BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2008 No. 1736 (Cy. 170)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081736_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2008

Gwnaed

1 Gorffennaf 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol

3 Gorffennaf 2008 Cymru

Yn dod i rym

Yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 112 a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac wedi gwneud trefniadau y maent yn eu hystyried yn briodol ar gyfer ymgynghori ynghylch y cynigion yn unol ag adran 117 o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2008.

(2) Daw darpariaethau'r Rheoliadau hyn i rym–

(a) ar 1 Awst 2010 o ran disgyblion yn nhrydedd flwyddyn y cyfnod sylfaen; a

(b) ar 1 Awst 2011 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn y cyfnod sylfaen.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn–

mae "cyfnod allweddol cyntaf" ("first key stage") i'w ddehongli yn unol ag adran 103(1) o Ddeddf 2002;

ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002; a

mae cyfeiriadau at y cyfnod sylfaen i'w dehongli'n unol ag adran 102 o Ddeddf 2002.

Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1

3. Nid yw gofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer y cyfnod allweddol cyntaf fel y'u gosodir yn adran 105(1), (2), a (3) ac yn y Gorchmynion a wneir o dan adran 108(3)(3) o Ddeddf 2002 i fod yn gymwys o ran disgyblion mewn ysgolion a gynhelir yn ystod y blynyddoedd ysgol 2010 i 2011 a 2011 i 2012.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

1 Gorffennaf 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn a wneir o dan Ddeddf Addysg 2002 yn darparu ar gyfer datgymhwyso gofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru a bennir ar gyfer y cyfnod allweddol cyntaf yn adran 105(1), (2), a (3), a Gorchmynion a wneir o dan adran 108(3) o Ddeddf Addysg 2002 ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir am y blynyddoedd ysgol 2010 i 2011 a 2011 i 2012.

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar yr un pryd ag y cyflwynir y cyfnod sylfaen. Cyflwynir y cyfnod sylfaen ar gyfer blwyddyn gyntaf y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2008 i'r disgyblion hynny sy'n 3 i 4 oed, ar gyfer ail flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2009 i'r disgyblion hynny sy'n 4 i 5 oed, ar gyfer trydedd flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2010 i'r disgyblion hynny sy'n 5 i 6 oed ac ar gyfer pedwaredd flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2011 i'r disgyblion hynny sy'n 6 i 7 oed.

(1)

2002 p.32. Back [1]

(2)

Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2000/1098 (Cy.76), O.S. 2000/1099 (Cy.77), O.S. 2000/1100 (Cy.78), O.S. 2000/1101 (Cy.79), O.S. 2000/1153 (Cy.84), O.S. 2000/1154 (Cy.85), O.S. 2000/1155 (Cy.86), O.S. 2000/1156 (Cy.87), O.S. 2000/1157 (Cy.88), O.S. 2000/1158 (Cy.89), O.S. 2000/1159 (Cy.90), O.S. 2002/45 (Cy.4). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20081736_we_1.html