BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf (Sefydlu) 2008 No. 717 (Cy. 76) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080717_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
11 Mawrth 2008
Yn dod i rym
12 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 18(1) a (2) a pharagraffau 5 a 7 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1) ac adran 25 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (2), ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan adran 18(3) o'r Ddeddf, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf (Sefydlu) 2008 a daw i rym ar 12 Mawrth 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall–
y mae i "dyddiad gweithredol" yr ystyr a roddir i "operational date" ym mharagraff 5(5) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;
ystyr "dyddiad sefydlu" ("establishment date") yw 12 Mawrth 2008;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr "gwasanaethau iechyd cymunedol" ("community health services") yw unrhyw wasanaeth y dichon Gweinidogion Cymru ei ddarparu o dan adran 3(1) o'r Ddeddf neu Atodlen 1 iddi;
ystyr "yr ymddiriedolaeth" ("the trust") yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.
2. Sefydlir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol o'r enw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf neu the Cwm Taf National Health Service Trust.
3.–(1) Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y dibenion a bennir yn adran 18(1) o'r Ddeddf.
(2) Swyddogaethau'r ymddiriedolaeth fydd darparu nwyddau a gwasanaethau (gan gynnwys lle mewn ysbyty a gwasanaethau iechyd cymunedol) o
(a) Ysbyty Frenhinol Morgannwg, Ynysmaerdy, Llantrisant, CF72 8XR;
(b) Ysbyty'r Tywysog Charles, Merthyr Tudful, CF47 9DT;
ac ysbytai a mangreoedd cysylltiedig yn unol ag adran 18(1) o'r Ddeddf.
4.–(1) Bydd gan yr ymddiriedolaeth, yn ychwanegol at y cadeirydd, 7 cyfarwyddwyr anweithredol a 5 cyfarwyddwyr gweithredol.
(2) Gan fod rhaid ystyried fod i'r ymddiriedolaeth ymrwymiad arwyddocaol i addysgu o fewn ystyr paragraff 5(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf, y mae un o'r cyfarwyddwyr anweithredol i'w benodi o Brifysgol Caerdydd.
5.–(1) Dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth fydd 1 Ebrill 2008.
(2) Dyddiad cyfrifyddu'r ymddiriedolaeth fydd 31 Mawrth.
6. Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i ddyddiad gweithredol y mae i'r ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol–
(a) ymrwymo i gontractau'r GIG
(b) ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c) gwneud y fath bethau eraill ag sy'n rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf, ymddiriedolaeth GIG y darperir ar ei chyfer yn adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hefyd yn darparu ar gyfer swyddogaethau'r ymddiriedolaeth yn erthygl 3. Mae'n pennu dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifyddu yr ymddiriedolaeth yn erthygl 5.
2006 p.42 Back [1]
1993 p.38, Trosglwyddwyd swyddogaethau unrhyw Weinidog y Goron i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]