BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Powys (Cymunedau) 2008 No. 584 (Cy. 58) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080584_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
2 Mawrth 2008
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2) a (3)
3.Glyn Tarell ac Aberhonddu – newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
5.Llanfair-ym-Muallt a Duhonwy – newid mewn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
6.Llanigon a'r Gelli Gandryll – newid mewn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
7.Glyn Tarell a Llanfrynach – newid mewn ardaloedd cymunedol
8.Ystradfellte a Thawe Uchaf – newid mewn ardaloedd cymunedol
9.Llanfair Caereinion a Chastell Caereinion – newid mewn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
10.Yr Ystog a Cheri – newid mewn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
11.Y Drenewydd a Llanllwchaearn – newid mewn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
12.Llansanffraid a Llangedwyn – newid mewn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
13.Llangurig a Llanidloes – newid mewn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
14.Yr Ystog a Threfaldwyn – newid mewn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
15.Trefyclo a Chwityn – newid mewn ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
16.Llanrhaeadr-ym-Mochnant – uno'r cymunedau presennol i greu cymuned newydd a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol
Gan fod Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, ac yntau wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), adroddiad dyddiedig Gorffennaf 2007 ar adolygiad o gymunedau a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Powys, ynghyd â chynigion a luniwyd gan y Comisiwn arnynt;
A chan fod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu;
A chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru;
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd bellach ynddynt i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Powys (Cymunedau) 2008.
(2) At unrhyw ddiben a ddisgrifir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn yn weithredol ar y diwrnod ar ôl diwrnod ei wneud.
(3) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2008, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
2. Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "newydd" ("new"), o ran ardal llywodraeth leol neu adran etholiadol, yw'r ardal honno fel y'i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
ystyr "presennol" ("existing"), o ran ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw'r ardal honno fel ag y mae hi yn union cyn y diwrnod penodedig;
ystyr "y Rheoliadau" ("the Regulations") yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3);
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o'r 14 o fapiau sydd wedi'u marcio "Mapiau Gorchymyn Powys (Cymunedau) 2008", sy'n dwyn y label priodol o "A" i "N" at ddibenion cyfeirio ac sydd wedi'u hadneuo'n unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at un o adrannau etholiadol sir Powys; ac
os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dwr neu nodwedd daearyddol tebyg, mae i'w drin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3. Mae'r rhan o gymuned Glyn Tarell a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap A–
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Aberhonddu;
(b) yn rhan o ward Dewi Sant y Tu Mewn cymuned Aberhonddu; ac
(c) yn rhan o adran etholiadol Dewi Sant y Tu Mewn.
4. Mae'r rhan o gymuned Cwm Grwyne a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap B wedi'i throsglwyddo i gymuned Crucywel.
5. Mae'r rhan o gymuned Llanfair-ym-Muallt a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap C–
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Duhonwy; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Llanafan Fawr.
6. Mae'r rhan o gymuned Llanigon a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap D–
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned y Gelli Gandryll; a
(b) yn rhan o adran etholiadol y Gelli Gandryll.
7. Mae'r rhan o gymuned Glyn Tarell a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap E wedi'i throsglwyddo i gymuned Llanfrynach.
8. Mae'r rhan o gymuned Ystradfellte a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap F wedi'i throsglwyddo i gymuned Tawe Uchaf.
9. Mae'r rhan o gymuned Llanfair Caereinion a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap G–
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Castell Caereinion; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Cegidfa.
10. Mae'r rhan o gymuned yr Ystog a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap H –
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Ceri; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Ceri.
11. Mae'r rhan o gymuned y Drenewydd a Llanllwchaearn a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap I–
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Llandysul; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Dolforwyn.
12. Mae'r rhan o gymuned Llansanffraid a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap J –
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Llangedwyn; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant/Llansilin.
13. Mae'r rhan o gymuned Llangurig a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap K –
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Llanidloes; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Llanidloes.
14. Mae'r rhan o gymuned yr Ystog a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap L –
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Trefaldwyn; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Trefaldwyn.
15. Mae'r rhan o gymuned Trefyclo a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap M –
(a) wedi'i throsglwyddo i gymuned Chwityn; a
(b) yn rhan o adran etholiadol Llangynllo.
16.–(1) Mae cymunedau presennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Glyndwr) a Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Sir Drefaldwyn) wedi'u huno ac yn ffurfio cymuned newydd a elwir Llanrhaeadr-ym-Mochnant, sef yr ardal a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap N.
(2) Mae cymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn rhan o adran etholiadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant/Llansilin(4) ac un cynghorydd sir fydd ganddi o hyd.
(3) Gelwir adran etholiadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant(5) yn Llanwddyn ac fe'i ffurfir o gymunedau Llangynog, Llanwddyn a Phen-y-bont-fawr ac un cynghorydd sir fydd ganddi o hyd.
17.–(1) Mae cynghorau cymunedau presennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Glyndwr) a Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Sir Drefaldwyn) i'w diddymu.
(2) Bydd cyngor ar gyfer cymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
(3) Bydd unrhyw berson sydd yn union cyn y diwrnod penodedig mewn swydd fel cynghorydd i gymuned bresennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Glyndwr) neu gymuned bresennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Sir Drefaldwyn) yn gynghorydd, ar ac ar ôl y diwrnod penodedig, i gymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
(4) O'r pedwerydd diwrnod ar ôl etholiad cyffredin cynghorwyr yn 2008, un ar ddeg fydd nifer cynghorwyr cymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
(5) Mae cynghorwyr cymunedol i gymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant i'w hethol ar ddiwrnod etholiad cyffredin cynghorwyr yn 2008. Mae'r personau a etholir i gychwyn ar eu swydd ar y pedwerydd diwrnod ar ôl hynny ac i ymddeol ohoni ar y pedwerydd diwrnod ar ôl etholiad cyffredin cynghorwyr yn 2012.
(6) Mae cyfarfod blynyddol 2008 cyngor cymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant i'w gynnull gan y swyddog a benodwyd i'r perwyl hwnnw gan Gyngor Sir Powys.
18. O ran cynghorau cymuned presennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Glyndwr) a Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Sir Drefaldwyn) at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau sy'n cyfeirio at olynydd gweddilliol awdurdod a ddiddymwyd, mae cyngor cymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant drwy hyn wedi'i bennu'n olynydd gweddilliol.
19.–(1) Mae papurau penodedig cymunedau presennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Glyndwr) a Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Sir Drefaldwyn) i'w hadneuo drwy eu rhoi yng ngofal cyngor cymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr "papurau penodedig" ("specified papers") yw llyfrau, ysgrifau a phapurau cyhoeddus cymunedau presennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Glyndwr) a Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Sir Drefaldwyn) a'r holl ddogfennau y mae'r gyfraith yn cyfarwyddo eu cadw yn ychwanegol atynt.
20.–(1) Yn yr erthygl hon–
ystyr "yr awdurdod bilio arfaethedig" ("the prospective billing authority") yw Cyngor Sir Powys;
ystyr "y cyngor cymuned newydd" ("the new community council") yw cyngor cymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant;
ystyr "Deddf 1992" ("the 1992 Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(6);
ystyr "y flwyddyn ariannol berthnasol" ("the relevant financial year") yw'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008;
ystyr "Rheoliadau 1995" ("the 1995 Regulations") yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Praeseptau) (Cymru) 1995(7).
(2) Mae adran 41 o Ddeddf 1992 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) yn cael effaith–
(a) o ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol berthnasol; a
(b) parthed y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008 ac sy'n dod i ben yn union cyn y diwrnod y dyroddir gan y gymuned newydd braesept am y flwyddyn ariannol berthnasol, drwy roi yn lle is-adran (3) yr is-adran ganlynol–
"(3) In making calculations in accordance with section 32 above (originally or by way of substitute) the billing authority shall take into account for the purposes of its estimate under section 32(2)(a) above an amount equal to that specified in article 20(6) of the Powys (Communities) Order 2008.".
(3) O ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol gyfredol –
(a) mae adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau bilio) yn cael effaith gan hepgor is-adran (6);
(b) mae adran 41(4) o Ddeddf 1992 yn cael effaith drwy roi yn lle'r geiriau "March in the financial year preceding that for which it is issued" y geiriau "October in the financial year for which it is issued"; a
(c) mae'r cyfeiriad yn adran 54(4) o Ddeddf 1992 (pŵer i ddynodi awdurdodau) at braesept a ragwelir gan awdurdod bilio yn unol â rheoliadau o dan adran 41 o Ddeddf 1992 i'w ddehongli fel cyfeiriad at y swm a bennir ym mharagraff (6) o'r erthygl hon.
(4) O ran y swm a gymerir i ystyriaeth at ddibenion adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992 yn rhinwedd paragraff (2) uchod, bydd Pennod III o Ran I o Ddeddf 1992 (pennu'r dreth gyngor) yn cael effaith fel petai–
(a) y swm yn eitem a grybwyllwyd yn adran 35(1) o Ddeddf 1992 (eitemau arbennig) a oedd yn ymwneud â'r gymuned newydd; a
(b) ardal y darpar awdurdod bilio yn cynnwys y gymuned newydd.
(5) Rhaid i'r cyngor cymuned newydd wneud y cyfrifiadau sy'n ofynnol gan adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau praeseptio lleol) am y flwyddyn ariannol berthnasol er mwyn sicrhau na fydd y swm a gaiff ei gyfrifo fel ei angen cyllideb am y flwyddyn honno yn fwy na'r swm a bennir ym mharagraff (6) o'r erthygl hon.
(6) Chwe mil dau gant ac un ar bymtheg o bunnoedd yw'r swm a bennir yn y paragraff hwn.
(7) O ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol berthnasol, mae Rheoliadau 1995 yn cael effaith fel petai–
(a) rheoliad 5 (gwybodaeth am amserlenni talu) wedi'i hepgor; a
(b) yn is-baragraffau (1), (2) a (3) o baragraff 8 o Ran II o'r Atodlen (rheolau i benderfynu'r cyfnodau amser ar gyfer rhandaliadau) ym mhob achos yr ail "or" a'r geiriau sy'n dilyn hyd at ddiwedd pob is-baragraff,
wedi'u hepgor.
21. Mae cymunedau presennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Glyndwr) a Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Sir Drefaldwyn) drwy hyn wedi'u pennu o ran rheoliad 41(4) o'r Rheoliadau (deddfau, gorchmynion ac is-ddeddfau lleol) a chymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant drwy hyn wedi'i phennu o ran y cymunedau presennol hynny.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymddeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi eu heffaith i gynigion Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ("y Comisiwn"), a gyflwynodd adroddiad yng Ngorffennaf 2007 ar adolygiad o gymunedau a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Powys. Yn adroddiad y Comisiwn argymhellwyd bod newidiadau'n cael eu gwneud i ffiniau presennol cymunedau yn ardal Cyngor Sir Powys a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol, ac mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.
Effaith y Gorchymyn hwn yw bod newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol yn y trefniadau etholiadol. Ymhellach, mae cymunedau Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Glyndwr) a Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Sir Drefaldwyn) wedi'u huno ac yn ffurfio cymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant a gynrychiolir gan 11 o gynghorwyr cymuned. Mae darpariaeth drosiannol a chanlyniadol wedi'i gwneud mewn cysylltiad â'r cyngor cymuned newydd. Mae darpariaeth ganlyniadol wedi'i gwneud mewn cysylltiad ag adrannau etholiadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant/Llansilin a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Ffurfir adran etholiadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant/Llansilin o gymunedau Llangedwyn a Llansilin a chymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant ac un cynghorydd sir fydd ganddi o hyd. Gelwir adran etholiadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn Llanwddyn ac fe'i ffurfir o gymunedau Llangynog, Llanwddyn a Phen-y-bont-fawr ac un cynghorydd sir fydd ganddi o hyd.
Mae printiau o'r mapiau ffiniau A i N wedi'u hadneuo a gellir edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys, Llandrindod, Powys ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn ac ynghylch gweithredu'r gorchmynion hynny.
1972 p.70. Back [1]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent wedi'u breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [2]
O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol nad yw'r diwygiadau iddynt yn berthnasol i'r offeryn statudol hwn). Back [3]
Mae adran etholiadol bresennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant/Llansilin wedi'i ffurfio o gymunedau Llangedwyn, Llansilin a chymuned bresennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Glyndwr). Back [4]
Mae adran etholiadol bresennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant wedi'i ffurfio o gymunedau Llangynog, Llanwddyn, Pen-y-bont-fawr a chymuned bresennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn ddosbarth Sir Drefaldwyn). Back [5]
1992 p.14. Back [6]
O.S. 1995/2562. Back [7]