoad anifeiliaid
6.
Yn ddarostyngedig i erthyglau 7 ac 8, ni chaiff neb ganiatáu crynhoad anifeiliaid ar fangre y mae anifeiliaid wedi cael eu cadw arni nes bydd 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers y diwrnod—
Esemptiad ar gyfer mangre sydd â man palmantog i anifeiliaid
7.
—(1) Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 6 yn gymwys os yw'r man i anifeiliaid yn y fangre drwyddedig wedi cael ei balmantu, ac os yw wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio a bod gwastraff wedi cael ei waredu oddi yno yn unol â'r erthygl hon cyn bod crynhoad pellach o anifeiliaid yn cael ei gynnal.
(2) O ran y gwaith glanhau a diheintio—
(3) Rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r man i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy ei golchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.
(4) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl fwyd anifeiliaid y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, a'r holl sarn, y dom a'r deunydd arall sy'n dod o anifeiliaid ac halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid sydd yn y man i anifeiliaid—
cyn gynted ag y bo modd a chyn i anifeiliaid gael mynd i mewn i'r fangre drwyddedig eto.
(5) Os, ar ôl yr achlysur diwethaf pan gafodd y man i anifeiliaid ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r erthygl hon, y'i halogir â thom anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n dod o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n dod o anifeiliaid, rhaid ysgubo neu grafu'n lân y man i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohono sydd wedi eu halogi felly, a'u glanhau drwy olchi a thrwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd cyn i unrhyw anifail gael mynd i'r fangre drwyddedig eto.
(6) Pan na fo cyfres o grynoadau anifeiliaid, sy'n cael eu cynnal ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid, yn para'n hwy na chyfanswm o 48 awr, caiff y crynoadau hynny eu trin fel un crynhoad anifeiliaid.
Esemptiad ar gyfer arwerthiannau defaid magu yn yr hydref
8.
—(1) Os bydd gan fangre drwyddedig fan palmantog i anifeiliaid, yn achos arwerthiant defaid magu yn yr hydref, caiff y trwyddedai wneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded ychwanegol—
(2) Rhaid i'r drwydded bennu'r man y tu allan i'r man palmantog i anifeiliaid y caiff y defaid fynd iddo a'r dyddiad pan ganiateir y mynediad hwnnw.
(3) Rhaid i'r drwydded beidio â chaniatáu mynediad i unrhyw ran o'r man y tu allan i'r man palmantog fwy nag unwaith bob 27 o ddiwrnodau.
(4) Rhaid i'r drwydded bennu'r mesurau bioddiogelwch y mae'n rhaid eu rhoi ar waith.
(5) Nid yw'r drwydded yn effeithio ar unrhyw grynhoad anifeiliaid a gynhelir yn y cyfnod o 27 o ddiwrnodau ar ôl diwedd yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref sydd yn digwydd yn unig ar y man palmantog i anifeiliaid y mae erthygl 7 yn gymwys iddo.
(6) Rhaid i unrhyw gais a wneir i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1)—
(7) O ran unrhyw drwydded a ddyroddir o dan yr erthygl hon—
Terfynau amser
9.
—(1) Rhaid i grynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion gwerthiant (boed y gwerthiant yn unig ddiben neu beidio) ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid neu arwerthiant defaid magu yn yr hydref a drwyddedwyd o dan erthygl 8 beidio â phara am fwy na 48 awr, gan ddechrau ganol dydd.
(2) Caiff arolygydd milfeddygol drwy hysbysiad estyn cyfnod crynhoad anifeiliaid o dan baragraff (1) os yw'r arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni—
(3) Yn achos crynhoad anifeiliaid nad yw paragraff (1) yn gymwys iddo, os un o ddibenion y crynhoad yw crynhoi anifeiliaid ynghyd i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr, rhaid i'r crynhoad beidio â phara am fwy na 48 awr, gan ddechrau ganol dydd.
Newid ar amser dechrau crynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthu
10.
—(1) Yn achos crynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion gwerthiant (boed y gwerthiant yn unig ddiben neu beidio) ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid neu arwerthiant defaid magu yn yr hydref a drwyddedwyd o dan erthygl 8, caiff y trwyddedai newid yr amser dechrau am ganol dydd, drwy o leiaf bythefnos ymlaen llaw—
(2) Os yw'r crynoadau anifeiliaid yn un o gyfres o grynoadau o'r fath, caniateir i'r hysbysiad a'r cyhoeddusrwydd fod ar gyfer y gyfres honno.
Gwerthiant cigydda dynodedig a chasgliadau cigydda dynodedig
11.
—(1) Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig onid yw ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid.
(2) Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig fel rhan o grynhoad anifeiliaid sy'n cael ei gynnal at unrhyw ddiben arall.
(3) Rhaid i'r trwyddedai hysbysu Gweinidogion Cymru a'r awdurdod lleol fod y trwyddedai yn bwriadu cynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig o leiaf 3 diwrnod cyn y gwerthiant neu'r casgliad.
(4) Rhaid i'r trwyddedai roi cyhoeddusrwydd i'r crynhoad anifeiliaid fel bod y sawl sy'n dod ag anifeiliaid iddo yn cael gwybod ei fod yn werthiant cigydda dynodedig neu'n gasgliad cigydda dynodedig.
(5) Yn yr erthygl hon—
Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
12.
Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid (heblaw mewn sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion ynghylch crynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.
Cyfyngiadau yn dilyn crynhoad anifeiliaid
13.
—(1) Mae darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys unwaith y bydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y fangre drwyddedig.
(2) Ni chaiff neb ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y fangre drwyddedig hyd nes bydd pob cyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef yn y crynhoad wedi'i lanhau fel nad oes arno halogiad gweladwy.
(3) Ni chaiff neb symud o'r fangre drwyddedig unrhyw gyfarpar y daeth anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef—
Gorfodi
14.
—(1) Rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai Gweinidogion Cymru, ac nid yr awdurdod lleol, sydd i weithredu'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon.
Dirymu
15.
Dirymir Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004[4].
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Awst 2007
(3) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu cyfleusterau ar y fangre drwyddedig ar gyfer newid, glanhau a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.
(4) Rhaid i'r trwyddedai —
(5) Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid y mae'r terfynau amser yn erthyglau 9 a 10 yn gymwys iddo, rhaid i'r trwyddedai sicrhau—
Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
2.
—(1) Ni chaiff neb fynd ar fangre drwyddedig yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi'u halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid.
(2) Os bydd person yn y man i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi eu halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union wrth adael y man i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad allanol neu ei esgidiau (onid ydynt i gael eu gwaredu) a naill ai—
(3) Os bydd person y tu allan i'r man i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi eu halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis a hynny ar ei union—
Esgidiau i'w gwisgo yn y man i anifeiliaid
3.
Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r man i anifeiliaid, gan ddefnyddio'r cyfleusterau a ddarperir, dynnu'r llaid, tom anifeiliaid ac unrhyw halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid oddi ar ei esgidiau ac yna diheintio'r esgidiau hynny yn y baddon traed a ddarperir sy'n cynnwys diheintydd a gymeradwywyd.
Cerbydau
4.
—(1) Ni chaiff neb ddod ag unrhyw gerbyd na chyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw ar y fangre drwyddedig na mynd â hwy oddi yno os gellir gweld eu bod wedi'u halogi â thom anifeiliaid neu unrhyw halogiad arall sy'n dod o anifeiliaid.
(2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw sy'n dod ar fangre drwyddedig —
(3) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw sy'n ymadael â'r fangre drwyddedig—
[2] O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf o ran Cymru gan O.S. 2006/3166 (Cy.291).back
[3] O.S. 2003/1966 (Cy.211), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2006/179 (Cy.30) ac O.S. 2006/1036 (Cy. 106).back
[4] O.S. 2004/1803 (Cy.191).back