BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008 No. 1270 (Cy. 129)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081270_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008

Gwnaed

7 Mai 2008

Yn dod i rym

10 Mai 2008

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7 , 35(1), 87(2) a (5)(a) a 88(2) a (4)(a) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 10 Mai 2008.

Estyn diffiniad "anifail", "dofednod" a "clefyd"

2. At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn–

(a) estynnir diffiniad "anifail" ("animal") i gynnwys unrhyw fath o famal ac eithrio dyn, ac unrhyw greadur pedwartroed nad yw'n famal;

(b) estynnir diffiniad "dofednod" ("poultry") i gynnwys unrhyw rywogaeth o aderyn; ac

(c) estynnir diffiniad "clefyd" ("disease") i gynnwys unrhyw glefyd anifeiliaid a dofednod a all gael ei achosi gan un neu ragor o bathogenau anifeiliaid penodedig.

Dehongli

3.–(1) Yn y Gorchymyn hwn–

mae "anifail" ("animal") yn cynnwys dofednod;

ystyr "cludydd" ("carrier") yw unrhyw greadur byw ac eithrio dyn a all gludo neu drosglwyddo pathogen anifail penodedig neu feinwe, meithriniad celloedd, hylif corff, ysgarthion, carcas, neu ran o garcas y cyfryw greadur y gellir trosglwyddo neu gludo pathogen anifail penodedig ganddo neu drwy ei gyfrwng;

mae "mangre" ("premises") yn cynnwys unrhyw dir, adeilad neu le arall; ac

ystyr "pathogen anifail penodedig" ("specified animal pathogen") yw pathogen anifail a restrir yn Atodlen 1, gan gynnwys–

(a)

pathogenau cyfan;

(b)

pathogenau a wanhawyd neu a addaswyd yn enetig drwy unrhyw gyfrwng; ac

(c)

unrhyw asid niwclëig sy'n deillio o bathogen anifail a restrir yn yr Atodlen honno a allai gynhyrchu'r pathogen hwnnw pan gâi ei gyflwyno i system fiolegol y mae'r asid niwclëig yn gallu dyblygu ynddo.

(2) Yn y Gorchymyn hwn nid yw "arolygydd" ("inspector") yn cynnwys arolygydd a benodwyd gan awdurdod lleol.

(3) Rhaid i drwydded neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw adeg.

Gwaharddiadau mewn perthynas â phathogenau anifeiliaid penodedig

4.–(1) Ni chaiff neb feddu ar–

(a) unrhyw bathogen anifail a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1; neu

(b) unrhyw gludydd y gwyr fod y cyfryw bathogen ynddo,

ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru.

(2) Ni chaiff neb gyflwyno unrhyw bathogen anifail a bennir yn naill ai Rhan 1 neu Ran 2 o'r Atodlen honno i unrhyw anifail yn fwriadol, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru.

(3) Rhaid i berson hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith os yw'r person hwnnw–

(a) yn meddu ar unrhyw beth yn ei gylch y mae ganddo sail resymol dros amau bod pathogen anifail a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 yn bresennol, a

(b) heb drwydded ar gyfer y pathogen hwnnw.

Eithriadau

5.–(1) Nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw berson sy'n cludo pathogen neu gludydd ac nad yw'n berchen ar y pathogen na'r cludydd hwnnw neu nad oes ganddo unrhyw hawliau ynddynt.

(2) Nid yw erthygl 4 yn gymwys o ran unrhyw bathogen na chludydd a geir mewn cynnyrch–

(a) a awdurdodir i'w roi ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig fel cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol, neu a awdurdodir i'w roi i anifail yn y Deyrnas Unedig;

(b) a awdurdodir i'w roi ar y farchnad o dan Reoliadau Meddyginiaethau i'w Defnyddio gan Bobl (Awdurdodiadau Marchnata etc.) 1994(2);

(c) a drwyddedwyd yn unol â darpariaethau adran 7(2) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(3).

Pwerau arolygwyr

6. Yn ychwanegol at y pwerau a nodir yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981, mae gan arolygydd sy'n gorfodi'r Gorchymyn hwn y pwerau a nodir yn Atodlen 2.

Hysbysiadau gwella

7.–(1) Os yw arolygydd yn barnu bod person–

(a) yn cyflawni unrhyw weithgaredd sy'n torri un neu ragor o amodau trwydded a ddyroddwyd o dan y Gorchymyn hwn, neu

(b) wedi torri un neu ragor o'r amodau hynny mewn amgylchiadau sy'n ei gwneud yn debygol y bydd y toramod yn parhau neu'n cael ei ailadrodd,

caiff yr arolygydd hwnnw gyflwyno hysbysiad ("hysbysiad gwella") i'r person hwnnw.

(2) Rhaid i hysbysiad gwella–

(a) pennu amodau'r drwydded a dorrwyd;

(b) esbonio'r rhesymau paham y mae'r arolygydd o'r farn honno; ac

(c) ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw unioni'r toramod neu'r materion sydd yn ei achosi, cyn pen y cyfnod a gaiff ei bennu yn yr hysbysiad.

(3) Rhaid i hysbysiad gynnwys cyfarwyddiadau ynghylch y mesurau i'w cymryd i unioni unrhyw doramod neu fater y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef; a chaniateir llunio'r cyfryw gyfarwyddiadau mewn dull sy'n rhoi dewis i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo rhwng ffyrdd gwahanol o unioni'r toramod neu'r mater.

Hysbysiadau gwahardd

8.–(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw weithgareddau y mae trwydded yn ofynnol ar eu cyfer o dan y Gorchymyn hwn.

(2) Os yw arolygydd yn barnu bod y gweithgareddau yn cynnwys neu y gallant gynnwys risg o niwed difrifol i anifeiliaid, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad ("hysbysiad gwahardd") i'r person hwnnw.

(3) Rhaid i hysbysiad gwahardd–

(a) datgan bod yr arolygydd o'r farn honno;

(b) pennu'r materion sydd ym marn yr arolygydd yn achosi neu y gallant achosi risg o niwed difrifol i anifeiliaid; ac

(c) cyfarwyddo na chaniateir cyflawni'r gweithgareddau y mae a wnelo'r hysbysiad â hwy oni bai bod y materion a bennir yn yr hysbysiad wedi cael eu hunioni.

(4) Mae cyfarwyddyd a geir mewn hysbysiad gwahardd o dan is-baragraff (3)(c) yn effeithiol–

(a) ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b) os yw'r hysbysiad yn datgan hynny, ar unwaith.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gwella a gwahardd

9.–(1) Caiff person y mae hysbysiad gwella neu wahardd yn cael ei gyflwyno iddo apelio yn erbyn yr hysbysiad cyn pen 21 o ddiwrnodau i'r person a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(2) Rhaid i'r person penodedig ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru ac adrodd yn ysgrifenedig, gan argymell camau gweithredu, i Weinidogion Cymru.

(3) Yna caiff Gweinidogion Cymru naill ai ddiddymu'r hysbysiad neu ei gadarnhau, gyda neu heb addasiadau, a rhaid iddynt hysbysu'r apelydd gan roi'r rhesymau dros eu penderfyniad.

Trwyddedau

10. Ni chaiff unrhyw berson dorri amod trwydded a osodir ar y person hwnnw.

Gorfodi

11. Gorfodir y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru.

Dirymiadau

12. Dirymir y gorchmynion canlynol–

(a) Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(4) wrth ei gymhwyso i Gymru; a

(b) Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2006(5).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

7 Mai 2008

Erthygl 3

ATODLEN 1 Pathogenau anifeiliaid penodedig

RHAN 1

1. Feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau

2. Feirws clwy Affricanaidd y moch

3. Feirws clefyd Aujesky

4. Feirysau ffliw adar sydd –

(a) heb eu nodweddu;

(b) Feirysau Teip A sydd â mynegrif pathogenedd mewnwythiennol mewn cywion chwe wythnos oed sy'n fwy na 1.2; neu

(c) Feirysau Teip A is-deip H5 neu H7 y mae dilyniannu niwcleotid wedi dangos amryw o asidau amino basig yn safle holltiad hæmaglwtinin.

5. Babesia bovis

6. Babesia bigemina

7. Babesia caballi

8. Bacillus anthracis

9. Feirws y tafod glas

10. Feirws lewcosis buchol

11. Brucella abortus

12. Brucella melitensis

13. Brucella ovis

14. Brucella suis

15. Burkholderia mallei

16. Feirws clwy clasurol y moch

17. Cochliomyia hominivorax

18. Feirysau enseffalomyelitis ceffylaidd Dwyreiniol a Gorllewinol

19. Echinococcus multilocularis

20. Echniococcus granulosus

21. Ehrlichia ruminantium

22. Feirws anemia heintus ceffylaidd

23. Feirws clwy'r traed a'r genau

24. Feirws clefyd Hendra

25. Histoplasma farciminosum

26. Feirws enseffalitis Siapaneaidd

27. Feirws clefyd y croen talpiog

28. Mycoplasma agalactiae

29. Mycoplasma capricolum is-rywogaeth capripneumoniae

30. Mycoplasma mycoides is-rywogaeth mycoides SC ac amrywolion mycoides LC

31. Mycoplasma mycoides amr capri

32. Feirysau clefyd Newcastle (paramycsofeirws adar teip 1) sydd–

(a) heb eu nodweddu; neu

(b) â mynegrif pathogenedd mewnymenyddol mewn cywion diwrnod oed o 0.4 neu ragor, pan roddir dim llai na 10 miliwn o ddosau wyau heintus 50% (EID50) i bob aderyn yn y prawf.

33. Feirws clefyd Nipah

34. Feirws peste des petits ruminants

35. Feirws y gynddaredd a phob feirws o'r genws Lyssavirus

36. Feirws twymyn y Dyffryn Hollt

37. Feirws Rinderpest

38. Feirws enseffalomyelitis ceffylaidd St. Louis

39. Feirws brech y defaid a'r geifr

40. Feirws clefyd pothellog y moch

41. Feirws clefyd Teschen

42. Theileria annulata

43. Theileria equi

44. Theileria parva

45. Trichinella spiralis

46. Trypanosoma brucei

47. Trypanosoma congolense

48. Trypanosoma equiperdum

49. Trypanosoma evansi

50. Trypanosoma simiae

51. Trypanosoma vivax

52. Feirws enseffalomyelitis ceffylaidd Venezuela

53. Feirws stomatitis pothellog

54. Feirws Nil Orllewinol

RHAN 2

55. Y feirws byw sy'n achosi clefyd gwaedlifol firaol mewn cwningod

Erthygl 6

ATODLEN 2 Pwerau arolygwyr

Pwerau cyffredinol arolygwyr

1.–(1) Caniateir i unrhyw bersonau y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol fynd gyda'r arolygydd.

(2) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn caiff arolygydd–

(a) cymryd unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau angenrheidiol i'r fangre;

(b) gwneud unrhyw archwiliad ac ymchwiliad a all fod yn angenrheidiol o dan unrhyw amgylchiadau, a chaiff gyfarwyddo na ddylid tarfu (p'un ai yn gyffredinol neu mewn agweddau penodol) ar y fangre, unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth yn y fangre cyhyd ag y bo'n rhesymol angenrheidiol at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad;

(c) cymryd mesuriadau neu dynnu lluniau neu wneud recordiadau;

(ch) cymryd samplau o unrhyw eitemau neu sylweddau, neu'r atmosffer (yn y fangre ac wrth ymyl y fangre);

(d) achosi i unrhyw eitem neu sylwedd gael ei ddatgymalu neu ei ddarostwng i unrhyw broses neu brawf (ond nid er mwyn ei niweidio neu ei ddistrywio oni bai bod hynny'n angenrheidiol o dan yr amgylchiadau at ddiben y broses neu'r prawf);

(dd) cymryd meddiant o unrhyw eitem neu sylwedd a'i ddal dan gadw am gyhyd ag y bo'n angenrheidiol–

(i) i'w archwilio a gwneud unrhyw beth iddo y mae gan yr arolygydd bŵer i'w wneud;

(ii) i sicrhau nad ymyrrir ag ef cyn cwblhau'r archwiliad;

(iii) i sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos sifil neu droseddol;

(e) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson y mae gan yr arolygydd achos rhesymol dros gredu y gall roi unrhyw wybodaeth (gan gynnwys enw a chyfeiriad y person hwnnw) sy'n berthnasol i unrhyw archwiliad neu ymchwiliad yn ateb (yn absenoldeb personau heblaw person a enwyd gan y person hwnnw i fod yn bresennol ac unrhyw bersonau y caniateir gan yr arolygydd i fod yn bresennol) unrhyw gwestiynau y mae'r arolygydd yn barnu ei bod yn briodol eu gofyn ac yn llofnodi datganiad o wirionedd yr atebion;

(f) gwneud y canlynol yn ofynnol, sef dangos unrhyw drwydded neu gofnod a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, eu harolygu a chymryd copïau ohonynt, neu eu symud ymaith er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo a'u harchwilio;

(ff) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi'r cyfryw gyfleusterau a chymorth o ran unrhyw faterion neu bethau o dan reolaeth y person hwnnw neu y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn perthynas ag ef sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi'r arolygydd i arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo gan yr Atodlen hon;

(g) cael mynediad at, archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn, caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sy'n ymwneud fel arall â gweithredu'r cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, roi unrhyw gymorth sy'n rhesymol ofynnol, a phan gedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol bod cofnodion yn cael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(3) Mae'n rhaid i arolygydd sy'n bwriadu arfer y pŵer a roddir iddo gan is-baragraff (2)(d) uchod yn achos eitem neu sylwedd y deuir o hyd iddo mewn unrhyw fangre, os gofynnir iddo gan berson sydd ar y pryd yn bresennol yn y fangre honno ac sydd â chyfrifoldebau mewn perthynas â'r fangre honno, achosi i unrhyw beth sydd i'w wneud yn rhinwedd y pŵer hwnnw gael ei wneud ym mhresenoldeb y person hwnnw.

(4) Cyn arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (2)(d) yn achos unrhyw eitem neu sylwedd, rhaid i arolygydd ymgynghori â'r personau hynny yr ymddengys ei bod yn briodol ymgynghori â hwy at ddiben canfod pa beryglon, os oes rhai, a all fod mewn gwneud unrhyw beth y bwriedir ei wneud o dan y pŵer hwnnw.

(5) Pan fo arolygydd yn cymryd meddiant o unrhyw eitem neu sylwedd y deuir o hyd iddo mewn unrhyw fangre, rhaid i'r arolygydd adael hysbysiad yno, naill ai gyda pherson cyfrifol neu, os yw hynny'n anymarferol, wedi ei osod mewn lle amlwg, a hwnnw'n hysbysiad sy'n rhoi manylion am yr eitem neu'r sylwedd hwnnw sy'n ddigonol i'w adnabod ac sy'n datgan ei fod wedi ei gymryd o dan y pŵer hwnnw; a chyn cymryd meddiant o'r cyfryw sylwedd o dan y pŵer hwnnw rhaid i arolygydd, os yw'n ymarferol i wneud hynny, gymryd sampl ohono a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o'r sampl wedi ei marcio mewn dull sy'n ddigonol i'w hadnabod.

(6) Nid yw unrhyw ateb a roddir gan berson yn unol â gofyniad a orfodir o dan is-baragraff (2)(e) yn dderbyniol mewn tystiolaeth yn erbyn y person hwnnw neu yn erbyn priod neu bartner sifil y person hwnnw mewn unrhyw achos.

Ymafael mewn pathogenau

2.–(1) Pan fo gan arolygydd sail resymol dros amau bod pathogen anifail penodedig neu gludydd ym meddiant person nad yw'n dal trwydded sy'n ofynnol gan y Gorchymyn hwn neu yn groes i amod trwydded a roddir o dan y Gorchymyn hwn, caiff yr arolygydd hwnnw ar unrhyw adeg ymafael yn, neu beri ymafael yn, y cyfryw bathogen, cludydd neu unrhyw ddeunydd y mae'r arolygydd yn amau yn rhesymol bod y cyfryw bathogen wedi cael ei gadw ynddo neu y mae'n amau yn rhesymol ei fod wedi cael ei gyflwyno iddo.

(2) Os yw'r arolygydd yn barnu ei bod yn hwylus i wneud hynny, caiff yr arolygydd hwnnw at ddiben atal cyflwyno neu ledaenu clefyd, ddal dan gadw, trin neu ddistrywio unrhyw bathogen, cludydd neu ddeunydd a ymafaelwyd.

Glanhau a diheintio

3.–(1) Caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i feddiannydd unrhyw fangre (gan gynnwys tŷ annedd) neu i berchennog neu berson sydd â gofal unrhyw gerbyd y mae pathogen penodedig, cludydd neu ddeunydd yn bresennol ynddo neu wedi bod yn bresennol ynddo yn groes i'r Gorchymyn hwn neu yn groes i drwydded a ddyroddir odano, ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfryw fangre, lle neu gerbyd mewn unrhyw ddull y caniateir i'r arolygydd drwy'r cyfryw hysbysiad ei bennu, ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo.

(2) Pan na chydymffurfiwyd â gofynion y cyfryw hysbysiad, caiff yr arolygydd wneud neu beri gwneud y gwaith glanhau a diheintio a bennir yn yr hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda diwygiadau Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998 (O. S. 1998/463) fel y mae'n gymwys i Gymru.

Y prif newid yw darparu ar gyfer pwerau ychwanegol i arolygwyr (Atodlen 2).

Fel yn y Gorchymyn blaenorol, mae'n darparu ei bod yn ofynnol cael trwydded oddi wrth Weinidogion Cymru i feddu ar bathogen anifail a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 neu i gyflwyno i anifail bathogen anifail a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen honno.

(1)

1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]

(2)

O.S. 1994/3144. Back [2]

(3)

1968 p. 67. Back [3]

(4)

O.S. 1998/463. Back [4]

(5)

O.S. 2006/2981 (Cy.272). Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081270_we_1.html