BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007 Rhif 3193 (Cy.280)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073193w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3193 (Cy.280)

GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 7 Tachwedd 2007 
  Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym 3 Rhagfyr 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 9, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[1] i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt[2] ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol yn unol ag adran 9(5) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 3 Rhagfyr 2007.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Argyfwng cemegol, biolegol, radiolegol neu niwclear
    
2. —(1) Rhaid i awdurdod tân ac achub ddarparu yn ei ardal at ddibenion—

    (2) Wrth gymryd camau at ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1), rhaid i awdurdod tân ac achub wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i atal niwed difrifol i'r amgylchedd neu i gyfyngu ar niwed o'r fath.

Achub a diogelu yn achos argyfyngau penodol
     3. —(1) Rhaid i awdurdod tân ac achub ddarparu yn ei ardal ar gyfer achub pobl a all gael eu dal ac ar gyfer eu diogelu rhag niwed difrifol, i'r graddau y mae'n ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny, os digwydd—

    (2) Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys i ddarparu ar gyfer argyfwng i'r graddau y mae'n ymwneud â thwnnel neu gloddfa yn cwympo.

    (3) Yn yr erthygl hon—

Y camau y mae angen eu cymryd at ddibenion swyddogaethau a roddir drwy Orchymyn
     4. Wrth wneud y ddarpariaeth sy'n ofynnol o dan erthygl 2 neu 3, rhaid i awdurdod tân ac achub—

Ymateb i argyfyngau y tu allan i ardal awdurdod tân ac achub
    
5. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

    (2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod cyntaf ddefnyddio ei adnoddau arbenigol yn ardal yr ail awdurdod i'r graddau y mae'n rhesymol at ddibenion delio â'r argyfwng.

    (3) Yn yr erthygl hon, ystyr "adnoddau arbenigol" ("specialist resources") yw adnoddau a gynhelir at ddibenion cymryd camau yn unol â darpariaeth a wnaed yn unol ag erthygl 2 neu 3, gan gynnwys unrhyw weithwyr sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol at y dibenion hynny.


Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

7 Tachwedd 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae swyddogaethau craidd awdurdodau tân ac achub wedi'u nodi yn adrannau 6 i 8 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ('y Ddeddf'). Y swyddogaethau sy'n gysylltiedig â diogelwch rhag tân, diffodd tân a damweiniau traffig ffyrdd yw'r rhain. Mae adran 9 o'r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu drwy orchymyn swyddogaethau craidd eraill ynghylch argyfyngau y mae'n rhaid i awdurdodau tân ac achub ddarparu ar eu cyfer. Mae "emergencies" wedi'i ddiffinio yn adran 58 o'r Ddeddf.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'r argyfyngau a ddisgrifir yn erthyglau 2 a 3.

Mae erthygl 2 yn ymdrin ag argyfyngau sy'n ymwneud â halogion cemegol, biolegol, neu ymbelydrol.

Mae erthygl 3 yn ymdrin ag argyfyngau sy'n ymwneud ag adeiledd yn cwympo. Mae'n ymdrin hefyd ag argyfyngau sy'n ymwneud â thrên, tram neu awyren ("argyfyngau trafnidiaeth"), ond nid yw'n gymwys o ran argyfyngau trafnidiaeth onid yw'r digwyddiad yn debyg o ofyn bod awdurdod tân ac achub yn defnyddio adnoddau y tu hwnt i gwmpas ei weithrediadau arferol o ddydd i ddydd. Nid yw'n ofynnol i awdurdodau ddarparu ar gyfer delio ag argyfyngau trafnidiaeth i'r graddau y maent yn ymwneud â thwnnel neu gloddfa yn cwympo.

Mae erthygl 4 yn pennu'r pethau y mae'n rhaid i awdurdodau tân ac achub eu gwneud wrth ddarparu ar gyfer argyfyngau o'r disgrifiadau yn erthygl 2 neu 3.

Pan fo gan awdurdod tân ac achub adnoddau arbenigol, gan gynnwys gweithwyr sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol, i'w alluogi i ddelio ag argyfyngau o'r math a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn, a bod argyfwng felly yn digwydd neu'n debyg o ddigwydd yn ardal awdurdod arall, mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod sy'n meddu ar yr adnoddau arbenigol, os gofynnir iddo wneud hynny, ddefnyddio'r adnoddau hynny yn ardal yr awdurdod arall hwnnw i'r graddau y mae'n rhesymol at ddibenion delio â'r argyfwng.

Mae asesiad effaith reoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn ac mae ar gael o'r Gangen Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729253).


Notes:

[1] 2004 p.21.back

[2] Mae pwer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9 yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 62. Mae'r pwer hwnnw wedi'i freinio bellach yng Ngweinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[3] Mae "emergency" wedi'i ddiffinio yn adran 58 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.back

[4] 1954 p.70; OS 1993/1897 ac OS 1999/2024 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back



English version



ISBN 978 0 11 091665 1


 © Crown copyright 2007

Prepared 19 November 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073193w.html