BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008 No. 620 (Cy. 69)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080620_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2008

Yn dod i rym

31 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 92(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008. Daw i rym ar 31 Mawrth 2008 ac y mae yn gymwys o ran Cymru.

(2) Yn y Gorchymyn hwn –

Dyfeisiadau a gymeradwyir

2.–(1) Mae dyfais yn ddyfais a gymeradwyir at y dibenion statudol os yw o fath sydd wedi ei ardystio gan Weinidogion Cymru fel un sy'n bodloni'r gofynion a bennir.

(2) Cymerir bod dyfais yn bodloni'r gofynion a bennir pan fo tystiolaeth wedi'i darparu sy'n bodloni Gweinidogion Cymru bod awdurdod cymwys mewn Gwladwriaeth AEE wedi canfod bod y ddyfais o dan sylw yn un sy'n bodloni gofynion safon AEE sy'n gofyn am lefel o berfformiad sy'n cyfateb i'r lefel o berfformiad sy'n ofynnol gan y gofynion a bennir.

(3) Ym mharagraff (2) ystyr "safon AEE" ("EEA standard") yw

(a) safon neu gôd ymarfer corff safonau gwladol neu gorff cyfatebol perthynol i unrhyw Wladwriaeth AEE;

(b) unrhyw safon ryngwladol a gydnabyddir ar gyfer ei defnyddio fel safon neu gôd ymarfer gan unrhyw Wladwriaeth AEE; neu

(c) manyleb dechnegol a gydnabyddir ar gyfer ei defnyddio fel safon gan awdurdodau cyhoeddus perthynol i unrhyw Wladwriaeth AEE.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

6 Mawrth 2008

YR ATODLEN GOFYNION AR GYFER DYFAIS A GYMERADWYIR

1. Rhaid i'r ddyfais gynnwys camera–

(a) sydd wedi ei osod yn gadarn ar gerbyd, adeilad, postyn neu strwythur arall;

(b) sydd wedi ei osod yn y fath sefyllfa fel y gall weld cerbydau sydd o ran y defnydd a wneir ohonynt yn cyflawni tramgwyddau parcio;

(c) sydd wedi ei gysylltu drwy ddolenni data diogelâ system recordio; ac

(ch) sy'n gallu cynhyrchu mewn un llun neu fwy, ddelwedd neu ddelweddau gweladwy o'r cerbyd sy'n dangos ei nod cofrestru a digon o'i leoliad i ddangos amgylchiadau'r tramgwydd.

2. Rhaid i'r ddyfais gynnwys system recordio–

(a) sy'n recordio'n awtomatig gynnyrch y camera neu'r camerâu sy'n gweld y cerbyd a'r man lle mae tramgwydd yn digwydd;

(b) lle defnyddir dull recordio cadarn a dibynadwy sy'n recordio ar gyfradd isafswm o 5 ffrâm yr eiliad;

(c) lle mae pob ffrâm o bob delwedd a ddelir wedi ei hamseru (mewn oriau, munudau ac eiliadau), wedi ei dyddio ac wedi ei Rhif o'n olynol ac yn awtomatig drwy beiriant cyfrif gweledol; ac

(ch) pan nad yw'r ddyfais ar safle gosodedig, sy'n recordio'r lleoliad y mae'n cael ei weithredu ohono.

2. Rhaid i'r ddyfais a'r peiriant cyfrif gweledol–

(a) bod wedi'u syncroneiddio â chloc safon genedlaethol annibynnol addas; a

(b) bod yn fanwl-gywir o fewn plws neu minws 10 eiliad dros gyfnod o 14 diwrnod a bod wedi ei ail-syncroneiddio â'r cloc safon genedlaethol annibynnol addas o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw.

3. Pan fo'r ddyfais yn cynnwys cyfleuster i argraffu delwedd lonydd, rhaid i'r ddelwedd honno pan y'i hargreffir ddwyn ardystiad o'r amser a'r dyddiad pan ddaliwyd y ffrâm a'i Rhif unigryw.

4. Pan fo'r ddyfais yn gallu recordio geiriau llafar neu ddata clywadwy eraill yn gyfamserol â delweddau llafar, rhaid i'r ddyfais gynnwys dull o wirio bod y trac sain, mewn unrhyw recordiad a gynhyrchir ganddo, wedi ei syncroneiddio'n gywir â'r ddelwedd weledol.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ("Deddf 2004") yn darparu ar gyfer gorfodi tramgwyddau parcio yn sifil. Mae Rhan 6 yn cynnwys pwerau sy'n darparu un fframwaith i wneud rheoliadau er mwyn i awdurdodau lleol orfodi cyfyngiadau parcio ac aros yn sifil, a lonydd bysiau a rhai tramgwyddau y mae a wnelont â thraffig sy'n symud. Bydd y rheoliadau hyn yn disodli pwerau sydd eisoes yn bodoli yn neddfwriaeth y Deyrnas Unedig. Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi pwer wrth gefn i'r awdurdod cenedlaethol priodol i gyfarwyddo awdurdod lleol i wneud cais am bwerau gorfodi sifil.

O dan y pwerau a roddir gan Ran 6, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/614 (Cy.66)). Mae Rheoliad 5(a) o'r Rheoliadau hynny yn gwahardd, yn unol ag adran 72(4)(a) o Ddeddf 2004, gosod ffi gosb am dramgwydd parcio ac eithrio ar sail cofnod a gynhyrchir gan ddyfais a gymeradwyir neu wybodaeth a roddir gan swyddog gorfodi sifil parthed ymddygiad a welwyd ganddo ef.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu disgrifiad o ddyfais sydd yn ddyfais a gymeradwyir at y diben hwn. Yn unol ag erthygl 2, mae dyfais yn ddyfais a gymeradwyir os yw o fath sydd wedi ei hardystio gan Weinidogion Cymru fel un sydd yn bodloni'r gofynion a bennir yn yr Atodlen.

Mae Cyfarwyddeb Safonau Technegol Cenedlaethol 98/34/EC, fel y'i diwygiwyd gan 98/48/EC, ("y Gyfarwyddeb"), yn ceisio atal rhwystrau technegol newydd i fasnachu rhag cael eu creu ac yn gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau. Rhaid hysbysu'r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio o unrhyw offeryn statudol sy'n rhagnodi safonau technegol a rhaid i'r Adran honno yn ei thro hysbysu'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae Erthygl 9, paragraff 1, o'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i oedi tri mis rhwng hysbysu'r Comisiwn Ewropeaidd o'r offeryn statudol a dyddiad gwneud yr offeryn hwnnw neu'r dyddiad y daw i rym. Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o'r offeryn statudol hwn ar 12 Medi 2007. Daeth y cyfnod o dri mis i ben felly ar 13 Rhagfyr 2007.

Gellir cael Asesiad Effaith Reoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig, Yr Is-adran Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn:http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm

(1)

2004 p.18. Back [1]

(2)

Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig 2004 eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080620_we_1.html