BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008 No. 1341 (Cy. 141) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081341_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
21 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
22 Mai 2008
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2008.
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn –
mae i "awdurdod bwyd" yr ystyr sydd i'r ymadrodd "food authority" yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
ystyr "darpariaeth Gymunedol" ("Community provision") yw darpariaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2);
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr "fitamin A" ("vitamin A") yw fitamin A sy'n bresennol fel y cyfryw neu ar ffurf ei esterau ac mae'n cynnwys beta-caroten ar y sail bod 6 microgram o feta-caroten neu 12 microgram o garotenau eraill sy'n fiolegol actif yn hafal i un microgram o gyfwerth retinol;
ystyr "fitamin D" ("vitamin D") yw'r fitaminau gwrth-lechau;
mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys meddu ar rywbeth i'w werthu, a chynnig rhywbeth, ei roi ar ddangos neu ei hysbysebu i'w werthu;
ystyr "manwerthu" ("sell by retail") yw gwerthu i berson nad yw'n prynu er mwyn adwerthu;
ystyr "Rheoliad y Comisiwn" ("the Commission Regulation") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy a Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1898/87 ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir i farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth(3);
ystyr "Rheoliad y Cyngor" ("the Council Regulation") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol (CFA) ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (Rheoliad CFA Sengl)(4).
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn.
3.–(1) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, onid oes, a hyd oni fydd, penderfyniad gan Gydbwyllgor yr AEE i ddiwygio Cytundeb yr AEE o dan Erthygl 98 fel y bydd yn cyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr AEE yn gymwys iddo ac–
(a) y daethpwyd ag ef i Gymru –
(i) o Wladwriaeth AAE (ac eithrio Aelod-wladwriaeth) lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon, neu
(ii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig os daethpwyd â'r braster taenadwy hwnnw yno o Wladwriaeth AAE o'r fath; a
(b) sydd wedi'i labelu'n addas i ddangos natur y braster taenadwy.
(2) Ni fydd rheoliad 4 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fargarîn –
(a) y daethpwyd ag ef i Gymru –
(i) o Wladwriaeth AAE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig) lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon,
(ii) o Aelod-wladwriaeth (ac eithrio'r Deyrnas Unedig) lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon, neu
(iii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig lle'r oedd yn cael ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon neu mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon; a
(b) sydd wedi'i labelu'n addas i ddangos natur y margarîn.
(3) At ddibenion paragraff (2), mae i "cylchrediad rhydd" yr un ystyr â "free circulation" yn Erthygl 23(2) o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd.
4. Ni chaiff neb fanwerthu unrhyw fargarîn onid yw'n cynnwys ym mhob 100 gram –
(a) dim llai nag 800 microgram a dim mwy na 1,000 o ficrogramau o fitamin A, a
(b) dim llai na 7.05 microgram a dim mwy nag 8.82 ficrogram o fitamin D,
a swm cymesur mewn unrhyw ran o 100 gram.
5. Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi'r darpariaethau Cymunedol a'r Rheoliadau hyn.
6.–(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r canlynol, neu'n methu â chydymffurfio â'r naill neu'r llall ohonynt, sef –
(a) rheoliad 4; neu
(b) unrhyw ddarpariaeth Gymunedol,
yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Y darpariaethau Cymunedol yw –
(a) Erthygl 114(1) o Reoliad y Cyngor (disgrifiadau rhagnodedig ar gyfer llaeth a chynhyrchion llaeth) fel y'i darllenir gydag Atodiad XII i'r Rheoliad hwnnw;
(b) Erthygl 115 o Reoliad y Cyngor (safonau marchnata sy'n gymwys i frasterau taenadwy, gan gynnwys meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer disgrifiadau neilltuedig), fel y'i darllenir gydag –
(i) Atodiad XV i Reoliad y Cyngor,
(ii) Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad I iddo, neu
(iii) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad II iddo; ac
(c) Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (gofynion sy'n ymwneud â defnyddio'r dynodiad "butter" ar gyfer cynhyrchion cyfansawdd) fel y'i darllenir gydag Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw.
7.–(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn –
(a) adran 2 (ystyr estynedig "sale" etc.);
(b) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy), fel y bo'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(d) adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes);
(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 33 (rhwystro swyddogion);
(f) adran 35(1) i (3) (cosbi am dramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2);
(ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(g) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd).
(2) Bydd adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll) o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf yn yr adran honno at ddibenion y Rheoliadau hyn fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at y darpariaethau Cymunedol.
8. Mae'r offerynnau canlynol wedi'u dirymu –
(a) Rheoliadau Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) 1990(5), i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru;
(b) Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001(6);
(c) Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007(7).
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
21 Mai 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi, o ran Cymru, ddarpariaethau penodol yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (OJ Rhif L299, 16.11.2007, t.1) ("Rheoliad y Cyngor").
2. Mae Rheoliad y Cyngor yn diddymu nifer o offerynnau eraill yr Undeb Ewropeaidd ("UE") ac yn ailddeddfu eu darpariaethau heb eu diwygio. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau a gynhwyswyd gynt yn nau o offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd ("CE") a ddiddymwyd ac a orfodwyd o'r blaen mewn dau offeryn statudol ar wahân.
3. Mae darpariaethau Rheoliad y Cyngor yn cynnwys:
(a) y gofyniad bod rhaid i laeth a chynhyrchion llaeth sy'n cael eu marchnata i bobl eu hyfed neu eu bwyta gydymffurfio â manylebau penodol ynghylch enwau a chyfansoddiad (Erthygl 114(1) ac Atodiad XII); a
(b) y gofyniad bod rhaid i frasterau taenadwy penodol sydd wedi'u bwriadu i bobl eu bwyta gydymffurfio â manylebau ynglyn â'u disgrifiad at ddibenion gwerthu, dull eu labelu a'u cyflwyno, a'r defnydd o derminoleg (Erthygl 115 ac Atodiad XV).
4. Mae'r darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliad y Cyngor ynghylch brasterau taenadwy wedi'u hategu gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 (OJ Rhif L106, 24.4.2007, t.24).
5. Mae'r Rheoliadau yn yr offeryn hwn –
(a) yn darparu esemptiad ar gyfer brasterau taenadwy a fewnforir o wladwriaeth AAE ac eithrio Aelod-wladwriaeth (rheoliad 3(1));
(b) yn pennu'r lefelau gofynnol ar gyfer fitaminau penodol mewn margarîn (rheoliad 4), yn ddarostyngedig i esemptiad ar gyfer margarinau y deuir â hwy i Gymru o fannau eraill yn yr AAE neu'r DU ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau cenedlaethol hyn (rheoliad 3(2));
(c) yn dynodi'r awdurdodau sy'n gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliadau UE a grybwyllwyd ym mharagraffau 3 a 4 uchod (rheoliad 5);
(ch) yn creu tramgwydd diannod o fethu â chydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn neu ddarpariaethau perthnasol yr UE (rheoliad 6); a
(d) yn cymhwyso darpariaethau penodol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn.
6. Nid oes asesiad rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn ôl eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), ("Deddf 1999"). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac a wnaed yn arferadwy wedi hynny gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [2]
OJ Rhif L106, 24.4.2007, t.24. Back [3]
OJ Rhif L299, 16.11.2007, t.1. Mae diwygiadau i'r Rheoliad hwn ond nid yw unrhyw un ohonynt yn berthnasol i'r offeryn hwn. Back [4]
O.S. 1990/607, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/2486. Back [5]
O.S. 2001/1361 (Cy.89), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1905 (Cy.163). Back [6]
O.S. 2007/1905 (Cy.163). Back [7]