BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 5) 2007 Rhif 2449 (Cy.205)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072449w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2449 (Cy.205)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 5) 2007

  Gwnaed 17 Awst 2007 
  Yn dod i rym 7 Medi 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau sydd wedi'u breinio ynddynt hwy[1] gan adrannau 121(5) a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 5) 2007 a daw i rym ar 7 Medi 2007.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005
    
2. Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 [3], hepgorer y geiriau "Cyngor Sir Fynwy".


Rosemary Thomas
Pennaeth yr Is-adran Gynllunio, o dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

17 Awst 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r trefniadau trosiannol a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 ("Gorchymyn Rhif 4") i ben o ran Cyngor Sir Fynwy ("y Cyngor").

O dan y trefniadau hynny, mae pob awdurdod cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 yn gallu parhau â'r broses sy'n arwain yn y pendraw i fabwysiadu ei gynllun datblygu unedol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn hytrach na gorfod dechrau ar y gwaith o baratoi cynllun datblygu lleol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.

Mae'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r Cyngor oddi ar y rhestr o awdurdodau cynllunio lleol yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 ac felly yn gosod y Cyngor o dan ddyletswydd i baratoi cynllun datblygu lleol ar gyfer ei ardal.


Notes:

[1] Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.back

[2] 2004 p.5.back

[3] O.S. 2005/2722 (Cy.193) (C.110), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/842 (Cy.72), 2006/1700 (Cy.162), 2006/3119 (Cy.289), 2007/546 (Cy.48), 2007/1023 (Cy.92), 2007/2371 (Cy.194) a 2007 2447 (Cy.203).back



English version



ISBN 978 0 11 091615 6


 © Crown copyright 2007

Prepared 14 September 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072449w.html