BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2973 (Cy.256)
ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2007
|
Gwnaed |
15 Hydref 2007 | |
|
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
16 Hydref 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Rhagfyr 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan baragraff 21(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006[1].
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2007 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2007.
Cymeradwyo Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheolaeth
2.
—(1) Mae'r cyrff a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy at ddibenion paragraff 21(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(2) Dyma'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a) Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth; a
(b) Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheolaeth.
Andrew Davies
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru.
15 Hydref 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ("CIPFA") a Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheolaeth ("CIMA") yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy at ddibenion paragraff 21(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
O ganlyniad i hyn, mae CIPFA a CIMA yn dod o fewn y diffiniad o "corff cyfrifyddiaeth" yn yr is-baragraff hwnnw yn yr Atodlen honno.
Bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gallu gwneud trefniadau â CIPFA a CIMA, o dan baragraff 21(3) o'r Atodlen honno, i gydweithio â'i gilydd ac i roi cymorth i'w gilydd.
Notes:
[1]
2006 p.32.back
English version
ISBN
978 0 11 091647 7
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
26 October 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072973w.html