BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (Tribiwnlysoedd a Restrir) (Cymru) 2007 Rhif 2876 (Cy.250)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072876w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2876 (Cy.250)

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (Tribiwnlysoedd a Restrir) (Cymru) 2007

  Gwnaed 3 Hydref 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Hydref 2007 
  Yn dod i rym 1 Tachwedd 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan baragraff 25(2) o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007[1]:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (Tribiwnlysoedd a Restrir) (Cymru) 2007; mae'n gymwys o ran Cymru ac mae'n dod i rym ar 1 Tachwedd 2007.

Rhestr o dribiwnlysoedd
    
2. Mae'r tribiwnlysoedd a welir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn dribiwnlysoedd a restrir at ddibenion Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007.


Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru

3 Hydref 2007



YR ATODLEN

TRIBIWNLYSOEDD A RESTRIR


Tribiwnlys Deddfwriaeth
Pwyllgorau Cymru. Adran 27 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p.10)[2].
Pwyllgorau Asesu Rhenti yng Nghymru. Adran 65 ac Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977 (p.42)[3].
Tribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru. Rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 11 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41)[4].
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru neu Special Educational Needs Tribunal for Wales Adran 336ZA o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) [5].
Dyfarnwyr parcio yng Nghymru. Adran 73 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40)[6][7].
Panelau apelau derbyn yng Nghymru. Adran 94(5) neu 95(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)[8].
Tribiwnlys. Paragraff 10(2) o Atodlen 26 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)[9].
Tribiwnlysoedd achosion neu dribiwnlysoedd achosion interim a dynnir o'r panel dyfarnu ar gyfer Cymru. Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22)[10].
Panelau apelau yn erbyn gwaharddiadau. Paragraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3227)[11].
Tribiwnlys. Atodlen 3 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18)[12].
Panelau annibynnol yng Nghymru. Rheoliad 21(1) o Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3366)[13].
Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru mewn cysylltiad â'u swyddogaethau o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992 (1992/664). Adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).
Panelau annibynnol yng Nghymru. Rheoliad 4 o Reoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3100)[14].
Panel o ganolwyr meddygol. Paragraff 3 of Atodiad 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072)[15].



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Gwneir y Gorchymyn hwn o dan baragraff 25(2) o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p.15) ("y Ddeddf"). Mae'n diwygio'r rhestr o "dribiwnlysoedd a restrir" y darperir ar eu cyfer ym mharagraff 25(1) o'r Atodlen honno.

Mae adran 44 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer sefydlu Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd i ddisodli'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd.

Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer aelodaeth y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd a'i bwyllgorau. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, megis adolygu'n barhaus faterion yn ymwneud â'r "tribiwnlysoedd a restrir", eu hystyried ac adrodd arnynt, ac mewn perthynas ag ymgynghori ynghylch rheolau ar gyfer y tribiwnlysoedd hynny.

Pan ddaeth y Ddeddf i rym y ddau dribiwnlys newydd y darparwyd ar eu cyfer ym mharagraff 25(1) o Atodlen 7 oedd yr unig "dribiwnlysoedd a restrir", sef y Tribiwnlys Haen Gyntaf a'r Uwch Dribiwnlys.

Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y "tribiwnlysoedd a restrir" yr holl endidau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn "awdurdod priodol" mewn perthynas â hwy at ddibenion paragraff 25(2) o Atodlen 7 ac y mae'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd mewn perthynas â hwy yn adolygu materion yn barhaus, yn eu hystyried ac yn adrodd arnynt, er mwyn sicrhau bod y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn disodli'n briodol y Cyngor ar Dribiwnlysoedd.

Yn gyffredinol, mae paragraff 27 o Atodlen 7 yn darparu mai Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am dribiwnlys os yw swyddogaethau'r tribiwnlys yn arferadwy o ran Cymru, a chan Weinidogion Cymru y mae'r unig bwer naill ai i benodi ei aelodau (neu, yn achos tribiwnlys sy'n arfer swyddogaethau o ran Cymru a mannau eraill, i benodi'r aelodau sy'n arfer swyddogaethau o'r fath o ran Cymru) neu i wneud rheolau gweithdrefnol ar gyfer y tribiwnlys neu i wneud y ddau beth hynny.


Notes:

[1] 2007 p.15.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back

[3] Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Rhenti 1977 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back

[4] Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back

[5] Mewnosodwyd adran 336ZA gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 195 ac Atodlen 18, paragraffau 1 a 5. Mae adran 336ZA (1) yn sefydlu Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae adran 336ZA yn darparu bod adrannau 333 i 336 o Ddeddf Addysg 2002 yn gymwys mewn perthynas â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru fel y maent yn gymwys i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd, ond fel pe bai swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), fel pe bai cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriadau at y Cynulliad, ac fel pe bai gofyniadau am gydsyniad y Trysorlys wedi eu hepgor. Mae swyddogaethau'r Cynulliad o dan adrannau 333 i 336 (fel y'u haddaswyd gan adran 336ZA(2)) wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back

[6] Addaswyd adran 73 a darpariaethau eraill Deddf Traffig Ffyrdd 1991 er mwyn rhoi swyddogaethau gan Orchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Castell-nedd Port Talbot) 1999 (O.S. 1999/1288), Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gaerfyrddin) 2004 (O.S. 2004/104 (Cy.11)) erthygl 4 ac Atodlen 1 paragraff 4, Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Ddinbych) 2004 (O.S. 2004/1608 (Cy.167)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4, Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Bwrdeisdref Sirol Conwy) 2006 (O.S. 2006/1791 (Cy.187)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4, Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gwynedd) 2007 (O.S. 2007/714 (Cy.62)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4, a Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Ynys Môn) 2007 (O.S. 2007/1043 (Cy.103)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Mae'r swyddogaethau hynny wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back

[7] Diddymir adran 73, a darpariaethau eraill Deddf Traffig Ffyrdd 1991, gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 98 ac Atodlen 12, Rhan 1. Mae Deddf Rheoli Traffig 2004 wedi ei chychwyn yn rhannol o ran Cymru gan Orchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2006 (O.S.2006/2826 (Cy.249)), erthygl 2, ond mae Rhan 1 o Atodlen 12 yn dal heb ei chychwyn o ran Cymru.back

[8] Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, (O.S. 1999/672) Erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back

[9] Gweler y troednodyn blaenorol.back

[10] Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22) i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back

[11] Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Rheoliadau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back

[12] Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan Ddeddf Addysg 2005 wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back

[13] Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Rheoliadau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back

[14] Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Rheoliadau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back

[15] Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Gorchymyn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.back



English version



ISBN 978 0 11 091643 9


 © Crown copyright 2007

Prepared 16 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072876w.html