BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) (Diwygio) 2008 No. 713 (Cy. 74)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080713_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

11 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mawrth 2008

Yn dod i rym

6 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 16(1)(e) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2008.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004

2. Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004(4) fel a ddarperir yn rheoliadau 3 a 4.

3. Yn lle paragraff (2)(b) o reoliad 5 (enw'r bwyd ar gyfer cynhyrchion cig penodo(4)rhodder y paragraff canlynol _

"(b) unrhyw gynhwysyn ychwanegol nad yw is-baragraff (a) yn gymwys iddo, ac eithrio startsh, protein neu gynhwysyn a bennir yn Atodlen 3.".

4. Yn Atodlen 3 (cynhwysion ychwanegol nad oes angen eu dynodi yn enw'r bwyd mewn achos cynnyrch cig y mae rheoliad 5 yn gymwys iddo), caiff eitemau 6 a 7 a'r nodyn sy'n ymwneud â'r eitemau hynny eu dileu.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1396 (Cy.141).

2. Wrth weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu a marchnata cynhyrchion cig a chynhyrchion penodol eraill sy'n dod o anifeiliaid (rhoddwyd testun a atodir at Gyfarwyddeb y Cyngor 92/5/EEC, OJ Rhif L57, 2.3.92, t.1 yn lle testun Cyfarwyddeb 77/99/EEC), cafodd darpariaeth ei chynnwys yn Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 gyda'r effaith, os gwerthir cynhyrchion cig o ymddangosiad penodol, fod yn rhaid i'r enw a ddefnyddir yn enw ar y bwyd ar labeli'r cynhyrchion gynnwys, at ddibenion Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1449, fel y'i diwygiwyd), ddangosiad ynghylch unrhyw startsh neu brotein a ychwanegwyd ac eithrio at ddiben technolegol yn unig. Yn dilyn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 77/99/EEC, mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad hwnnw (rheoliadau 3 a 4).

3. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei chael ar gostau busnes wedi ei baratoi a gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]

(2)

OJ Rhif . L31, 1.2.2002, t.1. Back [2]

(3)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4. Back [3]

(4)

O.S. 2004/1396 (Cy.141). Back [4]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080713_we_1.html