BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007 No. 3565 (Cy. 315) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073565_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
17 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 32(3) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007.
2. Daw adran 18(5) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 i rym ar 23 Rhagfyr 2007.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007(1) ac fe ddaw ag adran 18(5) o'r Ddeddf honno i rym ar 23 Rhagfyr 2007. Mae adran 18(5) yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru lunio datganiad polisi am arferiad eu pwerau o dan adran 57 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2) ("Deddf 1992"), adolygu'r datganiad hwnnw yn rheolaidd ac, os ydynt yn barnu bod hynny'n briodol, ddiwygio'r datganiad hwnnw. Mae adran 18(5) yn darparu hefyd bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth lunio neu ddiwygio'r datganiad hwnnw, ymgynghori fel y maent yn barnu ei bod yn briodol ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir iddynt am y polisi sydd i'w nodi yn y datganiad. Ar ben hynny, rhaid i Weinidogion Cymru osod y datganiad (neu'r datganiad diwygiedig) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cyhoeddi'r datganiad (neu'r datganiad diwygiedig) a rhoi sylw i'r datganiad a gyhoeddwyd ddiweddaraf wrth arfer (neu benderfynu ar arfer) unrhyw un o'u pwerau o dan adran 57 o Ddeddf 1992 mewn perthynas â sefydliad.