BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007 Rhif 3174 (Cy.279) (C.130)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073174w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3174 (Cy.279) (C.130)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007

  Gwnaed 7 Tachwedd 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 99 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt[2], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:



RHAN 1

CYFFREDINIOL

Enwi a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn —

Cychwyn darpariaethau
     2. Mae darpariaethau Deddf 2004 a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn dod i rym o ran Cymru ar y dyddiad a bennir yng ngholofn 2 at y diben a bennir ynglyn â'r dyddiad hwnnw yng ngholofn 3.



RHAN 2

DARPARIAETHAU TROSIANNOL

Tramgwyddau cosbau penodedig
    
3. Ni fydd adran 95A(1) o Ddeddf 1991 (cosbau penodedig o dan Ran 3) ac Atodlen 4A iddi yn gymwys o ran tramgwyddau a gyflawnwyd cyn 12 Mai 2008.

Cynnydd yn uchafswm dirwyon ar gyfer tramgwyddau diannod penodol
    
4. Ni fydd y cynnydd mewn cosbau y rhoddir effaith iddynt wrth ddwyn i rym adran 40 o Ddeddf 2004 ac Atodlen 1 iddi yn gymwys o ran tramgwyddau a gyflawnir cyn 26 Tachwedd 2007.

Cyfarwyddiadau o ran amseru gwaith stryd a gosod cyfarpar
    
5. Nid yw adran 56(1A) o Ddeddf 1991 (pwer i roi cyfarwyddiadau o ran amseru gwaith stryd) ac adran 56A(1) o'r Ddeddf honno (pwer i roi cyfarwyddiadau o ran gosod cyfarpar) yn gymwys ar gyfer gwaith stryd y mae hysbysiad wedi cael ei roi ar ei gyfer o dan adran 54(1) (hysbysiad ymlaen llaw o waith penodol) neu adran 55(1) o'r Ddeddf honno (hysbysiad o ddyddiad dechrau gwaith) cyn 1 Ebrill 2008.

Hysbysiadau o waith stryd
    
6. —(1) Nid yw'r diwygiad i adran 54(3) o Ddeddf 1991 gan adran 49(1)(a) o Ddeddf 2004 (hysbysiadau o waith stryd) yn gymwys i hysbysiadau a roddwyd o dan adran 54(1) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008.

    (2) Nid yw adran 54(4A) o Ddeddf 1991 yn gymwys ynglyn â gwaith stryd y rhoddwyd hysbysiad ymlaen llaw yn ei gylch o dan adran 54(1) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.

    (3) Pan roddir hysbysiad ymlaen llaw o dan adran 54(1) o Ddeddf 1991 sy'n pennu dyddiad dechrau ar gyfer y gwaith arfaethedig cyn 1 Ebrill 2008, nid yw adran 54(4B) o'r Ddeddf honno'n gymwys ond, os na ddechreuir yn sylweddol ar y gwaith hwnnw cyn 22 Ebrill 2008, bydd yr hysbysiad yn peidio â bod yn effeithiol o ran y gwaith arfaethedig ac felly bydd adran 54(1) yn gymwys unwaith eto iddo.

    (4) Nid yw adran 55(8) a (9) o Ddeddf 1991 yn gymwys o ran gwaith stryd y rhoddwyd hysbysiad ar ei gyfer o dan naill ai adran 54(1) neu adran 55(1) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.

    (5) Os rhoddir hysbysiad ymlaen llaw o dan adran 54(1) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008 sy'n pennu dyddiad dechrau ar ôl 30 Mehefin 2008, bydd yr hysbysiad hwnnw'n peidio â bod yn effeithiol ar 1 Ebrill 2008 a bydd adran 54(1) yn gymwys unwaith eto o ran y gwaith arfaethedig.

Cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol
    
7. Ni fydd y diwygiadau i adran 58 o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol) gan adran 51 o Ddeddf 2004 yn gymwys o ran unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan adran 58(1) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008.

Cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith stryd sylweddol
    
8. Nid yw adran 58A o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith stryd sylweddol) ac Atodlen 3 iddi yn gymwys ond pan fydd hysbysiad o dan adran 54 neu 55 o'r Ddeddf honno'n dod i law awdurdod stryd, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, bod yr ymgymerwyr yn bwriadu gwneud gwaith stryd sylweddol ar briffordd.

Dyletswydd i hysbysu awdurdod stryd o adfer
    
9. Nid yw'r diwygiadau i adran 70 o Ddeddf 1991 (dyletswydd ymgymerwr i adfer) gan adran 54 o Ddeddf 2004 (dyletswydd i hysbysu awdurdod stryd o adfer) yn gymwys o ran gwaith stryd y rhoddwyd hysbysiad ar ei gyfer o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 (hysbysiad o waith brys) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008.


Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

7 Tachwedd 2007



YR ATODLEN
Erthygl 2

          

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Adrannau 32 i 39 (cynlluniau caniatáu) 31 Mawrth 2008 At bob diben
Adran 40(1) a (2) ac yn unol â hynny Atodlen 1 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Adran 40(3) ac eithrio'r geiriau "or (4A)" yn y paragraff (a) a amnewidiwyd o adran 70(6) o Ddeddf 1991 26 Tachwedd 2007 Cynnydd mewn cosbau ar gyfer tramgwyddau diannod o dan Ddeddf 1991
Adran 40(3) 1 Ebrill 2008 At ddibenion mewnosod y geiriau "or (4A)" yn y paragraff (a) a amnewidiwyd o adran 70(6) o Ddeddf 1991 (dyletswydd ymgymerwr i adfer)
Adran 40(4) a (5) 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Adran 41(1) a (3) (tramgwyddau cosbau penodedig) ac yn unol â hynny Atodlen 3 26 Tachwedd 2007 Er mwyn rhoi pwer i wneud gorchmynion o dan adran 95A o Ddeddf 1991 a rheoliadau o dan baragraffau 2,4(1), 5(2), 8 a 9 o Atodlen 4B iddi
Adran 41(1), (2) a (3) ac yn unol â hynny Atodlenni 2 a 3 12 Mai 2008 At bob diben arall
Adran 42 (dyletswydd awdurdod stryd i gyd-drefnu gwaith) 26 Tachwedd 2007 Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau o dan adran 59(7)(c) o Ddeddf 1991 (dyletswydd gyffredinol awdurdod stryd i gyd-drefnu gwaith.
Adran 43(1),(2) a (4) 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Adran 43(3) (cyfarwyddiadau ynghylch amseru gwaith stryd) 1 Ebrill 2008 At bob diben
Adran 44 (cyfarwyddiadau o ran gosod cyfarpar) 26 Tachwedd 2007 Er mwyn rhoi pwer i:

    (a) gwneud rheoliadau o dan adran 56A(4) o Ddeddf 1991; a

    (b) dyroddi neu gymeradwyo, o dan adran 56A(8), god ymarfer at ddibenion adran 56A (pwer i roi cyfarwyddiadau o ran gosod cyfarpar)

Adran 44 1 Ebrill 2008 At bob diben arall
Adran 49 (hysbysiadau o waith stryd) 26 Tachwedd 2007 Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau o dan:

    (a) Adran 54(4A), (4B) a (4C) o Ddeddf 1991 (hysbysiad ymlaen llaw o waith penodol); a

    (b) Adran 55(8) o'r Ddeddf honno (hysbysiad o ddyddiad dechrau gwaith)

Adran 49 1 Ebrill 2008 At bob diben arall
Adran 51(1), (2), (3), (5), (7), (8) a (9) (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol) 26 Tachwedd 2007 Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau yn rhinwedd:

    (a) y diwygiadau i adrannau 55(2) a 58(1), (2),(4) a (7) o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol) a

    (b) adran 58(7A) o'r Ddeddf honno

Adran 51(1), (2), (3), (5), (7),(8) a (9) 1 Ebrill 2008 At bob diben arall
Adran 51(4) 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Adran 51(6) 1 Ebrill 2008 At bob diben
Adran 52(1), (2), (4) a (5) ac yn unol â hynny Atodlen 4 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith stryd sylweddol) 26 Tachwedd 2007 Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau yn rhinwedd:

    (a) y diwygiadau i adrannau 64(1) (strydoedd sensitif i draffig) a 74(3) (tâl am feddiannu'r briffordd pan estynnir cyfnod y gwaith yn afresymol) o Ddeddf 1991; a

    (b) paragraffau 1(2), 2(2), (3), (4)(f) a (5), 3(5)(b), 4(4), (5) a (7) a 5(2)(c), (3)a (4) o Atodlen 3A i'r Ddeddf honno (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith stryd sylweddol)

Adran 52(1), (2), (4) a (5) ac yn unol â hynny Atodlen 4 1 Ebrill 2008 At bob diben arall
Adran 52(3), (6) a (7) 1 Ebrill 2008 At bob diben
Adran 54 (dyletswydd i hysbysu awdurdod stryd o adfer) 26 Tachwedd 2007 Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau o dan adran 70(3)(b), (4A) a (4B) o Ddeddf 1991 (dyletswydd ymgymerwr i adfer)
Adran 54 1 Ebrill 2008 At bob diben arall
Adran 71 (dyroddi canllawiau i awdurdodau priffyrdd lleol o ran rhagofalon diogelwch) 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Adran 98 i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 12 31 Mawrth 2008 At bob diben
Atodlen 7, Rhan 1, paragraffau 1,4 a 5(1) a (3), Rhan 2 a Rhan 4 ac eithrio 8(3) 31 Mawrth 2008 At bob diben
Atodlen 8, Rhan 2, ac eithrio 8(2)(a), (c), (d) ac (e) a 10(3)(a), (c), (d) ac (e) 31 Mawrth 2008 At bob diben
Atodlen 9, Rhan I a Rhan 3 26 Tachwedd 2007 At bob diben
Atodlen 10, paragraff 3, ac eithrio 3(3)(a), (c), (d) ac (e) 31 Mawrth 2008 At bob diben
Atodlen 11, ac eithrio paragraffau 6 a 7 31 Mawrth 2008 At bob diben
Atodlen 12, Rhan 1 31 Mawrth 2008 At bob diben



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, o ran Cymru, ddarpariaethau Rhan 3 (cynlluniau caniatau) a Rhan 4 (gwaith stryd) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ("Deddf 2004") sydd yn diwygio Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 ("Deddf 1991") ac yn gwneud darpariaethau trosiannol o ganlyniad i'r diwygiadau hynny. Mae hefyd yn cychwyn diddymiadau penodol o ran gorfodaeth sifil ar dramgwyddau parcio.

Mae erthygl 2 a'r Atodlen yn rhestru darpariaethau Deddf Rheoli Traffig 2004 sydd i gael eu deddfu a'r dyddiadau amrywiol pan fyddant yn dod i rym yng Nghymru. Mae'r Atodlen hefyd yn esbonio'r rhesymau dros eu deddfu.

Mae erthyglau 3 i 9 yn cynnwys darpariaethau trosiannol angenrheidiol o ganlyniad i ddiwygiadau i Ddeddf 1991 gan Ddeddf 2004. Mae erthygl 3 yn darparu pan fydd cynllun newydd hysbysiad o gosb benodedig ar gyfer tramgwyddau gwaith stryd penodol o dan Ran 3 o Ddeddf 1991 yn dod i rym ar 12 Mai 2008, ni fydd y cynllun hwnnw'n gymwys o ran tramgwyddau a gyflawnwyd cyn y dyddiad hwnnw.

Mae erthygl 4 yn darparu na fydd y cynnydd mewn cosbau y rhoddir effaith iddynt gan ddyddiad dwyn i rym adran 40 o Ddeddf 2004 ac Atodlen 1 iddi yn gymwys i dramgwyddau a gyflawnir cyn 26 Tachwedd 2007.

Mae erthygl 5 yn darparu nad yw'r pwerau newydd i roi cyfarwyddiadau o dan adrannau 56(1A) (pwer i roi cyfarwyddiadau a ran amseru gwaith stryd) a 56A (pwer i roi cyfarwyddiadau o ran gosod cyfarpar) o Ddeddf 1991 yn gymwys pan fo hysbysiad o'r gwaith arfaethedig wedi cael ei roi o dan adran 54(1) (hysbysiad ymlaen llaw o waith penodol) neu 55(1) (hysbysiad o ddyddiad dechrau gwaith) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.

Mae erthygl 6 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ynghylch rhoi hysbysiad o ran gwaith stryd.

Mae erthygl 7 yn sicrhau nad yw'r diwygiadau i adran 58 o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol) yn gymwys pan fo hysbysiad o gyfyngiad wedi cael ei roi o dan adran 58(1) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.

Mae erthygl 8 yn darparu nad yw'r pwer newydd a fewnosodir yn Neddf 1991 gan adran 52 o Ddeddf 2004 i awdurdod stryd osod cyfyngiad ar waith stryd yn dilyn gwaith stryd sylweddol ond yn gymwys pan ddaeth hysbysiad o'r mater hwnnw i law'r awdurdod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008.

Mae erthygl 9 yn darparu nad yw'r diwygiadau i adran 70 o Ddeddf 1991 (dyletswydd ar ymgymerwr i adfer) yn gymwys ynglyn â gwaith stryd y mae hysbysiad wedi cael ei roi ar ei gyfer o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 (hysbysiad o waith brys) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.


Notes:

[1] 2004 p.18back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).back

[3] 1991 p.22back



English version



ISBN 978 0 11 091687 3


 © Crown copyright 2007

Prepared 4 December 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073174w.html