BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Chynefinoedd Naturiol (Echdynnu Mwynau drwy Dreillio Gwely'r Môr) (Cymru) 2007
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072610w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif . 2610 (Cy. 221)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Chynefinoedd Naturiol (Echdynnu Mwynau drwy Dreillio Gwely'r Môr) (Cymru) 2007

  Gwnaed 6 Medi 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Medi 2007 
  Yn dod i rym 28 Medi 2007 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

RHAGARWEINIAD
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Cymhwyso i'r Goron

RHAN 2

CYFYNGIADAU AR DREILLIO
4. Cyfyngiadau ar dreillio
5. Cymhwyso'r Rheoliadau'n rhannol mewn achosion penodol

RHAN 3

MATERION RHAGARWEINIOL
6. Dyfarniadau rhagarweiniol Gweinidogion Cymru
7. Barn Gweinidogion Cymru am gynnwys y datganiad amgylcheddol
8. Darparu gwybodaeth i hwyluso paratoi datganiad amgylcheddol
9. Ffioedd am faterion rhagarweiniol

RHAN 4

CANIATADAU AR GYFER TREILLIO
10. Ceisiadau am ganiatâd
11. Gwybodaeth bellach
12. Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori
13. Penderfyniadau ar geisiadau
14. Tramgwyddau sy'n gysylltiedig â cheisiadau a chaniatadau
15. Prosiectau sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd mewn gwladwriaeth AEE arall

RHAN 5

TROSGLWYDDO AC AMRYWIO CANIATADAU
16. Trosglwyddo caniatâd
17. Amrywio caniatâd
18. Amrywio caniatâd ar gais: dyfarniadau rhagarweiniol a ffioedd
19. Amrywio caniatâd ar gais: prosiectau perthnasol a phrosiectau cynefinoedd
20. Amrywio caniatâd ar gais: achosion eraill
21. Dirymu, atal dros dro neu amrywio caniatâd ac eithrio ar gais
22. Canlyniadau dirymu, atal dros dro neu amrywio
23. Tramgwyddau sy'n ymwneud â throsglwyddiadau ac amrywiadau

RHAN 6

CYNEFINOEDD NATURIOL
24. Gwarchod cynefinoedd naturiol

RHAN 7

CYFFREDINOL
25. Ffioedd
26. Cofrestr
27. Cosbau
28. Deddf Awdurdodaeth ar Ddyfroedd Tiriogaethol 1878
29. Ymchwiliadau lleol
30. Cyfathrebiadau electronig
31. Darpariaethau trosiannol
32. Diwygiadau i Reoliadau, ac arbedion

  ATODLEN 1 DATGANIADAU AMGYLCHEDDOL
 RHAN 1 Y GOFYNION SYLFAENOL
 RHAN 2 Y GOFYNION YCHWANEGOL

  ATODLEN 2 Y MEINI PRAWF DETHOL
1. Nodweddion y prosiectau
2. Lleoliad y prosiectau
3. Nodweddion yr effaith bosibl

  ATODLEN 3 CYNEFINOEDD NATURIOL
1. Diffiniadau
2. Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: prosiectau treillio newydd
3. Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: adolygu caniatadau sy'n bodoli eisoes
4. Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: adolygiad o'r cytundebau sy'n bodoli eisoes
5. Y weithdrefn ar ôl adolygiad
6. Effaith penderfyniad Gweinidogion Cymru ar ôl adolygiad
7. Mesurau digolledu

At ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
1] i'r graddau y maent yn ymwneud ag echdynnu mwynau drwy dreillio gwely'r môr, mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi[2] mewn perthynas â chamau sy'n gysylltiedig â'r gofyniad am asesu'r effaith ar yr amgylchedd a gaiff prosiectau sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd, ac mewn perthynas â chamau sy'n berthnasol i gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt.

     Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a chan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973[3].

     Mae'r Trysorlys yn cydsynio i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud fel sy'n ofynnol gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973.



RHAN 1

RHAGARWEINIAD

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Chynefinoedd Naturiol (Echdynnu Mwynau drwy Dreillio Gwely'r Môr) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 28 Medi 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran dyfroedd Cymru fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1).

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ac eithrio, mewn perthynas â pharagraffau (a) a (b),—

    (2) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn cael eu defnyddio yn y Gyfarwyddeb EIA neu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, yr un ystyr at ddibenion y Rheoliadau hyn â'r ystyr a roddir i'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Cyfarwyddebau hynny.

    (3) Pan fo'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at —

rhaid i unrhyw gais neu archiad o'r fath gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad neu farn o'r fath gael ei dyroddi neu ei ddyroddi'n ysgrifenedig.

Cais i'r Goron
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r Rheoliadau hyn yn rhwymo'r Goron.

    (2) Ni chaniateir gwneud y Goron yn droseddol atebol am dorri unrhyw un neu rai o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, er bod hynny'n dramgwydd troseddol, ond caiff yr Uchel Lys, ar gais unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r Llys fod ganddo fuddiant, ddatgan bod unrhyw weithred neu anweithred gan y Goron sy'n torri darpariaeth yn y modd hwnnw yn anghyfreithlon.

    (3) Er gwaethaf unrhyw beth ym mharagraff (2), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau yng ngwasanaeth cyhoeddus y Goron fel y maent yn gymwys i unrhyw berson arall.



RHAN 2

CYFYNGIADAU AR DREILLIO

Cyfyngiadau ar dreillio
    
4. Mae i unrhyw berson wneud gwaith treillio yn dramgwydd, ac eithrio pan fo'r treillio —

Cymhwyso'r Rheoliadau'n rhannol mewn achosion penodol
    
5. —(1) Yr achosion a grybwyllir yn rheoliad 4(a) yw'r rhai a ddisgrifir ym mharagraffau (2), (6) a (7) o'r rheoliad hwn.

    (2) Yr achos cyntaf yw pan fo Gweinidogion Cymru yn cael dyfarniad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud—

    (3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu a fyddai'r treillio'n brosiect cynefinoedd.

    (4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, a bod Gweinidogion Cymru'n dyfarnu o dan baragraff (3) y byddai'r prosiect yn brosiect cynefinoedd, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—

    (5) Pan fo paragraff (2) yn gymwys a bod Gweinidogion Cymru'n dyfarnu o dan baragraff (3) na fyddai'r prosiect yn brosiect cynefinoedd, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—

    (6) Yr ail achos yw pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu o dan reoliad 6—

ac, mewn achos o'r fath, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—

    (7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), y trydydd achos yw pan fo'r treillio'n parhau i gael ei wneud yn unol â chytundeb ysgrifenedig a wnaed gan y perchennog cyn cychwyn, ac mewn achos o'r fath dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—

    (8) Pan fo cytundeb ysgrifenedig a wnaed gan y perchennog cyn cychwyn yn cael ei amrywio wrth gychwyn neu ar ôl cychwyn, dim ond pan fo Gweinidogion Cymru, o ystyried y meini prawf dethol hynny sy'n berthnasol, wedi dyfarnu nad yw treillio o dan y cytundeb fel y'i hamrywir felly yn brosiect perthnasol y bydd y treillio'n dod o dan y trydydd achos (a bydd Atodlen 2 yn effeithiol i bennu'r meini prawf dethol ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn).



RHAN 3

MATERION RHAGARWEINIOL

Dyfarniadau rhagarweiniol Gweinidogion Cymru
    
6. —(1) Caiff person sy'n cynnig gwneud gwaith treillio ofyn am ddyfarniad rhagarweiniol gan Weinidogion Cymru o ran—

    (2) Cyn gwneud dyfarniad mewn ymateb i archiad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

    (3) Caiff Gweinidogion Cymru ofyn i'r person sy'n gwneud yr archiad o dan baragraff (1) ddarparu'r cyfryw wybodaeth bellach o fewn y cyfryw gyfnod penodedig ac ar y cyfryw ffurf ag sy'n rhesymol ofynnol.

    (4) Os bydd y person sy'n gwneud yr archiad o dan baragraff (1) yn methu â darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani cyn pen y cyfnod penodedig neu cyn pen unrhyw gyfnod pellach ag y bydd Gweinidogion Cymru yn ei ganiatáu, bernir y bydd yr archiad wedi ei dynnu'n ôl.

    (5) Wrth wneud dyfarniad rhagarweiniol mewn ymateb i gais o dan baragraff (1)(a) rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y meini prawf dethol hynny sy'n berthnasol yn yr achos penodol.

    (6) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt wneud dyfarniad rhagarweiniol, rhaid i Weinidogion Cymru—

Barn Gweinidogion Cymru am gynnwys y datganiad amgylcheddol
     7. —(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "datganiad amgylcheddol" ("environmental statement") yw datganiad sy'n cynnwys —

ac mae Atodlen 1 yn effeithiol at y dibenion hyn.

    (2) Pan fydd ceisydd arfaethedig yn gofyn iddynt wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru roi barn ynghylch yr wybodaeth i'w darparu drwy ddatganiad amgylcheddol.

    (3) Cyn rhoi barn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

ynghylch yr wybodaeth i'w darparu drwy'r datganiad amgylcheddol.

    (4) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o farn a roddir o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson yr ymgynghorwyd ag ef o dan baragraff (3).

Darparu gwybodaeth i hwyluso paratoi datganiad amgylcheddol
    
8. —(1) Pan fo'r cais a gynigir yn gwneud datganiad amgylcheddol yn ofynnol, caiff ceisydd arfaethedig roi hysbysiad o fwriad i gyflwyno cais i Weinidogion Cymru.

    (2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth sy'n angenrheidiol i nodi lleoliad a natur y treillio, a rhaid iddo nodi prif ganlyniadau amgylcheddol y treillio y cyfeirir atynt yn natganiad amgylcheddol y ceisydd arfaethedig.

    (3) Cyn gynted ag y bydd cais o dan baragraff (1) yn dod i law, rhaid i Weinidogion Cymru —

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i unrhyw gorff a hysbysir o dan baragraff (3)(a) neu unrhyw un o adrannau'r llywodraeth y rhoddir gwybod amdani i'r ceisydd arfaethedig o dan baragraff (3)(c), neu Weinidogion Cymru, os gofynnir iddynt wneud hynny gan y ceisydd arfaethedig, ddyfarnu p'un a oes ganddo yn ei feddiant, ganddi yn ei meddiant neu ganddynt yn eu meddiant unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i baratoi'r datganiad amgylcheddol ai peidio ac, os oes ganddo, ganddi neu ganddynt wybodaeth, rhaid i'r corff, yr adran neu Weinidogion Cymru sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i'r ceisydd arfaethedig.

    (5) Nid yw paragraff (4) yn ei gwneud yn ofynnol datgelu unrhyw wybodaeth—

    (6) Caiff corff neu unrhyw un o adrannau'r llywodraeth sy'n sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn unol â pharagraff (4) (ac eithrio Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu ar y cais) godi tâl rhesymol sy'n adlewyrchu'r gost o sicrhau bod yr wybodaeth berthnasol ar gael.

Ffioedd am faterion rhagarweiniol
     9. —(1) Pan fo archiad yn cael ei wneud o dan reoliad 7(2), neu pan fo hysbysiad yn cael ei roi o dan reoliad 8(1), rhaid i'r ceisydd arfaethedig dalu i Weinidogion Cymru y ffi a ddyfernir yn unol â rheoliad 25, ond pan fo archiad yn cael ei wneud a hysbysiad yn cael ei roi mewn cysylltiad â'r un cais, dim ond un ffi o'r fath sy'n daladwy.

    (2) Ni oes rheidrwydd ar Weinidogion Cymru i gyflawni unrhyw weithred mewn ymateb i archiad neu hysbysiad hyd oni fydd y ffi wedi ei thalu.



RHAN 4

CANIATADAU AR GYFER TREILLIO

Ceisiadau am ganiatâd
    
10. —(1) O ran cais am ganiatâd i dreillio—

    (2) Yr achos cyntaf yw os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu o dan reoliad 5(2) fod y treillio'n brosiect neu ran o brosiect sy'n bodloni dibenion amddiffyn gwladol ac y byddai cymhwyso'r Rheoliadau hyn, ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol, yn cael effaith andwyol ar y dibenion hynny.

    (3) Yr ail achos yw os bydd Gweinidogion Cymru, cyn pen 12 mis cyn dyddiad y cais, wedi dyfarnu mewn ymateb i gais o dan reoliad 6(1)(a) nad yw'r treillio'n brosiect perthnasol.

    (4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd gyflenwi, o fewn y cyfnod y gellir yn rhesymol ei bennu, y nifer o gopïau o'r cais a all fod yn rhesymol ofynnol.

    (5) Os bydd y ceisydd, o fewn y cyfnod y mae Gweinidogion Cymru wedi ei bennu, neu gyfnod pellach y gall Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y rheoliad hwn, tybir y bydd y cais wedi ei dynnu'n ôl ar ddiwedd y cyfryw gyfnod, ac ad-delir y ffi os nad yw Gweinidogion Cymru erbyn hynny wedi cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 12(1).

    (6) Caniateir tynnu'n ôl gais o dan y rheoliad hwn ar unrhyw adeg drwy hysbysiad i Weinidogion Cymru, ac ad-delir y ffi os nad yw Gweinidogion Cymru, ar yr adeg pryd y mae hysbysiad tynnu'n ôl yn dod i law, wedi cyhoeddi erbyn hynny hysbysiad o dan reoliad 12(1).

    (7) Pan fo cais o dan y rheoliad hwn yn dod i law, a hwnnw'n gais a all fod yn brosiect neu ran o brosiect sy'n bodloni dibenion amddiffyn gwladol, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu copi o'r cais hwnnw ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gwybodaeth bellach
    
11. —(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn—

    (2) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd gyflenwi'r wybodaeth bellach honno y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod ei hangen a rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd—

    (3) Pan fo'r ceisydd, cyn pen y cyfnod y mae Gweinidogion Cymru wedi ei bennu, neu'r cyfnod pellach y gall Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw archiad gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn, bernir y bydd y cais wedi ei dynnu'n ôl ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac ad-delir y ffi os na fydd Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi erbyn hynny hysbysiad o dan reoliad 12(1).

Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori
    
12. —(1) Pan fo'r canlynol yn dod i law—

rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi drwy hysbysebu'n gyhoeddus, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysiad yn cydymffurfio â gofynion paragraff (2).

    (2) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol —

    (3) Caniateir codi tâl rhesymol, ar unrhyw berson sy'n gofyn amdanynt, am ddarparu copïau o'r cais neu o unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall neu o unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru.

    (4) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y cyrff ymgynghori priodol ac at y perchennog (os nad y perchennog yw'r ceisydd)—

    (5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol o unrhyw berson arall (gan gynnwys unrhyw gorff anllywodraethol sy'n hybu diogelu'r amgylchedd mewn dyfroedd morol) sy'n debygol o fod â diddordeb yn y cais, ond sy'n annhebygol o ddod i wybod amdano drwy gyfrwng yr hysbysebu cyhoeddus, rhaid i Weinidogion Cymru anfon i'r person hwnnw hysbysiad yn cynnwys y manylion a nodir ym mharagraff (2).

Penderfyniadau ar geisiadau
    
13. —(1) Cyn penderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd i gais o dan reoliad 10, rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu a yw'r cais yn ymwneud â phrosiect sy'n brosiect cynefinoedd onid oes dyfarniad rhagarweiniol wedi ei wneud, cyn pen y 12 mis cyn cyflwyno'r cais, mewn ymateb i gais o dan reoliad 6(1)(b) na fyddai'r un prosiect yn brosiect cynefinoedd.

    (2) Rhaid i'r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth y y mae'n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdani i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud dyfarniad o dan baragraff (1).

    (3) Cyn penderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd i brosiect y mae Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu y byddai'n brosiect cynefinoedd (p'un ai o dan y rheoliad hwn neu o dan reoliad 6(1)(b)), rhaid i Weinidogion Cymru wneud asesiad priodol o'r goblygiadau ar gyfer y safle Ewropeaidd yr effeithir arno, yng ngoleuni ei amcanion cadwraeth; ac mae paragraff 2 o Atodlen 3 yn gymwys at y diben hwnnw.

    (4) Cyn penderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd caiff Gweinidogion Cymru roi'r cyfle i gyflwyno sylwadau (yn bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw, i'r ceisydd, i'r perchennog (os nad y perchennog yw'r ceisydd) ac i unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylent gael cyfle o'r fath.

    (5) Wrth benderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

    (6) Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi caniatâd ond —

    (7) O ran rhoi caniatâd —

    (8) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon hysbysiad o'r penderfyniad at—

a rhaid i'r hysbysiad ddatgan —

    (9) Cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau ar ddyddiad y penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, yn yr un dull ag y cyhoeddwyd hysbysiad sy'n berthnasol i'r cais o dan reoliad 12 neu mewn dull tebyg iddo, hysbysiad yn cynnwys—

Tramgwyddau sy'n gysylltiedig â cheisiadau a chaniatadau
    
14. —(1) Mae person sydd yn gwneud y canlynol at ddibenion cael caniatâd o dan reoliad 13 (p'un ai ar ei gyfer ef ei hun neu ar gyfer rhywun arall) yn tramgwyddo,—

    (2) Mae i berson fethu â chydymffurfio ag amod y mae caniatâd yn ddarostyngedig iddo yn dramgwydd.

Prosiectau sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd mewn gwladwriaeth AEE arall
    
15. —(1) Pan fo—

rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted â phosibl a heb fod yn hwyrach na dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 12(1), gymryd y camau a bennir ym mharagraff (2).

    (2) Y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod yn rhaid i Weinidogion Cymru—

    (3) Os yw gwladwriaeth yr effeithir arni'n mynegi dymuniad i gymryd rhan yn y weithdrefn y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted â phosibl, anfon i'r wladwriaeth honno yr effeithir arni hynny o'r wybodaeth ganlynol nad yw wedi ei darparu eisoes ar ei chyfer yn unol â pharagraff (2)—

    (4) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau hefyd y rhoddir y cyfle i unrhyw gyrff a chanddynt gyfrifoldebau amgylcheddol penodol ac y mae'r wladwriaeth yr effeithir arni wedi ymgynghori â hwy a'r cyhoedd o dan sylw yn cael cyfle, cyn y penderfynir ar unrhyw gais, i anfon ymlaen i Weinidogion Cymru, cyn pen cyfnod rhesymol, eu barn ar y manylion a'r wybodaeth a ddarparwyd.

    (5) Rhaid i Weinidogion Cymru—

    (6) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â gwladwriaeth yr effeithir arni yn unol â pharagraff (5) ynghylch y penderfyniad i'w wneud ar unrhyw gais o dan sylw, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r wladwriaeth honno yr effeithir arni am y penderfyniad a rhaid iddynt anfon iddi hysbysiad o'r penderfyniad; a rhaid i'r hysbysiad ddatgan—



RHAN 5

TROSGLWYDDO AC AMRYWIO CANIATADAU

Trosglwyddo caniatâd
    
16. —(1) Rhaid i ganiatâd a roddir o dan y Rheoliadau hyn beidio â chael ei drosglwyddo naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol i berson arall heb gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ymlaen llaw ac os ymhonnir i unrhyw drosglwyddiad gael ei wneud heb gymeradwyaeth o'r fath bydd y trosglwyddiad yn ddi-rym.

    (2) Caiff Gweinidogion Cymru, pan ddaw cais i law oddi wrth y perchennog neu'r deiliad, gymeradwyo trosglwyddo naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i amodau trosglwyddo y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn briodol.

    (3) Pan fo caniatâd yn cael ei drosglwyddo, bydd y perchennog —

    (4) Ni fydd unrhyw ddeiliad caniatâd yn atebol am dorri amodau, sy'n cynnwys unrhyw amodau trosglwyddo, y mae'r caniatâd yn ddarostyngedig iddynt, ond pan dorrir hwynt tra bydd y deiliad yn ddeiliad y caniatâd.

    (5) Ni fydd deiliad caniatâd yn atebol am dorri unrhyw amodau a osodir er mwyn gweithredu terfynau rhanbarthol ar faint o dunelli y caniateir eu treillio.

    (6) Pan fo caniatâd wedi ei drosglwyddo gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru o dan baragraff (2), bydd y trosglwyddiad yn peidio â bod yn effeithiol ar ddiwedd y cyfnod o 40 o ddiwrnodau yn dechrau ar y dyddiad trosglwyddo, neu unrhyw gyfnod pellach y gall Gweinidogion Cymru gytuno iddo, onid yw'r trosglwyddai'n hysbysu Gweinidogion Cymru cyn pen y cyfnod hwnnw—

Amrywio caniatâd
    
17. —(1) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu amrywio caniatâd a roddir o dan y Rheoliadau hyn, yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

    (2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud hynny naill ai —

    (3) Caiff unrhyw amrywiad ei wneud nid yn unig i'r caniatâd ei hun ond hefyd i unrhyw amod yr oedd y caniatâd yn ddarostyngedig iddo cyn ei amrywio.

Amrywio caniatâd ar gais: dyfarniadau rhagarweiniol a ffioedd
    
18. —(1) Caniateir gwneud cais am amrywio i Weinidogion Cymru —

    (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) ("cais amrywio"), os y ceisydd yw'r deiliad neu os yw'n drosglwyddai arfaethedig (p'un ai o'r cyfan neu o ran o'r caniatâd), gael dogfen yn mynd gydag ef yn dynodi cydsyniad ysgrifenedig y perchennog i'r cais.

    (3) Cyn penderfynu p'un ai i ganiatáu cais amrywio ai peidio, rhaid i Weinidogion Cymru—

    (4) Pan fo Gweinidogion Cymru, er mwyn iddynt wneud dyfarniad o dan baragraff (3), o'r farn bod hynny'n angenrheidiol, cânt ofyn i'r person sy'n gwneud y cais amrywio gyflenwi unrhyw wybodaeth bellach cyn pen unrhyw gyfnod penodedig ac mewn unrhyw ddull sy'n rhesymol ofynnol.

    (5) Os yw'r ceisydd yn methu â chyflenwi'r wybodaeth y gofynnir amdani o dan baragraff (4) cyn pen y cyfnod penodedig neu'r cyfnod pellach y mae Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, bernir y bydd y cais wedi ei dynnu'n ôl.

    (6) Cyn gwneud dyfarniad o dan baragraff (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

    (7) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt wneud dyfarniad o dan baragraff (3);

    (8) Ar yr adeg yr anfonir i'r ceisydd y copi o'r dyfarniad o dan baragraff (7) rhaid i Weinidogion Cymru ofyn am i'r ffi briodol a ddyfernir o dan reoliad 25 gael ei thalu.

    (9) Os na thelir y ffi o fewn y cyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru, neu'r cyfnod pellach y mae Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, bernir y bydd y cais amrywio wedi ei dynnu'n ôl.

Amrywio caniatâd ar gais: prosiectau perthnasol a phrosiectau cynefinoedd
    
19. —(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3)(a) y byddai amrywiad yn brosiect perthnasol —

    (2) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am ddatganiad amgylcheddol o dan baragraff (1)(a) ac nad yw wedi'i ddarparu cyn pen y cyfnod penodedig, neu unrhyw gyfnod pellach a ganiateir ganddynt, bernir bod y cais wedi'i dynnu'n ôl ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac ad-delir y ffi, ar yr amod na fydd unrhyw hysbyseb o dan reoliad 12(1), fel y'i cymhwysir gan baragraff 1(b), wedi'i chyhoeddi ar y dyddiad y tynnir y cais yn ôl.

    (3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3)(b) y byddai amrywiad yn brosiect cynefinoedd, bydd darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r cais amrywio yn yr un modd ag y maent yn gymwys mewn perthynas â chais a wnaed o dan reoliad 10, fel petai cyfeiriadau at benderfynu cais o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw ac ymadroddion cytras yn gyfeiriadau at benderfynu cais o dan reoliad 18—

Amrywio caniatâd ar gais: achosion eraill
    
20. —(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3) na fyddai amrywiad yn brosiect perthnasol na phrosiect cynefinoedd, mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

    (2) Pan fo'n rhesymol angenrheidiol, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd ddarparu gwybodaeth bellach cyn pen unrhyw gyfnod ac ar unrhyw ffurf a bennir yn rhesymol.

    (3) Pan fo'r ceisydd, cyn pen unrhyw gyfnod y bydd Gweinidogion Cymru wedi'i bennu, neu unrhyw gyfnod pellach y byddant yn ei ganiatáu, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw archiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2), bernir bod y cais amrywio wedi'i dynnu'n ôl ac ad-delir y ffi, ar yr amod na fydd Gweinidogion Cymru, ar ddyddiad ei dynnu'n ôl, wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (4).

    (4) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon —

at y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5).

    (5) Dyma'r personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (4)—

    (6) Cyn penderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod cais amrywio y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i gyflwyno sylwadau (p'un ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw, i'r ceisydd, i'r perchennog (os nad y ceisydd yw'r perchennog) ac i unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn credu y dylid rhoi cyfle o'r fath iddo.

    (7) Wrth benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod cais amrywio y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth —

    (8) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu'r cais amrywio naill ai drwy roi neu wrthod caniatâd ar gyfer yr amrywiad.

    (9) Caiff penderfyniad i roi caniatâd ar gyfer yr amrywio fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn briodol, gan gynnwys —

    (10) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon hysbysiad o'r penderfyniad o dan baragraff (8) at y personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (5), a rhaid i'r hysbysiad ddatgan —

Dirymu, atal dros dro neu amrywio caniatâd ac eithrio ar gais
    
21. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

    (2) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—

    (3) Cyn dirymu neu amrywio'n barhaol ganiatâd o dan baragraff (2)—

    (4) Y personau a grybwyllir ym mharagraff (3)(a)(i) yw—

    (5) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (3)(a)—

    (6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (3)(a) drwy hysbyseb gyhoeddus.

    (7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol i'r treillio beidio neu i'r caniatâd gael ei amrywio cyn gynted â phosibl —

    (8) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth ychwanegol o dan baragraff (3)(b), ond nad yw'r wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu erbyn y dyddiad a bennwyd neu cyn pen unrhyw gyfnod pellach a ganiateir gan Weinidogion Cymru, ac nad yw'r caniatâd wedi'i atal dros dro o dan baragraff (7), caiff y caniatâd ei atal dros dro.

    (9) Pan fo caniatâd wedi'i atal dros dro o dan baragraff (8) —

    (10) Os, cyn pen y cyfnod penodedig, bydd person y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo o dan baragraff (3)(a), neu berson sydd wedi cyflwyno sylwadau mewn ymateb i'r hysbyseb a gyhoeddwyd o dan baragraff (3)(a), yn gofyn amdano, caiff Gweinidogion Cymru roi—

gyfle i gyflwyno sylwadau (p'un ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

    (11) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylid dirymu'r caniatâd neu ei amrywio'n barhaol gan roi sylw, yn benodol—

    (12) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o'r penderfyniad o dan baragraff (11) i unrhyw berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (3)(a) ac i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau mewn ymateb i hysbyseb a gyhoeddwyd o dan baragraff (6); a rhaid i'r hysbysiad ddatgan—

Canlyniadau dirymu, atal dros dro neu amrywio
    
22. —(1) Daw dirymiad neu amrywiad o dan reoliad 21(2) yn weithredol, yn ddarostyngedig i baragraff (2), ar y dyddiad y caiff hysbysiad ei gyflwyno o dan reoliad 21(12).

    (2) Pan fo mwy nag un hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan reoliad 21(12) mewn cysylltiad â'r un dirymiad neu amrywiad a bod yr hysbysiadau hynny'n cael eu cyflwyno ar wahanol ddiwrnodau, daw'r dirymiad neu'r amrywiad yn weithredol ar y dyddiad y caiff yr olaf ohonynt ei gyflwyno.

    (3) Pan fo caniatâd wedi'i atal dros dro neu fod amrywiad wedi dod yn weithredol dros dro, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 21(7), ond bod penderfyniad terfynol Gweinidogion Cymru o dan reoliad 21(11) yn benderfyniad i beidio â dirymu'r caniatâd nac i'w amrywio'n barhaol, bydd y caniatâd yn cael effaith eto, neu'n cael effaith yn ôl y telerau a oedd yn effeithiol cyn yr amrywiad dros dro, yn ôl y digwydd, o ddyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 21(12).

    (4) Mewn perthynas â chaniatâd sydd wedi'i atal dros dro o dan reoliad 21(7) neu 21(8), sy'n parhau i gael effaith o dan reoliad 21(9)(a) neu y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan reoliad 21(11) i beidio â'i ddirymu —

    (5) Mewn perthynas â chaniatâd a gafodd ei amrywio dros dro o dan reoliad 21(8) ond y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan reoliad 21(11) i beidio â'i amrywio'n barhaol—

    (6) Ni fydd dirymu neu amrywio caniatâd o dan reoliad 21(2), atal caniatâd dros dro o dan reoliad 21(7) neu 21(8), neu amrywio dros dro ganiatâd o dan reoliad 21(7), yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed o dan y caniatâd cyn y dyddiad y cafodd y caniatâd ei ddirymu, ei amrywio, ei atal dros dro neu ei amrywio dros dro, yn ôl y digwydd.

Tramgwyddau sy'n ymwneud â throsglwyddiadau ac amrywiadau
    
23. —(1) Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, er mwyn sicrhau (p'un ai iddo'i hun neu i rywun arall) drosglwyddiad o ganiatâd o dan reoliad 16 neu amrywiad o ganiatâd o dan reoliad 17, neu mewn ymateb i archiad o dan reoliad 21(3)(b) —

    (2) Mae'n dramgwydd i berson fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod trosglwyddo.

    (3) Tra bo caniatâd wedi'i atal dros dro o dan reoliad 21(7) neu reoliad 21(8), bydd unrhyw dreillio parhaol neu unrhyw dreillio pellach o dan y cytundeb yn dramgwydd.



RHAN 6

CYNEFINOEDD NATURIOL

Gwarchod cynefinoedd naturiol
    
24. Mae Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â threillio yn nyfroedd Cymru.



RHAN 7

CYFFREDINOL

Ffioedd
    
25. Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae Gweinidogion Cymru i ddyfarnu'r ffioedd sydd i'w talu —

    (2) Y gweithgareddau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1(a) yw—

    (3) Mae ffioedd o dan yr adran hon i'w dyfarnu gan Weinidogion Cymru gyda chydsyniad y Trysorlys, ar ôl ymgynghori, ynghylch yr egwyddorion sydd i'w cymhwyso wrth ddyfarnu'r ffioedd a symiau'r ffioedd, â chyrff y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli personau sy'n debyg o wneud cais am ganiatâd.

Cofrestr
    
26. —(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gadw cofrestr sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

    (2) Rhaid i'r gofrestr gynnwys copi, naill ai ar ffurf ffotograffig neu ar ffurf electronig neu'r ddwy, o'r canlynol—

    (3) Rhaid i'r gofrestr gynnwys mynegai.

    (4) Rhaid i'r gofrestr fod ar gael i'r cyhoedd gael edrych arni ar bob adeg resymol, drwy apwyntiad ymlaen llaw.

    (5) Pan fo'r gofrestr yn cael ei chadw gan ddefnyddio dull storio electronig, caiff Gweinidogion Cymru drefnu i'r gofrestr fod ar gael i'r cyhoedd gael edrych arni ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

    (6) Pan fo unrhyw aelod o'r cyhoedd yn gofyn iddynt wneud hynny ac wedi iddo dalu ffi resymol, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu copi o unrhyw ddogfen a gofnodwyd ar y gofrestr.

    (7) Ac eithrio pan fo paragraff (8) yn gymwys, rhaid i gofnod yn y gofrestr gael ei gwneud cyn pen 28 o ddiwrnodau —

    (8) Pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn y gallai gwneud cofnod yn y gofrestr yn unol â pharagraff (7) beryglu tegwch neu gyflymder y broses o roi unrhyw gymeradwyaeth neu farn, neu wneud unrhyw benderfyniad neu ddyfarniad, o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r cofnod gael ei wneud cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r gymeradwyaeth neu'r farn gael ei rhoi neu ar ôl i'r penderfyniad neu'r dyfarniad gael ei wneud.

Cosbau
    
27. —(1) Mae person sy'n cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

    (2) Pan fo wedi'i phrofi bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu y gellid ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi'n unol â hynny.

    (3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "swyddog" ("officer"), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg i'r corff neu berson sy'n ymhonni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd y swydd honno.

    (4) At ddibenion paragraff (3), ystyr "cyfarwyddwr" ("director"), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

    (5) Mae achos am dramgwydd yr honnir ei fod wedi'i gyflawni o dan y Rheoliadau hyn gan gorff anghorfforaethol i'w ddwyn yn enw'r corff hwnnw (ac nid yn enw unrhyw un o'i aelodau) ac, at ddibenion unrhyw achos o'r fath, mae unrhyw reolau llys sy'n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel petai'r corff hwnnw'n gorfforaeth.

    (6) Caniateir dwyn achos am dramgwydd o dan y rheoliad hwn, a chaniateir ymdrin â'r tramgwydd at bob diben atodol fel petai wedi'i gyflawni yn unrhyw le yng Nghymru.

    (7) Caniateir dwyn achos i gael datganiad o dan reoliad 3(2), a chaniateir ymdrin â'r tor rheoliad y cwynir amdano at bob diben atodol fel petai wedi'i gyflawni mewn unrhyw ran o Gymru.

Deddf Awdurdodaeth ar Ddyfroedd Tiriogaethol 1878
    
28. Nid yw Adran 3 o Ddeddf Awdurdodaeth ar Ddyfroedd Tiriogaethol 1878[25] (cydsyniadau ag erlyniadau am dramgwyddau a gyflawnwyd ar y môr agored gan bersonau nad ydynt yn ddinasyddion Prydeinig) yn gymwys i unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

Ymchwiliadau lleol
     29. —(1) Caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal er mwyn arfer unrhyw un o swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn.

    (2) Mewn perthynas ag ymchwiliad lleol a gynhelir o dan y Rheoliadau hyn, mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 (pwer i gyfarwyddo bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[
26] yn gymwys—

Cyfathrebiadau electronig
     30. —(1) Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod rhaid i unrhyw gais, cymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad, hysbysiad, barn neu archiad fod yn ysgrifenedig pan fo'r derbynnydd yn cydsynio â'i dderbyn neu ei derbyn yn electronig a bod y ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4) ac mae "ysgrifenedig" i'w ddehongli'n unol â hynny.

    (2) Pan fo cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru am unrhyw gymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad neu farn, o dan y Rheoliadau hyn gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, bernir bod y person sy'n gwneud y cais wedi cytuno —

    (3) Pan na fo person yn fodlon derbyn defnyddio cyfathrebiadau electronig mwyach mewn perthynas ag unrhyw gais o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r person hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru a bydd y dirymu hwnnw'n derfynol ac yn dod yn weithredol ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad, ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.

    (4) Y meini prawf y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod y ddogfen a drosglwyddir drwy'r cyfathrebiadau electronig—

    (5) Ym mharagraff (4), ystyr "yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol" yw bod yr wybodaeth a geir yn y ddogfen ar gael i'r derbynnydd i raddau nad ydynt yn llai â phe câi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

    (6) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag ei gwneud yn ofynnol i geisydd am ganiatâd o dan reoliad 10 neu'r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw gais o dan reoliad 6(1), 7(2), 16(2) neu 18(1) neu berchennog neu ddeiliad caniatâd yn achos dirymiad neu amrywiad arfaethedig o dan reoliad 21, ddarparu'r nifer o gopïau printiedig o unrhyw ddogfen y bydd ar Weinidogion Cymru angen rhesymol amdanynt, er gwaethaf y ffaith bod y ddogfen eisoes wedi'i throsglwyddo'n electronig i Weinidogion Cymru.

    (7) Pan fo'r cyfathrebiad electronig yn dod i law'r derbynnydd y tu allan i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Wyl Banc nac yn wyl gyhoeddus arall.

    (8) Yn y rheoliad hwn—

Darpariaethau trosiannol
     31. —(1) Caiff cais o dan y naill neu'r llall o'r gweithdrefnau a grybwyllir ym mharagraff (3) sy'n aros yn gais heb ei ddyfarnu ar y cychwyn, ac a fyddai, petai wedi'i wneud o dan y Rheoliadau hyn, yn dod o fewn cwmpas y Rheoliadau, ei drin (oni chaiff ei dynnu'n ôl) fel cais am ganiatâd neu, yn ôl y digwydd, amrywiad a wneir yn briodol o dan y Rheoliadau hyn os yw'n cynnwys datganiad amgylcheddol.

    (2) Caiff camau a gymerwyd yn unol â'r gweithdrefnau hynny mewn perthynas â chais sy'n cael ei drin yn y modd a grybwyllwyd ym mharagraff (1) eu trin fel camau a gymerwyd o dan reoliad 12, i'r graddau y caiff Gweinidogion Cymru eu bodloni bod y camau fel y'u cymerwyd gan y ceisydd yn rhoi i raddau helaeth yr un faint o gyhoeddusrwydd i'r cais hwnnw â'r cyhoeddusrwydd ag y byddai cais wedi'i gael gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 12.

    (3) Y gweithdrefnau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw'r rhai a ddisgrifir —

    (4) Pan fo caniatâd yn cael ei roi neu ei amrywio o ganlyniad i unrhyw gais y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ganiatadau a roddwyd o ganlyniad i gais o dan reoliad 10.

Diwygiadau i Reoliadau, ac arbedion
    
32. —(1) Yn Atodlen 2 i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999[28], yng ngholofn 1 o'r tabl, ym mharagraff 2(c), ar ôl "fluvial" mewnosoder "or marine".

    (2) Nid yw'r diwygiad a wnaed gan baragraff (1) yn cael effaith mewn perthynas â'r canlynol—


Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

6 Medi 2007



ATODLEN 1
Rheoliadau 7(1) ac 11(1)


DATGANIADAU AMGYLCHEDDOL




RHAN 1

Y GOFYNION SYLFAENOL

     1. Disgrifiad o'r prosiect, sef gwybodaeth am safle, dyluniad a maint y prosiect.

     2. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir er mwyn osgoi, lleihau ac, os yw'n bosibl, unioni unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol.

     3. Y data y mae eu hangen i adnabod ac asesu'r prif effeithiau y mae'r prosiect yn debygol o'u cael ar yr amgylchedd.

     4. Braslun o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd a syniad o'r prif resymau dros ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.

     5. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 4 o'r Rhan hon.



RHAN 2

Y GOFYNION YCHWANEGOL

     1. Disgrifiad o'r prosiect, gan gynnwys yn benodol—

     2. Amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd a syniad o'r prif resymau dros y dewis hwn, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.

     3. Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r prosiect arfaethedig yn debyg o effeithio'n sylweddol arnynt, gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dwr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y tirlun a rhyngberthynas y ffactorau uchod.

     4. Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd, a hwnnw'n ddisgrifiad a ddylai ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, byrdymor, tymor-canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, a fyddai'n deillio o:

a disgrifiad gan y ceisydd o'r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.

     5. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac, os yw'n bosibl, i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol ar yr amgylchedd.

     6. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 5 o'r Rhan hon.

     7. Awgrym o unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg gwybodaeth ymarferol) y daethpwyd ar eu traws gan y ceisydd wrth grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol.



ATODLEN 2
Rheoliad 5(8)


Y MEINI PRAWF DETHOL


Nodweddion y prosiectau
     1. Rhaid ystyried nodweddion y prosiectau, gan roi sylw, yn benodol, i—

Lleoliad y prosiectau
     2. Rhaid ystyried sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw, yn benodol, i —

Nodweddion yr effaith bosibl
     3. Rhaid ystyried effeithiau sylweddol posibl prosiectau, mewn perthynas â'r meini prawf a nodwyd o dan baragraffau 1 a 2 uchod, a chan roi sylw, yn benodol, i—



ATODLEN 3
Rheoliadau 13(3) a 24


CYNEFINOEDD NATURIOL


Diffiniadau
     1. —(1) Yn yr Atodlen hon, ystyr "Natura 2000" yw'r rhwydwaith Ewropeaidd o ardaloedd cadwraeth arbennig, ac ardaloedd gwarchodaeth arbennig a ddynodwyd o dan y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt, y darparwyd ar eu cyfer gan Erthygl 3(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

    (2) At ddibenion paragraffau 3 a 4 o'r Atodlen hon, estynnir y diffiniad o "safle Ewropeaidd" yn rheoliad 2 drwy fewnosod y paragraff canlynol—

Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: prosiectau treillio newydd
     2. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys o ran pob prosiect y mae Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 6, 13(1) neu 18(3) y byddai'n brosiect cynefinoedd.

    (2) Rhaid i berson sy'n gwneud cais o dan reoliad 10, neu o dan reoliad 18, ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd angen rhesymol amdani ar Weinidogion Cymru at ddibenion yr asesiad o dan reoliad 13(3) neu'r rheoliad hwnnw fel y'i cymhwysir gan reoliad 19(3).

    (3) At ddibenion yr asesiad, rhaid i Weinidogion Cymru geisio cyngor gwyddonol priodol.

    (4) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd camau priodol hefyd i gael barn y cyhoedd at ddibenion yr asesiad.

    (5) Yng ngoleuni'r casgliad y daethpwyd iddo yn yr asesiad, ac yn ddarostyngedig i is-baragraffau (7) ac (8) isod, dim ond ar ôl i Weinidogion Cymru ganfod na fydd y prosiect, naill ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd y cânt roi caniatâd ar gyfer y prosiect hwnnw.

    (6) Wrth bwyso a mesur a fyddai'r prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw—

    (7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn credu y câi unrhyw effeithiau andwyol y prosiect ar gyfanrwydd safle Ewropeaidd eu hosgoi pe bai'r caniatâd yn ddarostyngedig i amodau, dim ond yn ddarostyngedig i'r amodau hynny y gall caniatâd gael ei roi.

    (8) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, am nad oes unrhyw atebion eraill, bod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol o fudd cyhoeddus tra phwysig (y cânt, yn ddarostyngedig i baragraff (9) isod, fod o natur gymdeithasol neu economaidd), caiff caniatâd gael ei roi ar gyfer y prosiect er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i'r safle.

    (9) Pan fo'r safle o dan sylw yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i'r rhesymau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (8) fod naill ai—

Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: adolygu caniatadau sy'n bodoli eisoes
     3. —(1) Pan fo—

rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y daw'r safle yn safle Ewropeaidd, adolygu'r caniatâd.

    (2) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(b) yw—

    (3) Rhaid i Weinidogion Cymru, at ddibenion adolygu'r caniatâd, wneud asesiad priodol o oblygiadau'r treillio i'r safle oherwydd ei amcanion cadwraeth; a bydd darpariaethau is-baragraffau (3), (4), (5) a (6) o baragraff 2 yn gymwys, gydag addasiadau priodol, mewn perthynas ag adolygiad o'r fath.

    (4) Pan fo caniatâd yn cael ei adolygu o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i berchennog neu ddeiliad y caniatâd, yn ôl y digwydd, ddarparu, o fewn cyfnod penodedig, unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae ar Weinidogion Cymru ei hangen er mwyn cynnal yr adolygiad ac, os na ddarperir yr wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennwyd, neu unrhyw gyfnod pellach y bydd Gweinidogion Cymru yn ei ganiatáu, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu'r caniatâd heb gwblhau'r adolygiad.

    (5) Wedi iddynt adolygu caniatâd o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru—

    (6) Caniateir i'r caniatâd gael ei gadarnhau os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd.

    (7) Caniateir i'r caniatâd gael ei amrywio os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni y câi unrhyw effeithiau andwyol gwaith i gyflawni neu, yn ôl y digwydd, parhau â'r prosiect, eu hosgoi drwy amrywio'r caniatâd.

    (8) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, am nad oes unrhyw atebion eraill, bod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol o fudd cyhoeddus tra phwysig (y cânt fod o natur gymdeithasol neu economaidd, ac eithrio mewn achosion y mae is-baragraff (9) yn gymwys iddynt), caniateir i'r caniatâd gael ei gadarnhau er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i'r safle.

    (9) Pan fo'r safle o dan sylw yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i'r rhesymau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (8) fod naill ai —

    (10) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chadarnhau caniatâd o dan is-baragraff (8) mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (6) neu (7) yn gymwys.

    (11) Nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n effeithio ar unrhyw beth a wneir o dan y caniatâd cyn y dyddiad y daeth y safle yn safle Ewropeaidd.

Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: adolygiad o'r cytundebau sy'n bodoli eisoes
     4. —(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y cychwyn, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r partïon i bob cytundeb y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, hysbysiad yn pennu dyddiad at ddibenion is-baragraff (5).

    (2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw gytundeb ysgrifenedig —

    (3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i safle ddod yn safle Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r partïon i bob cytundeb y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, hysbysiad yn pennu dyddiad at ddibenion is-baragraff (5).

    (4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw gytundeb —

    (5) Ar neu ar ôl y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (3), bydd y cytundeb yn cael effaith i bob pwrpas fel caniatâd a roddwyd o ganlyniad i gais o dan reoliad 10 ac y mae'n ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i'w adolygu o dan baragraff 3.

Y weithdrefn ar ôl adolygiad
     5. —(1) Pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl adolygiad o dan baragraff 3 neu 4, yn bwriadu dirymu neu amrywio caniatâd a roddwyd, neu sy'n cael effaith fel petai wedi'i roi, o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad—

yn eu hysbysu o'r penderfyniad ac yn pennu cyfnod, nad yw'n llai nag 28 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad ("y cyfnod penodedig"), y caniateir i sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw gael eu cyflwyno ynddo.

    (2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad hefyd i unrhyw berson neu gorff y cafwyd cyngor gwyddonol oddi wrtho, yn ei hysbysu o'r penderfyniad ac yn ei wahodd i gyflwyno ei sylwadau o fewn y cyfnod penodedig.

    (3) Os bydd angen hynny, o fewn y cyfnod penodedig, ar berson y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo o dan is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn iddynt benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r dirymu neu'r amrywio, roi—

gyfle i gyflwyno sylwadau (p'un ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

    (4) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu, gan roi sylw, yn benodol—

a ddylid bwrw ymlaen â dirymu neu amrywio'r caniatâd.

    (5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i unrhyw berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan—

hysbysiad o'r penderfyniad o dan is-baragraff (4) yn datgan —

Effaith penderfyniad Gweinidogion Cymru ar ôl adolygiad
     6. —(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu, o dan baragraff 5(1), ddirymu neu amrywio caniatâd a roddwyd, neu sy'n cael effaith fel petai wedi'i roi, o dan y Rheoliadau hyn, caiff y caniatâd ei atal dros dro neu bydd yr amrywio'n dod yn weithredol dros dro, yn ôl y digwydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ar y dyddiad y cyflwynir hysbysiad o dan baragraff 5(1).

    (2) Pan fo mwy nag un hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff 5(1) mewn cysylltiad â'r un dirymu neu amrywio, a bod yr hysbysiadau hynny'n cael eu cyflwyno ar ddiwrnodau gwahanol, daw'r ataliad dros dro neu'r amrywiad dros dro'n weithredol ar y dyddiad y cyflwynir yr olaf ohonynt.

    (3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â dirymu neu amrywio'r caniatâd o dan baragraff 5(4), bydd yn cael effaith eto, neu'n cael effaith ar y telerau yr oedd y caniatâd hwnnw'n effeithiol arnynt cyn yr amrywio dros dro, yn ôl y digwydd, o ddyddiad penderfyniad Gweinidogion Cymru i beidio â bwrw ymlaen.

    (4) Mewn perthynas â chaniatâd y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo—

    (5) Ni fydd dirymu neu amrywio o dan baragraff 5(1), neu atal caniatâd dros dro neu ei amrywio dros dro o dan is-baragraff (1), yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed o dan y caniatâd cyn y dyddiad a ddyfarnwyd yn unol â'r is-baragraff hwnnw neu, yn ôl y digwydd, is-baragraff (2).

Mesurau digolledu
     7. Pan fo—

rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw fesurau digolledu angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000 yn cael ei ddiogelu a rhaid iddynt sicrhau bod y Comisiwn Ewropeaidd yn cael ei hysbysu o'r mesurau digolledu a gymerwyd.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu'r canlynol mewn dyfroedd o amgylch Cymru y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel "dyfroedd Cymru":

Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (OJ Rhif L175, 05.07.85, t.40) ar asesu effeithiau prosiectau penodol, boed yn rhai cyhoeddus neu'n rhai preifat, ar yr amgylchedd (fel y'i diwygir gan Gyfarwyddeb 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.03.97, t.5 a chan Gyfarwyddeb 2003/35/EC, OJ Rhif L156, 25.06.03, t.17), a

Chyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (OJ Rhif L206, 22.07.92, t.7), y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn,

i'r graddau y maent yn berthnasol i'r gwaith o echdynnu mwynau drwy dreillio gwely'r môr.

Yn ddarostyngedig i eithriadau sy'n bodoli ar gyfer treillio at ddibenion amddiffyn gwladol ac ar gyfer treillio a wneir o dan gytundebau penodol a oedd yn bodoli cyn i'r Rheoliadau ddod i rym, gweithredir y Cyfarwyddebau drwy sicrhau bod angen caniatâd ar gyfer prosiectau treillio gwely'r môr y mae'r naill gyfarwyddeb neu'r llall yn berthnasol iddynt (rheoliad 5) a bod unrhyw dreillio a wneir heb ganiatâd y mae ei angen yn dramgwydd (rheoliad 4). Rhaid gwneud ceisiadau am ganiatâd i dreillio i Weinidogion Cymru (rheoliad 10).

Gweithredir Cyfarwyddeb 85/337 drwy ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad amgylcheddol gael ei ddarparu mewn perthynas â chais sy'n ymwneud â phrosiect perthnasol, h.y. echdynnu mwynau drwy dreillio yn nyfroedd Cymru a hynny'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd (rheoliad 10). Rhaid ystyried y datganiad hwnnw wrth benderfynu ar y cais (rheoliad 13). Gweithredir Cyfarwyddeb 92/43 drwy ei gwneud yn ofynnol i asesiad priodol o effeithiau treillio o'r fath gael ei wneud, pan fydd yn debygol, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (rheoliad 13(3) ac Atodlen 3). Cyfeirir at dreillio o'r fath yn y Rheoliadau fel "prosiect cynefinoedd". Safleoedd yn y Deyrnas Unedig a ddynodir o dan Gyfarwyddeb 92/43, a safleoedd a ddynodir yn ardaloedd gwarchodaeth arbennig o dan Gyfarwyddeb 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt ac a gaiff eu trin gan Gyfarwyddeb 92/43 fel pe baent wedi eu dynodi o dan y Gyfarwyddeb honno at y dibenion hyn yw safleoedd Ewropeaidd. At ddibenion y Rheoliadau hyn caiff safleoedd sydd wedi eu cynnig gan Weinidogion Cymru ar gyfer eu dynodi eu cynnwys hefyd. Os yw caniatâd yn ofynnol o dan reoliad 5, mae i bersonau ac eithrio'r Goron echdynnu mwynau drwy dreillio yn nyfroedd Cymru oni wneir y treillio yn unol â chaniatâd sydd wedi ei roi o dan y Rheoliadau hyn yn dramgwydd (rheoliad 4).

Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth ar gyfer camau penodol y caniateir eu cymryd cyn i unrhyw gais am ganiatâd gael ei wneud. Mae rheoliad 6 yn galluogi unrhyw berson sy'n cynnig gwneud gwaith treillio i ofyn i Weinidogion Cymru ddyfarnu a fyddai'r treillio hwnnw'n brosiect perthnasol, a dyfanrnu a fyddai'n brosiect cynefinoedd. Mae rheoliad 7 yn galluogi person sy'n bwriadu gwneud cais am ganiatâd sy'n gwneud datganiad amgylcheddol yn ofynnol i ofyn i Weinidogion Cymru roi barn ynghylch yr wybodaeth i'w darparu yn y datganiad amgylcheddol hwnnw. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff ymgynghori priodol, fel y'u diffinnir yn y Rheoliadau, i adrannau'r llywodraeth ac i Weinidogion Cymru nodi a darparu gwybodaeth i helpu gyda pharatoi datganiad amgylcheddol ac mae'n eu galluogi i godi tâl amdano. Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad â gofyn am farn o dan reoliad 7 ac â darparu gwybodaeth gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8.

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gais am ganiatâd yn cynnwys datganiad amgylcheddol (onid yw Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu fel arall). Rhaid amgáu ffi a ddyfarnwyd yn unol â rheoliad 25 gydag unrhyw gais am ganiatâd. Mae rheoliad 11 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd ddarparu gwybodaeth bellach, os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r datganiad amgylcheddol gwreiddiol yn cynnwys digon o wybodaeth i alluogi effeithiau amgylcheddol y treillio a gynigir i gael eu hystyried yn llawn. O dan reoliad 12, rhaid i geisiadau fod yn ddarostyngedig i gyhoeddusrwydd ac ymgynghori. Mae rheoliad 13 yn nodi'r ystyriaethau (gan gynnwys y datganiad amgylcheddol ac unrhyw asesiad o'r effaith ar safle Ewropeaidd) a'r weithdrefn sy'n gymwys wrth benderfynu ar geisiadau. Cyn penderfynu ar gais am ganiatâd i wneud gwaith treillio, caiff Gweinidogion Cymru roi i bartïon penodol gyfle i wneud sylwadau yn bersonol neu'n ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru. Mae rheoliad 14 yn creu tramgwyddau os darperir gwybodaeth anwir mewn perthynas â chaffael caniatâd.

O dan reoliad 15, gwneir darpariaeth ar gyfer ymgynghori ag unrhyw wladwriaeth AEE arall os yw treillio'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd yn y wladwriaeth AEE honno.

Gwneir darpariaeth o dan y Rheoliadau ar gyfer trosglwyddo (rheoliad 16) ac amrywio caniatâd (rheoliadau 17 to 20) o wneud cais am hynny. Caniateir hefyd ddirymu caniatâd neu ei amrywio mewn ffordd arall heblaw drwy gais (rheoliadau 21 a 22), os bydd angen hynny er mwyn diogelu'r amgylchedd. Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer tramgwyddau sy'n gysylltiedig â throsglwyddo neu amrywio caniatâd.

Mae rheoliad 25 yn darparu i Weinidogion Cymru dyfarnu'r ffioedd y mae'n rhaid eu talu mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru a dynnir wrth gydymffurfio naill ai â rheoliad 7 neu 8 neu'r ddau, wrth ystyried ceisiadau o dan y rheoliadau ac wrth fonitro caniatadau. Mae rheoliad 26 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gadw cofrestr gyhoeddus o geisiadau am ganiatâd, cymeradwyaethau perthynol, penderfyniadau, dyfarniadau a barnau a gwybodaeth a ddarperir gan geisyddion o dan y Rheoliadau.

Mae rheoliad 27 yn darparu ar gyfer cosbau sy'n gymwys i dramgwyddau o dan y Rheoliadau ac mae rheoliad 28 yn datgymhwyso adran 3 o Ddeddf Awdurdodaeth ar Ddyfroedd Tiriogaethol 1878, gyda'r effaith na fydd angen cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer erlyniadau yn erbyn gwladolion tramor o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 29 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gynnal ymchwiliad cyn iddynt arfer swyddogaethau penodol o dan y Rheoliadau. Mae rheoliad 30 yn gwneud darpariaeth ar gyfer defnyddio cyfathrebiadau electronig wrth gydymffurfio â'r gweithdrefnau a sefydlir gan y Rheoliadau.

Nodir trefniadau trosiannol yn rheoliad 31. Gwneir diwygiadau canlyniadol angenrheidiol, gydag arbedion, i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999 (O.S. 1999/293) gan reoliad 32.

Mae Atodlen 1 yn nodi'r gofynion ynghylch beth y mae'n rhaid ei gynnwys mewn datganiad amgylcheddol.

Mae Atodlen 2 yn nodi'r meini prawf sy'n berthnasol pan fydd Gweinidogion Cymru yn dyfarnu a yw prosiect treillio'n brosiect perthnasol.

Mae Atodlen 3 yn gosod gofynion sy'n debyg i'r rhai yn rheoliadau 48 i 53 (darpariaethau cyffredinol ar gyfer diogelu safleoedd Ewropeaidd) yn Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol &c) 1994 (O.S. 1994/2716). Mae paragraffau 2 i 4 o Atodlen 3 yn ymwneud â diogelu safleoedd Ewropeaidd mewn tri math gwahanol o amgylchiadau—

At ddibenion paragraffau 3 a 4 o Atodlen 3, estynnir y diffiniad o safle Ewropeaidd i gynnwys safleoedd yn y Deyrnas Unedig y mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn ymgynghori â'r Deyrnas Unedig yn eu cylch o ran a ddylent gael eu dynodi.

Os gwneir adolygiad o ganiatâd neu o gytundeb, rhaid i Weinidogion Cymru gadarnhau, amrywio neu ddirymu'r caniatâd. Nodir ym mharagraff 5 y weithdrefn i'w dilyn os yw Gweinidogion Cymru yn dirymu neu'n amrywio caniatâd a nodir ym mharagraff 6 effaith penderfyniad Gweinidogion Cymru i fynd ymlaen â'r dirymiad neu'r amrywiad.

Os caiff caniatâd ei roi neu ei gadarnhau er gwaethaf y goblygiadau negyddol ar gyfer safle Ewropeaidd, rhaid cymryd camau digolledu er mwyn sicrhau cysondeb cyffredinol rhwydwaith Ewropeaidd o safleoedd o'r fath.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Gellir cael copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn rheoliad 31(3)o'r un lle, yn rhad ac am ddim.


Notes:

[1] 1972 p.68. Estynnwyd pwerau galluogi adran 2(2) o'r Ddeddf hon yn rhinwedd diwygio adran 1(2) gan adran 2(5) o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (p.51). Mae Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC yn gymwys i'r AEE yn rhinwedd Erthygl 74 o'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a pharagraff 1 o Ran I o Atodiad XX iddo (Gorch 2073). Estynnwyd Cyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC i'r AEE gan Benderfyniad Rhif 20/1999 Cyd-bwyllgor yr AEE dyddiedig 26 Chwefror 1999, OJ Rhif L148, 22.06.00, t.45.back

[2] O.S. 2000/2812 ac O.S. 2002/248 fel y diwygiwyd y ddau gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/3329). Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiadau hyn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back

[3] 1973 p.51, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Gweler adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006back

[4] 1998 p.46. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos â'r Alban 1999 (O.S. 1999/1126).back

[5] 2006 p.32; Gweler hefyd erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 3 iddo. Caiff y darpariaethau hyn, a wnaed o dan adran 155(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) (pwer i wneud gorchymyn at ddibenion y diffiniad o Gymru), eu trin fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 158(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhinwedd paragraff 26(3) o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.back

[6] 1987 p.49back

[7] 1964 p.29.back

[8] 1998 p.47. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos (Gogledd Iwerddon) 2002 (O.S. 2002/791).back

[9] 1998 p.46. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos â'r Alban 1999 (O.S. 1999/1126).back

[10] 1998 p.47. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos (Gogledd Iwerddon) 2002 (O.S. 2002/791).back

[11] OJ Rhif L103, 25.04.97, t.1, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[12] OJ Rhif L206, 22.07.92, t.7 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[13] OJ Rhif L175, 05.07.85, t. 40, a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.03.97, t.5 a Chyfarwyddeb 2003/35/EC, OJ Rhif L156, 25.06.03, t.17.back

[14] 1990 p. 8. mewnosodwyd adran 293 gan Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5).back

[15] 1992 p.42.back

[16] 1964 p.40.back

[17] O.S. 1999/293, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2867, 2006/3099, a 2006/3295.back

[18] O.S. 1999/1783.back

[19] O.S. 1999/1672, fel y'i diwygir gan Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27), adran 76(7) a chan O.S. 2007/1996.back

[20] O.S.1999/360, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/933.back

[21] O.S. 2000/1928, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/1992.back

[22] Ar gyfer "y cyhoedd o dan sylw" Gweler Erthygl 1 o'r Gyfarwyddeb EIA.back

[23] O.S. 2004/3391.back

[24] 2000 p.36. Gweler yn benodol Ran II o'r Ddeddf honno.back

[25] 1878 p. 73.back

[26] 1972 p. 70. Diwygiwyd is-adran (2) gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymu) 1989 (p.43). Diwygiwyd is-adran (3) gan adrannau 37, 38 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48). Diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), adran 49(2), ac Atodlen 12, Rhan III.back

[27] 2000 p.7. Diwygiwyd adran 15 gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21), Atodlen 17, paragraff 158.back

[28] O.S. 1999/293, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2867, 2006/3099 a 2006/3295.back

[29] 1990 p.8. Mewnosodwyd adran 172 gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p. 34), Adran 5.back

[30] O.S. 1995/418; fe'i diwygiwyd gan O.S. 1996/528.back



English version



ISBN 978 0 11 091642 2


 © Crown copyright 2007

Prepared 18 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072610w.html