BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2008 No. 538 (Cy. 51)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080538_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2008

Gwnaed

26 Chwefror 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Chwefror 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2008.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr "addysg uwch" ("higher education") yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a geir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(3);

ystyr "Aelod-wladwriaeth" ("Member State") yw un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;

ystyr "Blwyddyn Academaidd 2008/2009" ("Academic Year 2008/2009") yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 1 Medi 2008, 1 Ionawr 2009, 1 Ebrill 2009 neu 1 Gorffennaf 2009, yn ôl a yw blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 a chyn 1 Ionawr 2009, ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 a chyn 1 Ebrill 2009, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009 a chyn 1 Gorffennaf 2009 neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2009 a chyn 1 Medi 2009;

ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau rheoliadau 9 i 12 yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas ag ef at ddibenion deddfwriaeth treth incwm sy'n gymwys i incwm y person hwnnw;

ystyr "blwyddyn ariannol flaenorol" ("preceding financial year") yw'r flwyddyn ariannol sydd yn union o flaen y flwyddyn berthnasol;

ystyr "blwyddyn berthnasol" ("relevant year") yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;

ystyr "cwrs dynodedig" ("designated course") yw cwrs a ddynodwyd fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac mae'r cyfryw gwrs yn cynnwys addysg (ac eithrio addysg uwch) neu hyfforddiant sy'n gwrs neu'n rhaglen astudio ac–

(a)

sy'n ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr fynychu sefydliad addysg bellach neu fangre darparydd arall ym maes addysg neu hyfforddiant, a

(b)

sy'n cael ei ariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Cyngor Dysgu a Sgiliau o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, neu sy'n cael ei ariannu gan awdurdod cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu addysg (ac eithrio addysg uwch) a hyfforddiant sy'n addas at ofynion personau 19 oed neu drosodd o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

ystyr "cyfnod o astudio llawnamser" ("period of full time study") yw cyfnod o astudio ar un neu fwy o gyrsiau dynodedig sy'n gyfnod o 500 neu fwy o oriau cyswllt yn ystod y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw;

ystyr "cyfnod o astudio rhan-amser" ("period of part-time study") yw cyfnod o astudio ar un neu fwy o gyrsiau dynodedig sy'n gyfnod o ddim llai na 275 o oriau cyswllt nac o ddim mwy na 499 o oriau cyswllt yn ystod y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw;

ystyr "incwm gweddilliol" ("residual income") yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso rheoliad 9 (yn achos myfyriwr cymwys), rheoliad 10 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), rheoliad 11 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu reoliad 12 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys);

mewn perthynas â rheoliad 9, ystyr "incwm trethadwy" ("taxable income"), o ran Blwyddyn Academaidd 2008/2009 ac, mewn perthynas â rheoliad 10, o ran y flwyddyn ariannol flaenorol (yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5) o reoliad 10) yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi ei gyfrifiannu fel pe bai at ddibenion–

(i)

y Deddfau Treth Incwm;

(ii)

deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu

(iii)

os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall yn rheoliad 10);

mae i'r ymadrodd "incwm yr aelwyd" ("household income") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 8;

mae i'r ymadrodd "myfyriwr cymwys" ("eligible student") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3;

mae i'r ymadrodd "myfyriwr cymwys annibynnol" ("independent eligible student") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 13;

ystyr "oriau cyswllt" ("contact hours") yw'r cyfnod o amser a fynegir mewn oriau ac y mae myfyriwr cymwys yn cael addysg neu oruchwyliaeth mewn perthynas ag ef yn ystod cyfnodau astudio neu ymarfer;

ystyr "partner" ("partner") mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol–

(i)

priod myfyriwr cymwys;

(ii)

partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo pan fo'r myfyriwr cymwys yn dod o dan reoliad 13(1)(a);

(iv)

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod â'r myfyriwr cymwys;

ystyr "partner" ("partner") mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol ac eithrio rhiant arall i'r myfyriwr cymwys–

(i)

priod rhiant myfyriwr cymwys;

(ii)

partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;

(iii)

person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod â'r rhiant;

(iv)

person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;

ystyr "Rheoliadau 2007" (the 2007 Regulations") yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007(4) fel y'u diwygiwyd neu y'u disodlwyd; ac

ystyr "rhiant" ("parent") yw rhiant naturiol neu fabwysiadol.

Cymhwystra

3.–(1) Mae myfyriwr cymwys yn gymhwysol i gael Grant Dysgu'r Cynulliad mewn cysylltiad â chyfnod o astudio llawnamser neu gyfnod o astudio rhan-amser yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2) Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig:

(a) os bydd Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais y person am gymorth, yn canfod ei fod yn dod o dan un o'r categorïau a geir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007;

(b) os nad yw'r person hwnnw'n cael ei wahardd gan baragraff (3); ac

(c) os yw'r person wedi cyrraedd 19 oed ar 1 Medi 2008 neu cyn y dyddiad hwnnw.

(3) Ni fydd person yn fyfyriwr cymwys:

(a) os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007 y mae'n dod oddi tano;

(b) os yw'r myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos ei fod yn an-ffit oherwydd ei ymddygiad i gael Grant Dysgu'r Cynulliad;

(c) os yw'r myfyriwr eisoes wedi cael Grant Dysgu'r Cynulliad mewn perthynas â mynychu unrhyw gwrs yn ystod Blwyddyn Academaidd 2008/2009; neu

(ch) os rhoddwyd i'r person neu os talwyd iddo mewn perthynas â mynychu'r cwrs–

(i) bwrsari gofal iechyd;

(ii) bwrsari gan Goleg Harlech neu fwrsari cwrs-hir cyfatebol a ddarparwyd gan y Pwyllgor Colegau Preswyl neu gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach yr Alban;

(iii) cyllid ar wahân gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn cysylltiad â Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith; neu

(iv) y cyfryw gymorth ariannol arall o gronfeydd cyhoeddus yn ôl penderfyniad Gweinidogion Cymru.

Dilyniant academaidd

4.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu Grant Dysgu'r Cynulliad i fyfyriwr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2008/2009 neu ran o'r flwyddyn academaidd honno onid oes sail resymol iddynt fod yn fodlon bod y cyfnod o astudio o dan sylw yn golygu dilyniant academaidd i'r myfyriwr o'i gymharu â'r astudiaethau a ddilynodd y myfyriwr mewn blynyddoedd academaidd blaenorol.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu Grant Dysgu'r Cynulliad i fyfyriwr am flwyddyn academaidd sy'n cael ei hail-wneud os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn ail-wneud blwyddyn academaidd flaenorol na allodd y myfyriwr ei chwblhau am resymau personol cadarn.

Trosglwyddiadau

5. Pan fo myfyriwr sydd â hawl i gael Grant Dysgu'r Cynulliad yn unol â'r Rheoliadau hyn yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall sy'n gyfnod o astudio llawnamser neu'n gyfnod o astudio rhan-amser yn ystod Blwyddyn Academaidd 2008/2009, caiff Gweinidogion Cymru dalu Grant Dysgu'r Cynulliad i'r myfyriwr hwnnw am weddill Blwyddyn Academaidd 2008/2009, ac eithrio-

(a) os oes sail resymol i Weinidogion Cymru fod yn fodlon nad yw'r cwrs newydd yn golygu dilyniant academaidd i'r myfyriwr o'i gymharu â'r cwrs y mae wedi trosglwyddo ohono; a

(b) os yw'r myfyriwr yn ymrestru i ddilyn y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo fwy nag 20 wythnos ar ôl dechrau'r cwrs blaenorol,

na fydd unrhyw Grant Dysgu'r Cynulliad yn daladwy.

Ceisiadau

6.–(1) Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn drwy gwblhau a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar y cyfryw ffurf ac ynghyd â'r cyfryw ddogfennaeth ac erbyn y cyfryw amser ag y byddo Gweinidogion Cymru yn eu gwneud yn ofynnol.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd y cyfryw gamau a gwneud y cyfryw ymholiadau ag y maent o'r farn eu bod yn angenrheidiol i ganfod a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a yw'r ceisydd yn gymhwysol i gael cymorth a faint o gymorth sy'n daladwy, os o gwbl.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd ynghylch a yw'r ceisydd yn gymhwysol i gael cymorth ac os yw'r ceisydd yn gymhwysol, swm y cymorth sy'n daladwy, os o gwbl, mewn cysylltiad â'r Flwyddyn Academaidd 2008/2009.

Hawlogaeth i gael grant

7.–(1) Bydd myfyriwr cymwys sy'n gymhwysol i gael cymorth mewn cysylltiad â chyfnod o astudio llawnamser yn unol â'r Rheoliadau hyn yn cael swm fel a ganlyn–

(a) os £5,745 neu lai yw incwm yr aelwyd, bydd yn cael £1,500;

(b) os bydd incwm yr aelwyd yn fwy na £5,745 ond heb fod yn fwy nag £11,490, bydd yn cael £750; ac

(c) os bydd incwm yr aelwyd yn fwy nag £11,490 ond heb fod yn fwy na £17, 250 bydd yn cael £450.

(2) Bydd myfyriwr cymwys sy'n gymhwysol i gael cymorth mewn cysylltiad â chyfnod o astudiaeth ran-amser yn unol â'r Rheoliadau hyn yn cael swm fel a ganlyn–

(a) os £5,745 neu lai yw incwm yr aelwyd, bydd yn cael £750;

(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £5,745 ond heb fod yn fwy nag £11,490, bydd yn cael £450; ac

(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy nag £11, 490 ond heb fod yn fwy na £17, 250 bydd yn cael £300.

Incwm yr aelwyd

8.–(1) Cyfrifir incwm yr aelwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn yn unol â'r rheoliad hwn ac â rheoliadau 9 i 12.

(2) Incwm yr aelwyd–

(a) yn achos myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol–

(i) yw incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys, neu

(ii) yw incwm gweddilliol rhiant y myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i reoliad 10(9)) wedi ei agregu ag incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr cyhyd â bod Gweinidogion Cymru wedi dethol y rhiant hwnnw o dan reoliad 10(9),

p'un bynnag o'r ddau incwm yw'r uchaf;

(b) yn achos myfyriwr cymwys annibynnol sydd â phartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys neu incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys, p'un bynnag o'r ddau incwm yw'r uchaf; neu

(c) yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys.

Cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys

9.–(1) Ac eithrio pan fo'r myfyriwr yn ymgymryd â chwrs dynodedig sy'n gyfnod o astudio rhan-amser, er mwyn canfod incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (onid yw eisoes wedi ei ddidynnu wrth ganfod incwm trethadwy) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o dan unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol–

(a) unrhyw gydnabyddiaeth am waith a wnaed yn ystod y flwyddyn berthnasol, ar yr amod nad yw'r gydnabyddiaeth honno'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan fydd wedi ei ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn iddo fynychu'r cwrs hwnnw;

(b) cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(5), neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(6), neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(2) Os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007 y mae myfyriwr cymwys yn dod oddi tano a bod ei incwm yn deillio o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i ffynonellau neu ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007, nid yw ei incwm yn cael ei ddiystyru yn unol â paragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei ddiystyru i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'r myfyriwr yn cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007 ei drin pe bai mewn amgylchiadau tebyg a chanddo incwm tebyg.

(3) Pan fo'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfred ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw–

(a) os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;

(b) fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd am y mis y daeth i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(7).

Cyfrifo incwm gweddilliol rhiant

10.–(1) At ddibenion canfod incwm trethadwy rhiant myfyriwr cymwys, nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir-

(a) ar ffurf rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhadau personol tebyg;

(b) yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, na thrinnir taliadau oddi tano neu oddi tani, sy'n daliadau a fyddai fel arall yn rhan o incwm person o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, fel taliadau o'r fath; neu

(c) o dan baragraff (2),

yn cael eu gwneud na'u caniatáu.

(2) At ddibenion canfod incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan baragraff (1) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o dan unrhyw un neu rai o'r is-baragraffau canlynol–

(a) cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y rhoddir rhyddhad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm o'r fath y rhoddid rhyddhad mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;

(b) mewn unrhyw achos lle y mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd paragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllir ym mharagraff (2)(a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir felly'n fwy na'r didyniadau a wneid pe byddai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;

(3) Os bydd Gweinidogion Cymru'n fodlon bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau'n union cyn y flwyddyn berthnasol ("y flwyddyn ariannol gyfredol"), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o fod yn llai na gwerth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol i'r graddau y byddai'n effeithio ar hawlogaeth y myfyriwr pe byddai hawlogaeth i'w seilio ar y flwyddyn ariannol gyfredol, cânt, at ddibenion galluogi'r myfyriwr cymwys i fynychu'r cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4) Os bydd Gweinidogion Cymru'n fodlon bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o fod, ac o barhau i fod ar ôl y flwyddyn honno, yn llai na gwerth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, i'r graddau y byddai'n effeithio ar hawlogaeth y myfyriwr pe bai hawlogaeth i'w seilio ar y flwyddyn ariannol bresennol, cânt, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fynychu'r cwrs heb ddioddef caledi, sicrhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr cymwys y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y rhiant ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n dod oddi mewn iddi yn incwm gweddilliol y rhiant.

(5) Os bydd rhiant y myfyriwr cymwys yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn deillio o elw busnes y mae'n ei redeg neu broffesiwn y mae'n ei ddilyn, yna ystyr unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at flwyddyn ariannol flaenorol yw'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y mae cyfrifon sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw neu â'r proffesiwn hwnnw'n cael eu cadw mewn cysylltiad ag ef.

(6) Os bydd gan riant myfyriwr cymwys unrhyw incwm nad yw'n rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond oherwydd–

(a) nad yw'n preswylio, fel arfer yn preswylio, neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall;

(b) nad yw'r incwm yn deillio yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall; neu

(c) bod yr incwm yn deillio o swydd, gwasanaeth neu o gyflogaeth, y mae incwm sy'n deillio ohoni neu ohono'n esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

bydd ei incwm trethadwy at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai'r incwm o dan y paragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

(7) Os bydd incwm rhiant y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, caiff ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn arian cyfred yr Aelod-wladwriaeth honno ac incwm rhiant y myfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fydd gwerth sterling yr incwm hwnnw a ganfyddir yn unol â'r gyfradd am y mis y digwydd diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw ynddo, fel y'i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8) Os bydd farw un o rieni'r myfyriwr cymwys naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi ei gymryd i ystyriaeth neu y byddai'n cael ei gymryd i ystyriaeth er mwyn canfod incwm yr aelwyd, bydd incwm yr aelwyd fel a ganlyn–

(a) os bydd farw'r rhiant cyn y flwyddyn berthnasol, fe'i canfyddir drwy gyfeirio at incwm y rhiant sy'n goroesi; neu

(b) os bydd farw'r rhiant yn ystod y flwyddyn berthnasol, bydd yn agregiad–

(i) o'r gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn dal yn fyw; a

(ii) o'r gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y rhiant sy'n goroesi, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.

(9) Os bydd Gweinidogion Cymru'n canfod nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru.

(10) Os bydd Gweinidogion Cymru'n canfod bod y rhieni heb fod fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at agregiad y canlynol–

(a) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir yn unol â pharagraff (9), sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan nad yw'r rhieni'n byw gyda'i gilydd felly; a

(b) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir fel arall mewn cysylltiad â gweddill y flwyddyn berthnasol.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys

11.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4) o'r rheoliad hwn a chan eithrio paragraffau (8), (9) a (10) o reoliad 10, canfyddir incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 10, gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.

(2) Os bydd Gweinidogion Cymru'n canfod nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, ni chymerir i ystyriaeth incwm y partner wrth ganfod incwm yr aelwyd.

(3) Os bydd Gweinidogion Cymru'n canfod bod y myfyriwr cymwys a'i bartner heb fod fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm gweddilliol y partner drwy gyfeirio at ei incwm gweddilliol o dan baragraff (1) wedi ei rannu â hanner cant a dau a'i luosi â nifer yr wythnosau cyfan yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru'n canfod bod y myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd.

(4) Os bydd gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un ohonynt.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant

12. Canfyddir incwm gweddilliol partner rhiant myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd rheoliad 8(2)(a) yn unol â rheoliad 11, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys a chyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys.

Myfyriwr cymwys annibynnol

13.–(1) At ddiben y Rheoliadau hyn mae myfyriwr cymwys annibynnol yn fyfyriwr cymwys ym mhob achos–

(a) os yw'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(b) os yw'n briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal mewn bodolaeth ai peidio;

(c) os nad oes ganddo riant yn dal yn fyw;

(ch) os bydd Gweinidogion Cymru'n fodlon nad oes modd dod o hyd i'r naill na'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol dod i gysylltiad â'r naill na'r llall ohonynt;

(d) os nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu os bydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn gallu dangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd nad oes modd cymodi;

(dd) os bu'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn yr ystyr yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989(8) drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn diweddu ar neu ar ôl y dyddiad y cafodd ei ben blwydd yn 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ("y cyfnod perthnasol") ar yr amod nad yw wedi bod o dan awdurdod neu reolaeth ei rieni mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol;

(e) os bydd ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru'n fodlon naill ai–

(i) y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

(ii) na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny, o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan reoliad 8, anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig;

(f) os bydd rheoliad 10(9) yn gymwys a bod y rhiant mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw ym marn Gweinidogion Cymru wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);

(ff) os bydd yn aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;

(g) os bydd–

(i) yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

(ii) wedi gofalu am berson o dan 18 oed ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs presennol cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(ng) os bydd wedi ei gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod agregiad y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, a'i fod, at ddibenion y paragraff hwn, yn cael ei drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod–

(i) pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant i'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed genedlaethol, rhanbarthol neu leol ("awdurdod perthnasol");

(ii) pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;

(iii) pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglyn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer cael hyfforddiant neu fudd-dal;

(iv) pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth neu ddyfarniad tebyg;

(v) pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd gwelyfod, anaf neu salwch.

Mynychu

14.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru ailgyfrifo hawlogaeth ceisydd i gael Grant Dysgu'r Cynulliad yn unol â pharagraff (2) os na fydd y ceisydd wedi mynychu'n foddhaol gwrs dynodedig y gwnaeth gais am Grant Dysgu'r Cynulliad mewn cysylltiad ag ef.

(2) Dyma'r fformiwla ar gyfer ailgyfrifo–

(3) Yn y Rheoliad hwn–

ystyr "GDC"("ALG") yw hawlogaeth i gael Grant Dysgu'r Cynulliad a gyfrifir yn unol â rheoliad 7;

ystyr "mynychu gwir" ("actual attendance") yw nifer y dyddiau y mynychodd y ceisydd ac yr hysbysodd y sefydliad sy'n cyflwyno'r cwrs Weinidogion Cymru ohonynt, ac eithrio unrhyw nifer o ddyddiau heb fod uwchlaw 60 pan fu'r ceisydd yn absennol oherwydd salwch;

ystyr "mynychu posibl" ("possible attendance") yw nifer y dyddiau y mae'n ofynnol mynychu'r cwrs o'r diwrnod cyntaf i'r diwrnod olaf.

Talu Grant Dysgu'r Cynulliad

15.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant y mae myfyriwr yn gymhwysol i'w gael o dan y Rheoliadau hyn a hynny yn y cyfryw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y maent o'r farn eu bod yn briodol ac, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y rheoliad hwn, cânt wneud taliadau dros dro hyd oni cheir cyfrifiad terfynol o swm y grant y mae'r myfyriwr yn gymhwysol i'w gael.

(2) Caniateir i daliadau gael eu gwneud yn y cyfryw fodd ag sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys roi i Weinidogion Cymru fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Gordaliadau

16. Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud hynny'n ofynnol, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rheoliadau hyn ac sydd, am ba reswm bynnag, yn fwy na swm Grant Dysgu'r Cynulliad y mae ganddo hawl iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

26 Chwefror 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu grant ar sail prawf moddion i fyfyrwyr mewn addysg ôl-orfodol sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg bellach dynodedig yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 i'w helpu i dalu costau astudio. Bydd y grant ar gael i fyfyrwyr cymwys p'un ai yng Nghymru neu yn rhywle arall yn y DU y byddant yn dewis astudio.

Daw'r Rheoliadau i rym ar 1 Ebrill 2008 ac maent yn gymwys mewn cysylltiad â grantiau ar gyfer y flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 ond cyn 1 Medi 2009.

Mae canllawiau manwl ar weithredu'r Rheoliadau wedi eu paratoi. Gellir cael copïau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Cyllid Myfyrwyr, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adrannau 146, 153 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), adrannau 722, 723 ac Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42, 43, 50, 52 ac Atodlen 7. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), adran 148 ac Atodlen 12 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8) adran 49 ac Atodlen 6. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Gweler Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

1988 p.40. Back [3]

(4)

O.S. 2007/1045 (Cy.104). Back [4]

(5)

1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), adran 35 ac Atodlen 3, paragraff 10; Deddf Treth Incwm (Masnachu ac Incwm Arall) 2005 (p.5), adrannau 882 ac 883 ac Atodlen 1, Deddf Cyllid 2004 (p.12), adran 281 ac Atodlen 35, Deddf Treth Incwm 2007 (p.3), adran 1027 ac Atodlen 1 a Rheoliadau Treth a Phartneriaethau Sifil 2005 (O.S. 2005/3229), rheoliadau 17 a 59. Back [5]

(6)

2004 p.12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11) adrannau 68, 69, 114 ac Atodlenni 18 ac 19. Back [6]

(7)

Financial Statistics (ISSN 0015-203X) Back [7]

(8)

1989 p.41; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 107 ac Atodlen 5, Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35), adran 2, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38), adran 116 a Deddf Plant 2004 (p.31), adran 52. Back [8]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080538_we_1.html