BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008 No. 1408 (Cy. 145)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081408_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008

Gwnaed

30 Mai 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Mehefin 2008

Yn dod i rym

1 Awst 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 105(4) a (5) a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 1 Awst 2008.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2. Dirymir Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000(3).

Ystyr iaith dramor fodern

3. At ddibenion adran 105 o Ddeddf Addysg 2002 ystyr "iaith dramor fodern" yw unrhyw iaith dramor fodern.

Penderfyniad gan Weinidogion Cymru

4.–(1) Mae unrhyw gwestiwn ynghylch a yw iaith dramor benodol yn iaith dramor fodern at ddibenion adran 105 o Ddeddf Addysg 2002 i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad o dan baragraff (1) yn sgil cais gan unrhyw berson neu o'u hysgogiad eu hunain.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

30 Mai 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae "iaith dramor fodern" yn bwnc sylfaen yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru yn y trydydd cyfnod allweddol. Mae'n ofynnol i'r ieithoedd hynny sydd i'w cyfrif yn ieithoedd modern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol gael eu pennu mewn Gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, neu, fel arall, caiff Gorchymyn o'r fath ddarparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at y cyfryw ddibenion. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern, a bod unrhyw gwestiwn ynghylch a yw iaith dramor yn iaith dramor fodern i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru.

(1)

2002 p.32. Back [1]

(2)

Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2000/1980 (Cy.141). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081408_we_1.html