BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007 Rhif 3252 (Cy.287)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073252w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3252 (Cy.287)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007

  Gwnaed 13 Tachwedd 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym
  at ddibenion rheoliadau 5, 7 a 14(3) 1 Awst 2008 
  at bob diben arall 6 Rhagfyr 2007 


CYNNWYS


RHAN 1

Rhagarweiniol
1. Teitl, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli
3. Cwmpas

RHAN 2

Gofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau
4. Gorfodi Rheoliad 1935/2004
5. Gorfodi Rheoliad 2023/2006
6. Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004
7. Awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad 2023/2006

RHAN 3

Gofynion ar gyfer Finyl Clorid
8. Terfynau a therfynau ymfudo
9. Dulliau Dadansoddi

RHAN 4

Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig
10. Rheolaethau a therfynau
11. Terfynau ymfudo ar gyfer caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion
12. Darpariaethau arbediad a throsiannol ac amddiffyniadau

RHAN 5

Cyffredinol
13. Troseddau a chosbau
14. Gorfodi
15. Troseddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd
16. Troseddau oherwydd gweithred neu ddiffyg trydydd parti
17. Terfyn amser ar gyfer erlyniadau
18. Amddiffyniadau cyffredinol
19. Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei dadansoddi
20. Dadansoddiad eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth
21. Gweithredu amryfal ddarpariaethau o'r Ddeddf
22. Diwygio Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006
23. Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990
24. Gwelliannau ôl-ddilynol i Reoliadau 2006
25. Dirymiadau

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[
1], fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2].

     Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer pwrpas a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn fuddiol i rai cyfeiriadau at un o offerynnau'r Gymuned, neu at Atodiad i un o offerynnau'r Gymuned, fel y'i nodir yn rheoliad 2(4), gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn neu'r Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.

     Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf 1990 maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

     Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sydd yn pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop, ac yn pennu gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd[3], cynhaliwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod y broses o baratoi ac arfarnu'r Rheoliadau hyn.



RHAN 1

Rhagarweiniol

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym —

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —

    (2) Ac eithrio yn rheoliadau 5 a 7, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl rifedig yn gyfeiriad at yr Erthygl sydd yn dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 1935/2004.

    (3) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004 neu Reoliad 2023/2006 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.

    (4) Mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/72/EC neu i Gyfarwyddeb 2007/42/EC yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.

Cwmpas
     3. Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r deunyddiau a'r eitemau hynny sydd wedi eu nodi yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) o Erthygl 1(3).



RHAN 2

Gofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Gorfodi Rheoliad 1935/2004
    
4. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 27 (trefniadau trosiannol), bydd unrhyw berson sydd yn torri unrhyw un o'r darpariaethau canlynol o Reoliad 1935/2004 yn euog o drosedd —

Gorfodi Rheoliad 2023/2006
    
5. Mae unrhyw berson sydd yn methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 4 (cydymffurfiad ag arfer gweithgynhyrchu da) o Reoliad 2023/2006 yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004
    
6. Y cyrff canlynol sydd wedi eu dynodi'n awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 1935/2004, fel y nodir isod —

Awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad 2023/2006
    
7. Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) a 7(3) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd oddi mewn i'w ardal.



RHAN 3

Gofynion ar gyfer Finyl Clorid

Terfynau, a therfynau ymfudo
    
8. —(1) Rhaid i ddeunyddiau ac eitemau sy'n cael eu gweithgynhyrchu â pholymerau a chydbolymerau finyl clorid —

    (2) Ni chaiff unrhyw berson

unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath nad yw'n cydymffurfio â pharagraff (1).

Dulliau Dadansoddi
    
9. —(1) Y dull a ddefnyddir wrth ddadansoddi unrhyw sampl i bwrpas canfod faint o fonomer finyl clorid sydd yn bresennol yn y deunydd neu eitem, er mwyn dyfarnu a yw'n cydymffurfio â rheoliad 8(1)(a), yw'r dull a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 80/766/EEC (sydd yn pennu dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol lefel y monomer finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd)[9].

    (2) Y dull a ddefnyddir wrth ddadansoddi unrhyw fwyd i bwrpas canfod faint o finyl clorid sydd yn bresennol yn y bwyd, er mwyn dyfarnu a yw deunydd neu eitem sydd mewn cysylltiad â'r bwyd, neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r bwyd, yn cydymffurfio â rheoliad 8(1)(b), yw'r dull a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 81/432/EEC (sydd yn pennu dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol y finyl clorid a ryddheir i fwydydd gan ddeunyddiau ac eitemau)[10].



RHAN 4

Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig

Rheolaethau a therfynau
     10. —(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig sydd —

ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sy'n dod i gysylltiad â bwyd drwy gael ei ddefnyddio i'r pwrpas hwnnw.

    (2) Ac eithrio ym mharagraff (4), mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at Atodiad II yn gyfeiriad at Atodiad II i Gyfarwyddeb 2007/42/EC.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff unrhyw berson, wrth weithgynhyrchu unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grwp o sylweddau heblaw'r sylweddau a enwir neu a ddisgrifir —

ac mewn unrhyw fodd nad yw'n unol â'r amodau a'r cyfyngiadau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn ail golofn y Rhan briodol o Atodiad II, fel y'i darllenir gyda'r rhaglith i'r Atodiad hwnnw.

    (4) Wrth weithgynhyrchu unrhyw araen sydd i'w rhoi ar unrhyw gaen y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grwp o sylweddau ar wahân i'r rhai a restrir yn Atodiad II, III neu IV i Gyfarwyddeb 2002/72/EC, ac ni chaiff eu defnyddio mewn unrhyw ddull nad yw'n unol â'r gofynion, y cyfyngiadau a'r manylion a gynhwysir yn yr Atodiadau hynny ac yn Rheoliadau 2006.

    (5) Caiff sylweddau heblaw'r rhai a restrir yn Atodiad II eu defnyddio fel lliwyddion neu adlynion wrth weithgynhyrchu caen y mae paragraff (3)(a) yn gymwys iddo, ar yr amod bod caen o'r fath yn cael ei weithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo unrhyw liwydd neu adlyn i fwyd mewn unrhyw faint canfyddadwy.

    (6) Yn ddarostyngedig i reoliad 12, ni chaiff unrhyw berson

unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig sydd wedi ei weithgynhyrchu'n groes i ofynion paragraffau (3) neu (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (8).

    (7) Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio, yn ystod busnes ac mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu arlwyo neu werthu bwyd —

    (8) Yn ystod unrhyw gam marchnata heblaw'r cam adwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig, oni bai ei fod wedi ei fwriadu o ran natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol iddo.

Terfynau ymfudo ar gyfer caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion
    
11. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion ac —

    (2) Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion ac—

mae'r terfyn ymfudo cyflawn i fod yn drosglwyddiad o 60 miligram o gyfansoddion fesul cilogram o fwyd.

    (3) Ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig sydd wedi ei araenu â phlastigion a weithgynhyrchwyd gydag unrhyw sylwedd a restrir yn Adran A neu B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/72/EC (monomerau a awdurdodir, a sylweddau cychwyn eraill) —

    (4) Pan fo'r terfyn ymfudo ar gyfer sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn cael ei fynegi mewn miligramau fesul cilogram, yn achos caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastig —

mae'r terfyn ymfudo i gael ei rannu â'r ffactor trawsnewid o 6 er mwyn ei fynegi mewn miligramau o gyfansoddion a drosglwyddir fesul decimetr sgwâr o'r deunydd neu'r eitem sydd mewn cysylltiad â bwyd.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae'r gwiriad o gydymffurfiad â therfynau ymfudo i'w gynnal yn unol â darpariaethau Atodlenni 2 a 3 i Reoliadau 2006, fel y'i darllenir gyda rheoliad 11 o'r Rheoliadau hynny; ac at ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at ddeunydd neu eitem blastig i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at gaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastig.

    (6) Nid yw Paragraff (5) yn gymwys dan unrhyw amgylchiadau y mae rheoliad 9(1) neu (2) yn gymwys iddynt.

Darpariaethau arbediad a throsiannol ac amddiffyniadau
    
12. —(1) Er gwaethaf dirymiad Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987[11], o ran caen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd cyn 29ain Ebrill 1994, mae'r amddiffyniadau yn rheoliad 6A o'r Rheoliadau hynny'n gymwys o ran troseddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag yr oeddynt yn gymwys i droseddau o dan y darpariaethau cyfwerth yn y Rheoliadau hynny.

    (2) Mewn unrhyw achos cyfreithiol ynglyn â throsedd o dorri rheoliad 10(3), (4), (6) neu (7), neu reoliad 11(1) neu (3), mae'n amddiffyniad i brofi —



RHAN 5

Cyffredinol

Troseddau a chosbau
     13. —(1) Mae unrhyw berson —

yn euog o drosedd.

    (2) Mae unrhyw berson sydd yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored —

    (3) Ni ddylid dehongli unrhyw beth ym mharagraff (1)(b) fel gofyniad ar unrhyw berson i ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os gallai ei hunan-argyhuddo drwy wneud hynny.

Gorfodi
    
14. —(1) Bydd pob awdurdod bwyd oddi mewn i'w ardal, a phob awdurdod iechyd porthladd oddi mewn i'w gylch, yn gweithredu ac yn gorfodi —

    (2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu a gorfodi, yn ogystal, ddarpariaethau Erthyglau 16(1) a 17(2).

    (3) Bydd pob awdurdod bwyd, oddi mewn i'w ardal, yn gweithredu ac yn gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a grybwyllir yn rheoliad 5.

Troseddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd
    
15. —(1) Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn unrhyw un o'r canlynol, neu ei bod i'w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol, sef —

ystyrir bod y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r drosedd honno ac yn agored i fod yn destun achos cyfreithiol ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

    (2) Pan brofir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner, neu ei bod i'w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, ystyrir bod y person hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r drosedd honno ac yn agored i fod yn destun achos cyfreithiol ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

Troseddau oherwydd gweithred neu ddiffyg trydydd parti
    
16. Pan fo unrhyw berson yn cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn oherwydd gweithred neu ddiffyg rhyw berson arall, y person arall hwnnw sydd yn euog o'r drosedd; a gellir cyhuddo person o'r drosedd, a'i gael yn euog ohoni, p'un ai a ddygir achos cyfreithiol ai peidio yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf.

Terfyn amser ar gyfer erlyniadau
    
17. Ni cheir cychwyn erlyniad am drosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi i dair blynedd ers dyddiad cyflawni'r drosedd ddod i ben, neu wedi i un flwyddyn ddod i ben ers i'r erlynydd ddarganfod y drosedd, pa un bynnag fo'r cynharaf.

Amddiffyniadau cyffredinol
    
18. —(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod ef neu hi wedi gweithredu pob rhagofal rhesymol ac wedi ymarfer pob diwydrwydd dyladwy er mwyn osgoi cyflawniad y drosedd ganddo ef neu hi neu gan berson a oedd dan eu rheolaeth.

    (2) Heb iddo leihau effaith trwch paragraff (1), dylid ystyried bod person a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 4 neu 13(1)(a) ac na wnaeth —

wedi sefydlu'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) os yw'r person hwnnw'n bodloni gofynion paragraffau (3) a (4).

    (3) Mae person yn bodloni gofynion y paragraff hwn os yw'r person hwnnw'n profi —

    (4) Mae person yn bodloni gofynion y paragraff hwn os yw'r drosedd yn drosedd gwerthiant ac mae ef neu hi yn profi —

    (5) Os digwydd, mewn unrhyw achos cyfreithiol, fod yr amddiffyniad a ddarperir gan y rheoliad hwn yn golygu honni bod y drosedd wedi ei chyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, oni bai bod ef neu hi —

wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa bynnag wybodaeth a oedd yn ei feddiant ef neu hi ar y pryd ac a oedd yn enwi'r person arall hwnnw neu'n cynorthwyo i'w adnabod.

Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei dadansoddi
    
19. —(1) Mae swyddog awdurdodedig sydd wedi cael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf, ac sydd o'r farn y dylid ei dadansoddi, i rannu'r sampl yn dair rhan.

    (2) Os yw'r sampl yn cynnwys cynwysyddion seliedig, a phe bai eu hagor yn rhwystro dadansoddiad cywir ym marn y swyddog awdurdodedig, mae'r swyddog awdurdodedig i rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynwysyddion mewn tair cyfran, ac mae pob cyfran i'w thrin fel pe bai'n rhan.

    (3) Bydd y swyddog awdurdodedig —

Dadansoddiad eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth
    
20. —(1) Pa fo sampl wedi ei chadw o dan reoliad 19 ac —

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

    (2) Bydd y swyddog awdurdodedig —

    (3) Bydd Cemegydd y Llywodraeth yn dadansoddi'r rhan a anfonwyd ato ef neu hi o dan baragraff (2), ac yn anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif sy'n nodi canlyniadau'r dadansoddiad.

    (4) Bydd unrhyw dystysgrif o ganlyniadau'r dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth yn cael ei llofnodi ganddo ef neu hi neu ar ei ran, ond gall unrhyw berson gynnal y dadansoddiad dan gyfarwyddyd y sawl sy'n llofnodi'r dystysgrif.

    (5) Bydd y swyddog awdurdodedig, yn syth ar ôl ei derbyn, yn darparu copi o dystysgrif Cemegydd y Llywodraeth o'r dadansoddiad ar gyfer yr erlynydd (os yw hwnnw'n rhywun heblaw'r swyddog awdurdodedig) a'r diffynnydd.

    (6) Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (2)(b)(iii), caiff y swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn am daliad o ffi sydd wedi ei nodi yn yr hysbysiad ar gyfer talu rhai neu'r cyfan o gostau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3); ac yn absenoldeb cytundeb gan y diffynnydd i dalu'r ffi a nodir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

    (7) Yn y rheoliad hwn, mae "diffynnydd" yn cynnwys darpar-ddiffynnydd.

Gweithredu amryfal ddarpariaethau o'r Ddeddf
    
21. —(1) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r newidiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

    (2) Wrth weithredu adran 32 o'r Ddeddf (hawliau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'r cyfeiriad at y Ddeddf yn is-adran (1) yn cael ei ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006.

    (3) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r newidiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf yn cael ei ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006, ac at y Rheoliadau hyn —

Diwygio Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006
    
22. —(1) Diwygir Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006[13] yn unol â pharagraff (2).

    (2) Yn Atodlen 3 (datganiad o gydymffurfiad), rhodder y canlynol yn lle is-baragraff (5) o baragraff 1 —

Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990
     23. Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990[17], yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt), rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987.

Gwelliannau ôl-ddilynol i Reoliadau 2006
     24. —(1) Diwygir Rheoliadau 2006 yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniad o "Rheoliadau 2005".

    (3) Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 11 (dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion, a dulliau dadansoddi), rhodder "rheoliad 9(2) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007" yn lle'r ymadrodd "rheoliad 7(2) o Reoliadau 2005”[
18]".

Dirymiadau
     25. Dirymir y Rheoliadau canlynol neu rannau ohonynt —


G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

13 Tachwedd 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (O.S. 2005/1647 (Cy.128)) ("Rheoliadau 2005") ac yn ailddeddfu, neu'n ailddeddfu gyda diwygiadau, ddarpariaethau a gynhwyswyd yn y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglyn â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC (OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4) ("Rheoliad 1935/2004").

    
2. Mae'r Rheoliadau'n darparu hefyd ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ynglyn ag arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75) ("Rheoliad 2023/2006"), ac yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC, sydd yn ymwneud â deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud a gaen cellwlog atgynyrchiedig ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71) ("Cyfarwyddeb 2007/42") Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi Cyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC (OJ Rhif L93, 17.4.1993. t.27) fel y cafodd ei diwygio ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC (OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.48).

    
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod cyfeiriadau at offeryn EC neu at rannau penodedig o rai offerynnau EC i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn, neu at ran benodedig ohono, fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(4)).

    
4. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau sydd y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau sy'n cael eu nodi yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau sy'n cael eu cyflenwi fel hynafolion, gorchudd neu ddeunyddiau caenu sydd yn rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gydag ef, neu offer sefydlog cyhoeddus neu breifat ar gyfer cyflenwi dwr.

    
5. Mae rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn drosedd i dorri rhai o ofynion Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 4), a Rheoliad 2023/2006 (rheoliad 5). Rheoliad 1935/2004 yw'r prif Reoliad fframwaith ynglyn â deunyddiau ac eitemau sydd mewn cysylltiad â bwyd. Mae'r Rhan hon yn darparu hefyd ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at y gwahanol ddibenion sydd wedi eu nodi yn Rheoliadau 1935/2004 a 2023/2006 (rheoliadau 6 a 7).

    
6. Mae rhan 3 yn cynnwys rheoliadau sydd yn ailddeddfu, heb ddiwygiadau o sylwedd, ddarpariaethau Rheoliadau 2005 o ran finyl clorid (rheoliadau 8 a 9).

    
7. Mae rhan 4 yn cynnwys rheoliadau sydd yn ailddeddfu darpariaethau o Reoliadau 2005 sy'n ymwneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig ("RCF"), ynghyd â mân ddiwygiadau er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb 2007/42 (rheoliadau 10 ac 11).

    
8. Yn neilltuol, mae rheoliad 10 o'r Rheoliadau hyn —

     9. Mae Rheoliad 11 yn cymhwyso, i RCF sydd wedi ei araenu â phlastig, y rheolaethau presennol (sydd yn deillio o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC) ynglyn ag ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig i fwyd, yn neilltuol drwy —

     10. Mae Rheoliad 12 yn cynnwys darpariaethau arbediadau a darpariaethau trosiannol sydd —

     11. Mae rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau gweinyddol cyffredinol a darpariaethau gorfodi sydd —

     12. Yn Rhan 5 mae'r Rheoliadau hyn hefyd —

     13. Mae asesiad effaith reoleiddiol cyflawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, 11eg Llawr, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW


Notes:

[1] 1990 p.16. Cafodd Adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") ei hamnewid gan O.S. 2004/2990. Cafodd Adrannau 17 a 48 eu diwygio gan baragraffau 12 a 21, yn ôl eu trefn, o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), "Deddf 1999". Cafodd Adran 48 ei diwygio'n ogystal gan O.S. 2004/2990. Cafodd Adran 26(3) ei hamnewid gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Cafodd Adran 53(2) ei diwygio gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoli a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, ac O.S. 2004/2990. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddynt yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) Cafodd y swyddogaethau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[2] 1972 p.68. Cafodd paragraff 1A o Atodlen 2 ei fewnosod gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Cafodd y Rheoliad hwnnw ei ddiwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back

[4] O.S. 2006/2982 (Cy.273).back

[5] OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18. Cafodd y Gyfarwyddeb hon ei chywiro gan gywiriad (OJ Rhif L39, 13.2.2003, t.1), a chafodd ei diwygio ar y dyddiad y gwnaed y Rheoliadau hyn gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45), 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8), 2005/79/EC (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2007/19/EC (OJ Rhif L97, 12.4.2007, t.50).back

[6] OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71. Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi, heb ddiwygiad pellach, Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC, fel y cafodd ei diwygio ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC.back

[7] OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.back

[8] OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75.back

[9] OJ Rhif L213, 16.8.80, t.42.back

[10] OJ Rhif L167, 24.6.81, t.6.back

[11] O.S. 1987/1523, fel y cafodd ei ddiwygio gan O.S. 1990/2487, O.S. 1991/1476, ac O.S. 1994/979.back

[12] O.S. 2005/1647 (Cy.128). Cafodd y Rheoliadau hyn eu diwygio ar ôl hynny gan O.S. 2005/3254 (Cy.247) ac O.S. 2006/2982 (Cy.273), ond nid oes yr un o'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r ddarpariaeth hon.back

[13] O.S. 2006/1704 (Cy.166)back

[14] OJ Rhif L277, 20.10.1984, t.12.back

[15] OJ Rhif L110, 30.4.2005, t.36.back

[16] OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.back

[17] O.S. 1990/2463. Cafodd swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, cyn belled ag y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Cafodd y Swyddogaethau hynny eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[18] O.S.back



English version



ISBN 978 0 11 091672 9


 © Crown copyright 2007

Prepared 5 December 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073252w.html