BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2494 (Cy.214)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) Gorchymyn 2007
|
Gwnaed |
2.50pm ar 28 Awst 2007 | |
|
Yn dod i rym |
3.05 pm ar 28 Awst 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 1, 7 a 23(f) a (g) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) Gorchymyn 2007:
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Gorchymyn hwn rym am 3.05pm ar 28 Awst 2007.
Diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) Gorchymyn 1978
2.
—(1) Diwygier Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[2] yn unol â'r Erthygl hon.
(2) Yn y tabl yn Atodlen 1 (sy'n rhestru diheintyddion a gymeradwywyd) ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod ar gyfer VI-RID mewnosoder
"Virkon Advanced |
200* |
|
250* |
|
200*" |
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Awst 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) Gorchymyn 1978 ("Gorchymyn 1978"), O.S. 1978/32.
Mae Atodlen 1 o Orchymyn 1978 yn rhestru'r diheintyddion a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 drwy ychwanegu Virkon Advanced at restr y diheintyddion a gymeradwywyd.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn.
Notes:
[1]
1981 p. 22; gweler adran 86(1) i gael y diffiniad o "the Ministers". Trosglwyddwyd swyddogaethau'r "Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044, ac maent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back
[2]
O.S. 1978/32, a'r diwygiad perthnasol diwethaf i'r rhestri o ddiheintyddion a gymeradwywyd yw O.S. 2006/3166 (Cy.291).back
English version
ISBN
978 0 11 091635 4
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
12 October 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072494w.html