BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2007 No. 3232 (Cy. 284) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073232_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
12 Tachwedd 2007
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae darpariaethau canlynol Deddf Tai 2004 yn dod i rym ar 13 Rhagfyr 2007:
(a) adran 225, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym(3);
(b) adran 226;
(c) adran 265(1), i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 47 o Atodlen 15.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y pumed Gorchymyn Cychwyn sy'n cael ei wneud o dan Ddeddf Tai 2004 yw'r Gorchymyn hwn. Mae'n dod ag adrannau 225 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety sipsiwn a theithwyr) a 226 (canllawiau ynghylch adran 225) o Ddeddf Tai 2004, a pharagraff 47 o Atodlen 15 (strategaethau tai a datganiadau o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003) i'r Ddeddf Tai honno i rym yng Nghymru ar 13 Rhagfyr 2007.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2004 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif yr O.S. |
---|---|---|
Adrannau 1 a 3 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 4 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adrannau 5 i 8 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adrannau 10 i 52 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 54 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 55 (yn rhannol) | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adran 55 (y gweddill) | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adrannau 56 a 57 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adrannau 58 i 78 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adrannau 79 i 81 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adrannau 82 i 147 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 179 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adran 191 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144)(C.75) |
Adrannau 192 i 194 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adrannau 212 i 215 | 6 Ebrill 2007 | 2007/305 (Cy. 24)(C.12) |
Adrannau 227 a 228 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144)(C.75) |
Adrannau 229 i 232 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adrannau 235 a 236 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 237 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adrannau 238 i 243 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 265(1) ac Atodlen 15 (yn rhannol) | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144)(C.75) |
Adran 265(1) ac Atodlen 15 (yn rhannol) | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 266 (yn rhannol) | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Atodlenni 1 i 7 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Atodlen 10 | 6 Ebrill 2007 | 2007/305 (Cy. 24)(C.12) |
Atodlen 12 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144)(C.75) |
Atodlen 13 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 Cy.152)(C.54) |
2004 p.34. Mae'r pwerau a roddwyd gan adran 270(4) a(5) yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r "appropriate national authority" yn adran 261(1) o Ddeddf 2004. Back [1]
Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 270(4) a (5) i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Back [2]
I'r graddau y mae darpariaeth yn Neddf 2004 yn rhoi pwer i wneud gorchymyn neu reoliadau yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth i rym ar ddyddiad pasio'r Ddeddf honno yn rhinwedd adran 270(2)(b) o'r Ddeddf. Back [3]