BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 No. 3562 (Cy. 312) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073562_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
17 Rhagfyr 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Rhagfyr 2007
Yn dod i rym
14 Ionawr 2008
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 14 Ionawr 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Dirymir y rheoliadau a geir yn Atodlen 1.
3. Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "absenoldeb nas awdurdodwyd" ("unauthorised absence") yw achlysur pan gofnodir bod disgybl yn absennol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995 ac mae "absenoldeb a awdurdodwyd" ("authorised absence") i'w ddehongli'n unol â hynny;
mae i "anghenion addysgol arbennig" yr ystyr a roddir i "special educational needs" gan adran 312 o Ddeddf 1996;
mae i "anhawster dysgu" yr ystyr a roddir i "learning difficulty" yn adran 312(2) o Ddeddf 1996(3);
ystyr "arholiadau TAG Safon Uwch" ("GCE "A" level examinations") ac "arholiadau TAG Uwch Gyfrannol" ("GCE "AS" examinations") yw arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol Safon Uwch ac arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol Uwch Gyfrannol, yn y drefn honno;
ystyr "blwyddyn ysgol" ("school year") yw'r cyfnod sy'n dechrau ar ddechrau'r tymor ysgol cyntaf sy'n dechrau ar ôl mis Gorffennaf, ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath sy'n dechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;
ystyr "cofrestr" ("register") yw'r gofrestr ddisgyblion a gedwir o dan adran 434(4) o Ddeddf 1996 ac yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(5);
ystyr "cydlynydd gwybodaeth" ("information collator") yw cydlynydd gwybodaeth yn ystyr adran 537A(9) o Ddeddf 1996, sef unrhyw gorff sydd yn gyfrifol, at ddibenion swyddogaethau addysg Gweinidogion Cymru neu mewn cysylltiad â hwy, am gydlynu neu wirio gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion;
ystyr "cyfeirnod gweithgaredd dysgu" ("learning activity reference") yw cyfuniad o rifau sydd, ynghyd â llythyren, yn cael eu dyrannu i gwrs astudiaeth neu weithgaredd dysgu arall ac sy'n benodol i'r cwrs hwnnw neu i'r gweithgaredd dysgu hwnnw, ac a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru;
ystyr "cyfnod allweddol" ("key stage") yw unrhyw un neu rai o'r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) yn y drefn honno o adran 103(1) o Ddeddf 2002 ac mae cyfeiriad at gyfnod allweddol un, dau neu dri yn gyfeiriad at y cyfnodau a nodir yn y drefn honno ym mharagraffau (a), (b) ac (c) o adran 103(1) a enwyd eisoes;
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996;
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002(6);
ystyr "disgybl chweched dosbarth" ("sixth form pupil") yw disgybl mewn ysgol, nad yw'n ysgol arbennig, sy'n cael addysg addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol;
ystyr "dyddiad gwahardd parhaol" ("permanent exclusion date") yw'r dyddiad y caiff enw disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol ei ddileu o'r gofrestr;
ystyr "gwybodaeth am ddisgyblion unigol" ("individual pupil information") yw gwybodaeth yn ystyr adran 537A(9) o Ddeddf 1996, sef gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion neu gyn-ddisgyblion unigol (mewn ysgolion yng Nghymru) ac sy'n eu henwi, p'un ai o dan adran 537A(1) o Ddeddf 1996 y cafwyd yr wybodaeth neu fel arall;
ystyr "GNVQ" ("GNVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;
mae i "plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol" yr ystyr a roddir i "child looked after by a local authority" gan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(7);
ystyr "Rhif unigryw disgybl" ("unique pupil number") yw cyfuniad o rifau sydd, ynghyd â llythyren neu lythrennau, yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru;
mae'r ymadrodd "sesiynau ysgol" ("school sessions") i'w ddehongli'n unol â rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Diwrnod Ysgol a Blwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(8);
ystyr "TGAU" ("GCSE") yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;
ystyr "wedi ei wahardd yn barhaol" ("permanently excluded") mewn perthynas â disgybl yw disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol o'r ysgol am resymau disgyblu;
ystyr "ysgol" ("school") yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ond nid yw'n cynnwys uned cyfeirio disgyblion; ac
mae i "ysgol arbennig" yr ystyr a roddir i "special school" gan adran 337 o Ddeddf 1996(9).
4. O fewn pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl cael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod addysg lleol y cynhelir ysgol ganddo, rhaid i'r corff llywodraethu roi i'r awdurdod ar ffurf sy'n ddarllenadwy gan beiriant, drwy wefan ddiogel ar y rhyngrwyd a ddarparwyd at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru, gymaint o'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn ag y gofynnir amdani felly.
5.–(1) At ddibenion adran 537A(4) o Ddeddf 1996, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi'r canlynol yn berson y caniateir iddynt ddarparu ar ei gyfer wybodaeth am ddisgyblion unigol–
(a) unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) isod; a
(b) unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (3) isod.
(2) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw–
(a) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol nas cynhelir felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir ynddi'r ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi;
(b) person sy'n dal Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty´s Chief Inspector of Education and Training in Wales;
(c) Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru; ac
(ch) y cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(10).
(3) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol i'r diben hwnnw.
(4) At ddibenion adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi'r canlynol yn berson y caniateir i gydlynydd gwybodaeth roi gwybodaeth iddo am ddisgyblion unigol fel a ganlyn–
(a) unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (6) isod; a
(b) unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (7) isod.
(5) Yr wybodaeth am ddisgyblion unigol y caniateir i gydlynydd gwybodaeth ei rhoi felly, ar yr adegau y byddo i Weinidogion Cymru benderfynu arnynt, yn unol ag adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, yw unrhyw wybodaeth o'r fath sy'n ymwneud â chyflawniadau addysgol disgyblion yn y canlynol–
(a) unrhyw asesiad Cwricwlwm Cenedlaethol a wneir o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol un, dau neu dri;
(b) unrhyw bynciau TGAU;
(c) unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch;
(ch) unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol;
(d) unrhyw bynciau GNVQ; ac
(dd) unrhyw gwrs astudio a ddarperir ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n gwrs sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru neu gan gorff a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(11) (ac eithrio cymhwyster o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod).
(6) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(a) uchod yw–
(a) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol nas cynhelir felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir ynddi'r ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi; a
(b) person sy'n dal Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty´s Chief Inspector of Education and Training in Wales.
(7) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol i'r diben hwnnw.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2007
(Rheoliad 2)
Rheoliadau a ddirymwyd | Cyfeirnodau | Graddau'r dirymu |
---|---|---|
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 | O.S 2003/3237 (Cy.317) | Y rheoliad yn gyfan |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 | O.S. 2004/549 (Cy.53) | Y rheoliad yn gyfan |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005 | O.S. 2005/35 (Cy.2) | Y rheoliad yn gyfan |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006 | O.S. 2006/30 (Cy.4) | Y rheoliad yn gyfan |
(Rheoliad 4)
1. Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl–
(a) Rhif unigryw cyfredol y disgybl ac, os bu gan yr ysgol rif unigryw blaenorol ar gyfer y disgybl hwnnw, y Rhif blaenorol;
(b) cyfenw;
(c) enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(ch) enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(d) rhyw;
(dd) dyddiad geni;
(e) grwp ethnig;
(f) hunaniaeth genedlaethol;
(ff) dyddiad derbyn y disgybl i'r ysgol; ac
(g) grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol yr addysgir y disgybl ynddo.
2. Cod post y cartref lle y mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.
3. A gafodd yr wybodaeth am grŵp ethnig a hunaniaeth genedlaethol y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon ei darparu gan–
(a) y disgybl;
(b) rhiant;
(c) yr ysgol;
(ch) ysgol flaenorol; neu
(d) unrhyw ffynhonnell arall.
4. Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.
5. A yw'r disgybl yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.
6. A gafodd yr wybodaeth am lefel rhugledd y disgybl yn y Gymraeg a ddarparwyd yn rhinwedd y Rhan hon ei darparu gan–
(a) y disgybl;
(b) rhiant;
(c) yr ysgol;
(ch) ysgol flaenorol; neu
(d) unrhyw ffynhonnell arall.
7. A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, ac eithrio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.
8. A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996(12), wedi gwneud cais am gael prydau bwyd am ddim yn yr ysgol ac wedi ei gael yn gymwys.
9. A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad ynghylch–
(a) prif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd;
(b) pa lefel a pha fath o ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig, sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â "Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru", a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r disgybl hwnnw; ac
(c) y cymorth a ddarperir.
10. Pan yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.
11. A yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, wedi bod yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol tra bu ar gofrestr yr ysgol, ac, os felly, enw'r awdurdod lleol yr oedd y disgybl yn derbyn gofal ganddo yn fwyaf diweddar.
12. Yn achos ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty a yw'r disgybl yn byrddio yn yr ysgol ac, os felly, a yw'r disgybl yn byrddio am saith noson yr wythnos neu am lai na saith noson yr wythnos.
13. A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol neu mewn mwy nag un ysgol ac, os yw'r disgybl wedi ei gofrestru'n ddisgybl mewn mwy nag un ysgol, a yw'r wybodaeth amdano yn cael ei llunio gan yr ysgol y mae'r disgybl yn ei mynychu am y rhan fwyaf o'i amser.
14. A yw'r disgybl yn ddisgybl rhan-amser ac, at ddibenion y paragraff hwn, ystyr "rhan-amser" ("part-time") yw bod y disgybl yn mynychu llai na deg sesiwn ysgol mewn unrhyw wythnos pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.
15. Yn achos ysgol nad yw'n ysgol arbennig, a yw'r disgybl yn cael addysg–
(a) mewn dosbarth meithrin;
(b) mewn dosbarth arbennig a ddynodwyd felly gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd felly gan yr ysgol; neu
(c) mewn dosbarth prif ffrwd nad yw wedi ei ddynodi'n ddosbarth arbennig gan yr awdurdod addysg lleol neu wedi ei drefnu'n ddosbarth arbennig gan yr ysgol.
16. Cyfanswm nifer y canlynol–
(a) sesiynau ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol pan oedd y disgybl yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(b) y sesiynau ysgol hynny yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaeth y disgybl eu mynychu; ac
(c) nifer yr absenoldebau a awdurdodwyd a'r absenoldebau nas awdurdodwyd ar gyfer y disgybl.
1. Yr wybodaeth ganlynol am bob person sydd yn ddisgybl chweched dosbarth yn yr ysgol neu a oedd yn ddisgybl chweched dosbarth yn yr ysgol ar unrhyw adeg flaenorol yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi'r cais am wybodaeth–
(a) a yw'r disgybl yn astudio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru;
(b) teitl pob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio; ac
(c) a sgriniwyd y disgybl i nodi unrhyw anghenion o ran sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a Rhif edd ar ddechrau ac ar ddiwedd ei raglen gweithgareddau dysgu yn y chweched dosbarth ac, os felly, o ran unrhyw sgiliau sylfaenol mewn perthynas â llythrennedd a Rhif edd–
(i) na chawsant eu hasesu oherwydd na nodwyd unrhyw sgiliau sylfaenol pan sgriniwyd y disgybl; neu
(ii) cawsant eu hasesu a nodwyd bod sgiliau sylfaenol y disgybl–
(aa) o dan lefel mynediad,
(bb) ar lefel mynediad 1,
(cc) ar lefel mynediad 2,
(chch) ar lefel mynediad 3,
(dd) ar lefel 1, neu
(dddd) yn uwch na lefel 1, neu
(iii) ni wyddys neu gwrthododd y disgybl gael ei asesu.
(ch) pa gymorth a gynigiwyd i'r disgybl a pha gymorth a dderbyniodd y disgybl pan aseswyd y disgybl o dan is-baragraff (c)(ii) a nodwyd bod sgiliau sylfaenol y disgybl o dan lefel mynediad 1.
2. Mewn perthynas â phob gweithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio–
(a) cyfeirnod y gweithgaredd dysgu;
(b) y dyddiad y dechreuodd y disgybl y gweithgaredd dysgu;
(c) y dyddiad y disgwylir i'r gweithgaredd dysgu ddod i ben;
(ch) enw darparwr y gweithgaredd dysgu;
(d) a gyflwynir y gweithgaredd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy gyfrwng y Saesneg, neu'n ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg;
(dd) a oes gan y disgybl anhawster dysgu neu anabledd, neu'r ddau, ac os felly a yw'r disgybl yn ymgymryd â gweithgaredd dysgu ar wahân neu weithgaredd dysgu prif ffrwd;
(e) a yw'r disgybl yn parhau i astudio'r gweithgaredd dysgu neu a yw wedi ei gwblhau neu wedi rhoi'r gorau iddo; ac
(f) p'un a yw'r disgybl wedi cwblhau'r gweithgaredd dysgu neu wedi rhoi'r gorau iddo, y dyddiad y cwblhaodd y disgybl y gweithgaredd dysgu neu y rhoddodd y gorau iddo ac a yw'r disgybl wedi dechrau astudio gweithgaredd dysgu newydd.
3. Yr wybodaeth ganlynol am ddisgybl a roddodd y gorau i fynychu chweched dosbarth yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi'r cais am wybodaeth–
(a) y dyddiad y gadawodd y disgybl yr ysgol; a
(b) y rheswm pam y gadawodd y disgybl yr ysgol, os yw'n hysbys.
1. Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol o'r ysgol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd parhaol yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth–
(a) Rhif unigryw cyfredol disgybl;
(b) cyfenw;
(c) enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(ch) enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(d) rhyw;
(dd) dyddiad geni; ac
(e) y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad parhaol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 ac yn eu hailddeddfu'n sylweddol fel y'u diwygiwyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, pan fydd cais ysgrifenedig yn dod i law oddi wrth yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, gyflenwi, o fewn pedair diwrnod ar ddeg, y cyfryw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen ag y bydd yr awdurdod yn gofyn amdano mewn cysylltiad â disgyblion yn yr ysgol.
Mae rheoliad 5 yn rhagnodi'r personau y caniateir i Weinidogion Cymru roi gwybodaeth iddynt am ddisgyblion unigol o dan adran 537A(4) o Ddeddf Addysg 1996, a'r wybodaeth am ddisgyblion unigol y caniateir i "gydlynwyr gwybodaeth" ei darparu. O gymhwyso i Gymru y diffiniad o gydlynydd gwybodaeth a geir yn adran 537A(9) o Ddeddf Addysg 1996, cydlynydd gwybodaeth yw unrhyw gorff sydd yn gyfrifol, at ddibenion swyddogaethau addysg Gweinidogion Cymru neu mewn cysylltiad â'r swyddogaethau hynny, am gydlynu neu wirio gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion. Mae'r wybodaeth y mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu iddynt ei darparu yn ymwneud â chyflawniadau addysgol disgyblion mewn unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch, unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol, unrhyw bynciau GNVQ ac mewn unrhyw gwrs astudiaeth a ddarperir ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac sy'n gwrs sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru neu gan gorff a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac fe'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraff 153. Back [1]
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
Fel y'i diwygiwyd gan baragraffau 1 a 56 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) a chan baragraffau 2 a 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Diwygiwyd is-adran (2)(c) gan baragraffau 23(a) a (b) o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44). Back [3]
Diwygiwyd is-adran (4)(c)(i) gan baragraff 111(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diddymwyd is-adran (4)(c)(ii) gan baragraff 111(b) o Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Back [4]
O.S. 1995/2089. Back [5]
2002 p.32. Back [6]
1989 p.41. Diwygiwyd adran 22(1)(b) gan baragraff 19 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), a chan adran 2(1) a (2) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35), a chan adran 116(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38). Back [7]
O.S. 2003/3231 (Cy.311). Back [8]
Amnewidiwyd adran 337 gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Back [9]
1973 p.50. Amnewidiwyd adran 2 gan adran 25(1) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19). Diddymwyd adran 2(4) a (6) gan Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38). Mewnosodwyd adran 2(3A) a (3B) gan adran 47(1) o Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19). Amnewidiwyd adrannau 8 a 10 gan adran 45 o Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993. Back [10]
2000 p.21. Diddymwyd is-adrannau 6 a 7 gan erthygl 9(1), paragraff 30 o Atodlen 1 i Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005, O.S. 2005/3239 (Cy.244). Back [11]
Amnewidiwyd adrannau 512 a 512ZB gan adran 202(1) o Ddeddf 2002. Back [12]