BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 2715 (Cy.228)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072715w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2715 (Cy.228)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Diwygio) 2007

  Gwnaed 14 Medi 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Medi 2007 
  Yn dod i rym 12 Hydref 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1), (2), (3) a (4) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1], ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy [2]:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Diwygio) 2007 a daw i rym ar 12 Hydref 2007.

Diwygiadau i Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006
    
2. —(1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006[3] fel a ganlyn:

    (2) Yn erthygl 6 (symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yng Nghymru neu mewn man arall yn y Gymuned Ewropeaidd neu yn y Swistir), ym mharagraff (2), yn lle "o'r man cynhyrchu" rhodder "o fewn y Gymuned Ewropeaidd".

    (3) Yn erthygl 15 (tramgwyddau)—

    (4) Yn lle Atodlen 1, rhodder—



ATODLEN 1
Erthyglau 4(a) a 10(1)



Deunydd sy'n dueddol o gael y pla Gofynion i'w bodloni o ran dyroddi unrhyw dystysgrif ffytoiechydol sy'n mynd gyda deunydd sy'n dueddol o gael y pla ("y dystysgrif")
Acer macrophyllum Pursh.

Acer pseudoplatanus L.

Adiantum aleuticum (Rupr.) Paris

Adiantum jordanii C. Muell.

Aesculus californica (Spach) Nutt.

Aesculus hippocastanum L.

Arbutus menziesii Pursch.

Arbutus unedo L.

Arctostaphylos spp. Adans

Calluna vulgaris (L.) Hull

Camellia spp. L.

Castanea sativa Mill.

Fagus sylvatica L.

Frangula californica (Eschsch.) Gray

Frangula purshiana (DC.) Cooper

Fraxinus excelsior L.

Griselinia littoralis (Raoul)

Hamamelis virginiana L.

Heteromeles arbutifolia (Lindley) M. Roemer

Kalmia latifolia L.

Laurus nobilis L.

Leucothoe spp. D. Don

Lithocarpus densiflorus (Hook. & Arn.) Rehd.

Lonicera hispidula (Lindl.) Dougl. ex Torr. & Gray

Magnolia spp. L.

Michelia doltsopa Buch.-Ham. ex DC

Nothofagus obliqua (Mirbel) Blume

Osmanthus heterophyllus (G. Don) P. S. Green

Parrotia persica (DC) C.A. Meyer

Photinia x fraseri Dress

Pieris spp. D. Don

Pseudotsuga menziesii (Mirbel) Franco

Quercus spp. L.

Rhododendron spp. L., other than

Rhododendron simsii Planch.

Rosa gymnocarpa Nutt.

Salix caprea L.

Sequoia sempervirens (Lamb. ex D. Don) Endl.

Syringa vulgaris L.

Taxus spp. L.

Trientalis latifolia (Hook)

Umbellularia californica (Hook. & Arn.) Nutt.

Vaccinium ovatum Pursh

Viburnum spp. L.”.

(a) Naill ai—

    (i) rhaid i'r dystysgrif gynnwys datganiad ychwanegol bod y deunydd yn tarddu mewn ardal y mae gwasanaeth iechyd planhigion y wlad y mae'r deunydd yn tarddu ohoni ("y gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol") yn ei chydnabod yn ardal sy'n rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorumyn, ac yn yr achos hwn rhaid i enw'r ardal y mae'r deunydd yn tarddu ohoni gael ei bennu o dan "tarddle"; neu

    (ii) rhaid peidio â dyroddi tystysgrif ac eithrio ar ôl i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol wirio'n swyddogol, o wneud arolygiadau swyddogol yn ystod cylchred gyflawn olaf llystyfiant y deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n destun y dystysgrif, neu o wneud arbrawf mewn labordy ar symptomau ymddangosiadol o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd oPhytophthora ramorum, na chanfyddwyd arwyddion o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum ar ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla nac ar unrhyw goeden sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu; a

(b) rhaid peidio â dyroddi tystysgrif ac eithrio ar ôl i samplau cynrychioliadol gael eu cymryd o'r planhigion cyn eu hanfon, a'u bod wedi eu profi a'u cael yn rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaid o Phytophthora ramorum yn y profion hyn, ac yn yr achos hwn rhaid i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol arnodi ar y dystysgrif o dan y pennawd "additional decleration" y datganiad "tested and found free from non-European isolates of Phytophthora ramorum".


    (5) Yn ail golofn Atodlen 2—


Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

14 Medi 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1344) ("y Gorchymyn") er mwyn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2007/201/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2002/757/EC ar fesurau ffytoiechydol brys dros dro i rwystro dod â Phytophthora ramorum Werres, De Cock & Man in 't Veld sp. nov (O.J. Rhif L 90, 30.3.2007, t.83) i'r Gymuned ac i rwystro'i ledaenu o fewn y Gymuned ac i wneud mân newidiadau eraill. Y prif newidiadau a wneir yw—

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn.


Notes:

[1] 1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48).back

[2] Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno yw'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yna trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny oedd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan OS 1999/672 bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32.back

[3] 2006/1344 (Cy.134)back

[4] Mae adrannau 49 a 50 o Ddeddf Reoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p.2) yn darparu yn eu trefn ar gyfer fforffediad nwyddau a fewnforiwyd yn amhriodol ac ar gyfer cosbau am fewnforio nwyddau'n amhriodol.back



English version



ISBN 978 0 11 091644 6


 © Crown copyright 2007

Prepared 16 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072715w.html