BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Safleoedd Carafanau 1968 (Diwygio) (Cymru) 2007 Rhif 3163 (Cy.274)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073163w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3163 (Cy.274)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safleoedd Carafanau 1968 (Diwygio) (Cymru) 2007

  Gwnaed 5 Tachwedd 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 13(3) o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968[1] ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy[2] ac wedi ymgynghori â phersonau neu â chyrff yr ymddengys i'r Gweinidogion eu bod yn rhai cysylltiedig yn unol ag adran 13(3) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safleoedd Carafanau 1968 (Diwygio) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2007.

    (2) Mae'r diwygiadau a wneir gan erthygl 2 yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r diffiniad o "caravan" at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960[
3]
     2. Diwygir isadran (2) o adran 13 o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968 ("twin unit caravans") fel a ganlyn—


Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

5 Tachwedd 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r diffiniad o "caravan" yn adran 13(2) o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968 ("Deddf 1968")

Mae adran 13 ("twin-unit caravans") o Ddeddf 1968 yn eithrio o'r diffiniad o "caravan" yn Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 strwythurau dwy-uned a ddylunwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddynt sy'n cynnwys dim mwy na dwy adran a adeiladwyd ar wahân ac a ddylunwyd i gael eu rhoi at ei gilydd ar y safle gyda bolltau, clampiau neu ddyfeisiadau tebyg, ac y mae modd, pan fyddant wedi cael eu rhoi wrth ei gilydd, eu symud yn ffisegol ar hyd y ffordd o un man i fan arall ac sydd â'u mesuriadau yn mynd y tu hwnt i fesuriadau penodedig. Mae gan Weinidogion Cymru y pwer i wneud gorchymyn sy'n pennu mesuriadau gwahanol i'r rhai hynny a osodir yn Neddf 1968.

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn rhoi, yn lle'r mesuriadau a geir yn adran 13(2) o Ddeddf 1968, fesuriadau sy'n fwy na'r rhai hynny.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Gyfarwyddiaeth Dai, Uned y Sector Preifat, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729181) neu Housing.Directorate@wales.gsi.gov.uk.


Notes:

[1] 1968 p.52.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geir yn Neddf Safleoedd Carafanau 1968 o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672 erthygl 2, Atodlen 1). Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (c.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.back

[3] 1960 p.62.back



English version



ISBN 978 0 11 091660 6


 © Crown copyright 2007

Prepared 19 November 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073163w.html