BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007 Rhif 2851 (Cy.248)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072851w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2851 (Cy.248)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007

  Gwnaed 28 Medi 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Hydref 2007 
  Yn dod i rym 23 Hydref 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 [1], ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007.

    (1) (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Hydref 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Diwygio Rheoliadau 2006 a Rheoliadau 2007
     3. Diwygir Rheoliadau 2006 yn unol â Rhan 2.

    
4. Diwygir Rheoliadau 2007 yn unol â Rhan 3.



RHAN 2

DIWYGIADAU I REOLIADAU 2006

    
5. Yn y testun Saesneg o reoliad 2(1A) o Reoliadau 2006, ar ôl y gair "his", mewnsoder "or her".

    
6. Yn y testun Cymraeg o reoliad 55(3)(ba) o Reoliadau 2006 hepgorer y gair "nad".

    
7. Yn y testun Cymraeg o baragraff 1(4)(ch) o Atodlen 1 i Reoliadau 2006, yn lle "blentyn ei briod neu ei bartner sifil;", rhodder "briod neu bartner sifil ei blentyn,".



RHAN 3

DIWYGIADAU I REOLIADAU 2007

Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2007
    
8. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2007, yn y man priodol yn nhrefn y wyddor, mewnosoder—

     9. Yn y testun Saesneg o reoliad 2(1A) o Reoliadau 2007, ar ôl y gair "his", mewnsoder "or her".

Diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2007
    
10. Yn rheoliad 4 o Reoliadau 2007—

Diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2007
    
11. Yn rheoliad 5 o Reoliadau 2007—

Diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2007
    
12. Yn rheoliad 6(15)(a) o Reoliadau 2007, yn lle "lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosi neu lle na fydd yn trosi", rhodder "lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu drosi neu lle na fydd yn trosglwyddo neu drosi", ac yn lle "dan reoliad 70(1),", rhodder "dan reoliad 8, rheoliad 61I, rheoliad 61J a rheoliad 70.".

    
13. Yn rheoliad 6 o Reoliadau 2007 —

Diwygio rheoliad 12 o Reoliadau 2007
    
14. Yn rheoliad 12, hepgorer paragraffau (4) ac (5).

Diwygio rheoliad 16 o Reoliadau 2007
    
15. Yn rheoliad 16 o Reoliadau 2007—

Diwygio rheoliad 23 o Reoliadau 2007
    
16. Ar ôl rheoliad 23 o Reoliadau 2007, mewnosoder—

Diwygio rheoliad 30 o Reoliadau 2007
    
17. Yn rheoliad 30(1) o Reoliadau 2007—

Mewnosod Rhan newydd yn Rheoliadau 2007
    
18. Yn dilyn rheoliad 61 o Reoliadau 2007, mewnosoder—



Diwygio rheoliad 62 o Reoliadau 2007
    
19. Yn rheoliad 62 o Reoliadau 2007—

Diwygio rheoliad 67 o Reoliadau 2007
    
20. Yn y testun Cymraeg o reoliad 67(4)(aa) o Reoliadau 2007, hepgorer y gair "nad".

Diwygio rheoliad 70 o Reoliadau 2007
    
21. Yn rheoliad 70 o Reoliadau 2007—

Diwygio rheoliad 74 o Reoliadau 2007
    
22. Yn dilyn rheoliad 74(15)(b) o Reoliadau 2007, mewnosoder —

Diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2007
    
23. Yn y testun Cymraeg o baragraff 1(3)(ch) o Atodlen 1 i Reoliadau 2007, yn lle "blentyn ei briod neu ei bartner sifil;", rhodder "briod neu bartner sifil ei blentyn,".


Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

28 Medi 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006") a Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007 ("Rheoliadau 2007").

Newidir darpariaethau cyfatebol y Rheoliadau fel a ganlyn—

Diwygiadau i Reoliadau 2006
Yn Rhan 2 y Rheoliadau hyn, ymdrinnir â chamgymeriadau teipograffyddol yn rhaglith a rheoliad 2(1A) testun Saesneg Rheoliadau 2006 ynghyd â chamgymeriadau teipograffyddol yn rheoliadau 55 (3)(ba) a pharagraff 1 (4)(ch) o Atodlen 1 testun Cymraeg yr un Rheoliadau.

Diwygiadau i Reoliadau 2007
Mae Rheoliadau 2007 yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2007 i wneud darpariaeth ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig . Cwrs dysgu o bell dynodedig yw cwrs a ddynodwyd dan y rheoliad 61C newydd gan Weinidogion Cymru (rheoliad 18).

Caiff y cymorth sy'n daladwy i fyfyrwyr dysgu o bell cymwys ei nodi yn y rheoliadau 61D (grant mewn perthynas â ffioedd a grant mewn perthynas â llyfrau, teithio a gwariant arall) a 61F newydd (lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl). Caiff lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl ei dalu i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell llawnamser o dan y rheoliad 61F newydd yn hytrach na o dan reoliad 24 o Reoliadau 2007.

Caiff statws myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn grant costau byw myfyrwyr anabl yn gysylltiedig ag ymgymryd â chwrs dynodedig ond nid yn ei fynychu ei newid o fod yn fyfyrwyr cymwys i fod yn fyfyrwyr dysgu o bell cymwys yn unol â'r rheoliad 61I newydd. Bydd y ddarpariaeth hon hefyd yn gymwys i fyfyrwyr a ddyfarnwyd eisoes eu bod yn gymwys ond nas cymhwyswyd ar gyfer cymorth yn unig am nad oeddynt yn mynychu cwrs dynodedig.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud amryw o ddiwygiadau canlyniadol ychwanegol i Reoliadau 2007 yn dilyn cyflwyno darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr dysgu o bell cymwys.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 16 o Reoliadau 2007 i'w gwneud yn glir na all myfyriwr dan yr hen drefn sy'n mynychu cwrs yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall neu Goleg Heythrop fod yn gymwys ar gyfer grant tuag at ffioedd sydd yn fwy na'r ffioedd gwirioneddol sy'n daladwy ganddo (rheoliad 15).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 30 o Reoliadau 2007 i egluro y caiff myfyriwr cymwys fod yn gymwys i gael grant ar gyfer dibynyddion pan fo'r dibynnydd perthnasol yn ddibynnol arno ef neu ef a'i bartner gyda'i gilydd (rheoliad 17).

Gwneir darpariaeth hefyd i alluogi rhai myfyrwyr rhan-amser i fod yn gymwys i dderbyn lwfans myfyrwyr rhan-amser anabl yn ystod blwyddyn academaidd (rheoliad 21).


Notes:

[1] 1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[3] O.S.2006/126 (Cy.19), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/1863 (Cy.196) ac O.S. 2007/2312 (Cy.183)back

[4] O.S.2007/1045 (Cy.104) a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/2312 (Cy.183)back



English version



ISBN 978 0 11 091646 0


 © Crown copyright 2007

Prepared 25 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072851w.html