BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2008 No. 1429 (Cy. 148)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081429_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2008

Gwnaed

4 Mehefin 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2006.

2.–(1) Yn y Gorchymyn hwn–

ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3); ac

ystyr "Deddf 2006" ("the 2006 Act") yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2006 ac at Atodlenni iddi.

Y Diwrnodau penodedig

3.–(1) Daw darpariaethau Deddf 2006 a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2008 o ran Cymru.

(2) Daw'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2008.

(3) Daw'r darpariaethau a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2008 o ran Cymru.

Arbed y Codau Ymarfer cyfredol

4.–(1) Er bod adran 40 o Ddeddf 2006 a'r diwygiadau y mae'r adran honno yn ei wneud i adran 84 o Ddeddf 1998 wedi dod i rym, mae Cod Ymarfer Derbyniadau i Ysgolion(4) ac adran 84 o Ddeddf 1998 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol mewn perthynas â'r Cod hwnnw i barhau mewn grym tan y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw.

(2) Er bod adran 40 o Ddeddf 2006 a'r diwygiadau y mae'r adran honno yn ei wneud i adran 84 o Ddeddf 1998 wedi dod i rym, mae Cod Ymarfer Apelau Derbyniadau i Ysgolion (5) ac adran 84 o Ddeddf 1998 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol mewn perthynas â'r Cod hwnnw i barhau mewn grym –

(a) tan y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer apelau derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw, a

(b) o ran unrhyw apêl a wnaed o dan adran 94 o Ddeddf 1998 lle y mae hysbysiad o apêl wedi cael ei roi cyn y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer apelau derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

4 Mehefin 2008

Erthygl 3

YR ATODLEN

RHAN 1 Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2008 o ran Cymru

Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 1 Dyletswyddau o ran safonau uchel a chyflawni potensial
Adran 37(1) a (2)(1)(a) Staff mewn ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol gyda chymeriad crefyddol
Adran 39 Cyfyngiad cyffredinol ar ddethol ar sail gallu
Adran 43 Dyletswydd corff llywodraethu i weithredu penderfyniadau ynghylch derbyniadau
Adran 44 Gwahardd cyfweliadau
Adran 45 Trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion gyda chymeriad crefyddol; ymgynghori a gwrthwynebiadau
Adran 47 Gwrthwynebiadau i drefniadau derbyn
Adran 53 Ysgolion gyda threfniadau cyn 1998 ar gyfer dethol ar sail gallu neu ddawn
Adran 166

Trefniadau cydweithredu:–

  • ysgolion a gynhelir a chyrff addysg bellach

Adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod Diddymu

Yn Atodlen 18, yn Rhan 6 diddymu–

  • Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 5, adran 58(4) yn adran 89, yn is-adran (2), y gair " and" ar ddiwedd paragraff (c), adran 90(6), (7) a (10) adran 99(1)

Diddymu

RHAN 2 Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2008

Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 156 Tynnu ymaith ddyletswydd Arolygiaeth Gweinyddu Llysoedd Ei Mawrhydi i arolygu perfformiad o swyddogaethau Gweinidogion Cymru ynghylch achosion teulu
Adran 175 Diwygiadau amrywiol yn ymwneud â Chymru
Adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod Diddymu
Atodlen 17 Diwygiadau amrywiol yn ymwneud â Chymru

Yn Atodlen 18, yn Rhan 5 diddymu–

  • Deddf Plant 2004, adran 38.

Diddymu

RHAN 3 Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Medi 2008 o ran Cymru

Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 38 Dyletswyddau cyffredinol cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
Adran 40 Cod ar gyfer derbyniadau i ysgol
Adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod Diddymu

Yn Atodlen 18, yn Rhan 6 diddymu–

  • Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn adran 84(5), y geiriau "of practice", ym mhob man lle y maent yn digwydd,yn adran 85(1), y geiriau "of practice".

Diddymu

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r Gorchymyn cychwyn cyntaf i Weinidogion Cymru ei wneud o dan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Deddf 2006).

Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym y darpariaethau a ddisgrifir yn fyr isod ar 30 Mehefin 2008 a 1 Medi 2008. Yn yr hyn a ganlyn, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2006 ac at Atodlenni iddi.

Bydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2008 o ran Cymru fel a ganlyn–

Mae effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2008 fel a ganlyn –

Mae effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 1 Medi 2008 o ran Cymru fel a ganlyn–

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau arbed ynglyn â'r cod ar gyfer derbyniadau i ysgolion a'r cod ar gyfer apelau derbyniadau.

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2006 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801 ac O.S. 2007/3074.

Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (deufis yn ddiweddarach).

(1)

2006 p.40. Back [1]

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

1998 p. 31. Back [3]

(4)

Daeth y Cod Ymarfer Derbyniadau i Ysgolion i rym ar 1 Ebrill 1999, isbn - 07504 23331. Back [4]

(5)

Daeth y Cod Ymarfer Apelau Derbyniadau i Ysgolion i rym ar 1 Medi 1999, isbn - 07504 23528. Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081429_we_1.html