BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 No. 1721 (Cy. 167)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081721_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008

Gwnaed

30 Mehefin 2008

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi(1) ac ar ôl cwblhau'r ymgynghori statudol fel y'i rhagnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2008.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:

ystyr "y dyddiad trosglwyddo" ("the transfer date") "yw 1 Gorffennaf 2008;

ystyr "yr hen ymddiriedolaeth" ("the old trust") yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;

ystyr "yr ymddiriedolaeth newydd" ("the new trust") yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru a sefydlwyd ar 25 Mehefin 2008.

Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai

2.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.

(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod–

(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;

(b) bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.

(3) Nid yw paragraffau (2) a (3) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a bernir gan yr erthygl hon.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

3. Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad–

(a) y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;

(b) eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1.

(c) elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.

Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd

4. Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

30 Mehefin 2008

Erthygl 3(b)

ATODLEN 1

Eiddo Deiliadaeth Rhif Teitl os yw'n gymwys
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru
Ysbyty Maelor, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD Rhydd-ddaliad

WA870737

CYM42719

CYM237895

CYM338301

CYM402467

ALAC, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD Les-ddaliad WA577800
Athrofa Feddygol Wrecsam, Parc Technoleg Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD Les-ddaliad WA735281
Ysbytai Cymuned
Ysbyty Cymuned Y Waun, Oddi ar Stryd St John, Y Waun, LL14 5LN Rhydd-ddaliad WA690433
Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy, Lon yr Aradr, Glannau Dyfrdwy, CH5 1XS Rhydd-ddaliad

WA665892

WA665897

WA665896

WA8800203

Ysbyty Cymuned y Fflint, Hen Ffordd Llundain, Fflint, CH6 5HG Rhydd-ddaliad WA703713
Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug, Llwyn Onn, Yr Wyddgrug, CH7 1XG Rhydd-ddaliad WA690437
Ysbyty Cymuned Treffynnon, Ffordd Helygain, Treffynnon, CH8 7TZ Rhydd-ddaliad WA703333
Ysbyty Pwylaidd Llannerch Banna, Ffordd Whitchurch, Llannerch Banna, LL13 0LH Rhydd-ddaliad CYM128343
Coed Celyn, a Sŵn Y Coed, Ffordd y Gelli, Wrecsam, LL11 1DY, Rhydd-ddaliad WA784910
Ysbyty Treffynnon (Y Bwthyn), Pen-y-Maes, Treffynnon, CH8 7UH Rhydd-ddaliad WA690436
Clinigau/ Canolfannau Iechyd
Clinig Cefn Mawr Cefn Mawr, Rhiwabon, LL14 3AE Rhydd-ddaliad WA693355
Canolfan Iechyd Rhosllannerchrugog Rhodfa'r Ffawydden, Rhosllannerchrugog, LL14 1AA Rhydd-ddaliad WA701596
Clinig Rhiwabon Stryd Fawr, Rhiwabon, LL14 6NH Rhydd-ddaliad WA690464
Canolfan Iechyd Brymbo, Stryd Offa, Brymbo, LL11 5AG Rhydd-ddaliad WA690452
Clinig Brynteg, Ffordd Darby, Brynteg, Wrecsam, LL11 6RN Rhydd-ddaliad WA690453
Clinig Coedpoeth, Ffordd yr Efail, Coedpoeth, Wrecsam, LL11 3NS Rhydd-ddaliad WA704909
Canolfan Iechyd Gresffordd, Rhodfa Poplys, Gresffordd, LL12 8EP Rhydd-ddaliad WA690474
Clinig Ffordd y Gelli Wrecsam, LL11 1DY Rhydd-ddaliad WA784910
Canolfan Iechyd Llai Lôn yr Ysgol, Llai LL12 0TR Rhydd-ddaliad WA703720
Clinig Ffordd Tywysog Charles, Wrecsam, Ffordd Tywysog Charles, Wrecsam, LL13 8TH Rhydd-ddaliad WA690471
Clinig Rhostyllen Stryd Iago, Rhostyllen, LL14 4AW Rhydd-ddaliad WA690462
Clinig Yr Orsedd, Y Llain, Yr Orsedd, LL12 0EA Rhydd-ddaliad WA610333
Clinig Brychtyn, Ffordd Neuadd Brychtyn, Brychtyn, CH4 0QQ Rhydd-ddaliad WA703724
Canolfan Iechyd Bwcle, Ffordd Padeswood, Bwcle, CH7 2JL Rhydd-ddaliad

WA690473

WA765301

Clinig Caergwrle Tŷ Cerrig, Caergwrle, LL12 9EY Rhydd-ddaliad WA693356
Clinig Cei Connah Canolfan Ddinesig, Lôn Wepre, Cei Connah,CH5 4HA Rhydd-ddaliad CYM199578
Clinig Pen y Ffordd Clos Melwood, Penyffordd, CH4 0NB Rhydd-ddaliad WA788256
Clinig Saltney, St David´s Terrace, Saltney Ferry, Ger Caer, CH4 0AF Rhydd-ddaliad WA690467
Clinig Sealand, 8 Rhodfa'r Cedrwydd, Sealand, CH5 1SE Rhydd-ddaliad WA690469
Tŷ Catherine Gladstone, Ffordd Penarlâg, Mancot, CH5 2EP Rhydd-ddaliad WA693350
Clinig y Fflint, Borough Grove, Y Fflint, CH6 7DR Rhydd-ddaliad WA690454
Clinig Maesglas Lôn yr Ysgol, Maesglas, Treffynnon, CH8 7HR Rhydd-ddaliad WA690456
Clinig Treffynnon, Lôn y Parc, Treffynnon, CH8 7UR Rhydd-ddaliad WA690458
Clinig Yr Wyddgrug Stryd y Brenin, Yr Wyddgrug, CH7 1LB Rhydd-ddaliad WA690460
Clinig Plas Madog, 51/52 Bodlyn, Ystâd Plas Madog, Acrefair, Wrecsam LL14 3HE Les-ddaliad
Clinig Y Waun, Heol Yr Orsaf, Y Waun, LL14 5LS Les-ddaliad
Clinig Glyn Ceiriog, Ffordd Newydd, Glyn Ceiriog, LL20 7HH Les-ddaliad WA884305
Canolfan Iechyd Owrtyn, Stryd Fawr, Owrtyn, LL13 0ED Les-ddaliad
Clinig Hightown, Hightown, Wrecsam, LL12 0TR Les-ddaliad CYM26758
Clinig Ewlo, Woodside Close, Ewlo, CH5 3RP Les-ddaliad WA559996
Clinig Coedllai, Stryd Y Brenin, Coedllai CH7 4RG Les-ddaliad CYM26748
Clinig Mynydd Isa, Mercia Drive, Mynydd Isa, CH7 6UH Les-ddaliad CYM26760
Canolfan Iechyd Pen Y Maes, Stryd Y Ffawydd, Bryn Hyfryd , LL11 4UF Les-ddaliad
Clinig Y Fferi, Campws Y Fferi, Gorllewin Ffordd Caer, Y Fferi, CH5 1SE Les-ddaliad
Unedau Iechyd Meddwl
16 – 18 Ffordd Grosvenor, Wrecsam, LL11 1DU Rhydd-ddaliad

WA703732

WA708392

Canolfan Gynghori Glannau Dyfrdwy, Rhodfa Rowley, Shotton, CH5 1PP Rhydd-ddaliad WA690470
The Elms, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1BT Rhydd-ddaliad WA783179
Tŷ Celyn, Parc Busnes Acorn, Y Fflint, CH6 5YN Les-ddaliad
Evolution Building, Ewlo, 1st Floor Suite, 1 Evolution, Parc Busnes Lakeside, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3XP Les-ddaliad
C.D.S. 7 Ffordd Brighton, Rhyl, LL18 3EY Les-ddaliad
Tir
Tir Tŷ'r Eos, Ffordd Caer, Wrecsam, LL11 2SJ Rhydd-ddaliad WA7884910
Tir Plas Madog, Ffordd Y Parc, Rhosymedre. Rhydd-ddaliad WA593623
Arall
Villa Romano, Ffordd y Gelli, Wrecsam LL11 1DY Les-ddaliad
HSDU, Uned A, Parc Technoleg Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD Les-ddaliad
Tŷ Clwydian, Block B, Tŷ Clwydian, Parc Technoleg Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam LL13 7TD Les-ddaliad

Erthygl 3(c)

ATODLEN 2

Cronfa Elusennol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru (gan gynnwys is-elusennau) – Rhif 1051063

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru o 1 Gorffennaf 2008 ymlaen.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru ar 1 Gorffennaf 2008.

(1)

2006. p.42. Back [1]

(2)

Rheoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006. p.43. Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081721_we_1.html