BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 3004 (Cy.260 )
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073004w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3004 (Cy.260 )

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2007

  Gwnaed 22 Hydref 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Hydref 2007 
  Yn dod i rym 14 Tachwedd 2007 

Mae Gweinidogion Cymru sydd wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[2] ac o ran mesurau yn y maes milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd[3], yn gwneud y rheoliad canlynol.

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 14 Tachwedd 2007.

Diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007
    
2. Diwygir Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007[4] drwy ychwanegu ar ôl rheoliad 3(3) y paragraff canlynol —


Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

22 Hydref 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro cyfeiliornad yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 i'w gwneud yn dramgwydd i fethu â rhoi hysbysiad o ddaliad o dan reoliad 3.

Ni chafodd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.


Notes:

[1] 1972 p.68.back

[2] O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddynodiad yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back

[3] O.S.2003/1246. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddynodiad yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back

[4] O.S. 2007/842 (W.74).back



English version



ISBN 978 0 11 091654 5


 © Crown copyright 2007

Prepared 2 November 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073004w.html