[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007 No. 3371 (Cy. 298) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073371_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
27 Tachwedd 2007
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "Ddeddf 2005" ("the 2005 Act") yw Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
2. Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym ar 18 Ionawr 2008–
(a) adran 106 ac Atodlen 4, mewn cysylltiad â pharagraffau 5 i 9 ac 14 i 19 o Atodlen 4 (Mân Ddiwygiadau a Rhai Canlyniadol) yn unig;
(b) adran 107 a Rhan 3 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad â diddymu adran 324(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3) ac adran 43(10) ac (11) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(4) yn unig;
(c) adran 107 a Rhan 7 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad ag adran 9 o Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1993(5) ac Atodlen 3 iddi a'r pennawd i adran 2 ac adrannau 8(8), 9(3) a 9(4A) o Ddeddf Swn 1996(6) yn unig;
(ch) adran 107 a Rhan 9 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad ag adran 45 (3) i (9) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn unig.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 ("Deddf 2005") o ran Cymru.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 18 Ionawr 2008 ddarpariaethau canlynol Deddf 2005:
(a) paragraffau 5 i 7 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n gwneud mân ddiwygiadau i destun Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Ddeddf 1990");
(b) paragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n diwygio adran 95(1)(c) o Ddeddf 1990 fel bod y gofrestr gyhoeddus o orchmynion a hysbysiadau, y mae adran 95 o Ddeddf 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ei chadw, yn cynnwys copïau o bob gorchymyn a wneir o dan baragraff 2(1) o Atodlen 3A i Ddeddf 1990 mewn perthynas â dynodi tir at ddibenion rheoleiddio dosbarthu deunydd printiedig yn ddi-dâl;
(c) paragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 sy'n diwygio adran 96 o Ddeddf 1990 gyda'r effaith o alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas ag ysbwriel a gaiff ei gasglu gan brif awdurdodau ysbwriel o dan adran 92C(3) o Ddeddf 1990. Mae adran 92C(3) o Ddeddf 1990 yn ymwneud ag ysbwriel a gesglir gan brif awdurdod ysbwriel pan fydd person wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad clirio ysbwriel a ddyroddwyd gan yr awdurdod hwnnw o dan adran 92A o Ddeddf 1990;
(ch) mae paragraff 14 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn rhoi is-adran (1) newydd yn adran 45 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ("Deddf 2003") gyda'r effaith bod cosbau penodedig yn unol ag adran 43(1) (graffiti a gosod posteri'n anghyfreithlon) o Ddeddf 2003 yn daladwy i'r awdurdod lleol y dyroddwyd yr hysbysiad gan ei swyddog awdurdodedig;
(d) mae paragraff 15 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn cymhwyso i adrannau 43A a 43B o'r Ddeddf honno ddiffiniadau a geir yn adran 47(1) o Ddeddf 2003. Effaith hyn yw galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â chosbau sy'n daladwy yn unol â hysbysiad o dan adran 43(1) o Ddeddf 2003 (graffiti a gosod posteri'n anghyfreithlon);
(dd) mae paragraffau 16 i 19 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn rhoi'r term "defacement removal notice" yn lle "graffiti removal notice" yn adrannau 48, 49 a 51 o Ddeddf 2003, ac ym mhennawd adran 52 o'r Ddeddf honno;
(e) mae paragraff 17(7) o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn mewnosod y geiriau "but not a parish or community council" yn y diffiniad o "local authority" yn adran 48(12) o Ddeddf 2003. Effaith hyn yw atal cynghorau plwyf a chynghorau cymuned rhag dyroddi hysbysiadau gwaredu graffiti, rhag cyflawni gwaith adfer pan na chydymffurfir â hysbysiad gwaredu graffiti a rhag adennill treuliau a dynnir wrth wneud hynny;
(f) mae Rhan 3 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiadau i adran 324(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac adran 43(10) ac (11) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(ff) mae Rhan 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiadau i adran 9 o Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1990 ac Atodlen 3 iddi ac i'r pennawd i adran 2 ac adrannau 8(8) a 9(3) o Ddeddf Sŵn 1996;
(g) mae Rhan 9 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005 yn cynnwys diddymiad i adran 45(3) i (9) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth | Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 2 – at ddibenion sy'n weddill | 19 Chwefror 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 6 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 6 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 7 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 8 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 8 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 9 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 10 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 10 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 11 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 12 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 13 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 13 – at ddibenion sy'n weddill | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 15 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 16 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 17 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 17 – at ddibenion sy'n weddill | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 19 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 19 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 20 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 20 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 21 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 22 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 23 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 24 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 24 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 25 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 28 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 28 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 29 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 30 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 30 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 31 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 34 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adrannau 37 a 38 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 38 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 45 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 45 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adrannau 46 i 48 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 48 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 50 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 52 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 52 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 53 | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 55 at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 55 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 56 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 56 – at ddibenion sy'n weddill | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 57 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 57 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 58 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 58 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 59 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 59 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 60 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 60 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 61 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 62 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 63 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 64 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 65 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 66 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 67 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 67 – at ddibenion sy'n weddill | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 69 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 70 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 71 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 72 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 73 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 73 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 74 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 74 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 75 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 75 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 76 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 77 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 78 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 79 | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 80 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 81 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 82 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 82 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 83 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 84 – at ddibenion penodol | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 84 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 86 | 27 Hydref 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 96 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 96 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 97 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 97 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 98 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 98 – at ddibenion sy'n weddill | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 99 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 100 | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 101 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 101 – at ddibenion sy'n weddill | 31 Ionawr 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 102 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 102 – at ddibenion sy'n weddill | 31 Ionawr 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 103 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Adran 103 – at ddibenion sy'n weddill | 31 Ionawr 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Adran 104 – at ddibenion penodol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Atodlen 4, paragraff 4 | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Atodlen 5, Rhan 1 (cerbydau) | 27 Hydref 2006 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Atodlen 5, Rhan 2 (ysbwriel a sorod) | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Atodlen 5, Rhan 4 (gwastraff) – yn rhannol | 16 Mawrth 2006 | 2006/768 (Cy.75)(C.18) |
Atodlen 5, Rhan 5 (rheolaethau ar gŵn) | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Atodlen 5, Rhan 9 (defnyddio derbynebau cosbau penodol) – yn rhannol | 15 Mawrth 2007 | 2006/2797 (Cy.236)(C.93) |
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi eu dwyn i rym yng Nghymru a Lloegr gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth | Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 32 | 1 Gorffennaf 2005 | 2005/1675 (C.69) |
Adrannau 42 – 44 | 18 Hydref 2006 | 2005/2869 (C.122) |
Adran 49(1) a (3) | 7 Mawrth 2006 | 2006/656 (C.16) |
Adran 49(2) a (6) – at ddibenion penodol | 7 Mawrth 2005 | 2006/656 (C.16) |
Adran 49(2) a (6) – at ddibenion sy'n weddill | 6 Ebrill 2006 | 2006/656 (C.16) |
Adran 49(4) a (9) | 6 Ebrill 2006 | 2006/656 (C.16) |
Adran 49(8) – at ddibenion penodol | 6 Ebrill 2006 | 2006/656 (C.16) |
Adrannau 87-95 | 1 Ionawr 2006 | 2005/3439 (C.144) |
Atodlen 2 | 1 Ionawr 2006 | 2005/3439 (C.144) |
Atodlen 3 | 1 Ionawr 2006 | 2005/3439 (C.144) |
Atodlen 4, paragraff 3 – yn rhannol | 6 Ebrill 2006 | 2006/656 (C.16) |
Atodlen 5, Rhan 8 | 1 Ionawr 2006 | 2005/3439 (C.144) |
Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf 2005 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru a Lloegr –
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1) 2007, O.S. 2005/1675 (C.69);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2007, O.S. 2005/2896 (C.122);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) 2005, O.S. 2005/3439 (C.144);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 4) 2006, O.S. 2006/656 (C.16);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2006, O.S. 2006/1002 (C.31).
Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi eu gwneud o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr–
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Lloegr) 2006, O.S. 2006/795 (C.19);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Lloegr) 2006, O.S. 2006/1361 (C.46);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Lloegr) 2006, O.S. 2006/2006 (C.69);
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 4) (Lloegr) 2007, O.S. 2007/1390 (C.15).
2005 p. 16. Back [1]
Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]
1990 p. 8. Back [3]
2003 p. 38. Back [4]
1993 p. 40. Back [5]
1996 p. 37. Back [6]